![](../../shim.gif) |
ABERTEIFI
![ABERTEIFI](images/cardigan1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN180463
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 160
Cefndir Hanesyddol
Lleolir tref Aberteifi yng nghantref canoloesol Iscoed,
yng nghwmwd Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref
Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1100 a 1136,
o dan ieirll de Clare, a adeiladodd gastell yn Aberteifi ar fryncyn yn
edrych dros Afon Teifi. Roedd castell eisoes wedi’i sefydlu yn ystod
cyrch cynharach, ym 1093, ond roedd yn fyrhoedlog. Y farn gyffredin yw
bod safle’r castell wedi’i ddynodi gan y cloddwaith yn Old
Castle Farm, ond gallai fod wedi sefyll ar safle’r castell presennol.
Cipiwyd rheolaeth ar Gantref Iscoed oddi wrth yr Eingl-Normaniaid yn sydyn
ym 1136, pan enillodd lluoedd Cymreig fuddugoliaeth dyngedfennol yng Nghrug
Mawr, 3 chilomedr i’r gogledd-ddwyrain o’r dref.
Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol
y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn
y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd
bynnag, gwrthsafodd Aberteifi ei hun y Cymry tan 1164. Cofnodir i’r
tywysog Cymreig Rhys ap Gruffudd ar ôl cipio Aberteifi ailadeiladu’r
castell ar unwaith o gerrig, er yr ymddengys fod yr olion prin sydd i’w
gweld heddiw, at ei gilydd, yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif. Ildiodd
meibion Rhys Aberteifi i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan ddaeth
yn ganolfan arglwyddiaeth frenhinol a gyfatebai i gwmwd Is-Hirwern. Daeth
o dan reolaeth y Cymry unwaith eto rhwng 1215-1223, ond fel arall arhosodd
Aberteifi yn nwylo Coron Lloegr am weddill y cyfnod canoloesol.
Y farn gyffredin yw i’r dref, a ddaeth yn fwrdeistref
yn ddiweddarach, gael ei sefydlu yn y cyfnod 1110-1136, a phriodolir adeiladu
pont dros Afon Teifi, a sefydlu Eglwys y Santes Fair fel priordy Benedictaidd,
i’r dwyrain o’r dref, i’r un cyfnod. Eglwys y Santes
Fair oedd eglwys y plwyf hefyd, a goroesodd Ddiddymu’r Mynachlogydd
gan barhau fel eglwys y plwyf hyd heddiw. Mae ganddi gangell odidog yn
dyddio o’r 14eg ganrif, a thwr gorllewinol a ailadeiladwyd ym 1748.
Sefydlwyd capeliaeth arall, sydd wedi diflannu bellach, gerllaw pen deheuol
pont y dref, ar ôl ymweliad gan Archesgob Caergaint ym 1188. Cynhelid
marchnad wythnosol o ganol y 12fed ganrif hyd ddechrau’r 20fed ganrif.
Er bod llawer o freintiau bwrdais wedi’u rhoi i’r dref nis
cydnabuwyd yn ffurfiol fel bwrdeistref tan 1284, pan dderbyniodd ei siarter
gyntaf. Adeiladwyd mur y dref yn ystod y 1240au pan ailadeiladodd Coron
Lloegr y castell ar raddfa fawr, er efallai fod y rhes amddiffynnol eisoes
i’w chael. Mae’r patrwm strydoedd canoloesol wedi goroesi,
ond ychydig o fur y dref sydd wedi goroesi, a oedd eisoes yn dechrau adfeilio
ym 1610. Amgaeai’r muriau 4.3 hectar, gan gynnwys y Stryd Fawr a
Stryd y Bont, a’u strydoedd ochr rhwng Afon Mwldan a’r priordy.
Cynyddodd poblogaeth y dref o 128 o fwrdeisiaid ym 1274 i 172 ym 1308.
