Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

LLECHRYD

LLECHRYD

CYFEIRNOD GRID: SN221439
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 56

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n cynnwys ardal adeiledig pentref Llechryd a’r cyffiniau, ar lan ogleddol Afon Teifi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng Nghantref Iscoed, yng nghwmwd Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi. Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr rhwng 1215 – 1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’.

Fel enw lle os nad fel anheddiad, mae’n bosibl bod Llechryd yn tarddu o gyfnod cynharach - mae wedi’i gysylltu’n betrus â’r Llech-y-crau a gofnodwyd ym 1088 fel safle brwydr y mae’n amlwg ei fod yn lleoliad cydnabyddedig, a lleolir yr ardal hon o fewn un o israniadau cwmwd Is-Hirwern, sef Gwestfa Camros, y mae’n bosibl iddo gael ei sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd. Serch hynny y bont dros Afon Teifi yw nodwedd amlycaf Llechryd ac mae wedi llywio ei hanes. Mae’r adeiladwaith presennol yn dyddio o’r 17eg ganrif, ond mae tystiolaeth ddogfennol i’r man croesi gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol, fel rhyd yn ôl pob tebyg. Mae’n amlwg mai’r man croesi a ysgogodd ddatblygiad anheddiad canoloesol ar ffurf treflan yr ymddengys iddi ddatblygu’n anheddiad cnewyllol yn gynnar, sy’n anarferol yn achos y rhanbarth hwn. Mae’n bosibl i’r datblygiad hwn gael ei hyrwyddo gan y goron, neu gan Esgobion Tyddewi a gymerodd feddiant o blwyf Llangoedmor, y gorweddai Llechryd y tu mewn iddo, o ddiwedd y 13eg ganrif ymlaen. Adeiladwyd capeliaeth i Langoedmor, wedi’i chysegru i’r Groes Sanctaidd, i wasanaethu’r gymuned hon a oedd yn datblygu, yn ystod y 14eg ganrif yn ôl pob tebyg ar ôl sefydlu’r plwyf. Saif ei holion ar lan Afon Teifi, yng nghanol y pentref.

Rhoddwyd hwb pellach i ddatblygiad y pentref, a all fod wedi parhau’n ddi-dor o’r cyfnod canoloesol, pan (ail)adeiladwyd y bont yn yr 17eg ganrif. Daeth Eglwys y Groes Sanctaidd yn eglwys blwyf yn ei rhinwedd ei hun, ac arhosodd yn eglwys blwyf trwy’r rhan fwyaf o’r cyfnod ôl-ganoloesol. Rhwng 1764 a 1770 sefydlwyd gwaith haearn a thunplat helaeth yng Nghastell Maelgwyn, ar lannau Afon Teifi, ychydig i’r de o’r ardal hon ym Mhenygored. Roedd y gwaith yn llwyddiannus ac aeth trwy nifer o ddwylo nes cael ei brynu gan Syr Benjamin Hammet, a brynodd ystad Castell Maelgwyn hefyd. Caeodd y gwaith ym 1806. Nid oes unrhyw dystiolaeth o dai gweithwyr yng nghyffiniau safle’r gwaith tun ac felly mae’n debyg i’r gweithwyr ymsefydlu yn Llechryd. Rhoddwyd hwb pellach i dwf y pentref pan drowyd yr A484 trwy’r pentref yn ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18eg ganrif, ar ôl i’r darn o’r ffordd yn arwain allan o’r pentref ar hyd ochr ogleddol Afon Teifi gael ei adeiladu o’r newydd i’r diben. Mae’n bosibl i’r darn o’r ffordd sy’n arwain i’r gogledd-orllewin o’r pentref gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol ac mae’r mwyafrif o’r datblygiadau diweddarach wedi digwydd ar hyd y ffordd hon. Dengys map degwm 1839 tua 12 adeilad mewn clwstwr i’r gogledd o’r bont, yr ailadeiladwyd pob un ohonynt pan ehangodd y pentref yn y 19eg ganrif. Oherwydd y twf hwn rhoddwyd y gorau i ddefnyddio Eglwys y Groes Sanctaidd ac fe’i disodlwyd gan eglwys newydd, ar hyd yr A484, tua diwedd y 19eg ganrif. Mae’r pentref yn parhau i dyfu.

LLECHRYD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Llechryd yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach sy’n gorwedd ar lan ogleddol Afon Teifi sy’n graddol ddisgyn rhwng 10m a 50m uwchlaw lefel y môr. Mae craidd yr anheddiad yn cynnwys clwstwr o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif i’r gogledd o Bont Llechryd sy’n dyddio o’r 17eg ganrif. O’r craidd hwn mae aneddiadau llinellol gwasgaredig yn ymestyn tua’r dwyrain ar hyd ymyl llawr y dyffryn ar ochr ogleddol yr A484 a thua’r gogledd ar hyd yr un ffordd. Mae’r adeiladau hþn yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o lechi dyffryn Teifi. Mae’r rhain wedi’u sgwario’n fras i wneud blociau neu slabiau neu gerrig bras. Hefyd o fewn craidd y pentref ceir tai dosbarth canol sylweddol ar wahân yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif yn y traddodiad Sioraidd (gan gynnwys un enghraifft restredig), ond mae’r mwyafrif o’r adeiladau domestig yn Llechryd sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif yn dai gweithwyr syml, yn derasau byr, yn dai pâr ac yn dai ar wahân. Wedi dweud hynny, mae gan rai o’r adeiladau yn y pentref gymeriad ystad cryf iawn, a cheir fila yn yr arddull Duduraidd-Gothig yn dyddio o’r 19eg ganrif, bwthyn ag addurniadau gothig, porthordy yn perthyn i Fferm Pencraig a mynedfa â gatiau i Lanarberth wrth ochr y briffordd. Cynhwysir adeiladau rhestredig yn perthyn i ystad Glanarberth yn yr ardal hon, er i’r tþ gael ei ddymchwel. Credir hefyd fod yr ystad wedi dylanwadu ar gyfres o dai, sydd ag adeiladau allan amaethyddol bach fel arfer, a leolir â bwlch rheolaidd rhyngddynt ar hyd yr A484 i’r gogledd o’r pentref. Mae llinell y tai hyn yn ymestyn y tu hwnt i derfynau’r pentref i mewn i ardal dirwedd hanesyddol Croes-y-Llan, ac ymdrinnir â hwy yn fanylach yno, ond fe’u cynhwyswyd yma am fod tai yn dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gogynnwys yn Llechryd. Fel y nodwyd uchod ceir yma dai modern. Mae’r tai hyn at ei gilydd wedi datblygu ar hyd priffordd yr A484 i’r gogledd-orllewin o’r pentref, yn llinellol ac mewn ystadau tai bach. Yn ogystal ag adeiladau seciwlar mae gan y pentref elfen eglwysig gref ac mae’n cynnwys capel ac eglwys restredig yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac eglwys ganoloesol adfeiliedig y Groes Sanctaidd yng nghanol y pentref. Lleolir gwaith trin dwr modern ar gyrion y pentref.

Ffynonellau: Brooke, E H, 1932, Monograph of Tinplate Works in Great Britain, Abertawe; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cadw 2002, Cofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Rhan 1 Parciau a Gerddi, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, T, 1952, Brut y Tywysogyon, Peniarth MS 20, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1842; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Willis-Bund, J W (gol.), 1902, The Black Book of St Davids, Llundain

MAP LLECHRYD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221