|
HILLBLOCK
CYFEIRNOD GRID: SN 005151
ARDAL MEWN HECTARAU: 106
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan a leolir o fewn plwyf eglwysig Boulston sy’n
gydamserol â Maenor ganoloesol Boulston o Farwniaeth Daugleddau.
Mae’n cynnwys llain ddiffiniedig o gaeau hir a chul naill ochr i
bentrefan Hillblock, ar fryn crwn rhwng dwy nant. Mae’r caeau yn
cynrychioli proses o amgáu system caeau agored ganoloesol. Awgryma’r
enw Hillblock, nas cofnodwyd tan 1419, y crëwyd yr ardal hon o gaeau
agored o dir comin ar dir cymharol uchel. Ymestynnwyd plwyf a maenor Boulston
i gynnwys yr ardal hon, o bosibl ar draul maenor Pictwn. Parhaodd tir
uwch Arnold’s Hill i’r gogledd i fod yn dir agored tan ddiwedd
y cyfnod canoloesol. I’r de, fe ad-drefnwyd ystad Pictwn gymaint
yn ystod y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif fel na ellir canfod ei ffurf
wreiddiol. Mae map ystad o 1773 yn dynodi hyd a lled yr ardal hon. Bryd
hynny roedd pentrefan Hillblock yn cynnwys saith rhandir, neu fferm fechan,
mewn clwstwr. Roedd llain?gaeau amgaeëdig yn amgylchynu’r pentrefan.
Roedd gan bob rhandir sawl llain, er nad oeddent mewn bloc cyfunol. Mae
hyn yn dynodi i’r lleiniau gael eu hamgáu yn fuan cyn hynny
o system caeau agored. Erbyn arolwg 1844 roedd y lleiniau wedi’u
cyfuno gan greu caeau mwy rheolaidd, siâp petryal. Fodd bynnag roedd
siâp gwreiddiol y llain-gaeau i’w gweld o hyd, fel ag y mae
heddiw, er i raddau llai o dipyn. Plannwyd llain gysgodi ar hyd ffordd
ar ben gorllewinol y caeau erbyn 1844. Mae hon wedi’i chynnwys o
fewn ardal gymeriad wahanol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fechan hon wedi’i
lleoli ar draws bryn crwn isel neu gefnen rhwng 25m a 60m. Mae’n
cynnwys pentrefan Hillblock a’r caeau cyfagos. Mae lôn syth
yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd echel hir y gefnen
drwy’r pentrefan. Mae caeau hir, rhai ohonynt yn gul ac yn ymdebygu
i lain-gaeau, yn rhedeg bob ochr i’r lôn. Cloddiau a gwrychoedd
sy’n rhannu’r caeau. Yn gyffredinol mae’r gwrychoedd
wedi’u cynnal yn dda, ond mae rhai yn tyfu’n wyllt ac mae
rhai wedi mynd rhwng y cwn a’r brain ac wedi’u disodli gan
ffensys gwifren. Ar lethrau is y gefnen mae’r gwrychoedd yn rhedeg
i goetir prysgog bob ochr i’r nentydd. Tir pori wedi’i wella
yw’r defnydd a wneir o’r tir. Mae pentrefan Hillblock yn anheddiad
cnewyllol o sawl annedd sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Maent
yn cynnwys prif ffermdy deulawr yn yr arddull Sioraidd frodorol, tai deulawr
yn y traddodiad brodorol a bwthyn gweithwyr unllawr yn yr arddull frodorol.
Mae pob annedd wedi’i chodi o garreg, wedi’u rendro â
sment ac iddi do llechi. Mae cyfresi bychan o adeiladau allan sy’n
dyddio o’r 19eg ganrif wedi’u lleoli yn y pentrefan yn ogystal
ac adeiladau amaethyddol modern. Ni cheir unrhyw safleoedd archeolegol
arwyddocaol nac adeiladau rhestredig.
Er, yn hanesyddol, bod yr ardal hon yn un hynod iawn, nid yw ei chymeriad
bellach yn wahanol iawn i gymeriad ei chymdogion ac felly, ar y tir, nid
yw’r ffiniau wedi’u diffinio’n dda iawn.
Ffynonellau: map degwm Plwyf Boulston 1844; Charles 1992; LlGC CASTELL
PICTWN CYFROL 1; LlGC CYFROL 88; PRO D/RTP/Sir Benfro RBPP/6/2
|