Ymgorfforwyd y fwrdeistref ar ddechrau’r 16eg ganrif pan gafodd
faer a chorfforaeth, a rhoddwyd rhagor o freintiau iddi. Daethpwyd i ddefnyddio’r
castell fel canolfan weinyddol Sir Aberteifi, a grëwyd ym 1284, ond
daeth y rôl hon i ben pan basiwyd Deddf Uno 1536. Fe’i hesgeuluswyd,
ac erbyn 1610 roedd yn adfeilion. Gwelodd frwydro ym 1644-5 yn ystod y
Rhyfel Cartref pan y’i difrodwyd ac y’i cymerwyd gan luoedd
y Senedd. Daeth i feddiant John Bowen erbyn 1810 a dechreuodd ei addasu’n
blasty a thirlunio’r tu mewn. Roedd rhywrai yn byw ynddo tan ddiwedd
yr 20fed ganrif. Disgwylir i waith i atgyfnerthu’r adfeilion ddechrau
yn fuan.
Crebachodd y dref ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Dim
ond 55 o dai a gofnodir yng nghanol yr 16eg ganrif, pan oedd yn ‘adfeiliedig
ac mewn cyflwr dirywiedig’. Ym 1610, dengys map Speed fannau agored
helaeth, a dim ond un felin a oedd yn dal i fodoli o’r tair a gofnodwyd
ar Afon Mwldan yn y 13eg ganrif. Fodd bynnag, o 1536 ymlaen, Aberteifi
oedd y dref sirol, ac mae’n bosibl bod hynny wedi hybu twf y dref
– mae map Speed hefyd yn dangos maestrefi helaeth y tu allan i’r
mur i’r gogledd, ac yn arbennig i’r dwyrain o fur y dref.
Cynhaliwyd Brawdlysoedd y Sir yn y dref o 1536, adeiladwyd neuadd sirol
ym 1764, a chodwyd Carchar Sirol a adeiladwyd gan John Nash, ym 1793,
i’r gogledd o’r dref.
Roedd Aberteifi yn borthladd o’r cychwyn cyntaf,
a chyfrannodd masnach forol – a welodd adfywiad yn yr 17eg ganrif
ymlaen – hefyd at y gwaith ailddatblygu yn y dref ganoloesol ac
at ehangu’r maestrefi. Meddai Aberteifi awdurdod ar Dreftadaeth,
Abergwaun, Aberaeron, Aberporth a Cheinewydd yn ystod y 18fed ganrif a’r
19eg ganrif, ac roedd ganddi lynges gyfunedig, ym 1833, o 291 o longau
cofrestredig. Roedd adeiladu llongau hefyd yn fywoliaeth bwysig, ond roedd
wedi dechrau dirywio erbyn tua 1800. Lleolid y cei yn union i’r
gorllewin o Afon Mwldan. Cymerai’r dref ran mewn cryn dipyn o fasnach
ar hyd yr arfordir, yn ogystal â rhywfaint o fasnach dramor, a allforiai
geirch, menyn, rhisgl derw, ac – yn arbennig o ddiwedd y 19eg ganrif
ymlaen – llechi a gloddiwyd yn lleol. Cyflenwyd y dref â dwr
pibellog ym 1831 o gronfa ddwr ar gwr gogleddol y dref, ac roedd nifer
o addoldai newydd wedi’u sefydlu ym 1833. Roedd gwaith brics wedi’i
sefydlu yn Aberteifi, gan William Woodward, erbyn y 1870au. Cafwyd datblygiadau
i’r gogledd o’r dref ganoloesol, ar hyd y ffordd dyrpeg i
Aberystwyth (yr A487(C) bellach), a gynhwysai ‘siopau ac ychydig
o dai da’ eisoes ar ddechrau’r 19eg ganrif. Dangosir y datblygiad
hwn ar y map degwm dyddiedig tua 1840, sydd hefyd yn dangos datblygiad
eilaidd bach yn Netpool, a thua 10 adeilad i’r de o Bont Aberteifi.
Ar wahân i’r datblygiadau hyn nid oedd y dref wedi ehangu
y tu allan i’w ffiniau a ddangosir gan Speed tua 1610.
Rhoddwyd hwb pellach i fasnach, diwydiant a thwf Aberteifi
pan ymgorfforwyd y rheilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi ym 1869
(a gaeodd yn y 1960au), y lleolid ei gorsaf ar lan ddeheuol Afon Teifi.
Datblygodd maestref sylweddol yn y fan hon. Fodd bynnag, mae datblygiadau
ar ôl hynny at ei gilydd wedi digwydd i’r gogledd o’r
dref, a cheir rhesi o derasau o safon yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif
– dechrau’r 20fed ganrif, a filâu, ar y naill ochr a’r
llall i’r A487(C) a’r B4548. Sefydlwyd ysgolion, ac ysbyty,
yn ystod yr 20fed ganrif. Dirywiodd y prif ddiwydiannau glan môr
yn gyflym ar ddechrau’r 20fed ganrif, er bod diwydiant pysgota penwaig
ar hyd yr arfordir, a physgodfa eogiaid ar Afon Teifi – gan gynnwys
pysgota mewn cyryglau –wedi parhau i mewn i ganol yr 20fed ganrif.
Erbyn hyn mae’r dref yn ganolfan weinyddol ranbarthol, ac mae twristiaeth
a hamdden yn chwarae rhan bwysig yn ei heconomi.
![ABERTEIFI](images/cardigan2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Aberteifi yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol drefol
gymhleth a leolir yn bennaf ar dir yn wynebu’r de sy’n graddol
ddisgyn ar lan ogleddol Afon Teifi, ond sy’n cynnwys elfen lai o
faint ond sylweddol serch hynny ar y lan gyferbyn. Mae elfennau hyn y
dref at ei gilydd wedi’u cyfyngu o fewn cwmpas muriau canoloesol
y dref (sydd bron wedi diflannu erbyn hyn), ac maent wedi’u canoli
ar olion y castell a’r bont ganoloesol ym mhen deheuol y Stryd Fawr.
Cedwir topograffi trefol canoloesol y Stryd Fawr, a Stryd y Santes Fair
yn arwain at eglwys y plwyf a leolir heb fod ymhell i’r dwyrain
o’r dref gaerog, yng nghynllun y dref fodern. Lleolir datblygiadau
yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, tai yn
bennaf, ar hyd Heol y Gogledd, i’r dwyrain tuag Eglwys y Santes
Fair ac ar lan ddeheuol yr afon ar draws y bont gerrig yn dyddio o ddechrau’r
18fed ganrif. Lleolir tai a datblygiadau masnachol helaeth yn dyddio o’r
20fed ganrif (o ddiwedd yr 20fed ganrif yn bennaf) ymhellach allan i’r
gogledd ac i’r de. Llechi dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd
adeiladu yn yr adeiladau hþn - olion canoloesol Castell Aberteifi,
adeilad canoloesol Eglwys y Santes Fair a Phont Aberteifi - ac fe’u
defnyddiwyd hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Ar adeiladau o ansawdd gwell
defnyddiwyd llechi nadd patrymog, ond defnyddiwyd cerrig llanw heb fod
yn batrymog ar lawer o strwythurau. Cymerir yn ganiataol bod y rendr sment,
sy’n gyffredin ar lawer o adeiladau, yn gorchuddio cerrig llanw.
