Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

FREYSTROP

CYFEIRNOD GRID: SM 954121
ARDAL MEWN HECTARAU: 357

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr i’r gorllewin o’r Cleddau Wen, yn cynnwys hanner gogleddol plwyf Freystrop. Roedd Freystrop yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n debyg mae yng nghyffiniau pentref Lower Freystrop, ychydig o bellter o eglwys plwyf St Justinian, oedd ei chanolfan faenoraidd ganoloesol, ac mae hyn yn awgrymu y gallai’r eglwys fod wedi’i sefydlu yn y cyfnod cyn y Goncwest. Rhoddwyd yr eglwys i’r priordy Tironaidd yn Pill cyn 1400. Datblygiad mwy diweddar yw gweddill y patrwm anheddu yn yr ardal hon; ni chofnodwyd y ffermydd na’r pentrefannau yn yr ardal hon cyn y 18fed ganrif. Fodd bynnag, ymddengys y gallai seiliau’r dirwedd fod yn dyddio o gyfnod cynharach yn seiliedig ar system o gaeau agored ganoloesol a thir comin – Comin Northmoor – sy’n parhau i fod ynghanol yr ardal. Dynodir yr ardal gymeriad gyfan ar fap dyddiedig 1773. Dengys dirwedd sy’n amaethyddol yn ei hanfod ac mae’r prif anheddiad yn Lower Freystrop yn gnewyllyn rhydd o ryw ddeg o dai wedi’u hamgylchynu gan gaeau agored. Ymddengys mai lleiniau nas amgaewyd oedd y lleiniau yn y caeau agored – hy. roedd y system caeau agored yn parhau i weithredu – ond roedd rhai lleiniau wedi’u hamgáu gan wrychoedd. Erbyn arolwg degwm 1839 roedd y system caeau agored wedi’u hamgáu yn llawn i’r caeau hir a chul nodweddiadol (a gynrychiolai leiniau unigol neu grwpiau o leiniau o fewn y cae agored blaenorol) sy’n parhau hyd heddiw i ryw raddau. Dim ond lleiniau bach o rostir, comin neu dir heb ei drin a welir ar fap 1773. Fodd bynnag, dangosir tirwedd ddiwydiannol newydd bob hyn a hyn yn y dirwedd amaethyddol, gyda bythynnod ynysig niferus a phyllau glo yn y llain-gaeau i’r dwyrain o Lower Freystrop a phentref Freystrop. Bu cloddio am lo ar raddfa fechan yn elfen yn economi’r ardal ers diwedd y cyfnod canoloesol, gyda’r ffermwyr a’r gweision yn gweithio’r glo yn dymhorol, ond roedd y pyllau a’r tai a nodir ar fap 1773 yn dynodi ymdrech fwy pendant o ran cloddio am lo. Roeddent yn cynnwys Pwll Glo Cardmaker’s Pool, gwaith cymharol helaeth sy’n dyddio o’r 18fed ganrif. Erbyn diwedd y 19eg ganrif agorwyd pyllau mwy yn agos at Freystrop. Yn sgîl hyn, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth a datblygiad y patrwm anheddu modern. Cafodd diwydiant effaith niweidiol ar amaethyddiaeth gyda hen gaeau âr yn troi’n gaeau pori bras. Mae anheddiad modern Freystrop sydd wedi’i gynnwys mewn ardal gymeriad hanesyddol wahanol, yn anheddiad cnewyllol sy’n dyddio o’r 20fed ganrif yn bennaf wedi’i leoli ar groesffordd. Un bwthyn yn unig a safai yma yn 1773.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Yn hanesyddol mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hynod iawn. Mae’n cynnwys hen bentref Lower Freystrop a’i hen gaeau agored. Mae wedi’i lleoli ar draws tir tonnog sydd rhwng 20m a 80m uwchlaw lefel y môr. Mae Lower Freystrop yn cynnwys clwstwr rhydd o dai deulawr sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ac a godwyd o garreg a’u rendro â sment, gyda thoeau llechi, mewn arddull y gellir ei galw’n arddull Sioraidd frodorol. Mae sawl cyfres sylweddol o adeiladau fferm sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ac sydd wedi’u hadeiladu o garreg i’w cael yn y pentref. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn wag a rhai yn adfeiliedig. Yn ogystal â’r anheddau hyn ceir tai mewn amrywiaeth o arddulliau yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ceir hefyd tai sy’n dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal gymeriad gyfan. Mae eglwys plwyf St Justinian’s wedi’i lleoli ychydig bellter o’r pentref ar ochr dyffryn cul. Mae ffermdai’r ffermydd gwasgaredig yn dyddio, ar y cyfan, o’r 19eg ganrif ac wedi’u hadeiladu yn yr un arddull Sioraidd â rhai’r pentref. Mae adeiladau allan hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif ac wedi’u hadeiladu o garreg, ac mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd un neu ddwy gyfres fechan o adeiladau allan. Gwelir casgliadau mawr o adeiladau allan modern ar y rhan fwyaf o’r ffermydd. Mae siâp y llain-gaeau blaenorol i’w gweld o hyd yn nifer o’r caeau yn yr ardal hon o’r cyfnod pan y’u hamgaewyd o system caeau agored ddwy ganrif yn ôl. Cloddiau â gwrychoedd sy’n dynodi ffiniau caeau. Yn gyffredinol mae’r rhan fwyaf o’r gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda, ond mae rhai wedi tyfu’n wyllt ac eraill wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Mae’r coetir a welir ar lawr rhai o’r dyffrynnoedd a’u hochrau serth yn rhoi naws goediog i rannau o’r dirwedd. Defnyddir y tir yn bennaf fel tir pori gydag ychydig o dir âr ac ychydig o dir pori mwy bras. Nid yw nodweddion diwydiannol yr hen ddiwydiant glo yn elfen amlwg o’r dirwedd. Mae mynwent fodern a maes ymarfer golff yn dystiolaeth o ddylanwad tref gyfagos Hwlffordd. Nid yw’r safleoedd archeolegol yn gyffredin ac nid ydynt yn nodweddiadol o’r ardal, ond maent yn cynnwys safle posibl hosbis o’r oesoedd canol a safle tybiedig eglwys ganoloesol yn Middle Hill. Ni cheir adeiladau rhestredig.

Yn hanesyddol mae hon yn ardal sydd wedi’i diffinio’n dda, er bod dirywiad rhai o elfennau penodol y dirwedd hanesyddol yn golygu bod ffiniau’r ardal hon â’r ardaloedd cyfagos ychydig yn niwlog, yn arbennig i’r gogledd, i’r gorllewin a’r de. I’r dwyrain mae ffin galed i’r ardal hon â choetir ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau.

Ffynonellau: Charles 1992; Edwards 1950; Edwards 1963; map degwm Plwyf Freystrop 1839; Ludlow 2002; LlGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; LlGC CYF. 88; Argraffiad Cyntaf 6” Arolwg Ordnans 1869