Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

THEMÂU TIRWEDD HANESYDDOL RHAN ISAF DYFFRYN TEIFI, A DRE-FACH A FELINDRE RHANIADAU GWEINYDDOL HANESYDDOL

Cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd gweinyddid gorllewin Cymru fel nifer o deyrnasoedd neu wledydd bach, a oedd wedi’u sefydlu cyn yr 8fed ganrif OC. Mae’r ddwy ardal gofrestr yn gorwedd o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin, Ceredigion a sir Benfro, sy’n cyfateb yn fras i ffiniau’r hen wledydd. Mae i Geredigion yr un ffiniau â gwlad Ceredigion. Mae sir Benfro, a sir Gaerfyrddin i’r gorllewin o aber afon Tywi, yn cynrychioli gwlad Dyfed, tra mai sir Gaerfyrddin i’r dwyrain o aber afon Tywi oedd gwlad Ystrad Tywi. Ar ddechrau’r 11eg ganrif daeth y ddwy wlad olaf yn rhan o deyrnas Deheubarth a gynhwysai’r rhan fwyaf o dde-orllewin Cymru (Rees 1951, 19).

O fewn pob gwlad roedd unedau gweinyddu neu ystadau llai o faint a elwid yn faenorau ac mae tystiolaeth eu bod yn bodoli ers y 9fed ganrif. Cynhwysent nifer o ‘drefgorddau’ neu drefi. Erbyn yr 11eg ganrif roedd dwy haen weinyddol ychwangeol wedi’u cyflwyno - sef y cantref, a oedd yn llythrennol yn grðp o 100 tref, yr oedd pob un ohonynt wedi’i rhannu’n nifer o gymydau yr oedd y trefi wedi’u grwpio ynddynt. Cynhwysai pob cwmwd faerdref, tref arbennig gerllaw llys y brenin lle y bu’r taeogion a ffermiai diroedd y ddemên yn byw, gerllaw neu ymhlith y nifer fawr o swyddogion a gweision a wasanaethai’r llys. Ar y cyd â’r faerdref darperid trefgordd ucheldirol ar gyfer y brenin neu’r arglwydd hefyd a fyddai’n diwallu anghenion ei dda byw o ran porfeydd haf (hafodydd). Nid oes modd nodi llysoedd a maerdrefi pob cwmwd o fewn yr ardal astudiaeth.

Dechreuodd yr Eingl-Normaniaid wladychu’r rhanbarth yn 1093 pan oresgynnwyd Dyfed ac y sefydlwyd cestyll yn Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro. Roedd cestyll Ceredigion a Chaerfyrddin yn fyrhoedlog, ac fe’u hailsefydlwyd (y ddau ar safleoedd gwahanol?) pan ddechreuodd y goresgyniad o ddifrif tua 1100. Gorchfygwyd Cantref Cemaes, yng ngogledd sir Benfro, gan y Norman Robert Fitzmartin a sefydlwyd Barwniaeth Cemaes, ac i’r dwyrain daethpwyd â Chantref Emlyn (yng ngogledd sir Gaerfyrddin a gogledd sir Benfro) yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd, a daeth yr hanner gorllewinol, sef Emlyn Is-Cych, yn Arglwyddiaeth Cilgerran. Cipiwyd Ceredigion tua 1110.

Fodd bynnag, adenillodd y tywysogion Cymreig ran helaeth o’r ardal yn ystod anarchiaeth teyrnasiad y Brenin Stephen. Ailoresgynnwyd Ceredigion yn 1136 ac arhosodd yn nwylo’r Cymry (ar wahân i Gwmwd Iscoed o amgylch y castell - Arglwyddiaeth Aberteifi) tan ddiwedd y 13eg ganrif, a hanner dwyreiniol Emlyn hefyd - sef Emlyn Uwch-Cych, y mae’n bosibl na chafodd ei oresgyn yn llwyr erioed. Fe’u cyfeddiannwyd yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1284 pan grëwyd sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin. Adenillwyd Cemaes gan y Cymry am gyfnod byr ar ddiwedd y 12fed ganrif, ond bu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd ddi-dor o ddechrau’r 13eg ganrif ymlaen a pharhaodd yn un o arglwyddiaethau’r gororau nes i sir Benfro gael ei chreu yn 1536.

Gosodwyd ffurf rydd ar weinyddiaeth Eingl-Normanaidd ar yr ardal. Arhosodd rhaniadau tiriogaethol a fodolai cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd yn ddigyfnewid at ei gilydd ar ôl y goresgyniad. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaethau Eingl-Normanaidd i fod yn agored i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’u gweinyddid fel ‘Brodoraethau’. Ni ddaliwyd unrhyw ddaliadau trwy wasanaeth marchog o fewn yr ardaloedd cofrestr. Y system dirddaliadaeth hon - na chynhwysai na threflannau na ffioedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig o fewn y rhanbarth, nad yw’n cynnwys ar y cyfan unrhyw aneddiadau cnewyllol o bwys. Fodd bynnag, roedd Arglwyddiaethau Aberteifi a Chemaes yn ddarostyngedig i system dirddaliadaeth faenoraidd fwy ffurfiol , ond a ddilynai unwaith eto arferion Cymreig i raddau helaeth, a arweiniodd at batrwm anheddu gwasgaredig. Gweithredai bwrdeistrefi Aberteifi a Chilgerran (a Llandudoch), yn ogystal â maenorau Eglwyswrw a Chemaes (a daliad maenoraidd bach yn Llandygwydd, Ceredigion), system faenoraidd Eingl-Normanaidd rannol o leiaf.

SAFLEOEDD ANHEDDU A CHLADDU CYNHANESYDDOL

Yn debyg i lawer o dirweddau yng Nghymru, mae’r ardaloedd Cofrestr a’u cyffiniau wedi cadw llawer o dystiolaeth o weithgarwch cynhanesyddol, yn bennaf ar ffurf cloddweithiau sy’n sefyll yn dyddio o’r Oes Efydd (2500 - 700 CC), ac o’r Oes Haearn (700 CC - y ganrif 1af OC). Mae’r cyfundrefnau amaethyddol dwysedd isel a arferid yn y rhanbarth hwn wedi helpu i ddiogelu’r dystiolaeth hon. Cyfyngir tystiolaeth o weithgarwch cynhanesyddol cynharach yn y rhanbarth at ei gilydd i wybodaeth a gafwyd trwy astudio tystiolaeth baleoamgylcheddol o ddyddodion mawn.

Er bod henebion cynhanesyddol - meini hir, carneddau claddu a bryngeyrydd - yn gymharol niferus o fewn yr ardal astudiaeth, yn aml ni chânt fawr ddim effaith ar y dirwedd fodern. Cofnodir nifer o garneddau claddu yn dyddio o’r Oes Efydd, fel arfer ar ffurf carneddau cerrig, a charneddau defodol cyfoes, yn yr ardal, ac mae’r rhain yn aml yn elfennau tirwedd hanesyddol amlwg oherwydd eu lleoliad. Er enghraifft, gellir gweld grwpiau o garneddau claddu ar y tir uchel i’r de o afon Teifi, a gerllaw Penrhyn Cemaes, am lawer o gilomedrau. Mae’r nifer fawr o safleoedd yn dyddio o’r oes efydd a geir yn yr ardal, mewn ardaloedd yr ystyrir eu bod yn eithaf anghysbell bellach, yn arwydd o boblogaeth a arferai fod yn sefydlog.

Mae lleoliad bryngeyrydd yn dyddio o’r Oes Haearn hefyd yn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn elfennau amlwg yn y dirwedd bresennol, ac unwaith eto maent yn dystiolaeth o boblogaeth sylweddol a chefnwlad eang, gyfannedd. Fodd bynnag, ni ellir gweld unrhyw batrymau amlwg o gyfatebiaeth rhwng bryngeyrydd ac unedau tiriogaethol diweddarach, ac ni ellir priodoli sefydlu unrhyw batrwm presennol o gaeau a ffiniau i’r cyfnod hwn nac i’r Oes Efydd.

 

TREFI A PHENTREFI

Mae’r ardaloedd Cofrestr yn cynnwys tir amaethyddol yn bennaf. Mae tair tref ganoloesol, sef Aberteifi, Cilgerran a Llandudoch, a leolir o fewn yr ardaloedd hyn, yn dra gwahanol i’r aneddiadau gwasgaredig o’u hamgylch. Lleolir pedwaredd dref, sef Castellnewydd Emlyn (ac Adpar) ychydig y tu allan i’r ardal astudiaeth.

Y farn gyffredin yw i Aberteifi gael ei sefydlu yn y cyfnod 1110-1136, o dan ieirll de Clare, a adeiladodd gastell ar fryncyn yn edrych dros afon Teifi. Cipiwyd rheolaeth ar y rhanbarth oddi wrth yr Eingl-Normaniaid yn sydyn yn 1136, pan enillodd lluoedd Cymreig fuddugoliaeth dyngedfennol yng Nghrug Mawr, 3 chilomedr i’r gogledd-ddwyrain o’r dref. Fe’i hildiwyd i’r Brenin Normanaidd John yn 1201 pan ddaeth yn ganolfan arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi. Ymddengys i’r castell a phont dros afon Teifi gael eu hadeiladu, ac Eglwys y Santes Fair gael ei sefydlu fel priordy Benedictaidd i’r dwyrain o’r dref, yn ystod y cyfnod 1110-1136. O’r cychwyn cyntaf, Eglwys y Santes Fair oedd eglwys y plwyf hefyd, a goroesodd ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd gan barhau’n eglwys y plwyf. Cynhelid marchnad wythnosol o ganol y 12fed ganrif hyd ddechrau’r 20fed ganrif, ac roedd llawer o freintiau bwrdais wedi’u rhoi i’r dref yn y 13eg ganrif, ond ni chydnabuwyd y dref yn ffurfiol fel bwrdeistref tan 1284 pan dderbyniodd ei siarter gyntaf. Dechreuwyd adeiladu mur y dref yn ystod y 1240au pan ailadeiladodd Coron Lloegr y castell ar raddfa fawr, er efallai fod rhyw fath o system amddiffynnol yn bodoli eisoes. Mae’r patrwm strydoedd canoloesol wedi goroesi’n gyflawn fwy neu lai, ond erbyn hyn nid oes unrhyw olion sy’n sefyll o fur y dref. Effaith y muriau, a’r siarter, fu cynyddu’r boblogaeth o 128 o diroedd bwrdais yn 1724 i 172 yn 1308. Ymgorfforwyd y fwrdeistref ar ddechrau’r 16eg ganrif pan gafodd faer a chorfforaeth, a rhoddwyd rhagor o freintiau iddi. Fodd bynnag, roedd y dref wedi bod yn crebachu ar ddiwedd y cyfnod canoloesol; dim ond 55 o dai a gofnodir yn yr 16eg ganrif, ac fe’i disgrifiwyd fel ‘adfeiliedig ac mewn cyflwr dirywiedig’ yn 1610. O 1536 ymlaen, Aberteifi oedd y dref sirol, ac mae’n bosibl bod hynny wedi hybu twf y dref – mae map Speed hefyd yn dangos maestrefi helaeth y tu allan i’r mur i’r gogledd, ac yn arbennig i’r dwyrain o fur y dref. Cynhaliwyd Brawdlysoedd y Sir yn y dref o 1536, adeiladwyd neuadd sirol yn 1764, a Charchar Sirol a adeiladwyd gan John Nash, yn 1793, i’r gogledd o’r dref. Datblygodd Aberteifi i fod yn brif borthladd y rhanbarth, a chanolfan adeiladu llongau. Datblygodd yn gyflym yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Erbyn hyn ei phrif swyddogaeth economaidd yw fel entrepôt ar gyfer y gymuned amaethyddol ranbarthol, a chanolfan weinyddol.

