|
HOOK
CYFEIRNOD GRID: SM 970111
ARDAL MEWN HECTARAU: 291
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan a leolir yn rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau,
ym mhlwyfi Freystrop a Llangwm. Roedd plwyf Llangwm, a oedd mae’n
debyg yn gydamserol ag arglwyddiaeth mesne ganoloesol Llangwm, yn ddaliad
i’r de Vales nes i un o deulu’r Roche, Gilbert de la Roche
ei feddu tua diwedd y 13eg ganrif. Roedd ei berthynas ag Arglwyddiaeth
Haverford, lle safai, yn fater o anghydfod bob amser. Roedd Freystrop
yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n debyg i’w ganolfan
faenoraidd fod yng nghyffiniau Lower Freystrop, gan fod anheddiad modern
Freystrop, gan fwyaf, yn gnewyllyn 20fed ganrif o amgylch croesffordd.
Yn wir, ymddengys fod patrwm anheddu cyffredinol yr ardal hon fel petai
o darddiad cymharol hwyr. Mae’r ardal gymeriad hon, a oedd yn ardal
amaethyddol yn bennaf hyd y 19eg ganrif, yn cynnwys tair uned bendant.
Ceir system o lain-gaeau cul i’r dwyrain o Hook. Ymddangosa’r
rhain fel hen gae agored canoloesol, ond ni chofnodir yr enw ‘Hook’
nes 1601, ac o ganlyniad, gallent fod yn fwy diweddar. I’r gogledd
ac i’r de o’r system hon, ceir caeau mwy o faint a mwy rheolaidd
eu ffurf ag iddynt darddiad hwyrach o bosibl, o amgylch pentrefannau Underwood
a Deerland. Ni chofnodir y ddau anheddiad hyn nes y 19eg ganrif. Y drydedd
uned sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardal, ac mae’n
batrwm o gaeau mwy afreolaidd a gysylltir â fferm Rhostir Maddox
o’r 19eg ganrif. Gallai’r fferm hon fod wedi’i sefydlu
ar dir a fu unwaith yn goetir – caiff Coedwig Hook ei chynnwys yn
rhestr George Owen o goedwigoedd mwyaf Sir Benfro tua 1601. Ceir tystiolaeth
o weithgarwch mwyngloddio glo ar draws y caeau. Cafodd glo ei fwyngloddio
yn Hook a Freystrop o ddiwedd y cyfnod canoloesol, ond diwydiant ar raddfa
fach oedd y diwydiant hwn tan y 19eg ganrif, ac mae’n debyg mai
ffermwyr a labrwyr oedd yn gweithio yno yn dymhorol. Dengys mapiau ar
raddfa fawr o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif nifer
o byllau glo ar draws yr ardal hon, gyda threfannau bach yn Hook a Freystrop,
yn ogystal â ffermydd gwasgaredig. Ar ôl 1850, pan agorwyd
Pwll Glo Hook a phyllau mawr eraill, gwawriodd cyfnod newydd ar y diwydiant.
