![](../../shim.gif) |
CROSSWAY – GLANPWLLAFON
![CROSSWAY - GLANPWLLAFON](images/crosswayglanpwllafon.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN143437
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3004
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cynnwys tir amaethyddol da a ddefnyddir at ddibenion pori anifeiliaid
yn bennaf, rhwng Eglwyswrw, i’r de, a Llandudoch ar aber Afon Teifi.
Mae nifer o dwmpathau llosg, sy’n dyddio o bosibl o’r cyfnod
cynhanesyddol, yn dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal, yn ogystal
â nifer o grugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd ar dir uchel
ym mhen gogleddol yr ardal.
Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal
(ar wahân i ran fach yn y pen dwyreiniol pellaf) yng nghantref canoloesol
Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer, yn rhaniad Uwch-Clydach. Daethpwyd â
Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 gan y teulu Fitzmartin
a’u cadwodd, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan y’u holynwyd
gan y teulu Audley. Roedd i’r Farwniaeth yr un ffiniau â chantref
diweddarach Cemaes, a grëwyd ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau
a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai tan mor ddiweddar â 1922. Lleolir
yr ardal gymeriad hon ym mhlwyfi Eglwyswrw, Llantwyd, Eglwys Wythwr a
Llandudoch.
Roedd i blwyf Eglwyswrw yr un ffiniau â maenor
Eglwyswrw a ddaliwyd o’r 13eg ganrif ymlaen fel isarglwyddiaeth,
yn cynnwys un ffi marchog. Cynhaliai ei llys ‘brehyrol’ maenoraidd
ei hun bob 15 niwrnod a llys cantref ddwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag,
mae ei hanes yn y cyfnod ar ôl y Goresgyniad Normanaidd yn annelwig.
Gallai Coedwig Pengelli, ychydig i’r dwyrain o’r ardal hon,
a oedd bob amser yn rhan o’r faenor, fod wedi darparu ei enw gwreiddiol,
am i ‘arglwydd Pengelli’ gael ei gofnodi cyn 1231. Mae’n
bosibl iddi gael ei sefydlu ar ddechrau’r cyfnod canoloesol - nododd
astudiaeth o safleoedd aneddiadau gwledig anghyfannedd gan Sambrook saith
canolbwynt anheddu posibl o fewn isarglwyddiaeth Eglwyswrw, sy’n
cyfateb o bosibl i fodel Jones o ‘ystad luosog’ gynnar. Erbyn
i Gemaes gael ei adennill o’r Cymry, ym 1204, ymddengys mai’r
teulu Cantington oedd arglwyddi maenor ‘Eglwyswrw’. Dychwelodd
at y teulu Audley, trwy etifeddes, ym 1326 ac ar ôl hynny fe’i
daliwyd fel demên gan arglwyddi Cemaes, ac yn yr 16eg ganrif, roedd
yn rhan o etifeddiaeth arglwyddi Owen o Henllys. Ailsefydlwyd caput gwreiddiol
isarglwyddiaeth Eglwyswrw, a leolid yn wreiddiol yn y pentref, ar ôl
hynny yn Court Farm, safle â ffos o’i amgylch 1 cilomedr i’r
gogledd-orllewin, ac ym mhen deheuol yr ardal gymeriad hon. Roedd yn adfeilion
erbyn yr 16eg ganrif ond roedd ‘muriau enfawr’ i’w gweld
o hyd. Ymddengys iddi ddatblygu’n fferm denant syml yn gynnar. Dangosir
pwysigrwydd Eglwyswrw fel canolfan economaidd gan y ffaith, yn yr 16eg
ganrif, fod pedair o farchnadoedd a ffeiriau o fewn Cemaes, y cynhelid
tair ohonynt yn Eglwyswrw, ac roedd y faenor yn gyfrifol am godi byddinoedd
Cantrefi Cemaes a Chilgerran. Fe’i cynhwyswyd yn yr asesiad manwl
dyddiedig 1594 sydd wedi goroesi fel ‘Extent Cemaes’. Ymddengys
i batrymau tirddaliadaeth Cymreig barhau yn yr isarglwyddiaeth drwyddi
draw, a datblygodd nifer o ddaliadau tir bach ar ôl hynny. Roedd
pob un o’r rhain yn gysylltiedig â thy bonedd o wahanol statws,
ond erbyn yr 16eg ganrif roedd y daliadau tir at ei gilydd wedi’u
cyfuno o dan y teulu Owen o Henllys. Ymhlith y rhai a restrir yn yr ‘Extent’
roedd ffermydd presennol Trewilym, a oedd yn ôl traddodiad yn un
o blastai’r teulu Cantington yn y 13eg ganrif, a Berllan a sefydlwyd
yn y cyfnod canoloesol hefyd. Daeth y ddwy i feddiant y teulu Owen o Henllys
yn ddiweddarach. Cynhwysai’r isarglwyddiaeth ffermydd a sefydlwyd
yn ddiweddarach, megis Tredefaid yn dyddio o’r 17eg ganrif.