Gweinyddid arglwyddiaeth Cilgerran o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Fe’i hadenillwyd gan y Cymry yn 1164 ac arhosodd o dan reolaeth Gymreig, ar wahân i gyfnod byr rhwng 1204 a 1214, tan 1223, pan gafodd ei chipio gan William Marshall, Iarll Penfro. Parhaodd i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘Brodoraeth’. Datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau Castell Cilgerran, a oedd yn ddigon mawr i gael ei alw’n ‘dref’ yn 1204. Ystyrid ei fod yn fwrdeistref, ond dim ond trwy hirfeddiant, am na wyddom am unrhyw siarter. Mae ei chynllun rheolaidd, sy’n cynnwys lleiniau o dir bwrdais wedi’u gosod ar y naill ochr a’r llall i brif stryd hir, a marchnadfa lydan, ac ail stryd ar ongl sgwâr, yn awgrymu iddi gael ei chynllunio. Cofnodwyd dau ar hugain o drethdalwyr yn 1292. Tua 1610 fe’i rhestrwyd ymhlith prif drefi marchnad sir Benfro gan Speed. Adlewyrchir demograffeg gwbl Gymreig, fwy neu lai, yr arglwyddiaeth yn enwau Cymraeg y trethdalwyr. Roedd gan y dref ei charchar, a’i chyffion ei hun. Ymddengys iddi gadw ei chysylltiadau â’r tir bob amser, a phrif fywoliaeth pobl y dref yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol oedd ffermio, pysgota am eogiaid a chloddio llechi. Fodd bynnag, daeth y farchnad wythnosol a gofnodwyd gan George Owen tua 1600 i ben ar ddechrau’r 1900au, roedd y ffair wedi dod i ben flynyddoedd lawer cyn hynny, tra daeth y gweithgarwch cloddio i ben yn 1938.

Roedd Llandudoch yn un o faenorau Barwniaeth Cemaes. Safle tþ mynachaidd yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol ydoedd, a oedd wedi’i ailsefydlu fel Abaty Benedictaidd gan Robert FitzMartin yn 1113-20, ac sy’n dal i ffurfio elfen ddiffiniol tirwedd y dref. Roedd anheddiad wedi datblygu y tu allan i’r abaty erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, a ddelid yn uniongyrchol gan y farwniaeth a oedd yn awyddus o bosibl i fanteisio ar y potensial economaidd a ddarperid gan bresenoldeb yr abaty. Ar ben hynny cofnodir i arglwyddi Cemaes sefydlu marchnad yma. Disgrifiwyd yr anheddiad fel un o ‘dair tref gorfforedig’ Cemaes yn 1603 (ynghyd â Threfdraeth a Nyfer), ond mewn gwirionedd ymddengys na fu’n fwrdeistref erioed. Mae’n bosibl iddo aros yn gymharol fach trwy’r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, roedd yn ddigon mawr i gael ei wasanaethu gan eglwys blwyf wedi’i chysegru i Sant Tomos (nid oedd eglwys yr abaty yn eglwys blwyf), a safai gyferbyn â’r abaty, ond sydd wedi diflannu bellach. Gwasanaethid yr abaty, a’r anheddiad efallai, gan felin yn union i’r dwyrain o’r abaty, ac roedd gan y mynachod hawliau i bysgodfa helaeth ar aber afon Teifi. Roedd yr anheddiad wedi tyfu’n weddol fawr erbyn 1838, pan ddengys y map degwm anheddiad cnewyllol bach o tua 100 adeilad, wedi’u canoli ar yr abaty. Sefydlwyd eglwys blwyf newydd ar ei safle presennol, ar ddechrau’r 18fed ganrif. Fe’i hailadeiladwyd yn 1847, ac adeiladwyd y ficerdy a’r cerbyty ar ôl hynny yn 1866. Erbyn hyn mae Llandudoch yn gyrchfan gwyliau poblogaidd.

Mae’r tair tref yn dra gwahanol i’w cefnwlad. Ataliai systemau tirddaliadaeth Cymreig yn Emlyn Uwch-Cych, Cilgerran a Cheredigion faenorau ffurfiol rhag cael eu sefydlu, a phrin oedd y treflannau, ac arweiniodd hynny at batrwm anheddu gwasgaredig. Patrwm ydyw sydd i’w weld o hyd ac sy’n dal i gael ei arfer, i ryw raddau.

Ceir rhai aneddiadau cnewyllol o fewn arglwyddiaethau Aberteifi a Chemaes a oedd wedi’u rhannol ffiwdaleiddio. Roedd treflan wedi’i sefydlu yn Llandygwydd, o fewn Arglwyddiaeth Aberteifi, erbyn diwedd y 13eg ganrif. Fe’i sefydlwyd yn ffurfiol fel Maenor Llandygwydd, o dan nawdd Esgobion Tyddewi yn ôl pob tebyg a oedd wedi dod i feddiant plwyf Llandygwydd, ac a sefydlodd ffair yn y faenor. Fodd bynnag, erbyn hyn pentref llinellol bach ydyw sy’n cynnwys adeiladau ôl-ganoloesol ac nid oes fawr ddim arwydd o unrhyw anheddiad cnewyllol. Datblygodd treflan o amgylch y man croesi dros afon Teifi yn Llechryd, a orweddai o fewn Arglwyddiaeth Aberteifi hefyd. Ymddengys iddi ddatblygu’n anheddiad cnewyllol yn gynnar, sy’n anarferol yn y rhanbarth hwn. Mae’n bosibl i’r datblygiad hwn gael ei hyrwyddo gan y goron, neu gan Esgobion Tyddewi a gymerodd feddiant o blwyf Llangoedmor, y gorweddai Llechryd y tu mewn iddo, o ddiwedd y 13eg ganrif ymlaen. Adeiladwyd capeliaeth i Langoedmor, wedi’i chysegru i’r Groes Sanctaidd, i wasanaethu’r gymuned hon a oedd yn datblygu. Daeth yn eglwys blwyf yn ei rhinwedd ei hun ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Ymddengys bod trydydd anheddiad canoloesol wedi’i leoli yng Ngwbert, hefyd o fewn Arglwyddiaeth Aberteifi, lle y datguddiwyd pyllau yn cynnwys esgidiau canoloesol mewn darn o glogwyn a oedd yn erydu. Diflannodd yr anheddiad ar ôl hynny yn raddol o dan y tywod ac fe’i gadawyd yn gynnar. Ceir tystiolaeth amgylchiadol y gall fod wedi cynnwys eglwys. Yng Nghemaes datblygodd rhai aneddiadau cnewyllol ar ffurf pentrefannau o fewn isarglwyddiaeth Eglwyswrw, lle’r oedd y systemau tirddaliadaeth - er eu bod yn parhau yn rhai Cymreig - wedi’u ffiwdaleiddio. Efallai fod maenor Eingl-Normanaidd ‘a fethodd’ i’w chael yn Llantwyd.

Y tu allan i’r ardaloedd hyn, mae’r holl aneddiadau cnewyllol yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol. Er i lawer ohonynt ddatblygu o amgylch nodweddion cynharach ee. yr eglwysi yng Nghenarth, Llangeler a Henllan, nid oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn llawer hþn na’r 18fed ganrif, ac mae llawer ohonynt yn fwy diweddar byth. Yn ogystal â’r canolbwyntiau a fodolai eisoes, datblygodd aneddiadau o amgylch capeli anghydffurfiol yn dyddio o’r 18fed ganrif (ee. Saron, sir Gaer. a Phonthirwaun, Cer.) a ffyrdd tyrpeg (ee. Rhos, sir Gaer.). Ond diwydiant a roddodd yr hwb mwyaf o bell ffordd i aneddiadau cnewyllol ôl-ganoloesol. Arweiniodd diwydiant gwlân Dyffryn Teifi, a fu ar ei anterth yn ystod y 19eg ganrif, at ddatblygu pentrefi sylweddol yn Nhre-fach Felindre (yr oedd ganddo ei eglwys Anglicanaidd a’i gapeli ei hun), Pentrecagal a Phentrecwrt (sir Gaer.), a Henllan (Cer.). Denodd gefail yn Abercych ar y ffin rhwng sir Gaerfyrddin a sir Benfro aneddiadau a ddatblygodd yn bentref gweddol fawr, unwaith eto gyda’i eglwys Anglicanaidd a’i gapeli ei hun. Mae’r mwyafrif o’r pentrefi hyn yn dal i dyfu. Mewn cyferbyniad, ymddengys nad esgorodd diwydiant llechi Dyffryn Teifi a oedd wedi’i ganoli yng Nghilgerran ar unrhyw anheddiad cnewyllol newydd o bwys.

 

MEYSYDD AGORED A’R BROSES O’U HAMGÁU

Câi bron yr holl dir amaeth maenoraidd ei ffermio mewn cyfundrefnau maes agored (a elwid hefyd yn gaeau wedi’u hisrannu neu’n gaeau comin). O dan y system hon delid tir yn gymunedol, ac ar wahân i gaeau bach a phadogau ynghlwm wrth ffermydd, roedd caeau yn brin. Roedd y tir wedi’i rannu’n lleiniau neu’n gyfrannau o fewn meysydd agored mawr. Gorweddai tir heb ei amaethu a thir diffaith y tu hwnt i’r meysydd agored. Yn draddodiadol, ni châi lleiniau o fewn y meysydd agored eu neilltuo i un ffermwr, ond caent eu cylchdroi yn flynyddol. Fodd bynnag, erbyn yr 16eg- garnrif a’r 17eg-ganrif rhoddwyd yr hawliau i ffermio rhai lleiniau o fewn y meysydd agored i ffermwyr unigol. Drwy fargeinio a chyfnewid lleiniau gellid crynhoi nifer o leiniau cyffiniol. Wedyn proses syml oedd codi gwrych o amgylch y lleiniau a grynhowyd. Trwy’r broses hon trawsnewidiwyd y meysydd agored a ddelid yn gymunedol yn systemau caeau a ddelid yn breifat, systemau caeau sy’n dal i fodoli.

