Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

MAES AWYR DALE


CYFEIRNOD GRID: SM 796067
ARDAL MEWN HECTARAU: 173

Cefndir Hanesyddol
Mae clogwyni arfordirol uchel yn ffinio â’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon i’r gorllewin ac i’r de orllewin. Ar wahân i’r rhain a fferm o’r enw The Hookses, mae gweddillion maes awyr o’r Ail Ryfel Byd yn gorchuddio’r ardal gyfan. Mae’r ardal hon bron yn gyfan gwbl wedi’i lleoli ym mhlwyf Dale, sydd fwy neu lai’n gydamserol â Maenor ganoloesol Dale. Ffurfiodd hwn arglwyddiaeth mesne israddol barwniaeth Castell Walwyn, a aseswyd am ffi un marchog, â chapwt, mae’n debyg, yn nghyffiniau’r pentref presennol. Roedd y faenor, erbyn o leiaf y 13eg ganrif o leiaf wedi ei chaffael gan linach de Vale ac yn 1307 ‘Roedd etifeddion Robert de Vale yn dal un ffi marchog yn Dale yn cynnwys 10 gweddgyfair’. I’r gogledd o’r pentref, ac o fewn yr ardal gymeriad hon, ceir tir comin lle cadwodd y tenantiaid yr hawl i bori gwartheg, ar ôl i arglwydd y faenor gael gwared ar y gwair, i mewn i’r 19eg ganrif. Yn ôl y sôn, rhoddodd Harri VII y fraint hon. Mae Fferm Dalehill yn gorwedd yn rhannol oddi tan y maes awyr ac mae’n debyg ei fod yn cael ei gysylltu â’r ‘Hill’ (neu ‘Le Hull’), lle cynhaliodd Robert de Vale ‘a’i hynafiaid’ lys tenantiaid maenoraidd. Bu farw Robert de Vale tua 1300 a rhannwyd maenor Dale rhwng ei ferched fel cydetifeddion. Gwnaeth ei ffordd i ddwylo’r teulu Walter o Rosemarket a parhaodd y teulu hwnnw i feddu ar Dale tan ddiwedd y 17eg ganrif pan aeth i feddiant y teulu Allen o Gelliswick, ac yna i’r teulu Lloyd-Philipps sy’n parhau i fod yn berchen ar Gastell Dale heddiw. Cofnodwyd y fferm Hookses gyntaf ym 1713. Cyn adeiladu’r maes awyr, roedd y dirwedd yn gyfan gwbl amaethyddol, yn cynnwys ffermydd – West Point, Longlands a Hooks Vale (dim ond Hooks Vale – erbyn hyn yr Hookses – sy’n goroesi) – gyda chaeau unionlin llai a/neu gaeau bach afreolaidd eu siâp. Roedd y caeau hyn yn llain-gaeau amgaeëdig y system caeau agored neu’r system llain-gaeau. Gellir gweld caeau tebyg hyd heddiw i’r dwyrain o’r maes awyr. Agorodd y maes awyr ym 1942. Gweithredodd bomwyr Wellington o Dale. Eu gwaith oedd ymosod ar longau tanfor yn yr Iwerydd yn ogystal â’u porthladdoedd. Oherwydd ei bod yn gymharol ynysig, daeth Dale yn ganolfan hyfforddi yn ogystal ag yn ganolfan ymchwil a datblygu. Lleolwyd yr Uned Ddatblygu Rheolaeth Arfordirol yn Dale ac Angle. Caewyd maes awyr Dale o fewn pum mlynedd o ddiwedd y Rhyfel.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorchuddir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon gan weddillion maes awyr o’r Ail Ryfel Byd. Mae’r lleiniau glanio a’r ffyrdd perimedr yn parhau, er eu bod wedi tyfu’n wyllt, ac mae llawer o’r adeiladau llety yn goroesi, ond mewn cyflwr adfeiliedig. Ar wahân i greu cloddiau ffin bras o rwbel wedi’i ddymchwel, nid oes llawer o waith adfer tir wedi digwydd. Mae’r ardaloedd sydd rhwng y lleiniau glanio concrid a’r ffyrdd wedi’u troi’n dir pori arw ac fe’u rhennir gan ffensys gwifrau. Yr unig adeilad preswyliedig yw ffermdy Hookses, nad yw’n rhestredig ac sydd wedi’i guddio mewn pant ar ben y clogwyni.

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol wedi’i diffinio’n dda ac yn cael ei ffinio gan naill ai dir fferm neu glogwyni arfordirol.

Ffynonellau: Cynlluniau’r Weinyddiaeth Awyr D-21, D-21a; Calendr Rhôl Siarter 2; Charles 1992; Map Degwm Plwyf Dale 1847; Ludlow yn Crane sydd i’w gyhoeddi; Arolwg Ordnans 6” i 1 milltir Argraffiad 1af XXXII, 1887; Owen 1911; Owen 1918