![](../../shim.gif) |
TRE-RHYS
![TRE-RHYS](images/trerhys1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN122462
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 447
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cynnwys tir amaethyddol agored sy’n graddol ddisgyn i lawr tuag
at arfordir creigiog Môr Iwerddon i’r de o Benrhyn Cemaes.
Mae bryngaer a leolir ar ben y clogwyn yng ngheg Cwm Trewyddel a chrug
crwn yn dyddio o’r Oes Efydd ychydig i’r de-ddwyrain yn dystiolaeth
o anheddu cynnar yn yr ardal hon. Mae bryngaer gyfuchlinol amlgloddiog
fawr Caerau Gaer sy’n dyddio o’r Oes Haearn yn llawer mwy
amlwg.
Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal
yng nghantref canoloesol Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer, yn rhaniad Uwch
Clydach. Roedd Cemaes wedi’i ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
gan Robert FitzMartin tua 1100 ac fe’i had-drefnwyd i greu Barwniaeth
Cemaes. Parhaodd Cemaes yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid
o gastell Nanhyfer, ac wedyn o Gastell Trefdraeth, tan 1536, pan ymgorfforwyd
y farwniaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cemaes. Fodd bynnag, cynrychiolai’r
rhan fwyaf o Is-Nyfer ‘Frodoraeth’ y farwniaeth a pharhaodd
i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth
Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, y parhaodd llawer ohonynt tan
yr 20fed ganrif. Daliodd y tywysogion Cymreig y rhan ogledd-ddwyreiniol
hon o Is-Nyfer rhwng 1191 a 1201, ac unwaith eto ym 1215-1223. Y patrymau
tirddaliadaeth Cymreig hyn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu
gwasgaredig yn y rhanbarth.
Fodd bynnag, mae’r beddau cist annyddiedig a gofnodwyd
rhwng rhagfuriau Caerau Gaer yn arwydd o anheddu ar raddfa fawr ar ddechrau’r
cyfnod canoloesol. Yn gysylltiedig â’r fryngaer mae’r
enw cae yn cynnwys yr elfen eglwys, sy’n awgrymu y gall y fynwent
fod wedi datblygu ar ôl i eglwys gael ei hychwanegu ati. Mae hyd
yn oed wedi’i awgrymu mai’r fynwent yw safle gwreiddiol mynachlog
Llandudoch.
Ar ôl hynny, daeth yr ardal gymeriad yn rhan o
blwyf Llandudoch, a sefydlwyd yn ffurfiol ar ôl tua 1100. Roedd
i’r plwyf yr un ffiniau â’r faenor, a gynhwysai ffi
un marchog a ddelid o’r farwniaeth, fel ‘St Dogmaels patria
alias Cassia’, gan abadau Llandudoch. Fodd bynnag, am nad oedd yn
rhan o’r farwniaeth, ni chynhwyswyd maenor Llandudoch yn yr asesiad
manwl dyddiedig 1594 sydd wedi goroesi fel ‘Extent Cemaes’.
Pan ddiddymwyd y mynachlogydd, fe’i trosglwyddwyd i John Bradshaw
o Lanandras a oedd wedi prynu’r abaty ym 1543. Goroesodd Maenor
Llandudoch i mewn i’r 19eg ganrif. Roedd wedi dod i feddiant ystad
Neuadd Trefawr yn ystod y 17eg ganrif ac fe’i gwerthwyd i David
Davies o Castle Green, Aberteifi, ym 1862.
Awgrymwyd bod treflannau canoloesol posibl yng Ngranant
ac yn Hendre, a gynrychiolir bellach gan ffermydd. Yn ddiau roeddynt yn
dai bonedd erbyn yr 16eg ganrif pan gyfeiriwyd atynt fel y ‘caput
of Granant alias Hendre’. Efallai y cynrychiolir cofnod o dreflan
bosibl, sef Cilgarthen, gan yr anheddiad anghyfannedd a ddynodir gan gloddwaith
yn union i’r de o Gaerau Gaer. Ni chofnodwyd yr un o’r saith
fferm wasgaredig arall a geir heddiw cyn y 18fed ganrif, ond mae’n
debyg i rai gael eu sefydlu ynghynt. Mae’r patrwm presennol o gaeau
afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig yn awgrymu i’r ardal
gael ei hamgáu ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol,
os nad tua diwedd yr Oesoedd Canol. Dangosir lleiniau wedi’u hisrannu
o fewn rhai o’r caeau hyn ar y map degwm dyddiedig 1838, tra dangosir
rhandir agored o leiniau byr cul yn agosach at yr arfordir. Hwyrach mai
olion systemau ffermio âr o dan dirddaliadaeth Gymreig, a ddaeth
i ben ers hynny yw’r systemau hyn, ac erbyn heddiw o’r braidd
y gellir gweld y cyn-leiniau yn y dirwedd. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro,
a ddynodwyd ym 1952, yn rhedeg ar hyd pen y clogwyn yn y fan hon gan roi
mynediad heb ei ail i’r golygfeydd arfordirol.
![TRE-RHYS](images/trerhys2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Tre-Rhys ar
lethr arfordirol agored iawn sy’n wynebu’r gorllewin rhwng
tua 30m a 180m uwchlaw lefel y môr. O ganlyniad tirwedd ddi-goed
ydyw, ac nid yw’r gwrychoedd yn ddim mwy na rhesi anniben o eithin,
rhedyn a drain isel a chwythir gan y gwynt. Tirwedd amaethyddol ydyw a
nodweddir gan gaeau afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig a
ffermydd gwasgaredig. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a
wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl. Rhennir y caeau gan gloddiau uchel
ac arnynt gerrig a gwrychoedd isel a chwythir gan y gwynt y mae ffensys
gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Cerrig wedi’u rendro â
sment yw’r prif ddeunydd adeiladu a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffermdai.
Mae’r mwyafrif ohonynt yn dyddio o’r 19eg ganrif. Maent yn
adeiladau cymharol fach a chanddynt ddau lawr a thri bae a drws ffrynt
canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur. Mae’r
adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r un
cyfnod ac maent yn cynnwys un neu ddwy res. Mae adeiladau allan modern,
lle y maent i’w cael, hefyd yn fach ac nid ydynt yn elfen amlwg
yn y dirwedd hanesyddol. Yn wir prin yw’r adeiladau sy’n dyddio
o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae safleoedd archeolegol pwysig yn cynnwys
y fryngaer fawr yn dyddio o’r Oes Haearn a’r fynwent yng Nghaerau
Gaer, ail fryngaer a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd.
Ac eithrio lle y mae’n cwrdd â’r llethr
arfordirol i’r gorllewin nid yw’n hawdd diffinio’r ardal
hon. Ar ochrau eraill nid oes unrhyw ffiniau pendant a cheir ardaloedd
newid llydan rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n ffinio
â hi.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811
A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A
(golygyddion), 1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Jones, F,
1996, Historic Houses of Pembrokeshire and their Families, Casnewydd;
Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow,
N, 2002, ‘The Cadw early Medieval Ecclesiastical Sites Project,
Stage 1: Pembrokeshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Owen, H (gol.), 1897, The Description
of Pembrokeshire by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain;
Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’;
Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |