Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

HWLFFORDD

CYFEIRNOD GRID: SM 974159
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 580

Cefndir Hanesyddol
Hwlffordd yw tref sirol Sir Benfro a hi oedd un o’r trefi mwyaf yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol. Nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol o unrhyw weithgarwch ar safle’r dref cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd a chyn i ‘Tancred y Ffleminiad’ sefydlu’r castell yno ym 1100-1110. Saif y dref a’r castell ar y man pontio isaf ar Afon Cleddau Wen, yr oedd ei werth strategol ac economaidd yn ffactorau ar gyfer dewis y safle a’i ddatblygu ar ôl hynny. Daeth y castell yn ganolbwynt i arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd, sef Rhos neu Hwlffordd, a oedd yn aelod, o leiaf mewn enw, o Iarllaeth Penfro. O amgylch y castell datblygodd anheddiad bach, a adwaenid fel y ‘Castleton’, a gynhwysai eglwys plwyf Sant Marthin, a chodwyd wal o’i amgylch, ond nid oes unrhyw gofnod o siarter tan 1207 pan oedd Hwlffordd eisoes wedi datblygu’n dref sylweddol. Rhoddodd y siarter freintiau marchnad a ffair i’r arglwydd Robert FitzTancred, ac mae tystiolaeth bod brethyn yn cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod cynnar hwn, yn ogystal â gweithgarwch masnachol ar gei’r dref. Roedd priordy Awstinaidd wedi’i sefydlu cyn 1210, ac roedd wedi cael dwy eglwys blwyf ychwanegol, sef eglwys y Santes Fair ac eglwys Sant Tomos. Mae’r eglwys yn Prendergast, er nas lleolir o fewn y fwrdeistref ganoloesol, yn gynharach, ac fe’i sefydlwyd ar ddechrau’r 12fed ganrif. Erbyn 1300, roedd y dref yn weddol fawr, a chynhwysai dros 300 o diroedd bwrdais (yn fwy na’r un fwrdeistref gastellog yng Ngogledd Cymru), lle marchnad ychwanegol ger eglwys y Santes Fair ac aneddiadau yma ac o amgylch eglwys Sant Tomos. Nid oes unrhyw dystiolaeth, fodd bynnag, bod y datblygiad erioed wedi’i amgáu o fewn muriau tref. Dangosir pa mor bwysig yw’r dref gan y ffaith ei bod wedi’i lleoli ym man nodol 13 o lwybrau. Dirywiodd Hwlffordd ar ôl y Pla Du yng nghanol y 14eg ganrif a gadawyd ardaloedd lle’r oedd aneddiadau wedi bod. Fodd bynnag, rhoddwyd siarter gorffori iddi ym 1479, ac yn ystod yr 16eg ganrif cymerodd rôl y dref sirol oddi wrth Benfro. Y castell a oedd wedi ‘dirywio’n llwyr’ oedd carchar y sir bellach. Fe’i hailadeiladwyd ym 1866 ond caeodd ym 1878. Erbyn canol yr 16eg ganrif gellid disgrifio Hwlffordd fel ‘y dref a adeiladwyd orau, y dref fwyaf sifil, a’r dref a anheddwyd gyflymaf yn Ne Cymru’. Ataliwyd y dref rhag ehangu ymhellach gan bla a laddodd un rhan o bump o’r boblogaeth yng nghanol yr 17eg ganrif. Pan lanwodd yr anfon â llaid, a sefydlwyd porthladd yn Aberdaugleddau yn y 1790au, daeth ei rôl fel porthladd i ben. Fodd bynnag, mae ei statws fel y dref sirol ac fel canolfan farchnad leol wedi parhau, parhad a gynorthwywyd pan ymgorfforwyd Hwlffordd yn y rhwydwaith rheilffyrdd ym 1854. Yn ystod yr 20fed ganrif y mae Hwlffordd wedi ehangu fwyaf o ganlyniad i sefydlu maestrefi go fawr yn Merlin’s Bridge, Albert Town, o amgylch yr orsaf reilffordd a’r eglwys gynharach yn Prendergast.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae calon y dref yn cadw llawer o’i helfennau hanesyddol, yn arbennig cynllun ei strydoedd, ei lleiniau o diroedd bwrdais a’i heglwysi. Mae’r castell, a sefydlwyd ar glogwyn yn edrych dros lan orllewinol afon Cleddau Wen, hefyd wedi goroesi. Lleolir yr anheddiad caerog gwreiddiol neu ‘Castleton’ yn union i’r gorllewin ac i’r gogledd o’r castell, o amgylch eglwys Sant Marthin, a’r tu mewn i’r anheddiad ceir trefniant anffurfiol o strydoedd. Fodd bynnag, nid yw mur y dref na’r gatiau wedi goroesi. Lleolid prif bont y dref, nes i New Bridge gael ei hadeiladu ym 1835, 200 metr i fyny’r afon o’r strwythur presennol. Sefydlwyd eglwys y Santes Fair o fewn marchnadfa drionglog a rhwng y farchnadfa hon a’r ‘Castleton’ roedd dyffryn serth nant sydd bellach wedi’i sianelu a elwir yn ‘Shitters’ Brook’, sy’n rhoi rhyw syniad o’i swyddogaeth wreiddiol. Mae patrwm hanner-grid o strydoedd yn arwain i’r gorllewin ac i’r de o eglwys y Santes Fair. O fewn un o’r ‘gridiau’ hyn saif eglwys Sant Tomos, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod Lawnt Sant Tomos yn fan agored yn wreiddiol. Saif adfeilion y priordy ar lan orllewinol Afon Cleddau Wen yn union i’r de o’r dref, tra bod y Ffeierdy Dominicaidd a sefydlwyd ym 1256 ar safle mwy cyfyng rhwng y castell a’r afon wedi mynd. Mae’r gwaith ailadeiladu a wnaed o fewn y dref yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn cynnwys adeiladau o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a thai tref yn yr arddull Sioraidd. Gall y rhain fod o ansawdd da a cheir 245 o adeiladau rhestredig o fewn y dref hanesyddol. Mae’r castell ac adeiladau carchar y sir yn dyddio o’r 19eg ganrif, a nifer o warysau a gysylltir â’r cyn-gei, hefyd wedi goroesi. Mae’r datblygiadau a gafwyd ar ôl hynny yn perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol a rhai maestrefol ydynt, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn hwyr. Mae Albert Town a Prendergast yn cynnwys terasau o’r 19eg ganrif yn bennaf, a cheir ysgolion a meysydd chwarae diweddarach yn Albert Town. Ystad o dai cyngor yw Merlin’s Bridge a sefydlwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Rhwng yr ystad hon a’r dref ceir man gwyrdd ar y naill ochr a’r llall i Merlin’s Brook, gyda’r llinell reilffordd a’r A40, sef ffordd osgoi Hwlffordd, yn rhedeg trwyddo. Mae datblygiadau eraill yn dyddio o’r 20fed ganrif yn cynnwys yr ysbyty i’r gogledd o’r dref, neuadd y sir yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif gerllaw adfeilion y priordy, a rhywfaint o newidiadau yn y system ffyrdd o fewn y dref hanesyddol.

Mae Hwlffordd yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig iawn ac mae’n wahanol i’r tir ffermio cyfagos.

Ffynonellau:
Charles 1967; James 1981; Ludlow 1998; Miles 1999; Soulsby 1983;