Ehangodd cymunedau hyn a oedd wedi’u hen sefydlu a sefydlwyd rhai
newydd i wasanaethau’r diwydiant a oedd yn tyfu. Roedd tai y glowyr
yn dlawd iawn. Ym 1845, honnwyd eu bod yn cael eu codi o fwd, gweddillion
ffyrdd a cherrig, ac mai toeau gwellt oedd arnynt. Unwaith y gadawyd hwy,
dychwelasant i’r ddaear o’u tarddle gwreiddiol. Datblygwyd
sawl cei i wasanaethu’r diwydiant gan gynnwys, yn yr ardal hon,
Hook, Lower Hook a Sprinkle. Erbyn 1938, cyflogwyd 130 o ddynion ym Mhwll
Glo Hook. Fodd bynnag, yn dilyn gwladoli’r diwydiant glo ym 1947,
ystyriwyd nad oedd pyllau glo Sir Benfro yn talu ac fe’u caewyd
i gyd. Yn chwarter olaf yr 20fed ganrif, mae’r ardal wedi cael ei
thrawsnewid yn ardal breswyl, gyda llawer o’r preswylwyr yn teithio
i Hwlffordd, Aberdaugleddau am gyflogaeth bellach.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach, ond eto i
gyd mae’n ardal gymhleth, ac mae’n cynnwys anheddau sydd wedi
datblygu yn ystod y diwydiannu yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed
ganrif. Saif ar dir tonnog sy’n wynebu’r gogledd gan fwyaf,
rhwng tua 20m ac 80m, ond sydd mewn dau fan yn syrthio’n raddol
i ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae patrwm yr anheddiad yn cynnwys sawl
pentref a phentrefan unedig: Hook, Freystrop, Rhostir Maddox, Underwood
a Deerland. Nid oes llawer o graidd hyn y pentrefi hyn yn goroesi erbyn
hyn, ar wahân i glystyrau bach o anheddau cerrig o’r 19eg
ganrif yn bennaf, yn aml wedi’u rendro â sment, â thoeau
llechi ac o un neu ddau lawr. Ceir anheddau tair cilfach yn bennaf yn
y traddodiad brodorol yn Hook, Underwood a Freystrop, a chapel o’r
19eg ganrif yn Hook. Mae casgliadau dwys a datblygiad llinellol o dai
a byngalos sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth
o arddulliau a deunyddiau yn ymestyn rhwng y pentrefi a’r pentrefannau.
Adeiladwyd nifer o’r anheddau newydd hyn ar safleoedd bythynnod
a thai o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, nad oes llawer
ohonynt wedi goroesi. Fodd bynnag, dengys ambell beth sydd wedi goroesi,
gan gynnwys bwthyn bach unllawr, ffrâm bren wedi’i orchuddio
â haearn rhychiog, faint ac ansawdd diymhongar llawer o’r
tai cynharach. Ceir maes carafannau, ysgol a chae chwaraeon yn yr ardal
hon. Mae caeau bach, afreolaidd yn amgylchynu’r anheddiadau. Mae
ffiniau’n cynnwys cloddiau â gwrychoedd arnynt. Yn gyffredinol,
mae gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda, er bod rhai’n dechrau
tyfu’n wyllt, ac mae’r rhain, ynghyd â choetir prysgog
yn Nash a choed mwy ar hyd ffiniau dyfrffordd Aberdaugleddau, yn rhoi
ymdeimlad coediog i rannau o’r dirwedd. Mae defnydd tir amaethyddol
bron yn gyfan gwbl yn dir pori wedi’i gwella â phocedi o dir
brwynog gwael. Mae gweddillion y diwydiant glo, yn arbennig Pwll Glo Hook,
yn goroesi yn yr ardal hon, ac maent yn cynnwys tramffyrdd a thomenni
rwbel. Roedd Sprinkle, Hook ac Underwood oll yn geiau ar gyfer allforio
glo, ond ychydig iawn o’r strwythurau a adeiladwyd sy’n goroesi.
Yn y tair lleoliad hyn, mae’r blaendraeth naill ai’n lleidiog
ac yn garegog neu’n gors. Erbyn hyn, lansio ac angori cychod pleser
yw eu prif weithgarwch morwrol. Ar wahân i’r olion diwydiannol
sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio glo, nid
yw archeoleg yn elfen fawr o’r ardal hon.
Mae’r patrwm anheddu, systemau’r caeau, a hanes ac olion
diwydiannol yr ardal hon yn ei neilltuo oddi wrth ei chymdogion. I’r
gogledd, mae coetir ar hyd glannau dyfrffordd Aberdaugleddau yn darparu
ffin glir sydd wedi’i diffinio’n dda. Ar ochrau eraill, mae
tirwedd o gaeau a ffermydd mwy yn cyferbynnu â’r ardal hon,
er na cheir unrhyw ffiniau caled, ond yn hytrach parth o newid.
Ffynonellau: Charles 1992; Edwards 1950; Edwards 1963; Map degwm Plwyf
Freystrop 1839; Map degwm Plwyf Llangwm 1841; LlGC PICTON CASTLE CYFROL
1; Arolwg Ordnans 6” Argraffiad Cyntaf 1869; Owen 1897; Rees 1975
|