|
LAWRENNI
CYFEIRNOD GRID: SN 015083
ARDAL MEWN HECTARAU: 896
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad yw hon sydd wedi’i lleoli yn rhannau uchaf dyfrffordd
Aberdaugleddau, ar y ffin rhwng y gwythiennau glo a’r gwregys calchfaen.
Roedd wedi’i lleoli o fewn plwyfi eglwysig a maenorau canoloesol
Lawrenni a Choedcanlas, a oedd yn aelodau o Farwniaeth Caeriw. Roedd y
naill faenor a’r llall yn cynnwys ffi marchog, a ddaliwyd gan Syr
John Carew ym 1362. Arferai’r eglwys adfeiliedig yng Nghoedcanlas
fod yn gapel rhydd a gallai hyn, ynghyd â’i enw canoloesol
‘Merthyr Cynlais’ awgrymu iddi ddyddio o gyfnod cyn y goncwest.
Bu’n eglwys y plwyf yn ddiweddarach.Crybwyllwyd eglwys plwyf Lawrenni
gan Gerallt Gymro tua 1200. Mae’n adeilad croesffurf mawr sy’n
adlewyrchiad o nawdd Carew ac, ynghyd ag eglwys Coedcanlas, gallai awgrymu
poblogaeth fawr yn y cyffiniau hyn yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Hwyrach
y bu pentrefan yng Nghoedcanlas. Fodd bynnag, prin yw’r treflannau
canoloesol y gellir eu nodi yn y plwyf ac mae’n bosibl i’r
rhan fwyaf o’r ardal fod yn goetir neu’n dir pori. Roedd coedwig
yn gysylltiedig â’r maenordy yng Nghoedcanlas ac fe’i
disgrifiwyd gan George Owen tua 1600 fel coedwig ‘a oedd yn ddigonol
i wasanaethu eu tai â thanwydd a pheth ar gyfer eu hadeiladau’.
Mae patrwm cymharol reolaidd y caeau mawr yn awgrymu system a amgaewyd
wedi’r cyfnod canoloesol. Trosglwyddwyd Maenor Coedcanlas i deulu
Owen o Orielton yn yr 17eg ganrif. Sefydlwyd gardd yn arddull y Dadeni
ganddynt o amgylch y maenordy is-ganoloesol y gellir ei chymharu o ran
maint ag enghreifftiau mwy adnabyddus yn Lloegr. Gellir gweld ei chyrtiau
a’i therasau ffurfiol nodweddiadol o hyd mewn ffotograffau o’r
awyr. Trosglwyddwyd Lawrenni i deulu’r Barlows o Slebets ac mae
map ystad, dyddiedig 1762, yn dangos bod y rhan fwyaf o’r elfennau
sy’n ffurfio’r dirwedd hanesyddol bresennol yn eu lle erbyn
y dyddiad hwnnw. Dangosir Plas Lawrenni (a safai o bosibl ar safle’r
capwt canoloesol), ei erddi a rhodfa o goed, ynghyd â’r pentref
cnewyllol a’r dirwedd o gaeau rheolaidd. Aeth Lawrenni i ddwylo’r
teulu Lort-Phillipps yn ddiweddarach a gododd ffug-gastell a ddymchwelwyd
ym 1950. Ers 1762 mae’r caeau wedi’u huno yn unedau mwy ac
nid yw’r rhodfa yn bodoli bellach er bod y patrwm sylfaenol yno
o hyd. Mae dyfrffordd Aberdaugleddau wedi bod yn bwysig wrth ddiffinio
cymeriad yr ardal hon erioed. Defnyddiwyd y cilfachau a’r mornentydd
llanwol fel mannau hwylio anffurfiol drwy gydol y cyfnodau hanesyddol
a chynhanesyddol. Roedd Garron Pill, yn enwedig yn lanfa bwysig a ddefnyddid
ar gyfer allforio calchfaen o’r chwareli ar benrhyn y mornant ar
ddechrau’r 19eg ganrif. Cysylltwyd y chwareli yng Nghoedcanlas â
fferi i Langwm. Roedd Cei Lawrenni hefyd yn lanfa gynnar a oedd wedi’i
chysylltu â’r fferi i Cosheston. Erbyn y 18fed ganrif roedd
llongau o Lawrenni yn llwytho glo o’r cychod a ddeuai o Gei Cresswell.
Trawsnewidiwyd y cei yn ddiweddarach i’r strwythur mawr carreg a
welir heddiw. Nid oedd cloddio am lo yn elfen bwysig o’r dirwedd
ond arferid cludo glo, deunydd o’r chwareli a diwydiannau eraill
fel y diwydiant gwneud briciau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Lawrenni wedi’i lleoli yn
y tro a ffurfir gan ddyfrffordd Aberdaugleddau ac Afon Cresswell. Mae’n
dir tonnog sydd ar gyfartaledd rhwng 10m a 50m uwchlaw lefel y môr
gan syrthio’n raddol i lannau afon Cresswell, ond sydd hefyd, mewn
mannau, yn disgyn yn serth i lan y dwr. Mae’n dirwedd amaethyddol
sydd ag iddi naws ‘parcdir ystad’. Cynhwysir rhannau helaeth
o’r morfa heli a’r gors yn Garron Pill ac ar hyd Afon Cresswell.
Mae’r caeau yn fawr ac yn rheolaidd eu siâp. Defnyddir y tir
gan fwyaf fel tir pori wedi’i wella, ond â chyfran fach ond
arwyddocáol o dir âr. Cloddiau â gwrychoedd sydd wedi’u
cadw’n dda yw’r ffiniau i’r caeau, ond yn Lawrenni ac
o’i amgylch mae waliau cerrig â morter y pentref yn wrthgyferbyniad
i’r gwrychoedd. Mae coed aeddfed yn y gwrychoedd ger y pentref yn
nodweddiadol o’r ardal hon. Yn wir, y coed hyn ynghyd â chlwstwr
achlysurol yn y caeau a chlystyrau mwy o goetir collddail sy’n rhoi’r
naws benodol iawn o barcdir i’r ardal; mae hyn i’w weld yn
glir ger pentref Lawrenni, ond mae hefyd i’w weld mewn mannau eraill.
Mae’r llain fawr o goetir collddail (Coedwig Lawrenni) ar y llethrau
serth uwchlaw dyfrffordd Aberdaugleddau ymron yn ardal gymeriad ynddo’i
hun, ond fe’i cynhwysir yma oherwydd ei chysylltiad â Thy
Lawrenni a’i erddi. Ac eithrio pentref cnewyllol bach Lawrenni,
patrwm o ffermydd gwasgaredig sydd i’r anheddiad gyda thai a bythynnod
achlysurol. Mae’r ffermydd yn amrywio o ran maint ond mae tuedd
iddynt fod yn fawr. Dymchwelwyd prif dy’r ardal, Plas Lawrenni yn
y 1950au (mae ei ardd â wal o’i chwmpas a nodweddion eraill
yr ardd yn goroesi). Ty is-ganoloesol Coedcanlas, gyda’i addasiadau
a’i ychwanegiadau yw’r strwythur domestig hynaf ac mae’n
rhestredig â Gradd II. Mae sawl cyfres o adeiladau allan mawr a
godwyd o garreg sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob
tebyg yn gysylltiedig ag ef, ynghyd â bwthyn brodorol unllawr sy’n
dyddio o’r 19eg ganrif. Mae olion yr ardd sydd yn bennaf dan wyneb
y ddaear, ymhlith yr ychydig dirweddau yng Nghymru sydd wedi’u llunio
yn ôl arddull y Dadeni. Mae ffermdai eraill wedi’u codi o
garreg ag iddynt doeau llechi yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent
wedi’u codi yn y traddodiad Sioraidd, ac mae gan rai ohonynt nodweddion
brodorol. Mae cyfresi o adeiladau allan o garreg wedi’u cysylltu
â ffermdai. Gall y rhain fod yn eithaf sylweddol ac yn lled-ffurfiol
eu patrwm fel y gwelir yn yr enghreifftiau hynny ar Fferm Plas Lawrenni
sydd wedi’u rhannol addasu. Nodir enghreifftiau eraill o hen adeiladau
fferm wedi’u haddasu at ddefnydd gwahanol yn yr ardal hon. Mae gan
y rhan fwyaf o’r ffermydd gweithredol gyfresi eithaf helaeth o adeiladau
amaethyddol modern. Mae ychydig o dai a bythynnod sy’n dyddio o’r
19eg ganrif ynghyd â thai sy’n dyddio o’r 20fed ganrif
wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd gan gynyddu yn eu nifer at lan
y dwr. Mae pentref Lawrenni yn cadw llawer o’i gymeriad o’r
19eg ganrif ac yn wir, gellid dadlau ei forffoleg ganoloesol. Mae’r
tai yma yn dyddio gan fwyaf o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u
codi o gerrig (wedi’u rendro â sment a charreg noeth) gyda
thoeau llechi, gydag enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd yn y traddodiad
brodorol. Mae ambell i dy sy’n dyddio o’r 20fed ganrif ar
wasgar yn y pentref. Mae twr anferth eglwys ganoloesol y plwyf St Caradoc
sy’n rhestredig Gradd II yn tra-arglwyddiaethu dros y pentref. Yn
yr ardal hon hefyd mae olion eglwys ganoloesol y Santes Fair, Coedcanlas.
Bu diwydiant yn elfen bwysig o’r economi ar un adeg, ond prin yw’r
olion corfforol. Y cei o garreg yn Lawrenni a’r hen chwareli yn
Garron a Fferi Llangwm yw’r eithriadau. Bellach mae Cei Lawrenni
sydd wedi’i restru â Gradd II yn cael ei ddefnyddio at ddibenion
twristiaeth a hamdden. Ceir yma iard gychod/cychod hwylio, parc carafannau
a datblygiad o dai gwyliau. Mae’r ardal yn gyforiog o safleoedd
archeolegol amrywiol ond nid ydynt yn ffurfio elfen fawr o’r dirwedd.
Maent yn cynnwys tomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd maen
hir o’r oes efydd, dwy gaer o’r oes haearn, odynau calch ar
hyd lan y ddyfrffordd, safle gwaith brics a safleoedd milwrol yr Ail Ryfel
Byd.
I’r de a’r gorllewin, diffinnir yr ardal hon gan ddyfrffordd
Aberdaugleddau. Yn yr ardaloedd cymeriad cyfagos mae elfennau amaethyddol
cryf ond â phatrymau anheddu a chaeau gwahanol. Fodd bynnag nid
oes ffin galed, ond yn hytrach dwy ardal yn uno.
Ffynonellau: Briggs 1998; Charles 1992; Davies a Nelson 1999; Edwards
1950; Edwards 1963; Hall et al. 2000; map degwm Plwyf Lawrenni 1843; Ludlow
1998; Owen 1897; PRO D/HDX/969/1
|