![](../../shim.gif) |
TWYNI TYWOD TYWYN A GWBERT
![TWYNI TYWOD TYWYN A GWBERT](images/towynburrows1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN165491
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 143
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n
edrych dros aber olygfaol Afon Teifi. Mae bryngaer yn dyddio o’r
Oes Haearn yn dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal, ond nid yw’n
nodwedd amlwg yn y dirwedd ac ni nodwyd unrhyw systemau caeau cysylltiedig.
Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal
gymeriad hon yng Ngheredigion, yng Nghantref canoloesol Iscoed, yng nghwmwd
Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed,
o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan
ieirll de Clare. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol
y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn
y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd
bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201
pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell
Aberteifi. Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân
i gyfnod byr rhwng 1215 – 1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry –
tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd
parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau
tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid
fel ‘brodoraeth’. Mae’r ardal gymeriad hon yn gorwedd
o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa Ferwig, a sefydlwyd
o bosibl cyn y goresgyniad Normanaidd. Patrymau tirddaliadaeth canoloesol
– na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion –
a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig a welir yn
gyffredinol yn y rhanbarth.
Arferai gorlifo gan dywod, er ei bod yn digwydd yn ôl
pob tebyg o gyfnod cynnar, fod yn llai helaeth nag ydyw ar hyn o bryd.
Cloddiwyd pwll ysbwriel canoloesol yn y rhan o’r clogwyn sy’n
erydu, i’r de-orllewin o bentref presennol Gwbert, yn ystod y 1970au.
Cafwyd nifer o esgidiau lledr canoloesol o’r pwll, yn ogystal â
chrochenwaith, a roddodd ei enw i ‘Gwbert Ware’. Ymddengys
fod y pwll yn perthyn i anheddiad canoloesol a gladdwyd o dan y twyni
tywod. Credir bod yr enw lle yn ffurf lygredig ar gysegriad ‘Celtaidd’
sy’n awgrymu bod capel o bosibl wedi’i leoli yn y fan hon.
Er na chofnodir Gwbert, wrth ei enw, fel anheddiad mewn dogfennau canoloesol,
cofnodwyd Fferm Tywyn - ar gwr gogleddol y twyni tywod - fel ty bonedd/anheddiad
yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, a oedd yn eiddo i Gwilym ap Einon,
cwnstabl Castell Aberteifi, ym 1326. Ni ellir gweld unrhyw nodweddion
tirwedd cysylltiedig o dan y tywod. Am ei fod yn cael ei raddol orchuddio
â thywod mae’n debyg bod y tir bob amser wedi’i ddefnyddio
yn bennaf ar gyfer tir pori garw ar y twyni tywod - mae’n amlwg
bod yr enw lle ‘Warren’ yn cyfeirio at y twyni tywod yn hytrach
nag at ffermio cwningod. Ar fap degwm 1839 dangosir yr ardal hon wedi’i
rhannu’n nifer o gaeau mawr mewn cyferbyniad â’r caeau
amaethyddol llai o faint oddi amgylch, ond nid yw’n glir a oedd
y caeau hyn yn dir comin. Fodd bynnag, mae cwpl o fythynnod anghysbell
yn arwydd o weithgarwch tresmasu. Ymddengys nad aeth y broses hon yn ei
blaen. Mae’r pentref presennol yn ei gyfanrwydd yn anheddiad de
novo yn dyddio o’r 20fed ganrif, a dim ond yn ystod y 100 mlynedd
diwethaf y mae datblygiadau - gwesty a thai yng Ngwbert, parc carafannau
a chlwb hwylio/parc gerllaw’r afon a thai gwasgaredig yn y tywod
a chwythir gan y gwynt - wedi cael effaith ar yr ardal hon.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Twyni Tywod Tywyn a Gwbert yn ardal gymeriad dirwedd
hanesyddol fach ar lan ogleddol aber Afon Teifi, sy’n gorwedd ar
lethrau sy’n wynebu’r gorllewin i fyny at 120m uwchlaw lefel
y môr. Er gwaethaf ei maint mae’n ardal gymhleth a unir gan
dywod a chwythir gan y gwynt a/neu adeiladau yn dyddio o’r 20fed
ganrif a’r 21ain ganrif. Mae’r tywod a chwythir gan y gwynt
fwyaf amlwg ar y llethr arfordirol serth iawn lle y mae wedi’i orchuddio
â phrysgwydd eithin. Lleolir parc carafannau a chlwb/iard hwylio
ar y gro a’r tafod o dywod a chwythir gan y gwynt yn aber Afon Teifi,
a cheir anheddau gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif, byngalos
yn bennaf, yn y llethrau tywod a chwythir gan y gwynt yn y pen deheuol.
Yn y pen gogleddol uwchlaw clogwyni o greigiau caled mae pentref Gwbert,
sy’n cynnwys tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn bennaf ond
hefyd adeilad mawr Cliff Hotel, wedi datblygu mewn ffordd linellol, fwy
cynlluniedig. Sefydlwyd cwrs golff a chlwb modern yn y man uchaf yn yr
ardal hon. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys darganfyddiadau
Neolithig a darganfyddiadau yn dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ogystal
â bryngaer bosibl yn dyddio o’r Oes Haearn.
Mae gan ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Twyni Tywod
Tywyn a Gwbert lawer o elfennau tirwedd hanesyddol sy’n wahanol
i rai’r ardal amaethyddol sy’n ffinio â hi. Fodd bynnag
mae’n anodd nodi ei ffiniau yn fanwl gywir.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000,
Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S,
1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N,
2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage
1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed;
Map degwm plwyf Y Ferwig 1839; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities
of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and
the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas
of Wales, Llundain; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, 1986, Archaeology
in Dyfed, Caerfyrddin
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |