|
CEI CRESSWELL
CYFEIRNOD GRID: SN 052060
ARDAL MEWN HECTARAU: 268
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach sy’n gorwedd ym mhen Afon Cresswell, mornant
ar lannau canol Cleddau Ddu. Mae’n gorwedd o fewn plwyf Jeffreyston
ac yn ymestyn i blwyfi Caeriw a Lawrenni, lle roedd barwniaeth ganoloesol
Caeriw. Fodd bynnag, nid yw’r unig anheddiad cynnar sy’n hysbys
yn yr ardal hon, Castell Cresswell, sydd bellach yn breswylfa ffug-gaerog
o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif, wedi’i
restru ymhlith ystadau John de Carew ym 1367. Nid yw’n ymddangos
ymhlith rhestr George Owen o faenorau tua 1600 chwaith ac awgrymwyd bod
yr ystad wedi’i dal gan briordy Awstinaidd yn Hwlffordd yn y cyfnod
canoloesol. Prynodd y teulu Barlow o Slebets yr anheddiad ym 1553, ac
adeiladwyd y plasty presennol ganddynt. Saif capel ar wahân i’r
prif adeilad. Roedd coedwig yn gysylltiedig â’r plasty a ddisgrifiwyd
gan George Owen tua 1600 fel coedwig ‘sy’n ddigonol i wasanaethu
tanwydd a pheth ar gyfer yr adeiladau’. Arhosodd yr ystad yn nwylo’r
teulu Barlow nes i’r plasty gael ei adael tua 1800. Ymddengys fod
llawer o’r dirwedd bresennol yn dyddio o gyfnod ôl?ganoloesol
ac yn ôl pob tebyg, mae’n tarddu o anheddiad sy’n gysylltiedig
â’r diwydiant glo. Cysylltwyd hyn yn agos â’r
cei yn Cresswell ac mae’r ddau wedi bod yn hanfodol wrth ddiffinio
tirwedd bresennol yr ardal. Cafodd glo ei gloddio yn yr ardal hon ers
diwedd yr oesoedd canol. Rhwng 1768 a 1828 roedd dros 50 o byllau bach
yn gweithredu yn fewndirol o’r cei. Dangosir sawl un o’r pyllau
hyn ar Fynydd Caeriw a Whitehill ar fap ystad 1777. Cafodd glo ei lwytho
ar gychod yn Cresswell a’i gludo i lawr yr afon i Lawrenni lle u’i
llwythwyd ar longau mwy. Adeiladwyd corlannau glo yn y cei er mwyn storio
glo cyn ei gludo ar longau. Erbyn y 1820au roedd y diwydiant yn dirywio,
er i’r defnydd masnachol olaf o’r cei ddigwydd ym 1948 pan
laniodd lwyth o lo mân o Hook. Cynhyrchodd y tai a’r bythynnod
a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr, a chanddynt, batrwm anheddiad nodedig
a phensaernïaeth frodorol, a datblygodd pentref yn y cei. Ymddangosodd
aneddiadau newydd yn Pisgah, o amgylch capel yr anghydffurfwyr, ac yn
Whitehill. Mae map o 1848 o ‘Ddaliadau ar Fynydd Caeriw’ yn
awgrymu bod o leiaf ran o’r patrwm anheddiad hwn yn deillio o lowyr
yn codi bythynnod ar dir comin. Gallai hyn hefyd roi cyfrif am y system
caeau o leiniau rheolaidd bach ar y ‘mynydd’ ac yn Whitehill.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon yn ardal dirwedd hanesyddol gymysg sydd wedi’i
huno gan ei diwydiant cloddio glo a phatrwm anheddiad nodedig blaenorol,
sy’n gwrthgyferbynnu â’r ffermdir o’i hamgylch.