Roedd i blwyf Llandudoch yr un ffiniau â’r
faenor, a gynhwysai ffi un marchog a ddelid fel ’St Dogmaels patria
alias Cassia’, o’r farwniaeth gan abadau Llandudoch. Pan ddiddymwyd
y mynachlogydd, fe’i trosglwyddwyd i John Bradshaw a oedd wedi prynu’r
abaty ym 1543. Goroesodd Maenor Llandudoch i mewn i’r 19eg ganrif.
Roedd wedi dod i feddiant ystad Neuadd Trefawr yn ystod y 17eg ganrif
ac fe’i gwerthwyd i David Davies o Castle Green, Aberteifi, ym 1862.
Mae’n bosibl mai Manian Fawr, ym mhen gogleddol yr ardal hon, yw
safle castell cloddwaith cynnar. Roedd yn rhan o’r faenor a datblygodd
yn dy bonedd ar ôl hynny. Delid Maenor Eglwys Wythwr hefyd o’r
farwniaeth. Am nad oeddynt yn rhan o’r farwniaeth, ni chynhwyswyd
maenorau Eglwys Wythwr a Llandudoch yn ‘Extent Cemaes’. Nid
oedd Llantwyd yn faenor bryd hynny, ac ystyrid mai dim ond treflan ydoedd.
Fodd bynnag, mae ganddi gastell mwnt a beili ardderchog, a all fod yn
fryngaer a ailddefnyddiwyd, yng Nghastell Pen-yr-allt, er nad oes ganddo
unrhyw hanes cofnodedig, dengys arwyddion iddo gael ei atgyfnerthu â
cherrig. Fe’i lleolir o fewn 400m i eglwys plwyf Llantwyd, a gall
y ddau fod yn sefydliadau Eingl-Normanaidd cyfoes. Ymddengys, felly, fod
Llantwyd yn faenor gynnar a ‘fethodd’. Fferm ydyw bellach.
Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 19eg ganrif, yn union i’r gogledd o’i
rhagflaenydd. Ceir rhywfaint o dir comin yn yr ardal drwyddi draw, ond
mae’n gysylltiedig â hawliau pentrefi, megis yn Eglwyswrw,
yn hytrach na bod yn dir comin creiriol.
Mae’n amlwg bod yr ardal gyfan wedi’i hanheddu,
a’i bod wedi’i hamgáu gan y system bresennol o gaeau
rheolaidd eu siâp, erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol.
Dengys mapiau degwm y 1840au dirwedd sy’n debyg iawn i’r un
a welir heddiw. Mae’r prif lwybr o Hwlffordd i Aberteifi, a drowyd
yn ffordd dyrpeg yn ddiweddarach ac a gynrychiolir bellach gan y B4329,
wedi croesi’r ardal gymeriad ers y cyfnod canoloesol. Mae’r
ffordd o Abergwaun i Aberteifi (sef yr A487C) yn perthyn i’r un
cyfnod â’r B4329. Er na fu diwydiant erioed yn ffactor pwysig
yn natblygiad y dirwedd hon, cafwyd rhywfaint o weithgarwch cynhyrchu
calch ar raddfa fach. Lleddfir ei chymeriad tra amaethyddol ar hyd ei
chwr gorllewinol gan y llinell reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi,
a ymgorfforwyd ym 1869. Roedd y llinell – a enillodd le yng nghalon
y bobl leol ac y rhoddwyd y llysenw Cardi Bach iddi – yn weithredol
tan y 1960au, a chyflenwai laeth a thraffig gwyliau i Aberteifi a Llandudoch
yn bennaf. Fodd bynnag, ni chafodd y datblygiadau hyn fawr ddim effaith
ar y patrwm anheddu sy’n dal i fod yn un gwasgaredig ar y cyfan.
