Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

PLAS-Y-BERLLAN

PLAS-Y-BERLLAN

CYFEIRNOD GRID: SN217416
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 473

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymeriad dirwedd hanesyddol weddol fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro, a nodweddir gan dir amaeth yn cynnwys caeau gweddol fawr, rheolaidd eu siâp o dir pori, a rhywfaint o dir âr a choetir gwasgaredig, ar lethrau deheuol golygfaol dyffryn Teifi.

Lleolir yr ardal hon yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Is-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Parhaodd Cilgerran yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Adenillwyd yr arglwyddiaeth gan y Cymry ym 1164 ac arhosodd o dan eu rheolaeth tan 1223. O 1339 fe’i delid o Iarllaeth Penfro, a drosglwyddwyd i’r goron ar ddiwedd y 15fed ganrif. Fe’i diddymwyd yn y pen draw ym 1536, pan ymgorfforwyd yr arglwyddiaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cilgerran. Parhaodd yr arglwyddiaeth ganoloesol, a weinyddid fel ‘brodoriaeth’, i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a systemau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod. Y patrymau tirddaliadaeth Cymreig hyn - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Lleolir yr ardal gymeriad hon o fewn un o raniadau Arglwyddiaeth Cilgerran, sef Maenor Deifi, a sefydlwyd o bosibl cyn y goresgyniad Normanaidd. Sefydlwyd treflan o dan dirddaliadaeth Gymreig yng Nghilfowyr, yn rhan dde-orllewinol yr ardal, erbyn y 14eg ganrif. Roedd i Faenor Deifi yr un ffiniau â phlwyf Manordeifi a sefydlwyd, ynghyd â’i eglwys, erbyn 1291. O 1339 roedd yr eglwys, a leolir gerllaw gorlifdir Afon Teifi, yn rhodd Ieirll Penfro fel Arglwyddi Cilgerran. Mae’n bosibl i’r eglwys gael ei chysegru’n wreiddiol i Sant Llawddog, y prif gwlt yng Nghantref Emlyn, ond fe’i cysegrwyd yn ddiweddarach i Dewi Sant. Peidiodd â bod yn eglwys blwyf ym 1899, pan adeiladwyd eglwys newydd yng Ngharreg-wen. Roedd capel anwes i’r plwyf wedi’i sefydlu yng Nghilfowyr erbyn canol yr 16eg ganrif. Roedd yn adfeilion erbyn dechrau’r 19eg ganrif ac fe’i nodir bellach gan gloddwaith.

Cilfowyr, a oedd wedi datblygu’n dy bonedd erbyn 1543, yw prif anheddiad yr ardal o hyd. Ymddengys na fu fawr ddim anheddu pellach o fewn yr ardal gymeriad hon tan yn gymharol ddiweddar yn y cyfnod ôl-ganoloesol, er i’r system o gaeau gweddol fawr, eithaf rheolaidd gael ei sefydlu o bosibl cyn y 18fed ganrif. Ar ben hynny, cofnodwyd y ffermdy a’r ystad fach yn y Pentre gyntaf ym 1610. Roedd yn eiddo i’r teulu Saunders o ran gyntaf y 18fed ganrif ac fe’i trosglwyddwyd trwy briodas i David Davies ar ddechrau’r 19eg ganrif pan gymerodd y teulu yr enw Saunders-Davies. Ailadeiladwyd y plasty yn y 1820au – fe’i nodir ar fap degwm 1843 – ac fe’i hymestynnwyd ym 1867 ond dymchwelwyd y brif res yn y 1980au. Dengys map o Ddemên Pentre dyddiedig 1803 gaeau, gan gynnwys gerddi, o amgylch y tþ, ond fel arall mae’r dirwedd yn debyg i’r un a welir heddiw. Lleddfir ei chymeriad tra amaethyddol ar hyd ei chwr gorllewinol gan y llinell reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi, a adeiladwyd ym 1869. Roedd y llinell – a enillodd le yng nghalon y bobl leol ac y rhoddwyd y llysenw Cardi Bach iddi – yn weithredol tan y 1960au, a chyflenwai laeth a thraffig gwyliau i Aberteifi a Llandudoch yn bennaf.