Mae’n gorwedd ym mhen terfyn llanw Afon Cresswell, sydd wedi’i
ricio’n ddwfn yma. Mae llethrau’r dyffryn yn codi’n
serth mewn cyfres o fryniau crwn i dros 60m uwchben lefel y môr
yn Whitehill. Mae pentref Cei Cresswell wedi’i guddio ar lethr ogleddol
yr afon wrth droed llethrau serth a choediog y dyffryn. Mae’r tai
yn amrywiol ac yn cynnwys tai Sioraidd mawr o ddiwedd y 18fed ganrif neu
ddechrau’r 19eg ganrif, tai brodorol bach, terasau o dai gweithwyr
o’r 19eg ganrif a bythynnod unllawr o’r 19eg ganrif. Maent
oll wedi’u hadeiladu o garreg (rhai wedi’u rendro â
sment, eraill yn garreg noeth) gyda thoeau llechi. Mae melin Cresswell
a adferwyd yn ddiweddar, adeilad â tho talcen slip Gradd II a thy’r
melinwr, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn gorwedd ar gyrion
y pentref ar ochr gyferbyniol yr afon o adfeilion Castell Cresswell. Mae
ceiau o garreg ac adfeilion adeiladau diwydiannol yn dystiolaeth o dreftadaeth
ddiwydiannol Cresswell. Mae’r prif gei, a’r bont, yn strwythurau
Gradd II. I’r de o’r pentref, y tu hwnt i gapel Pisgah, mae’r
tir yn codi i dirwedd fwy agored. Yma, ceir patrwm anheddiad unionlin
o fythynnod gweithwyr o’r 19eg ganrif (ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant
cloddio glo). Mae’r bythynnod yn rhai unllawr, yn rhai ar wahân,
yn rhai pâr ac yn rhai mewn teras, wedi’u hadeiladu o garreg
a’u rendro â sment gyda thoeau llechi, yn y traddodiad brodorol.
Mae’r bythynnod wedi’u britho â thai deulawr o’r
19eg ganrif yn y traddodiad Sioraidd brodorol, a nifer o dai o ganol i
ddiwedd yr 20fed ganrif a byngalos mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau.
Ar y cyfan, mae’r ffermydd yn fach ac yn cynnwys ffermdai yn y traddodiad
brodorol gyda rhes fechan o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg
wrth y ty, i dai yn y traddodiad Sioraidd brodorol gydag un neu ddwy res
fechan o adeiladau allan ar wahân. Mae rhesi bychain o adeiladau
allan i’w gweld ar y rhan fwyaf o ffermydd. Mae’r caeau yn
fach. Mae siâp rheolaidd iawn i’r rhai ar Fynydd Caeriw a
Whitehill. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r ffiniau, ac mae llawer ohonynt
wedi tyfu’n wyllt neu wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Ar
ochrau serth y dyffryn mae’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt
a’r coetir collddail yn rhoi agwedd goediog i’r dirwedd. Tir
pori wedi’i wella ac elfen fach o dir âr yw’r defnydd
tir. Er bod yr adfeilion diwydiannol yng Nghei Cresswell ei hun yn un
o hanfodion pwysig y dirwedd hanesyddol, nid yw elfennau eraill o’r
diwydiant cloddio glo yn agweddau amlwg ar yr ardal hon. Yn ogystal â’r
adfeilion diwydiannol, mae’r safleoedd archeolegol yn cynnwys dwy
gaer o’r oes haearn a safle capel canoloesol.
Mae Cei Cresswell yn ardal nodedig, er nad yw ei ffiniau yn hawdd i’w
diffinio’n gywir. Ar bob ochr, mae parth o newid yn bodoli rhyngddi
a’r ardaloedd cyfagos, yn hytrach na ffin ymyl caled.
Ffynonellau: Cadw d.d.; Map degwm Plwyf Caeriw 1839; Connop Price 1994-95;
Map degwm Plwyf Jeffreyston 1845; Map degwm Plwyf Lawrenni 1843; Owen
1897; PRO D/BUSH/6/27; PRO/D/EE/7/338
|