Fodd bynnag, arweiniodd systemau tirddaliadaeth Cymreig yn Emlyn a Cheredigion at batrwm anheddu anfaenoraidd, gwasgaredig, a oedd yn seiliedig i raddau helaeth ar hwsmonaeth yn rhannau ucheldirol Emlyn. Nid oes fawr ddim tystiolaeth o ffermio tir âr y tu allan i Gemaes, nac o fewn yr arglwyddiaethau Eingl-Normanaidd nac yn yr ardaloedd a ddelid gan y Cymry, er iddo gael ei gofnodi yn Emlyn ar ddechrau’r 19eg ganrif ac er y cymerir yn ganiatáol y byddai gorlifdir ffrwythlon afon Teifi wedi’i ffermio fel tir âr.

At ei gilydd nodweddir y patrwm caeau o fewn Emlyn a Cheredigion gan gaeau mawr, eithaf rheolaidd eu siâp yr ymddengys eu bod yn gaeau newydd a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif - dechrau’r 19eg ganrif. Yn wir, ymddengys bod y rhanbarth - yn arbennig ucheldiroedd Emlyn - yn cynnwys tir agored yn bennaf cyn i’r patrwm presennol gael ei osod arni. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif fod rhannau o’r ardaloedd hyn yn dal i gynnwys tir agored, lle y ceir lleiniau y nodir eu bod yn eiddo i wahanol berchenogion. Sefydlwyd y lleiniau hyn yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg, ac yn ddiau nid y lleiniau maes agored ffurfiol o dir âr sy’n nodweddiadol o systemau tirddaliadaeth Eingl-Normanaidd mohonynt. Yn lle hynny, ymddengys bod y lleiniau yn cynrychioli hawliau pori a roddwyd i ffermydd cyfagos ac ymddengys bod o leiaf ran o’r ardal hon yn cynnwys tir pori agored a oedd yn eiddo i nifer o berchenogion, ac a oedd yn y broses o gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn i’r mapiau degwm gael eu llunio tua.1840 mae’r mwyafrif o’r lleiniau hyn wedi diflannu ac mae’r patrwm caeau a welir heddiw yn ei le. Fodd bynnag, mae’n bosibl i’r system hon o ‘gyfrandiroedd’ a gysylltir â ffermydd - a ddelid yn breifat, yn y ffordd Gymreig draddodiadol - gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol. Cyfyngir ar ein gwybodaeth gan y diffyg dogfennau cyfoes yn yr ardal hon.

Mae rhywfaint o dystiolaeth o economi gymysg yn seiliedig ar gadw anifeiliaid a ffermio tir âr, unwaith eto o dan systemau tirddaliadaeth Cymreig, yn Marwniaeth Cemaes. O fewn yr ardal o amgylch Penrhyn Cemaes, mae’r patrwm presennol o gaeau afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig yn awgrymu i’r ardal gael ei hamgáu ar ddechrau cyfnod ôl-ganoloesol, os nad ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol. Dangosir rhandiroedd wedi’u hisrannu o fewn rhai o’r caeau hyn ar y mapiau degwm, tra dangosir rhandir o leiniau byr, cul yn agosach at yr arfordir. Gallant fod yn lleini, creiriau cyfundrefn ffermio tir âr o dan systemau tirddaliadaeth Cymreig ac fe’u cysylltir â system o badogau bach, afreolaidd eu siâp. Cynhwyswyd isarglwyddiaeth Eglwyswrw yn asesiad manwl 1594 sydd wedi goroesi fel ‘Extent of Cemaes’. O ganlyniad i systemau tirddaliadaeth Cymreig datblygodd nifer o ddaliadau tir bach. Roedd pob un o’r rhain yn gysylltiedig â thþ bonedd o wahanol statws, yr oedd llawer ohonynt yn bodoli erbyn 1594. Ceir rhywfaint o dir comin yn yr ardal drwyddi draw, ond mae’n gysylltiedig â hawliau pentrefi, megis yn Eglwyswrw, yn hytrach na’i fod yn dir comin creiriol. Mae’n amlwg bod yr ardal gyfan wedi’i hanheddu, ac mae’n debyg ei bod wedi’i hamgáu â’r system bresennol o gaeau rheolaidd eu siâp, erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Ymddengys bod hanes tirwedd rhan o Arglwyddiaeth Cilgerran - a oedd yn ‘Frodoraeth’ - yn debyg.

Mae systemau tirddaliadaeth maenoraidd Eingl-Normanaidd i’w gweld yn Arglwyddiaeth Aberteifi, cyn-gwmwd Is-Hirwern, lle y mae ystad Coed Mawr yn cynrychioli’r hyn sy’n weddill o’r tir demên a oedd ynghlwm wrth Gastell Aberteifi. Fel arfer, câi tir demên ei weithio gan denantiaid caeth am 2 neu 3 diwrnod yr wythnos yn gyfnewid am hawliau dros leiniau o dir. Fodd bynnag, gallai gynnwys coedwigoedd, tir diffaith neu goetir hefyd, fel yng Nghoedwig Arberth a oedd yn rhan o’r ddemên ynghlwm wrth Gastell Penfro. Mae Bwrdeistref Eingl-Normanaidd Aberteifi yn cynnwys tua 800 hectar o fewn ffiniau ei libart. Dichon fod yr enw Warren Hill, yn mhen dwyreiniol yr ardal, yn dynodi lleoliad cwningar y bwrdeisiaid. Efallai fod lleiniau i’r gogledd o’r dref yn dynodi meysydd agored creiriol, ond mae’r rhain wedi diflannu bellach. Dengys y map boced fach o dir comin gerllaw hefyd.

 

EGLWYSI A CHAPELI


Mae’r eglwysi canoloesol mwy o faint– ee. Aberteifi a Chilgerran - yn elfennau tra amlwg a thra diffiniol yn y dirwedd. Fodd bynnag, mae nifer o’r eglwysi yn fach ac yn anghysbell ac yr un mor wasgaredig â’r anheddiad. Fel y nodwyd uchod, prin yw’r eglwysi a ddatblygodd yn ganolbwynt i anheddu.. Felly yn aml nid ydynt yn nodweddion trawiadol yn y dirwedd (er bod y tðr yn y Ferwig - sydd wedi diflannu bellach – yn dirnod enwog yn ystod yr 16eg ganrif).

Dechreuodd y dirwedd eglwysig ddatblygu yn gynnar. Dengys dyffryn llydan afon Teifi, yr aber a’r cyrion arfordirol yn arbennig dystiolaeth o fynwentydd a safleoedd yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Saif Abaty Llandudoch ar safle mynachlog gynharach, ‘Llandudoch’, y mae ei chwe Heneb Gristnogol Gynnar yn awgrymu presenoldeb eglwysig parhaus o’r 6ed ganrif ymlaen, tra roedd y fynachlog yn ddigon cyfoethog i’r Llychlynwyr ymosod arni yn 988. Adeiladwyd yr abaty diweddarach drosti ond mae’n bosibl bod ei chlostir wedi rhannol oroesi fel ôl cnwd. Nodwyd rhai claddedigaethau mewn ‘cistiau’ wedi’u leinio â cherrig yn mryngaer Caerau Gaer gerllaw sy’n dyddio o’r Oes Haearn, ac awgrymwyd mai’r fynwent yw safle gwreiddiol mynachlog Llandudoch. Awgrymir bodolaeth eglwys yng Nghenarth mewn rhodd yn dyddio o’r 6ed ganrif. Ymddengys bod Llangeler yn sefyll ar safle pwysig a gynhwysai nifer o eglwysi ar ddechrau’r cyfnod canoloesol, ac mae’n bosibl i eglwysi Cilgerran a Henllan, a Chapel Mair ym mhlwyf Llangeler, gael eu sefydlu yn gynnar hefyd. Mae mynwent gynnar bosibl nas datblygwyd yn Llain Ddineu (Penboyr) yn fwy amheus - nid yw’n cyd-fynd yn iawn â phatrymau anheddu cyfoes ac mae’n bosibl ei bod yn dyddio o’r Oes Efydd.

Ailsefydlwyd mynachlog Llandudoch fel Abaty Tironaidd Llandudoch. Dechreuwyd ei adeiladu tua 1113, ac roedd wedi datblygu’n eglwys fawr erbyn canol y 13eg ganrif, pan safai yng nghanol rhes helaeth o adeiladau cwfeiniol o waith cerrig wedi’u lleoli mewn caeadle a oedd yn 4 hectar o faint o leiaf. Mae’r cyfadail hwn yn dal i fod yn un o elfennau diffiniol y dirwedd heddiw. Roedd yr unig dþ mynachaidd arall yn y rhanbarth a sefydlwyd ar ôl y goresgyniad Normanaidd yn Aberteifi, lle y gwasanaethai’r priordy Benedictaidd fel eglwys y plwyf hefyd. Sefydliad bychan iawn ydoedd a chanddo eglwys, er ei fod yn llawer llai mawreddog na Llandudoch, ac mae ganddo gangell ‘Addurnedig’ o safon sy’n dyddio o’r 14eg.

Sefydlwyd y system o blwyfi yn y cyfnod ar ôl 1115, ar ôl i Bernard gael ei benodi fel Esgob Eingl-Normanaidd cyntaf Tyddewi. Fodd bynnag, mae’n bosibl iddi gael ei ffurfioli o fewn Ceredigion ac Emlyn ar ôl hynny. Serth hynny roedd y broses wedi’i chwblhau erbyn 1291 pan oedd y mwyafrif o’r plwyfi a geir heddiw - gyda rhai newidiadau bach ar ôl hynny - wedi’u creu.

Ar wahân i’r eglwysi mynachaidd, a’r eglwys fwrdeistref yng Nghilgerran, mae’r eglwysi yn fach ac yn syml ac nid ydynt ond yn cynnwys corff yr eglwys a changell. Ymddengys iddynt gael eu hadeiladu’n wael, am i bob un o’r eglwysi canoloesol, ar wahân i eglwysi Aberteifi a Maenordeifi, gael eu hailadeiladu i bob pwrpas yn y 19eg ganrif. Yng Nghilgerran cadwyd tðr canoloesol yr eglwys, ond ailadeiladwyd y gweddill yn y 19eg ganrif (ddwywaith, am fod yr ymdrech gyntaf mor wael). Cadwyd y tðr yn y Ferwig hefyd - a arferai fod yn dirnod enwog , ond fe’i dymchwelwyd yn y diwedd yn 1968. Ailadeiladwyd eglwys Llandygwydd ac eglwys Llantwyd mewn gwahanol leoliadau o fewn eu gwahanol fynwentydd. Fodd bynnag, mae Maenordeifi yn dal i fod yn eglwys anadferedig i raddau helaeth ac mae ganddi set lawn o addurniadau heb eu newid yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif.

Anaml y mae eglwysi yn ganolbwynt i aneddiadau neu aneddiadau cnewyllol, ac anaml y mae cysylltiad agos rhyngddynt a chestyll Eingl-Normanaidd hefyd. Nid yw hyn o reidrwydd yn awgrymu iddynt gael eu sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd – roedd llawer o’r cestyll hyn yn adeileddau byrhoedlog yn perthyn i ddechrau’r 12fed ganrif, tra ei bod yn amlwg i lawer o eglwysi’r rhanbarth gael eu sefydlu gan arglwyddi Cymreig yn ystod y 12fed ganrif ac ar ddechrau’r 13eg ganrif. Yn yr un modd mae’n bosibl i rai o’r cestyll cloddwaith gael eu hadeiladu gan y Cymry, ac yn wir lle y mae eglwysi a chestyll yn cydfodoli mae’n bosibl i’r ddau gael eu sefydlu gan y Cymry yn y cyfnod ar ôl 1100 (ee. Penboyr?). Mae’r cysylltiad agos rhwng eglwys plwyf Llantwyd a’i chastell yn awgrymu, yma ym Marwniaeth Eingl-Normanaidd Cemaes, iddynt gael eu sefydlu gan y Normaniaid. Er bod eglwys plwyf Llandygwydd o bosibl yn dyddio o’r un cyfnod â’r mwnt gerllaw, mae’n debycach iddi gael ei hadeiladu pan y’i rhoddwyd i Esgobaeth Tyddewi ar ddiwedd y 13eg ganrif, am ei bod wedi’i lleoli 0.5 cilomedr i’r gogledd-ddwyrain o’r mwnt (yr ymddengys iddo gael ei adael yn wag yn gynnar). Fodd bynnag, mae’r pellter rhwng bwrdeistref Cilgerran a’i heglwys yn awgrymu i’r olaf gael ei sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd.

Arweiniodd yr aneddiadau gwasgaredig sy’n nodweddu’r rhanbarth at sefydlu nifer fawr o gapeliaethau, yr oedd y mwyafrif ohonynt yn gapeli anwes ffurfiol i’w plwyfi, yn hytrach na chapeli defodol (neu faes). Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r mwyafrif ohonynt yn y cyfnod ôl-ganoloesol, ac nid oes fawr ddim olion wedi goroesi. Fodd bynnag, ailsefydlwyd olion Capel Llechryd - a ddaeth yn eglwys blwyf yn ddiweddarach -, a Chapel Mair, capel maenor i Hendy-gwyn ar Daf, ger Llangeler, ar yr un safle o bosibl, yn y 19eg ganrif. Mae’r Garreg Decabarbalom yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol, a ddarganfuwyd gerllaw, yn awgrymu i’r capel hwn gael ei sefydlu yn gynnar. Mae capeli ffurfiol eraill nad ydynt yn bodoli bellach yn cynnwys y capel pont i’r de o dref Aberteifi a sefydlwyd gan yr Archesgob Baldwin yn ystod ei ymweliad yn 1188, Capel Cilfowyr (plwyf Maenordeifi), hen eglwys y plwyf yn Llandudoch gyferbyn â’r abaty, a’r hen eglwys yn Nhre-fach Felindre, a sefydlwyd o bosibl ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Ymddengys bod Capel Degwel a Chapel Carannog ym mhlwyf Llandudoch yn gapeli pererindota ar y llwybr i Nyfer.

Gwnaed rhywfaint o waith ad-drefnu plwyfi yn ystod y 19eg ganrif. Crëwyd plwyf Castellnewydd Emlyn o blwyf Cenarth, mewn ymateb i boblogaeth gynyddol y dref, a wasanaethid gan eglwys newydd (heb fod ymhell y tu hwnt i’r ardal gofrestr). Adeiladwyd eglwys blwyf newydd o haearn mewn lleoliad llai ymylol o fewn plwyf Maenordeifi. Adeiladwyd eglwysi Anglicanaidd newydd yng nghanolfannau poblogaeth cynyddol Dre-fach Felindre (a ddisodlodd yr eglwys gynharach), ac yn Abercych, yr adeiladwyd yr olaf ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Mae capeli anghydffurfiol yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif i’w gweld ym mhobman. Codwyd llawer ohonynt yn Aberteifi, Llandudoch a Chilgerran, ac yn yr ardaloedd hynny yn Nyffryn Teifi lle y cynhyrchid brethyn. Addaswyd capel cynnar yn Nhre-fach Felindre, sef Capel Pen-rhiw, o ysgubor yn 1777; symudwyd y capel, sy’n enghraifft glasurol o’r math ‘cynnar’ o bensaernïaeth capel, i Amgueddfa Werin Cymru ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Sefydlwyd capeli eraill i ffwrdd o ganolfannau poblogaeth, ond daethant yn ganolbwynt i weithgarwch anheddu ee. Saron (sir Gaer.) a Phonthirwaun (Cer.).


MAENOR FORION
Mae’r ddwy ardal Gofrestr yn cynnwys cyn-dir mynachaidd, a gynrychiolir gan Faenor Forion. Sefydlwyd y faenor yn ystod ail hanner y 12fed ganrif, pan roddwyd y tir i Abaty Sistersaidd Hendy-gwyn ar Daf gan feibion yr arglwydd Cymreig lleol Maredudd Cilrhedyn. Cynhwysai tua 1800 o hectarau rhwng afon Teifi a’r tir uchel i’r gogledd o Gwmduad. Ymddengys bod craidd y faenor yn Court Farm, lle y lleolid granar hefyd, ac a oedd yn ôl pob tebyg yn encilfa haf i’r abad. Lleolid dwy felin, melin þd a melin bannu (y gellir dilyn rhan o’r ffrwd) ar afon Siedi yn Geulan Felen, sy’n dangos bod yr abaty yn arloeswr cynnar yn y diwydiant brethyn a fyddai mor flaenllaw yn ddiweddarach mewn rhannau eraill o’r Ardal Gofrestr hon.

Mae’n debyg bod capel y faenor, sef Capel Mair, ar yr un safle ag adeilad presennol Eglwys y Santes Fair, sy’n gapel anwes i blwyf Llangeler. Mae’r Garreg Decabarbalom sy’n dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol, a ddarganfuwyd gerllaw’r capel, yn awgrymu i’r capel gael ei sefydlu’n gynnar. Mae’n gysylltiedig â mwnt, sef Pencastell, y mae’n bosibl ei fod yn graidd maenor gynharach.

Fodd bynnag, ychydig a wyddom am y defnydd a wneid o’r tir o fewn y faenor. Maenor Forion oedd un o’r nifer fach iawn o faenorau Cymreig na fu’n destun Achos gan y Trysorlys (Ecwiti) ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd, y daw llawer o’n gwybodaeth am y modd y rheolid maenorau ohonynt. Adeg Diddymu’r Mynachlogydd delid llawer o ystadau Hendy-gwyn ar Daf o dan wahanol brydlesau, systemau tirddaliadaeth, rhenti a rhwymedigaethau yn perthyn i gyfraith Cymru. Yn gyffredinol, talai eiddo’r abaty yn sir Gaerfyrddin renti ar ffurf arian, a chyfraniadau o gaws, capylltiaid a cheirch, tra cyfrannai’r eiddo a oedd ganddo yng Ngheredigion wlân, defaid ac ðyn. Fodd bynnag, mae ymhell o fod yn glir a yw’r trefniadau hyn yn parhau trefniadau hirsefydlog yn tarddu o gyfnod cynharach. Serch hynny mae’r ffaith bod amrywiaeth o renti wedi goroesi, a delid mewn arian, mewn nwyddau a thrwy wasanaeth, yn awgrymu eu bod yn cyfateb i rwymedigaethau bilaen cynharach, ac awgrymwyd felly y gweithiai Hendy-gwyn ar Daf ei faenorau yn ôl arferion brodorol o’r cychwyn cyntaf, a bod y defnydd a wneid o’r tir a phatrymau anheddu yn debyg fwy neu lai i’r hyn a geid y tu allan i’r faenor.

Daeth y faenor yn dir y goron pan ddiddymwyd y Mynachlogydd yn 1536. Fe’i gwerthwyd yn ystod teyrnasiad Siarl I i John Lewis o Lysnewydd a Thomas Price o Rydypennau ac wedyn trosglwyddwyd cyfran Thomas Price o’r faenor i D L Jones o’r Derlwyn. Ar wahân i ddarnau bach o’r eiddo a werthwyd, arhosodd y rhan fwyaf o’r gyn-faenor yn nwylo’r teuluoedd hyn tan 1900 o leiaf, gan ffurfio craidd dwy ystad fawr.



CESTYLL CANOLOESOL

Mae’r ardaloedd Cofrestr yn cynnwys un o’r crynoadau dwysaf o gestyll canoloesol yng Nghymru, yn ogystal â 13 o safleoedd posibl. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn fwntiau cloddwaith ac yn amddiffynfeydd cylch bach nad oes ganddynt unrhyw hanes cofnodedig, a phrin yw elfennau diffiniol y dirwedd, ac yn debyg i’r eglwysi plwyf, ychydig ohonynt a ddenodd unrhyw aneddiadau cnewyllol.

Ceir crynhoad o gestyll yng Nghantref Emlyn, yn arbennig o fewn yr hanner dwyreiniol, Emlyn Uwch-Cych, a arhosodd yn nwylo’r Cymry tan 1283, ar wahân, efallai, i gyfnod byr pan fu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd ar ddechrau’r 12fed ganrif. Ceir sefyllfa debyg yng Ngheredigion i’r gogledd o afon Teifi. Mae’n dra thebyg i’r cestyll hyn gael eu sefydlu yn y cyfnod 1100-1136 pan fu’r Eingl-Normaniaid yn gosod eu hawdurdod ar y rhanbarth trwy sefydlu cestyll yng nghanol canolfannau gweinyddu Cymreig a fodolai eisoes, neu yn ystod gweddill y 12fed ganrif gan arglwyddi Cymreig brodorol. Ychydig ohonynt a gysylltir â threflannau cyfoes, ond gallai hynny olygu naill ai eu bod yn strwythurau Eingl-Normanaidd byrhoedlog, neu eu bod yn rhan o’r patrwm Cymreig o aneddiadau gwasgaredig ac felly na fyddent wedi gweithredu fel canolbwynt i weithgarwch anheddu. Mae’n bosibl bod rhai o’r eglwysi a’r cestyll y mae cysylltiad agos rhyngddynt yn adeiladweithiau cwbl Gymreig, megis yng Nghenarth, ac efallai ym Mhenboyr lle y gallai’r eglwys a’r castell fod yn strwythurau newydd a adeiladwyd gan y Cymry yn y 12fed ganrif.

Fodd bynnag, mae’n debyg bod yr eglwys/castell yn Llantwyd ym marwniaeth seisnigedig Cemaes yn cynrychioli maenor Eingl-Normanaidd ‘a fethodd’. Gorchfygwyd Cemaes, fel Arglwyddiaeth Cilgerran, yn gynnar ac er na fu rheolaeth yr Eingl-Normaniaid yn ddi-dor o bell ffordd, mae’r ddwy arglwyddiaeth yn cynnwys crynhoad llai o gestyll.

Ar wahân i gastell Llantwyd, a all gynnwys rhywfaint o waith cerrig, mae’r unig gestyll eraill o waith maen yn Aberteifi a Chilgerran (ac yng Nghastellnewydd Emlyn ychydig y tu allan i’r ardaloedd Cofrestr). Yn wahanol i gestyll cloddwaith, maent yn dal i fod yn elfennau diffiniol o’r dirwedd, a’u hadfeilion yw elfennau amlycaf yr ardaloedd o’u hamgylch.

