|
UZMASTON A BOULSTON
CYFEIRNOD GRID: SM 973138
ARDAL MEWN HECTARAU: 1663
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr wedi’i lleol ar rannau uchaf y Cleddau Wen.
Mae wedi’i lleoli ym mhlwyfi Haroldston St Issell’s, Uzmaston
(y ddau yn Arglwyddiaeth ganoloesol Haverford), Boulston a Slebets (ill
dau ym Marwniaeth Daugleddau). Rhoddwyd eglwysi Boulston ac Uzmaston i
Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, ac yna i Farchogion Sant Ioan yn Slebets,
cyn 1130, tra roedd eglwys Haroldston yn eiddo i’r Priordy Awstinaidd
yn Hwlffordd. Roedd proses gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth yn gysylltiedig
â’r ardal hon yn dilyn rhannu Iarllaeth Penfro ym 1247 –
ym 1324 daliai Arglwyddiaeth Penfro un ran o ddeg o ffi marchog yn Uzmaston
tra daliwyd un ffi gan Arglwyddiaeth Haverford. Bu Boulston a Maenor Pictwn
(yng ngorllewin Slebets, gyda’i chapwt yng Nghastell Pictwn) yn
rhan o Faenor fwy Cas-wis, ond daethant yn ddaliadaethau ar wahân
o dan deulu lleol y Wogans, a oedd yn gyn denantiaid i Ieirll Penfro,
erbyn y 13eg ganrif. Roedd Haroldston, gan gynnwys Haylett, a gofnodwyd
ym 1346, yn cynrychioli un ffi marchog o Arglwyddiaeth Haverford gan William
Harold. Fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan deulu dylanwadol y Perrots
i ffurfio cnewyllyn eu hystadau anferth. Fodd bynnag, nid ymddengys i’r
newid o ran perchenogaeth arwain at drefniadau daliadaeth gwahanol, ac
roedd patrwm unffurf o amgáu yn bodoli ar draws yr ardal gymeriad
hon erbyn y 18fed ganrif. Mae hwn, fel y patrwm anheddu cyffredinol, yn
ymddangos yn ôl-ganoloesol ei ffurf. Mae’n cynnwys clostiroedd
mawr, cymharol reolaidd sy’n ymddangos yn fugeiliol eu natur yn
hytrach na’n dir âr ac a oedd, fwy na thebyg, yn gyfoes i
weddill y ffermydd a’r daliadaethau. Ni chofnodwyd yr un o’r
rhain cyn canol y 16eg ganrif a gallant fod yn fwy diweddar byth. Mae’n
glir o’r mapiau cyntaf ar raddfa fawr bod y patrwm presennol o gaeau,
coetir ac anheddiad wedi’i hen sefydlu erbyn canol y 18fed ganrif.
Mae’n syndod nad yw mapiau hanesyddol yn dangos olion hen systemau
caeau agored, dull ffermio a oedd yn gyffredin yn y rhan hon o Sir Benfro,
a dull o ffermio y byddai rhywun yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio yn
yr ardal hon yn yr oesoedd canol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad hanesyddol gymharol fawr hon wedi’i lleoli
ar draws glannau dwyreiniol a gorllewinol rhannau llanwol uchaf y Cleddau
Wen, i lawr yr afon yn uniongyrchol o Hwlffordd. Mae’r bryniau tonnog,
sy’n codi i 50m a mwy ac sy’n syrthio’n serth i’r
ddyfrffordd, wedi’u gorchuddio â chaeau, gyda choetir collddail
ar hyd glannau’r afon a’i llednentydd ac ar rai o’r
llethrau mwy serth. Cynhwysir rhannau uchaf y ddyfrffordd ei hun yn yr
ardal hon, sy’n cynnwys sianel lanwol gul â chors, llaid a
morfa heli yn y fan hon. Mae’n dirwedd amaethyddol a nodweddir gan
ffermydd gwasgarog a chaeau canolig i fawr o ran eu maint ag iddynt siâp
rheolaidd. Mae’r caeau o amgylch Boulston a Norchard i’r dwyrain
o’r afon yn fwy o ran maint. Mae cloddiau â gwrychoedd yn
nodi ffiniau. Maent wedi’u cynnal yn dda, ond mae rhai ohonynt wedi
tyfu’n wyllt ac eraill wedi’u hesgeuluso a rhai wedi mynd
rhwng y cwn a’r brain. Caiff y rhain eu disodli gan ffensys gwifren.
