![](../../shim.gif) |
LLANDUDOCH
![LLANDUDOCH](images/stdogmaels1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN163462
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 71.6
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach a nodweddir gan
ardal adeiledig pentref mawr Llandudoch. Yn ystod y cyfnod hanesyddol,
gorweddai’r ardal yng nghantref canoloesol Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer.
Roedd Cemaes wedi’i ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan Robert
FitzMartin tua 1100 ac fe’i had-drefnwyd i greu Barwniaeth Cemaes.
Parhaodd Cemaes yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o
gastell Nanhyfer, ac wedyn o Gastell Trefdraeth, tan 1536, pan ymgorfforwyd
y farwniaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cemaes. Fodd bynnag, cynrychiolai’r
rhan fwyaf o Is-Nyfer ‘Frodoraeth’ y farwniaeth a pharhaodd
i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth
Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, y parhaodd llawer ohonynt tan
yr 20fed ganrif. Daliodd y tywysogion Cymreig y rhan ogledd-ddwyreiniol
hon o Is-Nyfer rhwng 1191 a 1201, ac unwaith eto ym 1215-1223.
Mae i Landudoch naws dra eglwysig ac Abaty Tironaidd
(Benedictaidd) Llandudoch yw elfen amlycaf yr ardal gymeriad hon. Fe’i
sefydlwyd gan Robert FitzMartin fel priordy ym 1113; fe’i dyrchafwyd
i statws abaty ym 1120. Saif ar safle mynachaidd llawer cynharach. Disgrifiodd
siarter sefydlu FitzMartin y ty fel ‘hen eglwys’ Llandudoch.
Mae’r chwe Heneb Gristnogol Gynnar o’r safle yn awgrymu presenoldeb
eglwysig parhaus o’r 6ed ganrif ymlaen, a oedd yn ddigon cyfoethog
i’r Llychlynwyr ymosod arno ym 988. Mae’n bosibl bod clostir
mynachaidd cynharach posibl a welir fel llinell o ffiniau eiddo parhaus
yn Llandudoch yn parhau clawdd crwm a gofnodwyd trwy geoffiseg i’r
de o adeiladau’r abaty diweddarach. Dechreuwyd adeiladu eglwys yr
abaty ar ddechrau’r 12fed ganrif. Er nas cwblhawyd erioed yn ôl
ei chynllun helaeth gwreiddiol, roedd wedi datblygu’n eglwys fawr
erbyn canol y 13eg ganrif, a safai yng nghanol rhes helaeth o adeiladau
cwfeiniol o waith cerrig wedi’u lleoli mewn caeadle a oedd yn 4
hectar o faint o leiaf. Mae’r cyfadail hwn yn dal i ddiffinio’r
dirwedd heddiw.
Roedd anheddiad wedi datblygu y tu allan i’r abaty
erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, a ddelid yn uniongyrchol gan y farwniaeth
a oedd yn awyddus o bosibl i fanteisio ar y potensial economaidd a ddarperid
gan bresenoldeb yr abaty. Ar ben hynny cofnodir i arglwyddi Cemaes sefydlu
marchnad yma. Roedd yr anheddiad yn faenor, a ddisgrifiwyd fel un o ‘dair
tref gorfforedig’ Cemaes ym 1603 (ynghyd â Threfdraeth a Nanhyfer),
ond ymddengys na fu’n fwrdeistref erioed. Mae’n bosibl iddo
aros yn gymharol fach trwy’r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, roedd
yn ddigon mawr i gael ei wasanaethu gan eglwys blwyf wedi’i chysegru
i Sant Tomos (nid oedd eglwys yr abaty yn eglwys blwyf), a safai gyferbyn
â’r abaty, ond sydd wedi diflannu bellach. Gwasanaethid yr
abaty, a’r anheddiad efallai, gan felin yn union i’r dwyrain
o’r abaty, ac roedd gan y mynachod hawliau i bysgodfa helaeth ar
aber Afon Teifi. Sefydlwyd capel defodol, neu gapel pererindota yn nyffryn
serth Cwm Degwell i’r de.
Diddymwyd yr abaty ym 1536 pan brydleswyd yr adeiladau
i John Bradshaw o Lanandras. Adeiladodd plasty iddo’i hun o fewn
y caeadle, o gerrig a gymerwyd o’r adeiladau cwfeiniol, ond roedd
y plasty hwn yn fyrhoedlog a disgrifiwyd y safle fel adfail ym 1603. Fe’i
prynwyd gan David Parry o Neuadd Trefawr ym 1646, ond ymddengys na fu
unrhyw un yn byw ynddo, a throsglwyddwyd yr adfeilion i berchenogaeth
yr Eglwys Anglicanaidd, a all fod wedi adleoli eglwys y plwyf i mewn i’r
abaty am gyfnod byr. Fodd bynnag, sefydlwyd eglwys blwyf newydd, ar ei
safle presennol, ar ddechrau’r 18fed ganrif (a ailadeiladwyd ym
1847) ac adeiladwyd y ficerdy (a’r cerbyty) ar ôl hynny ym
1866.