Mae castell Aberteifi, er ei fod wedi’i ddifrodi’n wael, yn edrych dros flaen y traeth, y bont a’r dref, ac mae’n ffurfio echel cynllun strydoedd y dref. Roedd castell wedi’i sefydlu yn gyntaf yn ystod cyrch Eingl-Normanaidd yn 1093, ond roedd yn fyrhoedlog. Y farn gyffredin yw bod y cloddwaith yn Old Castle Farm yn dynodi safle’r castell, ond yn yr un modd gallai fod wedi sefyll ar safle’r castell presennol a atgyfnerthwyd yn bendant tua 1110 o dan yr ieirll Eingl-Normanaidd de Clare. Daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Aberteifi, o tua 1201 fel arglwyddiaeth frenhinol, a’r castell oedd y ganolfan weinyddol ar gyfer sir Aberteifi a sefydlwyd yn 1284. Fodd bynnag, daeth rôl weinyddol y castell i ben pan basiwyd Deddf Uno 1536. Fe’i hesgeuluswyd ac erbyn 1610 roedd yn dechrau adfeilio, ond gwelodd frwydro yn 1644-5 yn ystod y Rhyfel Cartref pan y’i difrodwyd ac y’i cymerwyd gan luoedd y Senedd. Daeth i feddiant John Bowen erbyn 1810 a dechreuodd ei addasu’n blasty, gan godi tþ a thirlunio’r tu mewn. Roedd pobl yn byw ynddo tan ddiwedd yr 20fed ganrif. Disgwylir i waith i atgyfnerthu’r adfeilion ddechrau yn fuan.

Sefydlwyd Castell Cilgerran tua 1100 fel caput arglwyddiaeth Cilgerran. Mae’n bosibl na saif y castell ar safle canolfan y cwmwd cyn y goresgyniad Normanaidd, am yr ymddengys na chafodd enw’r arglwyddiaeth, sef Cilgerran, tan ganol y 12fed ganrif, a chyfeiriwyd ato fel Cenarth Bychan pan ymosodwyd arno gan y Cymry mewn cyrch beiddgar yn 1109. Adenillwyd yr arglwyddiaeth gan y Cymry yn 1164 ac arhosodd o dan reolaeth y Cymry, ar wahân i gyfnod byr rhwng 1204 a 1214, tan 1223 pan y’i cipiwyd gan William Marshal, Iarll Penfro. Dechreuwyd ailadeiladu’r castell o gerrig yn 1223, ac roedd wedi’i gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd y 13eg ganrif. Ei ddau dðr ‘baril’ yw elfennau amlycaf y dirwedd o hyd. Pan ddiddymwyd yr arglwyddiaeth yn 1536 gadawyd y castell yn wag a dechreuodd ddirywio. Ni welodd unrhyw frwydro yn ystod y Rhyfel Cartref a gadawyd iddo adfeilio, er ei fod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i arlunwyr Rhamantaidd megis Richard Wilson, a J M W Turner a wnaeth sawl astudiaeth o’r castell.

 

YSTADAU ÔL-GANOLOESOL

Ystadau fu’r prif ddylanwad ar economi wledig rhan isaf Dyffryn Teifi o ddechrau’r 17eg hyd ddechrau’r 20fed ganrif, ond yn arbennig pan fuont ar eu hanterth ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. O’r ystadau hyn yr un fwyaf oedd Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a gynhwysai pan oedd ar ei hanterth ymron i’r holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentrecwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin. Roedd gan ystadau eraill ddaliadau tir helaeth, megis Castell Maelgwyn, Llangoedmor a Noyadd, ac roedd tir ynghlwm wrth rai o’r tai bonedd mwy o faint - sef Gellidywyll, Pentre, Stradmore, Llwyndyrys a Pharc y Pratt. Mae effaith yr ystadau hyn ar y dirwedd yn gynnil ac eto’n amlwg. Mae tai mawr a’r gerddi a’r parciau a gynlluniwyd o’u hamgylch yn un o ganlyniadau amlwg y modd y ffurfiai ac y defnyddiai perchenogion tir y dirwedd at eu mwynhad eu hunain. Dengys adeiladau sydd o safon uwch nag arfer bresenoldeb ystad gryf hefyd. Mae Gelligatti, tþ a fferm enghreifftiol a adeiladwyd ar gyfer asiant ystad Gelli Aur yn enghraifft amlwg o hyn, a hefyd y nifer o adeiladau bach, ond sydd o safon serch hynny, yn dyddio o’r 19eg ganrif yng Nghenarth, pentref a oedd bron yn gyfan gwbl o dan reolaeth y teulu Vaughan. Nid yw ffermdai ac adeiladau fferm llai o faint at ei gilydd yn dynodi rheolaeth ystad. O ddadansoddi’r adeiladau hyn, fodd bynnag, datgelir bod y rhai o fewn ardal yr ystad yn tueddu i fod yn yr arddull Sioraidd (er iddynt gael eu hadeiladu yn aml tua diwedd y 19eg ganrif), tra bod gan adeiladau y tu allan i’r ardal hon nodweddion mwy brodorol. Yn fwy cynnil byth yw’r rheolaeth a oedd gan yr ystadau dros gynllun y caeau a systemau caeau. Mewn ardaloedd eraill yn ne-orllewin Cymru a reolid gan ystadau megis dyffryn Tywi a de-orllewin sir Benfro dilëwyd systemau meysydd agored canoloesol ac fe’u disodlwyd gan gaeau mawr, rheolaidd eu siâp yn ystod yr 16eg neu’r 17eg ganrif. Mae hyn yn cyferbynnu ag ardaloedd lle’r oedd gan ystadau lai o reolaeth. Yn yr ardaloedd hyn parhaodd meysydd agored hyd yn oed i mewn i’r 19eg ganrif, a phan y’u hamgaewyd yn y diwedd crëwyd patrwm o lain-gaeau. Yn Rhan Isaf Dyffryn Teifi, ac i raddau llai yn nhirwedd Dre-fach a Felindre, nid oes fawr ddim tystiolaeth dopograffig na hanesyddol o systemau meysydd agored, a dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif dirwedd sy’n debyg iawn i’r un a welir heddiw. Mae hyn i gyd yn awgrymu’n gryf i ystadau rhan isaf Dyffryn Teifi chwarae rhan allweddol yn y broses o drefnu’r meysydd i greu’r systemau a welir heddiw, ar ddechrau’r cyfnod modern.

 

COETIR

Mae coetir collddail lled-naturiol yn un o elfennau dyffryn afon Teifi a’i hisafonydd, a cheir pocedi ohono rhwng Eglwyswrw a Llandudoch. I bob pwrpas ni cheir unrhyw goetir yn y rhan orllewinol, arfordirol o Ran Isaf Dyffryn Teifi. O fewn Dyffryn Teifi ei hun fe’i cyfyngir yn bennaf i lethrau serth yr isafonydd lle y mae’n lled-naturiol o leiaf a lle y bu’n ddarostyngedig i gyfundrefn reoli anffurfiol. Mae’n amlwg ei fod yn elfen bwysig yn yr economi ond ni chofnodir y defnydd a wneid ohono fel arfer. Fe’i hestynnwyd gan blanhigfeydd o goed a blannwyd gan ystadau yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, tra bod rhywfaint o goetir wedi aildyfu dros hen gaeau a ffermydd.

Fodd bynnag, mae un ystad i’r gogledd o afon Teifi, sef Coedmore – sy’n dal i fod yn goediog - yn cynrychioli rhan o’r ddemên ffurfiol a oedd ynghlwm wrth Gastell Aberteifi. Y ddemên oedd y rhan honno o’r faenor lle’r oedd y tir yn eiddo i’r arglwydd ei hun, sy’n golygu ei fod yn ddarostyngedig i gyfundrefn faenoraidd Eingl-Normanaidd. Fel arfer, câi tir demên ei weithio gan denantiaid caeth am 2 neu 3 diwrnod yr wythnos yn gyfnewid am leiniau o dir. Fodd bynnag, gallai gynnwys coedwigoedd, tir diffaith neu goetir hefyd, fel yng Nghoedwig Arberth a oedd yn rhan o’r ddemên ynghlwm wrth Gastell Penfro. Mae’r enw Coed Mawr (= Coedmore) yn awgrymu bod yr ardal hon hefyd yn un goediog erioed ac y câi ei defnyddio ar gyfer ei gwerth economaidd. Parhaodd Castell Aberteifi i fod yn eiddo i’r goron. Fodd bynnag, ymddengys i Goed Mawr gael ei is-osod yn gynnar, a chofnodwyd bod Iarll Roger o’r Waun yn dal y faenor ar ddiwedd y 13eg ganrif. Daeth yn ystad a pharc bonedd yn ddiweddarach.

Roedd Coedwig Cilgerran yn rhan fawr o Arglwyddiaeth Cilgerran yn y cyfnod canoloesol. Cyfeirir ati mewn adroddiadau yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a’r 16eg ganrif fel un o goedwigoedd mawr sir Benfro, ynghyd â Choedwigoedd Arberth, Coedrath a Canaston. Roedd y coedwigoedd hyn yn rhai maenoraidd, ffurfiol a arferai gyfraith y goedwig. Mae rhan helaeth o’r ardal yn dal i fod yn goediog, er bod y rhan hon o’r gyn-arglwyddiaeth wedi’i lleoli y tu allan i’r ardaloedd Cofrestr.

Mae planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o ail hanner yr 20fed ganrif yn un o nodweddion y tir uchel i’r de o Ddyffryn Teifi. Plannwyd rhan helaeth o’r planhigfeydd hyn dros rostir agored a chaeau a adawyd, gan gynnwys rhai caeau a amgaewyd yn y 19eg ganrif trwy Ddeddf Seneddol. Yn aml mae’n elfen amlwg yn y dirwedd.

MASNACH A DIWYDIANT MOROL

Bu lleoliad Aberteifi ar lan y môr yn bwysig i’w datblygiad ers y cyfnod canoloesol, ac am ei bod yn bosibl ei chyflenwi o’r môr gwrthsafodd gyrchoedd gan y Cymry am y rhan fwyaf o’r 12fed ganrif. Mae’n bosibl iddo ddirywio yn ystod yr 16eg ganrif, ond yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif roedd gan Borthladd Aberteifi awdurdod dros Dreftadaeth, Abergwaun, Aberaeron, Aberporth a Cheinewydd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac roedd ganddi lynges gyfunedig, yn 1833, o 291 o longau cofrestredig. Roedd adeiladu llongau hefyd yn fywoliaeth bwysig, ond roedd wedi dechrau dirywio erbyn tua 1800. Cymerai’r dref ran mewn cryn dipyn o fasnach ar hyd yr arfordir, yn ogystal â rhywfaint o fasnach dramor, gan allforio ceirch, menyn, rhisgl derw, ac – yn arbennig o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen – llechi a gloddiwyd yn lleol. Dirywiodd y fasnach hon ar ddechrau’r 20fed ganrif er bod diwydiant pysgota penwaig ar hyd yr arfordir, a physgodfa eogiaid ar afon Teifi – gan gynnwys pysgota mewn cyryglau – wedi parhau i mewn i ganol yr 20fed ganrif. Yn ddiau mae twf cyflym Llandudoch i’w briodoli i raddau helaeth i’r fasnach brysur ar hyd afon Teifi, wrth i Borthladd Aberteifi dyfu a’r gweithgarwch cysylltiedig ymledu i Landudoch.