Tuag at ffin ddwyreiniol yr ardal hon mae lleiniau cysgodi yn rhedeg wrth
ymyl y ffyrdd, ac mae’r rhain, ynghyd â’r gwrychoedd
sydd wedi tyfu’n wyllt a choed collddail ar y llethrau mwy serth
yn rhoi naws goediog i rannau o’r dirwedd. Defnydd amaethyddol a
wneir o’r tir sef tir pori wedi’i wella ac ychydig o gaeau
âr a rhai o dir mwy garw. Ceir amrywiaeth helaeth iawn o ran maint
y ffermydd a math y ffermydd ar draws y dirwedd, gan amrywio o adeiladau
mawr iawn megis Maenor Boulston gyda’i fferm, i dai brodorol un-a-hanner
llawr wedi’u codi o garreg gyda chyfres fach o adeiladau allan yn
tarddu o ganol y 19eg ganrif. Fodd bynnag mae rhan fwyaf y ffermydd yn
yr ardal hon yn sylweddol o ran eu maint gyda ffermdai wedi’u codi
yn y traddodiad Sioraidd sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a
dechrau’r 19eg ganrif, ffermdai brodorol o’r 19eg ganrif a
ffermdai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Wedi’u lleoli’n
agos at y ffermdai mwy, weithiau mewn trefniant ffurfiol o amgylch buarth,
ceir cyfres o adeiladau allan wedi’u codi o garreg a thoeau llechi
sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Nodwedd arall o nifer o’r
ffermydd mawr yw casgliadau mawr o adeiladau amaethyddol modern o ddur
a choncrid. Mewn rhai enghreifftiau mae adeiladau fferm o friciau a/neu
haearn gwrymiog sy’n dyddio o ganol y 20fed ganrif yn goroesi. Mae
Lodj Boulston, sy’n dyddio o 1798 yn adeilad rhestredig Gradd II.
Mae adeiladau eraill yn cynnwys sawl lodj i’r ffermydd mwy, eglwys
ganoloesol St Issell, eglwys adfeiliedig Boulston, capel sy’n dyddio
o ganol y 19eg ganrif a thai sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.
Nid yw’r tai hyn yn elfennau cyffredin yn y dirwedd. Uzmaston yw’r
unig bentref yn yr ardal hon. Mae wedi’i ganoli ar yr eglwys blwyf
ganoloesol ac yn cynnwys clwstwr bras o dai o gwmpas llain y pentref.
Ceir anheddau o amrywiol arddulliau ac maent yn cynnwys tai cyngor sy’n
dyddio o ganol yr 20fed ganrif, tai brodorol wedi’u hadeiladu o
garreg yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai sy’n dyddio o ddiwedd
y 18fed ganrif a godwyd yn y traddodiad Sioraidd. Mae safleoedd archeolegol
niferus ac amrywiol yn yr ardal hon. Maent yn cynnwys: sawl crug crwn
o’r oes efydd, meini hirion a thomenni wedi llosgi, tair bryngaer
o’r oes haearn, safle capel, safleoedd melinau, cwningar, safle
maenordy, gerddi a phlasty anghyfannedd Haroldston a sawl odyn galch ar
lan yr afon.
Ar hyd ei ffin ogleddol â thref Hwlffordd, mae’r ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol hon wedi’i diffinio’n dda, gan nad yw nifer
fawr o’r elfennau tirwedd wedi’u gadael i ddirywio. Ar yr
ochrau eraill mae’r ffin yn cyffinio ag ardaloedd amaethyddol eraill;
yma, nid oes ffin galed, dim ond parth newid.
Ffynonellau: map degwm Plwyf Boulston 1844; Davies 19946; Jones 1996:
LlGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; LlGC MAP 7524; LlGC CYFROL 88; Owen 1911;
Ludlow 1998; mapiau degwm Plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847; map degwm
Plwyf Uzmaston 1841; Walker 1950
|