Ceir rhai cyfeiriadau cynnar at bysgota â sân
yn Llandudoch. Mae ffynhonnell ganoloesol yn cyfeirio at weithgarwch pysgota
am eogiaid yn gysylltiedig â’r abaty, ac mae cofnod diweddarach
hefyd o gwyn a wnaed yn ystod teyrnasiad Elisabeth I yn ymwneud â
physgota â rhwydi a elwid yn “sayney”. Tra byddai pobl
yn pysgota â sân ar hyd glannau’r aber, datblygodd Llandudoch
yn bysgodfa benwaig bwysig yn ystod y 18fed ganrif. Yn ystod ail hanner
y 19eg ganrif, tyfodd Llandudoch yn gyflym. Yn ddiau deilliodd y twf hwn
o’r fasnach brysur ar hyd Afon Teifi, a thyfodd Porthladd Aberteifi
ac ymledodd gweithgarwch cysylltiedig i Landudoch. Y symbolau amlycaf
o’r cynnydd hwn mewn gweithgarwch economaidd ym mhlwyf Llandudoch
yw’r warysau ardderchog yn dyddio o’r 19eg ganrif a welir
ar hyd yr afon yn Bridgend a gerllaw’r Pinog. Ceir nifer o odynau
calch yn dyddio o’r 19eg ganrif ar hyd yr afon hefyd. Fel arall
prin yw’r olion strwythurol i ddangos pa mor bwysig yr arferai’r
fasnach forol fod i’r gymuned.
Roedd yr anheddiad wedi tyfu’n eithaf mawr erbyn
1838, pan ddengys y map degwm anheddiad cnewyllol llac yn cynnwys tua
100 o adeiladau wedi’u canoli ar yr abaty, er bod llawer o fylchau
rhyngddynt. Gwnaed llawer o waith ailadeiladu a datblygu ar ddiwedd y
19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, ac adeiladwyd adeiladau o
safon, mewn terasau ac ar eu pennau eu hunain. O ddadansoddi mapiau yn
dyddio o’r 19eg ganrif ceir darlun manwl o’r modd y tyfodd
y pentref. Erbyn map Arolwg Ordnans 1891, roedd bylchau wedi’u mewnlenwi.
Ar ben hynny, adeiladwyd magnelfa arfordirol ar lan ddeheuol Afon Teifi
yn y 1880au. Erbyn hyn mae’r gaer adfeiliedig hon bron yn amhosibl
ei hadnabod ar y traeth islaw Gwesty Webley. Sefydlwyd tloty yng Nghastell
Albro, i’r gogledd o’r pentref, yn ddiweddarach yn y 19eg
ganrif. Datblygiad diddorol arall yn ystod y cyfnod hwn fu’r anheddu
ar dir comin ar hyd Cwm Degwell ac ar dir uwch i’r de o’r
pentref. Roedd y tir hwn yn anghyfannedd i bob pwrpas yn y 1840au, ond
erbyn 1891 roedd yn rhan bwysig o’r pentref. Mae’n debyg bod
rhai o’r bythynnod hyn yn dai unnos, a nodweddir gan yr annedd unigol
yn sefyll mewn llain amgaeedig o ardd.
Erbyn hyn mae Llandudoch yn gyrchfan gwyliau poblogaidd.
Bu’r abaty yng ngofal y wladwriaeth ers 1934 ac erbyn hyn mae’n
un o atyniadau ymwelwyr y rhanbarth. Mae’r felin yn dyddio o’r
19eg ganrif hefyd wedi’i diogelu ac mae ar agor i’r cyhoedd.
Fodd bynnag, ni fu fawr ddim datblygiadau masnachol modern.
![LLANDUDOCH](images/stdogmaels2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Llandudoch yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
adeiledig fach a leolir ar lan ddeheuol Afon Teifi sy’n afon lanw
yn y rhan hon. Lleolir y rhan fwyaf o’r anheddiad ar dir cymharol
wastad rhwng lefel y môr a 30m, ond ar ei gwr de-orllewinol lleolir
strydoedd a thai ar lethrau serth iawn i fyny at 80m uwchlaw lefel y môr.
Mae hefyd yn cynnwys dau ddyffryn coediog bach, y mae gan y mwyaf ohonynt,
sef Cwm Degwell, isffordd ac anheddau ar hyd ei lawr. Ceir man agored
yn cynnwys adfeilion trawiadol abaty canoloesol ac eglwys blwyf gerllaw
yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yng nghanol y pentref. Saif melin þd
wedi’i hadeiladu o gerrig yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif
yn union i’r dwyrain o adfeilion yr abaty, ar safle canoloesol.
Mae strydoedd yn ymddolennu o’r canolbwynt hwn yn organig. Nid oes
unrhyw arwydd o weithgarwch anheddu cynlluniedig. Ceir adeiladau wedi’u
cywasgu, terasau deulawr fel arfer, yn grwm ac yn syth, ac ambell dy pâr
ac ambell dy ar wahân, ar hyd y strydoedd hyn. Mae’r stoc
dai a adeiladwyd cyn yr 20fed ganrif ymron yn ddieithriad yn dyddio o’r
19eg ganrif, ac mae’r mwyafrif yn dyddio o ganol y 19eg ganrif,
ac nid oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw beth cynharach. At ei gilydd
adeiladwyd y terasau dros nifer o gyfnodau, hynny yw gosodwyd adeiladau
rhwng adeiladau a fodolai eisoes. Fodd bynnag, ceir rhai enghreifftiau
o derasau byr a adeiladwyd mewn un cyfnod. Mae’r patrwm hwn yn awgrymu
bod adeiladau wedi gorfod cael eu gosod i mewn i leiniau adeiladu a fodolai
eisoes, lleiniau a sefydlwyd o bosibl nifer o ganrifoedd cyn y gwaith
ailadeiladu a wnaed yn ystod y 19eg ganrif. Llechi dyffryn Teifi yw’r
prif ddeunydd adeiladu a llechi o ogledd Cymru yw’r deunydd toi
a ddefnyddiwyd ar y tai hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae llawer
o’r tai wedi’u rendro â sment (plastr). Defnyddir brics
coch o bryd i’w gilydd - sydd weithiau wedi’u rendro â
sment. Un o nodweddion nodedig iawn rhai o dai Llandudoch yw’r defnydd
sydd wedi’i wneud o lechi glas golau/arian o ddyffryn Teifi a osodwyd
mewn rhesi tra phatrymog a wahenir gan haenau o gerrig brown cryf wedi’u
sgwario (dolerit Preseli o bosibl). Mewn rhai achosion mae paent wedi’i
ddefnyddio i bwysleisio’r haenau o lechfaen. Nodwyd y dechneg fandio
hon mewn mannau eraill, megis yn Nhrefdraeth a Dinas yn Sir Benfro ac
yn Aberteifi, ond nid oes gan yr un lleoliad arall yr effaith aml-liwiog
a welir ar dai Llandudoch, y mae rhai ohonynt yn rhestredig. Mae gan lawer
o’r tai yn dyddio o’r 19eg ganrif addurniadau cyfnod da, megis
fframiau drysau, ffenestri bae, ymylon bondo a waliau isel â rheiliau
yn ffinio â’r stryd. Prin yw’r terasau a adeiladwyd
mewn un cyfnod. Mae’r cymysgedd hwn o strydoedd gorlawn, cul yn
dringo’r llethr serth a thai bychain sy’n dra gwahanol i’w
gilydd, ond a adeiladwyd at ei gilydd yn ystod yr un cyfnod ac yn yr un
arddull, yn rhoi cymeriad tirwedd hanesyddol cryf i Landudoch.
Lleolir tai modern, anheddau unigol ac ystadau bach ar
gyrion y pentref ac maent yn mewnlenwi bylchau yn y craidd hanesyddol.
Lleolir Castell Albro, un o’r enghreifftiau gorau o dloty yn dyddio
o’r 19eg ganrif yng Nghymru ar gyrion yr ardal hon. Ceir ysgol,
ond ychydig o siopau sydd yn y pentref ac nid oes fawr ddim datblygiadau
masnachol modern. Darparwyd llithrfeydd concrid a chyfleusterau eraill
ar gyfer lansio cychod bach ar hyd glan yr afon, ond ar wahân i
odynau calch a warysau o gerrig rhesog yn dyddio o’r 19eg ganrif
(a addaswyd bellach i’w defnyddio at ddibenion eraill), prin yw’r
olion strwythurol i ddangos pa mor bwysig yr arferai’r fasnach forol
fod i’r gymuned. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys strwythurau
ac adeiladau sy’n sefyll yn bennaf fel y disgrifiwyd uchod, ond
mae hefyd yn cynnwys y meini arysgrifedig yn dyddio o ddechrau’r
cyfnod canoloesol yn yr abaty, safleoedd eglwys a chapel, twmpathau llosg
a chelc o ddarnau arian Rhufeinig.
Mae Llandudoch yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig
ac mae’n dra gwahanol i’r ardaloedd cyfagos o gaeau a ffermydd.
Ffynonellau: Cadw – Cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Hilling, J B,
1992, Cilgerran Castle/St Dogmaels Abbey, Caerdydd; Fenton, R, 1811 A
Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A (golygyddion),
1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; James, T, 1992, ‘Air
photography of ecclesiastical sites in south Wales’, yn N Edwards
ac A Lane, The Early Church in Wales & West, Rhydychen, 62-76; Jones,
T, 1952, Brut y Tywysogyon, Llawysgrif Peniarth 20, Caerdydd; Lewis, S,
1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N,
2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage
1: Pembrokeshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed;
Map degwm plwyf Llandudoch 1838; Maynard, D, 1993, ‘Burnt Mounds
in the St Dogmaels area of north Pembrokeshire’, Archaeology in
Wales 33, 41-43; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire
by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Pritchard, E M,
1907, The History of St Dogmael’s Abbey, Llundain; Rees, W, 1932,
‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’;
Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Sambrook, P, 2000,
‘St Dogmaels Historic Audit’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Weeks, R, 2002, The ‘Lost Market’ settlements
of Pembrokeshire, Medieval Settlement Research Group, Annual Report 17,
21-30
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |