Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

GORSAF BWER PENFRO

CYFEIRNOD GRID: SM 932025
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 91

Cefndir Hanesyddol
Mae Gorsaf Drydan Penfro yn ymestyn dros yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gyfan hon. Fe’i lleolir o fewn rhan ddwyreiniol plwyf Pwllcrochan, yr oedd ei eglwys ganoloesol yn eiddo i’r Priordy Benedictaidd yn Monkton, ym Mhenfro. Fodd bynnag, ni ffurfiai ganolbwynt maenoraidd, ac efallai bod tiroedd yn y rhan hon o’r plwyf yn rhan o Faenor Castellmartin a oedd yn fwy o faint. Roedd Maenor Castellmartin yn un o faenorau demên Arglwyddiaeth Penfro, a’r daliad pwysicaf a berthynai i Gastell Penfro. Cyn adeiladu’r orsaf bwer ymestynnai mornant dros y rhan fwyaf o’r ardal. Roedd yn rhynglanwol a chynhwysai draethellau lleidiog a morfeydd heli. Ymddengys i arfordir y fornant hon aros yn sefydlog trwy gydol y cyfnod hanesyddol. Cynhwysai gweddill yr ardal ffermydd â chaeau rheolaidd eu ffurf. Comisiynwyd yr orsaf bwer ar ddechrau’r 1960au ac fe’i digomisiynwyd yn y 1990au. Mae wrthi’n cael ei dymchwel ar hyn o bryd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys yr orsaf bwer olew sydd wedi’i rhannol ddymchwel. Er mwyn adeiladu’r orsaf adeiladwyd llwyfan mawr trwy gloddio cafn dwfn i mewn i dir ffermio a chael gwared â’r gwastraff o’r cafn dros ben mornant lanwol fach Afon Penfro. Roedd y llwyfan a grëwyd yn ddigon mawr i ddarparu lle ar gyfer dwy orsaf, pe buasai angen ail un. Bydd y llwyfan yn aros ar ôl dymchwel yr orsaf bwer.

Hyd yn oed ar ôl dymchwel yr orsaf yn llwyr, bydd yr ardal hon yn dra gwahanol i’r tir ffermio cyfagos.

Ffynonellau: Jones 1987; Laws 1909; Ludlow 1998; Map Degwm Plwyf Pwllcrochan 1840; Murphy 1995; Owen 1918; PRO D/ANGLE/92; PRO HDX/198/2