MYNWAR
CYFEIRNOD GRID: SN042124
ARDAL MEWN HECTARAU: 602
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad hon sy’n cynnwys caeau a ffermydd ar
ben y Cleddau Ddu wedi’i lleoli ym mhlwyfi Mynwar a Martletwy. Mae
Mynwar yn blwyf cymharol fawr nad yw, yn ôl pob tebyg yn gydamserol
â Maenor ganoloesol Mynwar. Rhoddwyd eglwys y plwyf i Farchogion
Sant Ioan yn Slebets gan Robert FitzLomer – Arglwydd y Faenor y
gellid tybio – rywbryd cyn 1231, ynghyd â llain o dir. Credir
bod rhan fwyaf y llain hon ym mhlwyf Mynwar. Roedd dwy rodd arall o dir
i’r Marchogion yn y 12fed ganrif yn cynnwys tir yn y plwyf a elwid
‘Blakedun’ a ‘Benegardun’. Nid yw’r rhain
yn hysbys bellach ond mae’n debyg eu bod wedi’u lleoli o amgylch
Broomhill Farm i’r de o Nant Mynwar. Cafodd y Marchogion eglwys
plwyf Martletwy yn rhodd hefyd ynghyd â llain sylweddol o dir –
yn yr ardal hon yn ôl pob tebyg. Gellir priodoli’r ffaith
i’r enwau llefydd cynnar hyn gael eu colli i’r ad-drefnu a
fu ar y dirwedd wedi’r Oesoedd Canol. Ymddengys fod Mynwar yn safle
pentref canoloesol anghyfannedd. Wedi’r diddymiad, prynwyd plwyf,
maenor ac ‘arglwyddiaeth’ Mynwar gan y Barlows o Slebets.
Ac eithrio Vogar, a gofnodwyd ym 1451, mae’r enwau ffermydd yn cael
eu crybwyll gyntaf mewn ffynonellau sy’n dyddio o’r 16eg ganrif
a’r 17eg ganrif. Fodd bynnag ymddengys fod patrwm y caeau amgaeëdig
mawr rheolaidd iawn ag iddynt ffiniau syth yn dyddio o gyfnod hwyrach.
Mae’n bosibl i’r rhan fwyaf ohonynt fod wedi’u sefydlu
dros goetir blaenorol – cynhwyswyd Coedwig Mynwar yn rhestr George
Owen o goedwigoedd mawr Sir Benfro tua 1601. Mae’n amlwg o’r
mapiau hanesyddol i dirwedd heddiw gael ei sefydlu’n bendant erbyn
y cyfnod rhwng canol a diwedd y 18fed ganrif. Er enghraifft mae mapiau
ystad Vogar yn dangos patrwm caeau sydd ymron yn union debyg i’r
un sy’n bodoli heddiw. Yr unig wahaniaeth yw’r coetir collddail
sydd wedi’i hadfywio ers y 18fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad o hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynwar wedi’i lleoli ar ochr
ddeheuol rhan uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau (y Cleddau Ddu yw’r
enw ar yr afon yn y fan hon) ac mae’n cynnwys rhan o’r blaendraeth
lleidiog a chorslyd a’r bryniau tonnog sy’n codi i 80m a mwy
uwchlaw lefel y môr ac sy’n parhau i godi i’r de o’r
ardal hon. Mae’n dirwedd amaethyddol sy’n cynnwys sawl fferm
wasgaredig. Defnydd amaethyddol a wneir o’r tir sef tir pori wedi’i
wella gan fwyaf gyda rhywfaint o dir âr yn enwedig ar dir uwch.
Ceir coetir collddail ar lawr y dyffrynnoedd ac ar rai o lethrau mwy serth
y dyffrynnoedd. Mae coed aeddfed i’w cael yn rhai o’r gwrychoedd
ac mae’r rhain ynghyd â’r coetir yn rhoi naws goediog
i rannau o’r dirwedd. Plannwyd y gwrychoedd ar gloddiau pridd ac
yn gyffredinol maent wedi’u cadw’n dda. Yr unig glwstwr o
adeiladau a geir yw eglwys ganoloesol restredig Gradd II St Womar, Fferm
Mynwar a thai sy’n dyddio o’r 19fed ganrif sydd wedi’u
moderneiddio. Mae’r fferm yn nodweddiadol o’r ardal –
yn dyddio o’r 19eg ganrif ac a godwyd yn ôl yr arddull Sioraidd
yn gyffredinol mewn carreg, wedi’i rendro ag iddo do llechi a dau
lawr, gyda chyfres o adeiladau allan wedi’u codi o garreg yn y 19eg
ganrif wedi’u trefnu o gwmpas buarth, ynghyd â sawl adeilad
amaethyddol concrit ac asbestos mawr sy’n dyddio o’r 20fed
ganrif. Prin yw’r safleoedd archeolegol ac nid yw’r rheini
sydd yma megis tomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd (aneddiadau
cynhanesyddol o bosibl) yn elfen arwyddocaol o’r dirwedd.
I’r gogledd mae gan yr ardal hon ffin bendant o goetir ac eto i’r
gorllewin lle y mae’n rhedeg lawr i ddyfrffordd Aberdaugleddau.
I’r de mae’r dirwedd yn wahanol o ran cymeriad er yn amaethyddol
yn bennaf. Yma ceir parth o newid yn hytrach na ffin galed. Dim ond i’r
dwyrain y ceir ffin sy’n anodd i’w diffinio, ond nid yw cymeriad
y dirwedd hon wedi’i ddiffinio eto.
Ffynonellau: Charles 1948; Charles 1992; Davies 1946; map degwm Plwyf
Martletwy 1844; LLGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; LLGC CYFROL 88; Owen 1897;
mapiau degwm plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847
|