 

PLAS-Y-BERLLAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Plas-y-Berllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol a leolir ar lethrau dyffryn Afon Teifi sy’n wynebu’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain. Mewn rhai mannau mae’r tir yn codi’n serth o’r gorlifdir ar 10m uwchlaw lefel y môr, ond mae’r mwyafrif o’r llethrau yn disgyn yn raddol iawn. Mae’r ardal yn codi i dros 170m uwchlaw lefel y môr lle y mae ar ei huchaf. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir a cheir rhywfaint o dir âr a choetir collddail yn gymysg â rhai planhigfeydd o goed coniffer ar y llethrau mwy serth. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu siâp gan wrychoedd ar gloddiau. Er bod y mwyafrif o’r gwrychoedd mewn cyflwr da, mae rhai yn dechrau tyfu’n wyllt ac maent yn cynnwys llwyni mawr a choed. Mae’r gwrychoedd hyn, ar y cyd â’r coetir ar lethrau serth, yn rhoi golwg goediog i rannau o’r dirwedd. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a thai gwasgaredig. Llechi dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd adeiladu (cerrig nadd patrymog neu gerrig llanw, sydd weithiau wedi’u rendro â sment) ar yr adeiladau hyn, y mae bron pob un ohonynt yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, ac mae llechi o ogledd Cymru wedi’u defnyddio ar y toeau. Mae gan y mwyafrif o’r ffermdai a’r tai ddau lawr a thri bae a drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur - arddull sy’n deillio’n fwy o’r traddodiad Sioraidd ‘cain’ na’r traddodiad brodorol, ac sy’n gyffredin yn ne-orllewin Cymru. Ymhlith y tai eraill a geir yn yr ardal hon mae ffermdy unllawr a hanner â nodweddion brodorol cryf, ffermdy deulawr chwe bae ffurfiol Pentre yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif a’r bwthyn sydd ynghlwm wrtho, sy’n cynrychioli fferm y plasty a ddymchwelwyd yn y 1980au, bwthyn ystad bach yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, a’r Hen Reithordy yn arddull cyfnod y Rhaglywiaeth yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, gerllaw eglwys ganoloesol y plwyf. Mae’r adeiladau fferm hyn yn gymharol fach, sy’n ymwneud, yn ddiau, â maint daliad y fferm, ac fel arfer maent yn cynnwys un neu ddwy res yn cynnwys ysguboriau, beudai, stablau ac ati. Mae rhai mewn cyflwr gwael ac addaswyd eraill i’w defnyddio at ddibenion anamaethyddol. Mae gan ffermydd mwy o faint resi mawr o adeiladau amaethyddol modern o goncrid, dur ac asbestos. Ceir clwstwr llac o dai modern yn bennaf yng Ngharreg-wen sydd wedi’i ganoli ar adeiladau rhestredig eglwys y plwyf a’r rheithordy yn dyddio o’r 19eg ganrif, a cheir ychydig o dai modern eraill wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal. Yr adeilad pwysig arall yw eglwys plwyf Manordeifi sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol, sy’n cynnwys set lawn o addurniadau heb eu newid yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif. Yr unig ffyrdd yn yr ardal hon yw llwybrau a lonydd cul ar gyfer traffig lleol. Ar wahân i adeiladau sy’n sefyll, safle Capel Cilfowyr a llwybr y llinell reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf i Aberteifi, nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gorllewin lle y mae’n ffinio â pharcdir Castell Maelgwyn ac i’r gogledd lle y mae’n ffinio â gorlifdir Afon Teifi. Mewn mannau eraill nid oes unrhyw ffin bendant, ond ceir ardal newid lydan rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Fenton, R., 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Jones, F, 1996, Historic Houses of Pembrokeshire and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Pembrokeshire churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Pembrokeshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Adnau gan y Parch J C Davies Llyfr Mapiau 1803, tud1; Map degwm plwyf Manordeifi 1842; Owen, H (gol.), 1914, Calendar of Pembrokeshire Records, 2, Llundain; Price, M R C, 1984, The Whitland and Cardigan Railway, Rhydychen; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP PLAS-Y-BERLLAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221