Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Tirweddau Hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi

Crynodebau yw rhain, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Afon Teifi: Cenarth – Castellnewydd Emlyn gan gaeau o dir pori a rennir gan wrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt ar y gorlifdir. Nid oes unrhyw adeiladau na strwythurau eraill.

Afon Teifi: Cenarth – Castellnewydd Emlyn

Lleolir y rhan hyn o ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Cenarth i’r de o’r bont hanesyddol dros Afon Teifi ac mae’n cynnwys clwstwr llac o adeiladau cerrig yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn bennaf. Lleolir y mwyafrif o’r datblygiadau modern i’r gogledd o’r bont.

Cenarth

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Afon Teifi: Llechryd – Cenarth yn cynnwys caeau a gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt yn ymestyn ar draws tua 7km o orlifdir. Iard goed a gardd â wal o’i hamgylch yw’r unig strwythurau yn yr ardal gymeriad hon.

Afon Teifi: Llechryd – Cenarth

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Gellidywyll gan gaeau, ffermydd gwasgaredig, coetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer, y mae rhannau helaeth ohonynt ar lethrau gweddol serth sy’n wynebu’r gogledd. Mae’r ffermydd yn fawr ar y cyfan, ac maent yn cynnwys fferm enghreifftiol Gelligatti sy’n dyddio o’r 19eg ganrif.

Gellydywyll

Mae Abercych yn bentref llinellol diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif sy’n ymestyn ar hyd isffordd ar lethr serth. Mae’r adeiladau hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig. Mae tai modern yn mewnlenwi’r bylchau rhwng y strwythurau hyn hyn.

Abercych

Mae Plas-y-Berllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol a leolir ar ochr ddeheuol Afon Teifi. Mae adeiladau’r ffermydd a’r tai gwasgaredig at ei gilydd yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladau o gerrig. Rhennir y caeau gan wrychoedd ar gloddiau. Mae’r llethrau mwy serth wedi’u gorchuddio â choetir collddail a cheir rhai planhigfeydd o goed coniffer.

Plas-y-Berllan

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llandygwydd gan ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau o dir pori ar ochr ogleddol Afon Teifi. Mae’r adeiladau hyn yn amrywio o dai bonedd Sioraidd i fythynnod. Maent i gyd wedi’u hadeiladu o gerrig ac mae’r mwyafrif yn dyddio o’r 19eg ganrif.

Llandygwydd

Mae clwstwr o dai a chapeli a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn union i’r gogledd o bont dros Afon Teifi yn dyddio o’r 17eg ganrif yn ffurfio craidd ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llechryd. Lleolir tai modern ac adeiladau eraill ar gyrion y pentref.

Llechryd

Caeau bach a rennir gan wrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt a ffermydd gwasgaredig yw prif elfennau ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Croes-y-Llan. Mae ffermydd bach sydd wedi’u gwasgaru’n rheolaidd ar hyd priffordd yr A484 yn nodwedd ar y dirwedd hon.

Croes-y-Llan

Yn ei hanfod mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Coedmore yn cynnwys plasty Sioraidd Coedmore, ei barciau a’i erddi, a choetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer o’i amgylch.

Coedmore

Plasty Sioraidd, y parc a’r gerddi o’i amgylch, adeiladau ystad eraill megis porthordai, stabl ac iardiau gwasanaethu, a fferm y plas yw prif elfennau ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Castell Maelgwyn.

Castell Malgwyn

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Ceunant Cilgerran yn cynnwys y rhan honno o ddyffryn Afon Teifi sy’n culhau cyn mynd i mewn i’r ardal lanw. Mae’r llethrau yn serth ac yn dra choediog. Ni cheir unrhyw adeiladau cyfannedd, er y lleolir nifer o hen chwareli cerrig ar ochr ddeheuol y ceunant.

Ceunant Cilgerran

Yn ei hanfod mae Cilgerran, sy’n dref yn hanesyddol, yn anheddiad llinellol yn cynnwys tai a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif ac adfeilion castell canoloesol mawr.

Cilgerran

Er mai anaml y mae’n fwy na 100m o led, mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Ynys Aberteifi a Llain Arfordirol yn cynnwys dros 5 cilomedr o glogwyni o greigiau caled a thir garw ar hyd pen y clogwyn.

Ynys Aberteifi a Llain Arfordirol

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llain Arfordirol – Poppit i Drefdraeth yn cynnwys 19 cilomedr o glogwyni uchel o greigiau caled a phen y clogwyni. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd tir ymylol y llain arfordirol gul.

Llain Arfordirol – Poppit i Drefdraeth

Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Cors Pentood yn nherfynau llanw uchaf Afon Teifi. Gwarchodfa natur ydyw bellach. Trowyd hen linell reilffordd sy’n croesi’r gors yn llwybr troed.

Cors Pentood

Wedi’i chanoli ar olion castell canoloesol a phont ganoloesol dros Afon Teifi, mae Aberteifi yn dirwedd drefol gymhleth. Tua diwedd y 19eg ganrif disodlodd brics gerrig fel y prif ddeunydd adeiladu. Ceir datblygiadau modern helaeth ar gyrion craidd hanesyddol y dref.

Aberteifi

Mae Llandudoch yn hen anheddiad heb ei gynllunio sydd wedi’i ganoli ar olion abaty adfeiliedig. At ei gilydd mae’r tai yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac er bod llawer o’r tai hyn wedi’u hadeiladu o gerrig a brics sydd wedi’u rendro â phlastr, mae cryn nifer ohonynt wedi’u hadeiladu o gerrig rhesog.

Llandudoch

Prysgwydd dros dywod a chwythir gan y gwynt a thai, byngalos, parc carafannau, clwb golff a pharc hwylio yn dyddio o’r 20fed ganrif yw prif elfennau ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Twyni Tywod Tywyn a Gwbert.

Twyni Tywod Tywyn a Gwbert

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol helaeth Crossway – Glanpwllafon yn cynnwys tir amaethyddol yn bennaf, a cheir ffermydd yn amrywio o ddaliadau bonedd bach â thai Sioraidd i fythynnod. Rhennir y caeau, sy’n fwy o faint ac yn fwy rheolaidd eu siâp na’r caeau a geir fel arfer yn rhannau isaf dyffryn Teifi, gan wrychoedd ar gloddiau.

Crossway – Glanpwllafon

Mae Tre-Rhys, a leolir ar lethr arfordirol agored iawn sy’n wynebu’r gorllewin, yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol a nodweddir gan ffermydd gwasgaredig a chaeau a rennir gan wrychoedd isel a chwythir gan y gwynt ar gloddiau uchel.

Tre-Rhys

Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Cippyn ym mhen gorllewinol pellaf dyffryn Teifi. Mae yn nannedd gwyntoedd mawr o’r gorllewin. O ganlyniad cyfyngir aneddiadau a choetir i lethrau sy’n rhoi rhywfaint o gysgod. Rhennir y caeau gan gloddiau o gerrig a cherrig llanw ac arnynt wrychoedd a chwythir gan y gwynt.

Cippyn

Mae’r Ferwig yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol a leolir ym mhen gorllewinol pellaf dyffryn Teifi. Nodweddir yr ardal hon gan ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn caeau. Mae llawer o’r adeiladau yn fodern, a cheir rhai clystyrau o dai modern a thai yn dyddio o’r 19eg ganrif ym mhentref y Ferwig.

Ferwig