![CROSSWAY - GLANPWLLAFON](images/crosswayglanpwllafon2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol helaeth
sy’n gorwedd ar lan ddeheuol Afon Teifi. Er bod y rhan fwyaf o’r
dirwedd hon yn ymestyn ar draws llethrau esmwyth sy’n tueddu i wynebu’r
gogledd i lawr i’r afon lanw, ceir rhai llethrau mwy serth yn nyffrynnoedd
y rhagnentydd. Mae bryniau uwch yn codi i uchder o 200m a mwy uwchlaw
lefel y môr. Ardal gymeriad amaethyddol ydyw a nodweddir yn bennaf
gan gaeau gweddol fawr, eithaf rheolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig.
Mae’r caeau yn tueddu i fod yn fwy o faint ac yn fwy rheolaidd eu
siâp ar dir uwch ac yn llai o faint ac yn fwy afreolaidd eu siâp
ar dir is. Ar wahân i bocedi o dir garw ar hyd llawr dyffryn Piliau,
tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir bron
yn gyfan gwbl a cheir ychydig iawn o dir âr. Ceir rhywfaint o goetir
collddail a rhai planhigfeydd o goed coniffer ar rai o’r llethrau
mwy serth, ond ar wahân i’r lleoliadau hyn nid yw coetir yn
nodwedd amlwg yn yr ardal hon. Rhennir y caeau gan wrychoedd ar gloddiau.
Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da at ei gilydd, ond maent yn deneuach,
ac yn fwy anniben ar dir uwch, ac yn fwy toreithiog a thrwchus mewn lleoliadau
cysgodol. Fel y nodwyd uchod nid yw coetir yn un o nodweddion y dirwedd
hon. Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau megis gerllaw fferm Pantirion mae
coed sylweddol wedi tyfu yn y gwrychoedd.
Llechi o rannau isaf dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd
adeiladu a ddefnyddiwyd cyn yr 20fed ganrif, ac fel arfer mae llechi o
ogledd Cymru wedi’u defnyddio ar y toeau. Ar yr adeiladau o ansawdd
gwell sy’n dyddio o’r 19eg ganrif defnyddiwyd llechi nadd,
patrymog o ddyffryn Teifi, ond ar strwythurau a adeiladwyd cyn y 19eg
ganrif ac ar dai o ansawdd gwaeth ac adeiladau allan ffermydd defnyddiwyd
cerrig llanw heb fod yn batrymog. Maent wedi’u gadael heb eu rendro
ar adeiladau fferm ond mae tai llai o faint yn aml wedi’u gorchuddio
â sment. Er bod y stoc adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif
yn bennaf, dengys tai bonedd llai o faint yn dyddio o’r 17eg ganrif
a’r 18fed ganrif megis adeilad rhestredig Tredefaid mai cerrig oedd
y prif ddeunydd adeiladu mewn cyfnodau cynharach, o leiaf ar gyfer adeiladau
mawr. Cynrychiolir amrywiaeth eang o grwpiau economaidd-gymdeithasol yn
perthyn i’r 19eg ganrif yn yr adeiladau. Mae’r mwyafrif o’r
tai yn yr arddull Sioraidd ac mae hyn yn elfen sy’n uno’r
stoc adeiladau, o dai sylweddol yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif
megis ffermdy rhestredig Parc y Pratt i’r ffermdy symlach, mwy cyffredin
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif yn arddull nodweddiadol de-orllewin
Cymru - sef adeilad deulawr a chanddo dri bae, drws ffrynt canolog a phum
ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur. Enghraifft dda iawn o’r
math hwn o dy yw ffermdy rhestredig Glanpwllafon. Ceir tai â nodweddion
brodorol cryfach, gan gynnwys tai unllawr y mae adeiladau fferm ynghlwm
wrthynt ac yn yr un llinell â hwy, ond nid ydynt yn gyffredin. Ger
Aberteifi a Llandudoch ceir gwasgariad o dai gweithwyr yn dyddio o’r
19eg ganrif. Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif ac yn debyg i’r ffermdai mae ganddynt nodweddion Sioraidd
cryf, ond mae gan ambell un elfennau brodorol amlwg. Ceir gwasgariad o