Defnyddiwyd llechi rhesog o ddyffryn Teifi ar y cyd â cherrig brown
cynnes wedi’u sgwario (Dolerit?) ar rai adeiladau; mae’n arbennig
o amlwg ar y warysau trillawr yn dyddio o ddechrau i ganol y 19eg ganrif
gerllaw’r afon. Mae cwpl o adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 18fed
ganrif wedi goroesi, ond mae’r mwyafrif o’r eiddo domestig
a masnachol a adeiladwyd o gerrig yn dyddio o ddechrau i ganol y 19eg
ganrif. Ceir nifer fawr o adeiladau deulawr a thrillawr yn yr arddull
Sioraidd (y mae’r mwyafrif ohonynt yn rhestredig), ond mae’r
mwyafrif, er eu bod yn y traddodiad Sioraidd fel arfer, yn dai teras cymharol
fach. O fewn terfynau’r dref ganoloesol mae’r terasau hyn
fel arfer yn cynnwys adeiladau mewn gwahanol arddulliau sy’n dyddio
o wahanol gyfnodau – pennid y lle oedd ar gael at ddibenion adeiladu
gan y lleiniau bwrdais canoloesol. Y tu allan i’r dref ganoloesol
mae terasau a adeiladwyd mewn un cyfnod yn fwy cyffredin. Mae adeilad
y Black Lion a adeiladwyd o frics yn y 18fed ganrif yn anghyffredin, os
nad yn unigryw, yn ne-orllewin Cymru am na ddaeth brics yn ddeunydd adeiladu
cyffredin tan ddiwedd y 19eg ganrif. Ar ôl agor y gwaith brics yn
Aberteifi ar ddiwedd y 19eg ganrif dechreuwyd rhoi’r gorau i ddefnyddio
cerrig at ddibenion adeiladu. Mae adeiladau brics yn arbennig o amlwg
ar hyd Heol y Gogledd, ac mae llawer ohonynt yn arddangos cynlluniau wedi’u
mowldio ac addurniadau cyfnod megis addurniadau pensaernïol wedi’u
hysbrydoli gan yr arddulliau gothig a chlasurol. Mae rhai o’r adeiladau
hyn yn rhestredig, yn ogystal â siopau/eiddo masnachol wedi’u
hadeiladu o frics yng nghanol y dref. Mae’n debyg bod rendr sment
yn gorchuddio llawer o adeiladau domestig llai o faint a adeiladwyd o
frics. Mae llechi o ogledd Cymru wedi’u defnyddio ar doeau adeiladau
a adeiladwyd o gerrig a brics. Mae datblygiadau yn dyddio o ddechrau’r
20fed ganrif ar hyd Heol y Gogledd yn cynnwys nifer o filâu wedi’u
chwipio â gro ar wahân a chanddynt dyrau a thoeau o deils
coch, yn ogystal â thai pâr symlach mewn arddull faestrefol.
Lleolir ystadau tai sylweddol yn dyddio o ail hanner yr 20fed ganrif mewn
amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau a datblygiadau masnachol a diwydiannol
ysgafn ar gyrion craidd hanesyddol y dref.
Mae cymeriad trefol Aberteifi yn gwahaniaethu rhyngddi
a’r ardaloedd o gaeau a ffermydd oddi amgylch.
Ffynonellau: Cadw – Cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; James, T, 1983,
‘Excavations at Woolworth’s, Cardigan, 1978’, Ceredigion
9, Rhif 4, 336-342; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog
Newydd; Lewis, S, 1833, Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of
Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic
Churches Project: Ceredigion churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd
gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Map degwm plwyf
y Santes Fair 1846; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of
Cardiganshire, Llundain; Murphy, K, ac O’Mahoney, C, 1985, ‘Excavation
and Survey at Cardigan Castle’, Ceredigion 10, Rhif 2, 189-218;
Pritchard, E M, 1904, Cardigan Priory in the Olden Days, Llundain; Rees,
W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’;
Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Slater & Co.,
1850 Royal, National and Commercial Directory and Topography of the Counties
of….. , Llundain; Smith, L. T. (gol.), 1906 Leland’s Itinerary
in Wales, 2; Soulsby, I, 1983, The Towns of Medieval Wales, Chichester;
Thorpe, L (gol.), 1978, Gerald of Wales: The Journey through Wales and
the Description of Wales, Harmansworth
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |