Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

CEUNANT CILGERRAN

CEUNANT CILGERRAN

CYFEIRNOD GRID: SN190439
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 82

Cefndir Hanesyddol

Ardal hir, gul, ddolennog sy’n cynnwys ystumiau rhychog Ceunant Cilgerran, lle y mae Dyffryn Teifi yn culhau’n sydyn o orlifdir yn Llechryd i mewn i geunant cul, creigiog. Ers amser maith bu’n fan prydferth enwog.

Lleolir yr ardal hon yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Is-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Parhaodd Cilgerran yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Adenillwyd yr arglwyddiaeth gan y Cymry ym 1164 ac arhosodd o dan eu rheolaeth tan 1223. O 1339 fe’i delid o Iarllaeth Penfro, a drosglwyddwyd i’r goron ar ddiwedd y 15fed ganrif. Fe’i diddymwyd yn y pen draw ym 1536, pan ymgorfforwyd yr arglwyddiaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cilgerran. Parhaodd yr arglwyddiaeth ganoloesol, a weinyddid fel ‘Brodoraeth’, i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a systemau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod. Y patrymau tirddaliadaeth Cymreig hyn – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Mae’r ceunant yn rhedeg islaw Castell Cilgerran ei hun. Ailadeiladwyd y castell o gerrig yn ystod y 1220au-1230au a hon yw’r elfen amlycaf yn y dirwedd o hyd. Mae’r ceunant islaw’r castell yn enwog fel man pysgota, yn arbennig fel man pysgota am eogiaid, sydd wedi bod yn digwydd yma ers canrifoedd lawer. Erbyn 1270, roedd gan gored eogiaid Arglwydd Cilgerran islaw’r castell chwe byddagl, a chafwyd cwynion eu bod yn rhwystro traffig ar yr afon a oedd yn cario cerrig i lawr yr afon ar gyfer gwaith adeiladu’r brenin yng Nghastell Aberteifi. Gorchmynnwyd symud y byddaglau, ond fe’u hailadeiladwyd ym 1314 gan Arglwydd Cilgerran, yn y fath fodd fel na tharfent ar draffig yr afon. Disgrifiwyd y chwe byddagl gan George Owen ym 1603 fel ‘cored fwyaf Cymru gyfan’. Parhaodd y bysgodfa i gael ei gweithio gan fwrdeisiaid Cilgerran trwy’r cyfnod ôl-ganoloesol, a lleolid yr adeilad lle y câi’r pysgod eu pwyso - sef Ty’r gored, yn union o dan y castell. Buwyd yn pysgota mewn cyryglau yn y ceunant hefyd tan yn ddiweddar.

Un o asedau economaidd eraill y ceunant a oedd wedi’i weithio ers y cyfnod canoloesol yw carreg - llechfaen cryf Dyffryn Teifi sy’n nodweddu cymaint o adeiladau yn y rhanbarth. O’r garreg hon yr adeiladwyd Castell Cilgerran ei hun, tystiolaeth ffisegol o ddiwydiant a gofnodir yn hawliau honedig bwrdeisiaid Cilgerran a ganiatâi iddynt gloddio am gerrig, heb dalu, at eu defnydd eu hunain. Roedd ffi yn daladwy pe cludid y cerrig y tu allan i’r fwrdeistref. Mae prydlesau yn dyddio o’r 17eg ganrif hefyd yn cyfeirio at weithgarwch cloddio llechi. Er gwaethaf yr hanes hir o gloddio am gerrig adeiladu, a llechi ar gyfer toeau, ymddengys fod y diwydiant wedi’i gyfyngu i nifer fawr o lefelydd bach tan ganol y 19eg ganrif. Fodd bynnag, o’r 1850au-1860au ymlaen, peirianeiddiwyd y diwydiant gan ddefnyddio grym ager, a bu dyfodiad y Rheilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi i Gilgerran, ym 1885, yn fodd i allforio rhagor o gerrig a llechi. Oherwydd y ffactorau hyn ymddangosodd mentrau mwy o faint, tra parhaodd chwareli llai o faint i ddiwallu anghenion lleol. Dechreuodd y dirywiad yn y diwydiant llechi yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif, a rhoddwyd y gorau i gynhyrchu cerrig a llechi yn y 1930au, er i rywfaint o weithgawrch echdynnu fesul llwyth gael ei gyflawni yn ail hanner y ganrif. Mae dau brif grwp o chwareli, sef Chwareli’r Dref ar y llethrau islaw’r dref a Fforest heb fod ymhell i lawr yr afon. Er gwaethaf yr holl weithgarwch hwn ni chollodd y dyffryn ei naws wledig, a hyd yn oed pan oedd y diwydiant yn ei anterth dengys mapiau, megis y map degwm yn dyddio o tua 1840, fod ochrau’r ceunant yn dra choediog. Bu’r llethrau coediog hyn, a’r castell, a’r afon oddi tano, yn enwog ers amser maith fel man prydferth, a denasant sylw teithwyr ac artistiaid Rhamantaidd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. A hwythau’n chwilio am olygfeydd ‘Pictiwrésg’, byddent yn teithio’n araf i lawr yr afon er mwyn gweld, braslunio a phaentio adfeilion Castell Cilgerran. Cynhwysent Richard Wilson, a J M W Turner a wnaeth sawl astudiaeth o’r castell. Denwyd eu sylw gan y ceunant ei hun - disgrifiodd Samuel Lewis, ym 1833, ‘ogoniannau coediog yr olygfa…cellïoedd toreithiog, am yn ail â’r graig foel, yn parhau i ennyn edmygedd y teithiwr’.

CEUNANT CILGERRAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys tua 5 cilomedr o ddyffryn Afon Teifi o’r man lle y mae’n culhau’n sydyn o orlifdir i fyny’r afon yn Llechryd i’r man lle y mae’n mynd i mewn i gorsydd llanw yn Rosehill/Pentood. Mae rhannau isaf yr afon yn llanwol. O’r afon mae llethrau’r dyffryn yn codi’n serth i dros 50m uwchlaw lefel y môr. Mae nifer fawr o hen chwareli cerrig helaeth yn creithio’r dirwedd, yn arbennig ar y lan ddeheuol. Gorchuddir rhannau helaeth o’r hen lefelydd hyn gan goetir collddail, yn debyg i weddill y dyffryn. Nid oes unrhyw adeiladau yn yr ardal hon, ac ar wahân i gored bysgota gerllaw Llechryd mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio cerrig. Mae tair rhan o’r ceunant, sef y rhan islaw Cilgerran sy’n cynnwys maes parcio a chanolfan cyryglau ar gyfer ymwelwyr, y gerddi islaw Coemore House, a gerddi/parcdir Castell Maelgwyn wedi’u gosod mewn gwahanol ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol.

Mae ceunant Cilgerran yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig ac iddi ffiniau pendant. Mae’n cyferbynnu ag ardaloedd cyfagos Cilgerran, gerddi Coedmore, parc Castell Maelgwyn, a thir amaeth a chaeau.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, OE, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Hilling, J B, 1992, Cilgerran Castle/St Dogmaels Abbey, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Cilgerran 1844; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1841; Owen, H (gol.), 1914, Calendar of Pembrokeshire Records, 2, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Richards, A J 1998 The Slate Quarries of Pembrokeshire, Llanrwst; Soulsby, I, 1983, The Towns of Medieval Wales, Chichester; Weeks, R, 2002, The ‘Lost Market’ settlements of Pembrokeshire, Medieval Settlement Research Group, Annual Report 17, 21-30

MAP CEUNANT CILGERRAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221