dai modern hefyd, sydd wedi’u crynhoi unwaith eto tuag at Aberteifi
a Llandudoch, a rhai clystyrau megis ym Mriscwm. Mae’r mwyafrif
o’r ffermydd yn fawr. Mae gan fferm Tredefaid adeiladau fferm yn
dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, ond yn debyg i’r tai mae’r
mwyafrif o’r adeiladau fferm hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif,
ac o ail hanner y ganrif honno yn bennaf. Mae’r adeiladau fferm
wedi’u hadeiladu o gerrig sydd wedi’u trefnu’n ffurfiol
ym Mharc y Pratt yn nodweddiadol o dy bonedd. Ceir un neu ddwy res o adeiladau
allan wedi’u hadeiladu o gerrig fel arfer, ac adeiladau modern helaeth
o goncrid, dur ac asbestos ar y mwyafrif o’r ffermydd gweithredol.
Oherwydd y nifer fawr o adeiladau fferm modern ni ddefnyddir rhai o’r
strwythurau cerrig hyn bellach neu fe’u haddaswyd i’w defnyddio
at ddibenion eraill. Ceir nifer fawr (dros 120) ac amrywiaeth eang o safleoedd
archeolegol, gan gynnwys crugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd, bryngaer,
cerrig arysgrifedig yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol, safleoedd
amddiffynedig yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, eglwys plwyf Llantwyd
a nifer fawr o chwareli a safleoedd eraill yn dyddio o’r cyfnod
ôl-ganoloesol. Ar wahân i’r crugiau crwn cofrestredig
yn dyddio o’r Oes Efydd, a geir yn y mannau uchaf, ychydig iawn
o’r safleoedd hyn sy’n helpu i nodweddu’r ardal hon.
Nid yw’n hawdd diffinio’r ardal gymeriad
dirwedd hanesyddol hon ac eithrio ar hyd ei ffin ogleddol lle y mae’n
cwrdd ag aber Afon Teifi, Llandudoch, Aberteifi a Chilgerran. Mewn mannau
eraill ceir ardal newid lydan rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n
ffinio â hi.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Charles, B G, 1948,
‘The Second Book of George Owen’s Description of Penbrokeshire’,
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5, 265-285; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811
A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A
(golygyddion), 1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Jones, F,
1996, Historic Houses of Pembrokeshire and their Families, Casnewydd;
King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833,
A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2002,
‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Pembrokeshire churches’,
adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Ludlow, N, 2003, ‘St
Cristiolus’ Churchyard, Eglwyswrw, Pembrokeshire: a Post-Conquest
Cist Cemetery’, Archaeologia Cambrensis 146, 20-48; Map degwm plwyf
Cilgerran 1844; Map degwm plwyf Eglwys Wythwr 1843; Map degwm plwyf Llandudoch
1838; Map degwm plwyf Llantwyd 1839; Maynard, D, 1993, ‘Burnt Mounds
in the St Dogmaels area of north Pembrokeshire’, Archaeology in
Wales 33, 41-43; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire
by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Price, M R C, 1984,
The Whitland and Cardigan Railway, Rhydychen; Rees, W, 1932, ‘Map
of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951,
An Historical Atlas of Wales, Llundain; Sambrook, P, 1997 ‘Medieval
or Later Deserted Rural Settlements: 1996-7 Pilot Study, an Interim Report’,
adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed; Sambrook,
P, 2000, ‘St Dogmaels Historic Audit’, adroddiad nas cyhoeddwyd
gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |