|
LLECYN ARFORDIROL WEST ANGLE I FRESHWATER WEST
CYFEIRNOD GRID: SM 845022
ARDAL MEWN HECTARAU: 102
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n cynnwys llecyn arfordirol cul ym mhlwyf Angle.
Yn hanesyddol, bu’r llecyn arfordirol hwn yn dir ymylol erioed,
y tu hwnt i ffiniau tir amaethyddol. Yn y gorffennol, fe’i defnyddiwyd
fel tir pori garw. Fodd bynnag, mae’n cynnwys sawl cyn safle anheddu
gan gynnwys sawl caer bentir o’r oes haearn. Mae Castles Bay Camp,
sydd gyferbyn ag Ynys y Defaid yn safle anghyffredin ac mae’n bosibl
y bu pobl yn byw yno yn gynnar yn ystod y cyfnod canoloesol, a gall fod
â nodweddion ailddefnydd milwrol o’r cyfnod ar ôl y
Goncwest Eingl-Normanaidd. Wrth geg dyfrffordd Aberdaugleddau, mae’r
ardal hon wedi chwarae rôl amddiffynnol bwysig ers blynyddoedd maith.
Adeiladwyd twr gynnau ym 1542 yn East Blockhouse. Addaswyd magnelfa gynnau
a adeiladwyd ar Thorn Island ym 1859 yn gaer yn ddiweddarach, ac yn olaf
yn westy. Ym 1901-04, adeiladwyd llwyfannau gynnau enfawr gerllaw’r
twr gwn o’r 16eg ganrif. Defnyddiwyd y safle olaf hwn yn ystod yr
Ail Ryfel Byd pan adeiladwyd gwersyll mawr yn ogystal â nifer o
sefydliadau llai. Mae’r fyddin yn parhau i ddefnyddio’r safle,
er mai prif swyddogaeth y llecyn arfordirol yw bod yn goridor ar gyfer
Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys llecyn tua
7 km o hyd o glogwyn arfordirol uchel o garreg galed wedi’i orchuddio
â band cul o rostir prysgwydd a thir garw. Rhed Llwybr Arfordir
Sir Benfro ar hyd yr ardal gyfan hon. Er mai llecyn cul iawn o dir ydyw,
weithiau dim ond metr neu ddau o led, mae’r ardal hon yn wahanol
iawn i’r tir amaethyddol sy’n cydffinio â hi, ac am
rannau maith, nid oes cysylltiad rhwng y caeau amaethyddol a’r llecyn
arfordirol. Yn ei hanfod, nodweddir tirwedd hanesyddol y llecyn arfordirol
gan ei safleoedd archeolegol niferus ac amrywiol. Y rhai amlycaf o’r
rhain yw safleoedd milwrol sydd o’r i’r 16eg ganrif hyd at
yr 20fed ganrif, gan gynnwys y sefydliad milwrol hynaf i oroesi ar y ddyfrffordd,
East Blockhouse, a adeiladwyd yn y 16eg ganrif, ac sydd erbyn hyn yn adfail
caregog ansad ar ben y clogwyn. Hefyd ar y llecyn hwn, ceir y gaer restredig
gradd II* o’r 19eg ganrif ar Thorn Island, a adeiladwyd ym 1859
ac sydd erbyn hyn wedi’i haddasu’n westy (sydd ei hun yn rhestredig
gradd II*), y fagnelfa gynnau arfordirol yn East Blockhouse a adeiladwyd
rhwng 1901-04, a sawl sefydliad gwasgaredig megis magnelfeydd chwilolau
a llwyfannau gynnau. Defnyddir adeiladau yn East Blockhouse hyd heddiw
gan y fyddin. Mae safleoedd archeolegol eraill yn cynnwys caerau o’r
oes haearn, safle posibl o’r oesoedd tywyll ar Ynys y Defaid a nifer
o weithfeydd carreg fflint.
Gwahenir yr ardal nodedig hon yn amlwg oddi wrth y tir fferm amgaeëdig
sy’n ffinio â hi i gyfeiriad y tir.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Angle 1842; Crane 1994; Edwards and Lane
1988; Locock 1994; Murphy and Allen 1997 ac 1998
|