Mae rhai cyfeiriadau cynnar ar bysgota â sân yn Llandudoch. Mae ffynhonnell ganoloesol yn cyfeirio at bysgodfa eogiaid yn gysylltiedig â’r abaty, ac mae cofnod diweddarach hefyd o gðyn a wnaed yn ystod teyrnasiad Elisabeth I yn ymwneud â physgota â rhwydi a elwid yn “sayney”. Tra byddai pobl yn pysgota â sân ar hyd glannau’r aber, datblygodd Llandudoch hefyd yn un o nifer o bysgodfeydd penwaig pwysig ar hyd arfordir Bae Ceredigion. Erbyn hyn dim ond dan drwydded y gellir pysgota â sân a hynny gan un tîm o bysgotwyr, ac mae dyfodol y traddodiad hynafol hwn dan fygythiad.

Mae hanes hir i bysgota ar afon Teifi islaw Cilgerran. Roedd y ceunant islaw’r castell yn enwog fel lle pysgota, yn arbennig am eogiaid. Erbyn 1270, roedd gan gored eogiaid Arglwydd Cilgerran islaw’r castell chwe byddagl, a gwnaed cwynion eu bod yn rhwystro traffig ar yr afon a oedd yn cario cerrig i lawr yr afon ar gyfer gwaith adeiladu’r brenin yng Nghastell Aberteifi. Gorchmynnwyd symud y byddaglau, ond fe’u hailadeiladwyd yn 1314 gan Arglwydd Cilgerran, yn y fath fodd fel na tharfent ar draffig yr afon. Disgrifiwyd y chwe byddagl gan George Owen yn 1603 fel ‘cored fwyaf Cymru gyfan’. Parhaodd y bysgodfa i gael ei weithio gan fwrdeisiaid Cilgerran trwy’r cyfnod ôl-ganoloesol, a lleolid yr adeilad lle y câi’r pysgod eu pwyso - sef Tþ’r gored, yn union o dan y castell. Arferid pysgota mewn cyryglau yn y ceunant hefyd tan yn ddiweddar.

Roedd cored bysgod fawr hefyd yn un o nodweddion Cenarth yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ôl hynny. Roedd wedi’i lleoli i fanteisio ar faglau a phyllau naturiol Rhaeadrau Cenarth. Mae gennym ddisgrifiad llygad-dyst pwysig ac unigryw o’r bysgodfa yn ystod y 1180au, pan y’i disgrifiwyd gan Gerallt Gymro fel ‘safle pysgota (eogiaid) ffyniannus. Mae dyfroedd afon Teifi yn llifo’n ddi-baid dros (y rhaeadrau), gan ddisgyn â thwrw enfawr i’r dibyn islaw. O’r dyfnderau hyn y mae’r eogiaid yn esgyn i’r..graig uwchlaw… .’. Cyfrannai pysgota am eogiaid at economi’r anheddiad bach tan yn gymharol ddiweddar. Yn draddodiadol arferid pysgota am eogiaid mewn cyryglau - erbyn hyn atyniad i ymwelwyr ydyw.

 

Y DIWYDIANT GWLÂN YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG A’R UGEINFED GANRIF

Golygai tir pori helaeth ar gyfer defaid, cyflenwad digonol o ddðr meddal a nifer fawr o nentydd yn llifo yn gyflym i yrru peiriannau fod hanes hir i weithgarwch gweithgynhyrchu brethyn yn y De-orllewin. Hyd ddiwedd y 18fed ganrif câi brethyn ei weithgynhyrchu’n lleol, ac nid oedd unrhyw ganolfannau cynhyrchu amlwg. Tua diwedd y ganrif, arweiniodd y defnydd cynyddol a wnaed o beiriannau a yrrid gan ddðr at rywfaint o ganoli yn y diwydiant. Yn ardal Dre-fach Felindre sefydlwyd melinau pannu yn Mhentrecwrt, Dolwynon, Dre-fach a Chwmpengraig. Dyma pryd y dechreuodd y diwydiant gwlân yng ngogledd sir Gaerfyrddin. Sefydlwyd ffatrïoedd cardio yng Nghwmpencraig a Dolwyon erbyn 1820. Hyd at 1850 cyfeiriai’r term ffatri at adeilad lle y câi peiriannau cardio neu nyddu eu gyrru gan ddðr. Câi’r gwlân ei wehyddu ar wþdd llaw, fel arfer mewn tai neu weithdai ynghlwm wrth adeiladau domestig. O ganlyniad i ddefnydd helaethach o rym dðr, a mathau eraill o bðer yn ddiweddarach, ynghyd â chyflwyno’r gwþdd peiriannol tyfodd y diwydiant yn gyflym. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd dros 23 o ffatrïoedd yn gweithio yn ardal Dre-fach Felindre, ac roedd ffatrïoedd eraill wedi’u lleoli mewn mannau eraill yn nyffryn Teifi megis yn Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Aberteifi a Llandudoch. Cynhyrchwyd brethyn gan ffatrïoedd gwledig a ffatrïoedd heb fod yn wledig. Roedd y ffatrïoedd gwledig mewn lleoliadau anghysbell a chaent eu rhedeg gan deuluoedd. Roedd y ffatrïoedd nad oeddent yn rhai gwledig yn fwy cyffredin yn nhirwedd Dre-fach Felindre. Cyflogent 50-100 o bobl ac roeddynt wedi’u lleoli at ei gilydd mewn neu gerllaw pentrefi ac fel arfer gerllaw rheilffordd neu gysylltiadau ffordd da. Roedd y diwydiant yn ei anterth o 1880 hyd 1910, ond erbyn y 1920au roedd yn dirywio, er i rai melinau barhau i gynhyrchu ymhell i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif.

 

CLODDIO CERRIG/LLECHI

Defnyddir y term llechi neu gerrig rhan isaf Dyffryn Teifi yma yn hytrach na’r term llechi Cilgerran a ddefnyddir yn amlach. Mae hyn am y câi llawer o chwareli bach i gyflenwi marchnadoedd lleol eu gweithio mewn llawer o wahanol leoliadau yn nyffryn Teifi yn ogystal â’r mentrau mawr a leolid yn y ceunant islaw Cilgerran. Cynhyrchid llechi toi, ond nid oedd o ansawdd da, a’r prif gynhyrchion oedd ‘llechfeini’ a cherrig adeiladu cyffredinol. Mae i weithgarwch cloddio cerrig a llechi hanes hir yn rhan isaf dyffryn Teifi fel y dangosir gan adeiladau canoloesol mawr megis Castell Aberteifi a Chastell Cilgerran. Fodd bynnag, fel arfer nid oedd graddfa fach y diwydiant ond yn ddigon i gyflenwi’r farchnad leol. Nid tan ganol y 19eg ganrif pan gyflwynwyd mwy o fecaneiddio, grym ager a gwell cysylltiadau trafnidiaeth y cynyddodd cynhyrchiant chwareli ceunant Cilgerran. Roedd dwy brif ganolfan gloddio: chwareli islaw’r dref ei hun a Fforest, ychydig o gilomedrau i lawr y nant. Dechreuodd cynhyrchiant leihau yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif, a chaeoedd y chwarel olaf yng Nghilgerran yn 1938.

Mae treftadaeth gweithgarwch cloddio cerrig a llechi yn rhan isaf dyffryn Teifi i’w gweld nid yn olion ffisegol y diwydiant ei hun, sy’n brin ac sydd ynghudd yn aml ar lethrau tra choediog, ond yn adeiladau'r rhanbarth. Roedd llechi rhan isaf Dyffryn Teifi i’w cael ym mhobman nes iddynt gael eu disodli gan frics ac wedyn gan ddeunyddiau eraill. Trafodir y defnydd a wneid o ddeunyddiau adeiladu yn fanylach isod.

 

DIWYDIANNAU ERAILL

Rhwng 1764 a 1770 sefydlwyd gwaith tunplat a haearn helaeth yng Nghastell Maelgwyn, ar lannau afon Teifi ym Mhenygored. Cyflenwai camlas (neu ffrwd) y gwaith â dðr, daethpwyd â deunyddiau ar gyfer y gwaith i fyny’r afon fordwyadwy ac roedd digon o goetir ar lethrau’r dyffryn ar gyfer tanwydd. Roedd Cwmni Penygored yn llwyddiannus ac aeth trwy nifer o ddwylo nes cael ei brynu yn 1792 gan Syr Benjamin Hammet, a brynodd ystad Castell Maelgwyn hefyd. Bu ar waith tan 1806. Mae safle’r gwaith wedi diflannu bellach. Ymddengys nad adeiladwyd unrhyw dai gweithwyr yn benodol i ddarparu ar gyfer ei weithlu, a fu’n byw yn ôl pob tebyg ym mhentref cyfagos Llechryd.

 

ANEDDIADAU TRESMASU YN DYDDIO O’R DDEUNAWFED GANRIF A’R BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG

Fel pob rhan o Gymru, ac yn wir y rhan fwyaf o orllewin Prydain, tyfodd aneddiadau gwledig ar adeg pan oedd y boblogaeth yn cynyddu’n gyflym ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif at ei gilydd lle y cyfarfyddai tir amaeth â thir comin. Ymddengys nad oedd fawr ddim sail gyfreithiol i’r aneddiadau sgwatwyr hyn, neu dai unnos, ond yn y tirweddau a ddisgrifir yma ymddengys i berchenogion tir a thenantiaid eraill ganiatáu iddynt gael eu sefydlu. Mae eu treftadaeth yn dra amlwg - sef daliadau amaethyddol a bythynnod bach wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp yn ffinio â rhostir agored neu dir uchel agored. Yn nhirweddau hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi a Dre-fach a Felindre mae morffoleg a chymeriad y tyddynnod sy’n ffinio â’r unig lain sylweddol o rostir uchel, agored, sef Rhos Llanger, Rhos Penboyr a Rhos Cilrhedyn, yn nodi iddynt gael eu sefydlu fel tresmasiadau anghyfreithlon ar dir comin. Mae mapiau degwm dyddiedig tua 1840 a map o’r tir comin dyddiedig 1866 a luniwyd ar gyfer y Dyfarniad Cau Tir yn cadarnhau’r dystiolaeth ffisegol sydd wedi goroesi. Roedd tiroedd comin llai o faint ar y tir isel yn agored i’r un broses. Mae tresmasu gan glystyrau llac o fythynnod gweithwyr ar dir comin, megis yn Waungilwen a Chwmhiraeth yng nghanol y 19eg ganrif, yn anghyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond efallai ei fod yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd diwydiannol yn ne-ddwyrain a gogledd-orllewin y wlad.

 

AMGÁU TIR TRWY DDEDDF SENEDDOL

Erbyn diwedd y 18fed ganrif os nad ynghynt cynhwysai’r rhan fwyaf o dirweddau hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi a Dref-fach Felindre dir amaethyddol. Felly nid oedd fawr ddim tir comin agored a fynnai Ddeddf Seneddol er mwyn ei amgáu. Roedd Rhos Llanger, Rhos Penboyr a Rhos Cilrhedyn, esgair uchel o rostir yng ngwahaniad dyfroedd afon Tywi ac afon Teifi yn sir Gaerfyrddin, yn eithriad nodedig. Ym 1866 rhoddwyd dyfarniad cau tir i amgáu’r llain fawr hon o rostir uchel, gan ei thrawsnewid yn dirwedd o gaeau mawr, afreolaidd eu siâp, lle y sefydlwyd ffermydd yn fuan ar ôl hynny. Ychydig ynghynt, yn 1855, roedd Deddf Seneddol wedi amgáu pocedi bach o dir comin ger Dref-fach a Felindre. Mae’n debyg mai’r pocedi hyn o dir comin oedd olion olaf tir comin iseldirol a arferai fod yn helaeth, a’r broses ffurfiol o’u hamgáu oedd y cam olaf mewn proses dresmasu dameidiog ac anghyfreithlon a oedd wedi para nifer o ganrifoedd.

 

FFINIAU CAEAU

Yn debyg i weddill de-orllewin Cymru mae’r prif fath o ffin cae yn cynnwys clawdd pridd neu glawdd o bridd a cherrig ac arno wrych. Mae’r gwrychoedd hyn yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae cymeriad y gwrychoedd yn amrywio rhwng ffermydd ac oddi mewn iddynt hyd yn oed; mae rhai mewn cyflwr da gydag ambell lwyn mawr neu goeden, mae gan rai goed nodedig, mae eraill wedi dirywio yn rhesi aflêr o lwyni a choed tra bod eraill yn cynnwys rhedyn ac eithin ar gloddiau enfawr. Y meini prawf hollbwysig wrth bennu cymeriad y gwrych yw pa mor uchel a pha mor agored ydyw. At ei gilydd po fwyaf cysgodol yw’r lleoliad mwyaf toreithiog yw’r gwrych. Mae’n amlwg bod gweithgarwch rheoli ran i’w chwarae hefyd a cheir gwrychoedd mewn cyflwr gwael sydd wedi dirywio’n rhesi o lwyni ar loriau dyffrynnoedd, ond ni all gwrychoedd mawr yn cynnwys llwyni cryf fyw ar y bryniau agored ar hyd yr arfordir i’r gorllewin. Yn wir dim ond yn yr ardaloedd hyn y ceir mathau eraill o ffiniau. Mae’r rhain yn cynnwys cloddiau caregog yn bennaf ac arnynt wrychoedd isel o eithin a rhedyn, ond ceir ambell wal sych, sydd fel arfer wedi dymchwel erbyn hyn.

 

ADEILADAU


Adeiladau gwledig
Yn debyg i’r rhan fwyaf o’r De-orllewin mae’r rhan fwyaf o’r stoc adeiladau a godwyd cyn yr 20fed ganrif yn dyddio o’r 19eg ganrif. Prin iawn yw’r adeiladau domestig ac amaethyddol a adeiladwyd cyn y 19eg ganrif. Dengys gwaith dadansoddi adeiladau i bron pob un o’r adeiladau gwledig llai o faint gael eu disodli gan adeiladau newydd yn ystod cyfnod o weithgarwch ailadeiladu ar raddfa fawr o tua 1840 hyd tua 1900, a dim ond dyrnaid o adeiladau cynharach sydd wedi goroesi. Mae’r nifer fach o adeiladau sydd wedi goroesi yn ein galluogi i amgyffred traddodiad sydd bron wedi darfod o’r tir y mae’r dystiolaeth ohoni bron wedi diflannu hefyd. Ffermdai unllawr, bach ydynt, megis yn Rhyd, Llandygwydd (a ddefnyddir bellach fel adeilad allan), bythynnod, fel yng Nghwmcych, neu adeiladau allan. Mae pob un o’r rhain wedi’u hadeiladu o gerrig o ansawdd gwael neu bridd (clom) a chanddynt doeau gwellt. Roeddynt yn fach, yn syml ac yn fregus ac fe’u hysgubwyd o’r neilltu yn hawdd yn ystod ffyniant cynyddol y 19eg ganrif. Fe’u disodlwyd gan dai deulawr, bythynnod ac adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o gerrig, nad ydynt yn honni bod iddynt unrhyw werth pensaernïol mawr, er iddynt gael eu hadeiladu’n dda o gerrig llanw neu gerrig patrymog. Mae’r mwyafrif wedi’u codi yn ôl y traddodiad Sioraidd - sef adeiladau deulawr a chanddynt dair ffenestr ar draws, cynllun a drychiadau rheolaidd, a nenfydau a ffenestri cymharol uchel - er bod gan rai un neu ragor o nodweddion brodorol megis cynllun anghymesur, nenfydau isel, ffenestri bach a simneiau mawr. Mae bron pob un o’r adeiladau fferm a adeiladwyd cyn yr 20fed ganrif wedi’i adeiladu o gerrig, ac mae gan y mwyafrif o’r ffermydd un neu ddwy res wedi’u trefnu’n anffurfiol o amgylch ochrau iard. Gall ffermydd llai o faint gynnwys un rhes yn unig sydd ynghlwm wrth y ffermdy ac yn yr un llinell ag ef, ac mae gan ffermydd mwy o faint dair neu ragor o resi. Mae beudai, stablau, ysguboriau ac adeiladau storio eraill yn dangos bod economi ffermio gymysg ar waith yn ystod y 19eg ganrif. Darparwyd y mwyafrif llethol o’r tai a’r ffermydd hyn gan ystadau ac adeiladwyd eraill gan fân adeiladwyr a/neu fe’u hadeiladwyd gan y preswylwyr eu hunain. Mae’n amlwg y tu allan i ardal y prif ystadau, ym mhen gorllewinol pellaf dyffryn Teifi ac ar dir uwch i’r de o Dref-fach a Felindre, fod gan y tai nodweddion mwy brodorol na’r rhai o fewn yr ardal, sy’n dynodi bod adeiladau ystad wedi’u safoni rywfaint.

Bu traddodiad o adeiladu â cherrig o safon yn yr ardal hon ers dros 800 canrif fel y dangosir gan Gastell Aberteifi a Chastell Cilgerran, ond cyn canol y 19eg ganrif nid oedd wedi treiddio i lawr i’r tai, bythynnod a ffermydd llai o faint. Prin yw’r adeiladau domestig ac amaethyddol mwy o faint sy’n gynharach na chanol y 18fed ganrif sydd wedi goroesi, sy’n awgrymu nad oedd y stoc adeiladau o ansawdd arbennig o uchel a’i fod wedi gorfod cael ei adnewyddu. Mewn gwirionedd nid tan ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif y defnyddir gwaith maen o ansawdd da mewn adeiladau domestig ac wedyn ar dai mawr megis Castell Maelgwyn a Choedmor. Defnyddiwyd gwaith maen o ansawdd da ar ôl hynny mewn adeiladau llai o faint.

Prin yw’r adeiladau gwledig sy’n dyddio o hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ailddechreuodd gweithgarwch datblygu gwledig yn y 1960au ac mae wedi cyflymu ers y 1980. Adeiladwyd ambell dþ newydd mewn lleoliadau anghysbell, clystyrau o dai ar gyrion pentrefi sefydledig megis yn Llandygwydd a Chenarth, ac ailadeiladwyd ffermdai hþn. Nid yw’r ffenomenon olaf yn gyffredin ac eithrio yn y rhannau uwch o dirwedd hanesyddol Dref-fach a Felindre lle’r oedd stoc adeiladau’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg yn wael. Mae codi adeiladau fferm modern o goncrid, dur ac asbestos wedi cael effaith fwy dramatig ar y dirwedd.


Pentrefi a phentrefannau diwydiannol
Mae’r adeiladau ym mhentrefi a phentrefannau diwydiannol Dref-fach a Felindre, Abercych ac i raddau llai Gilgerran yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac mae crynhoad sylweddol yn dyddio o’r ddau ddegawd olaf. Mae teras o dai isel yn dyddio o’r 18fed ganrif yng nghanol Dref-fach yn dynodi’r math cynnar o stoc dai, ond yn debyg i dai gwledig disodlwyd y mwyafrif o’r math cynnar hwn o dai yn y 19eg ganrif. Tyfodd pob un o’r aneddiadau diwydiannol yn nhirwedd hanesyddol Dref-fach a Felindre yn gyflym rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae hyn i’w briodoli i dwf y diwydiant gwlân, a adlewyrchir yn y nifer fawr o ffatrïoedd wedi’u hadeiladau o gerrig a brics, y stoc dai gysylltiedig, capeli ac eglwysi ac adeiladau eraill a adeiladwyd bryd hynny. Mae patrwm anheddu pendant yn cynnwys melin, tþ perchennog y felin, tai gweithwyr a chapeli mewn clystyrau ar loriau dyffrynnoedd i’w weld megis yng Nghwmpengraig a Chwmhiraeth. Mae tai gweithwyr wedi’u grwpio mewn terasau byr neu unedau pâr a ddarparwyd naill ai gan berchenogion melinau neu hapfasnachwyr ar raddfa fach. Maent wedi codi yn yr arddull Sioraidd yn fras – sef cynllun a drychiad cymesur, nenfwd uchel a ffenestri mawr – sy’n adlewyrchu dyheadau gweithwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir cymysgu cymdeithasol o fewn cymunedau a saif tþ’r perchennog a/neu dþ’r rheolwr gerllaw tai’r gweithwyr neu wrth eu hochr. Fodd bynnag, nid yw’r un o dai’r perchenogion/rheolwyr yn arbennig o fawr, a saif rhai dafliad carreg o weddill y gymuned.

Mae adeiladau yn adlewyrchu ffawd y diwydiant gwlân yn ogystal â diwydiannau eraill. Ychydig iawn o dai newydd a adeiladwyd mewn aneddiadau cysylltiedig pan fu’r diwydiannau hyn yn dirywio yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif. Oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth hawdd a chyflym â chymunedau mwy o faint mae gweithgarwch datblygu wedi cynyddu, ac adeiladwyd tai unigol newydd ac ystadau bach ers y 1970au yn Nhref-fach a Felindre, Cilgerran, a Chwmcych.

Aneddiadau trefol ac anniwydiannol
Ceir yr amrywiaeth mwyaf o adeiladau domestig a masnachol yn y ddwy dirwedd hanesyddol yn Aberteifi. Mae cyfyngiadau o fewn y dref ganoloesol wedi creu cynllun lle y mae tai, siopau ac adeiladau masnachol eraill, sy’n dyddio ar y cyfan o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, wedi’u cywasgu i mewn i derasau. I ffwrdd o’r cyfyngiadau hyn mae tai a adeiladwyd yn ddiweddarach yn ystod y 19eg ganrif yn dal i sefyll mewn terasau, ond mewn cyferbyniad â’r adeiladau cynnar o gerrig mae brics wedi’u defnyddio yn amlach. Mae datblygiadau diweddarach yn fwy rhydd byth, ac mae filâu ar wahân, tai pâr ac ystadau yn gyffredin. Ceir patrymau tebyg, ond ar raddfa lai, yn Llandudoch a Chilgerran, a hyd yn oed ym mhentrefi bach Cenarth a Llechryd.

Deunyddiau adeiladu waliau
Mae deunydd adeiladu cyffredin - sef llechi dyffryn Teifi - yn cysylltu’r holl adeiladau a godwyd cyn 1870, gan gynnwys tai, bythynnod, adeiladau fferm, eglwysi, capeli, cestyll, melinau, ffatrïoedd a phontydd, yn nhirweddau hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi, a Dref-fach a Felindre. Defnyddir y term llechi dyffryn Teifi yn hytrach na’r term llechi Cilgerran a ddefnyddir yn amlach am y câi chwareli ‘llechi’ yn nyffryn Teifi y tu allan i’r ceunant yng Nghilgerran eu gweithio ar gyfer cerrig adeiladu. Sylweddolwyd gwerth y garreg adeiladu hon a oedd o ansawdd da yn gynnar fel y dangosir gan y defnydd a wnaed ohoni yn y 13eg ganrif- 14eg ganrif yng Nghastell Aberteifi a Chastell Cilgerran, ac yn ddiweddarach yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ar bontydd Aberteifi, Llechryd ac ar bontydd eraill dros afon Teifi.

Carreg amlddefnydd ydyw, o liw llwyd-brown fel arfer ond ceir arlliwiau arianlliw-llwyd yn yr haenau â’r graen mwyaf mân. Gellir ei hollti’n slabiau mawr, ei naddu â chþn, a’i llifio’n flociau nadd. Dangosir repertoire llawn llechi dyffryn Teifi orau mewn pensaernïaeth ddomestig. Mae cerrig heb fod yn batrymog neu gerrig bras yn gyffredin yn y tai cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, hyd yn oed mewn rhai anheddau sylweddol megis plasty Castell Maelgwyn, ac mae’n parhau i gael ei defnyddio yn y ffurf hon mewn tai gweithwyr a bythynnod symlach hyd at ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae conglfeini yn aml yn slabiau mawr ac iddynt ffurf nodedig, hyd yn oed mewn adeiladau a adeiladwyd o gerrig llanw, ac mae meini bwa ffenestri a drysau fel arfer naddu. Cyflwynwyd llechi a blociau wedi’u naddu â chþn a oedd wedi’u gosod mewn haenau rheolaidd a chonglfeini a meini bwa wedi’u naddu’n fwy cywrain mewn rhai adeiladau mwy godidog erbyn diwedd y 18fed ganrif, ac mae hyn i’w weld mewn nifer o dai Sioraidd yn Aberteifi, er enghraifft. Mae’r math hwn o adeiladwaith yn parhau trwy gydol y 19eg ganrif, a daethpwyd i’w ddefnyddio yn raddol mewn tai a oedd yn is ar yr ysgol gymdeithasol, megis rhai tai gweithwyr yn Nhref-fach a Felindre, ac yng Nghilgerran. Yng nghanol y 19eg ganrif cyflwynwyd cerrig wedi’u naddu’n gywrain a oedd wedi’u gosod mewn haenau rheolaidd, gan ddefnyddio llechi llwyd â graen mân o Ddyffryn Teifi o chwareli Cilgerran. Mae cerrig llifiedig sydd wedi’u gosod mewn haenau rheolaidd iawn i’w cael mewn adeiladau cost uchel o safon yn bennaf megis y bloc stablau a’r adeiladau gwasanaethu yng Nghastell Maelgwyn a thai’r perchenogion melin yn Nhref-fach a Felindre, ond fe’i defnyddir hefyd mewn tai symlach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw’r chwareli yng Nghilgerran.

Gwnaed defnydd anarferol a thra addurniadol o lechfeini arian-llwyd dyffryn Teifi sydd wedi’u gosod mewn haenau llorweddol cryf a wahenir gan flociau sgwâr o Ddolerit brown cynnes o’r Preseli sy’n creu effaith gylchog, mewn rhai tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yn Llandudoch. Mae’r math hwn o adeiladwaith yn anarferol, ond gellir ei weld mewn rhai warysau yn Aberteifi ac mewn tai yn Nhrefdraeth a Dinas yn sir Benfro, er nad yw’r defnydd a wnaed o gerrig o liwiau cyferbyniol mor amlwg yn yr enghreifftiau hyn ag ydyw yn y tai yn Llandudoch.

Y tu allan i brif ffynonellau llechi dyffryn Teifi ac i ffwrdd o gysylltiadau trafnidiaeth da, defnyddiwyd mathau eraill o gerrig o bryd i’w gilydd. Er enghraifft ar dir uwch yn nhirwedd hanesyddol Dref-fach a Felindre ac ym mhen gorllewinol pellaf tirwedd hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi defnyddiwyd cerrig a gloddiwyd yn lleol mewn ffermdai, bythynnod ac adeiladau fferm. Oherwydd ansawdd gwaeth y cerrig mae anheddau yn aml wedi’u rendro â sment.

Oherwydd gwell cysylltiadau trafnidiaeth a ganiatâi fewnforio gwahanol ddeunyddiau a gwaith brics Aberteifi a agorodd yn y 1870au daethpwyd i ddefnyddio llai a llai o gerrig, ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif rhoddwyd y gorau i’w defnyddio fel deunydd adeiladu. Ar wahân i leoliadau gerllaw’r gwaith brics yn Aberteifi, defnyddid brics yn gynnil i ddechrau, megis ar dai gweithwyr yn Nhref-fach a Felindre lle y mae cilbyst drysau a ffenestri o frics melyn a choch yn cydategu cerrig. Codwyd adeiladau o frics coch yn unig, yr oedd gan lawer ohonynt haenau addurniadol o deils a nodweddion pensaernïol eraill, yn Aberteifi yn ystod y 1870au, ac mewn mannau eraill yn fuan ar ôl hynny, ond heb yr afiaith gwreiddiol a welir yn y tai a’r siopau cyntaf. Daeth y ffyniant adeiladu a welwyd yn y cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, y mae nifer fawr o adeiladu wedi’u hadeiladu o gerrig yn tystio iddo, i ben tua diwedd y ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ac felly nid yw adeiladau o frics coch yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol. Dim ond yn Aberteifi yr adeiladwyd nifer sylweddol o adeiladau newydd yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Mae tai maestrefol - filâu â theils coch sydd wedi’u plastro, anheddau dosbarth canol pâr ac ystadau bach - yn cyfrannu at y dirwedd drefol. Mae ffyniant adeiladu newydd ar draws de-orllewin Cymru o’r 1960au ymlaen, ac yn arbennig o’r 1980au, wedi ychwanegu llawer o dai newydd a strwythurau eraill at y dirwedd, y tro hwn mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.

Mae llechi Rhan Isaf Dyffryn Teifi yn ddeunydd adeiladu o safon ac anaml y mae angen haen amddiffynnol o sment neu blastr ar dai a adeiladwyd ohonynt; mae adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o gerrig bob amser wedi’u gadael yn foel. Mae llawer o resymau pam mae gan rai o’r tai haen o blastr: defnyddiwyd cerrig o ansawdd gwaeth, defnyddiwyd brics at ddibenion addurniadol. Lle y defnyddiwyd cerrig o ansawdd gwaeth maent wedi’u plastro er mwyn eu hamddiffyn. Yn Llandudoch, fodd bynnag, mae traddodiad o dai o safon sydd wedi’u hadeiladu o gerrig moel yn awgrymu nad oedd angen plastr yn ôl pob tebyg er mwyn amddiffyn y cerrig, ac eto mae dros hanner yr adeiladau wedi’u rendro â sment. Mae gan yr adeiladau wedi’u plastro yma naws dra addurniadol, a repertoire eang - defnyddir gro chwipio o wahanol liwiau, addurniadau wedi’u gosod o amgylch drysau a ffenestri ac enwau tai ac mae hyn yn rhoi naws glan môr dalog i’r pentref. Ceir triniaethau wyneb tebyg ar dai yn Aberteifi a Chilgerran. Er bod gan rai o’r tai yn aneddiadau diwydiannol Dref-fach a Felindre addurniadau, ymddengys i blastr gael ei ddefnyddio yma yn bennaf at ddibenion amddiffyn.

Roedd cerrig yn cael eu defnyddio ym mhobman erbyn canol y 19eg ganrif, ac roeddynt wedi’u defnyddio ar gyfer adeiladau mawr cyn hynny. Fodd bynnag, mae rhai adeiladau prin sydd wedi goroesi yn amlygu traddodiad adeiladu cynharach. Mae un neu ddau o fythynnod a ffermdai bach, anghyfannedd wedi’u hadeiladu o glom (pridd) ar sylfeini cerrig, ac mae ganddynt doeau gwellt. Mae’n dra thebyg mai ffermdai, bythynnod ac adeiladau allan fferm wedi’u hadeiladu o glom oedd y mathau mwyaf cyffredin o adeiladau yn nhirweddau hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi a Dref-fach a Felindre cyn y gweithgarwch ailadeiladu â cherrig a gyflawnwyd ar raddfa fawr yn y cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif.

Deunyddiau toi
Mae llechi nadd o ogledd Cymru a gloddiwyd yn fasnachol wedi’u defnyddio ledled y rhanbarth. Mae cofnodion hanesyddol yn nodi y câi llechi rhan isaf Dyffryn Teifi eu defnyddio fel deunydd toi, ond mae’n ansicr a wneid defnydd helaeth ohonynt cyn canol y 19eg ganrif pan enillodd llechi o ogledd Cymru oruchafiaeth fel y prif ddeunydd toi. Dengys bythynnod a ffermdai sydd wedi goroesi fod gwellt yn ddeunydd toi cyffredin yn ôl pob tebyg, os nad yr unig ddeunydd toi, ar anheddau ac adeiladau fferm llai o faint, cyn canol a diwedd y 19eg ganrif. Llechi yw’r prif ddeunydd toi o hyd, ac mae teils concrid, teils seramig, dur ac asbestos yn dod yn fwyfwy cyffredin.

 

DATBLYGIADAU YN DYDDIO O’R UGEINFED GANRIF A DATBLYGIADAU DIWEDDARACH

Mae datblygiadau yn dyddio o’r ugeinfed ganrif a datblygiadau diweddarach yma yn debyg i ddatblygiadau a welir yng ngweddill de-orllewin Cymru am eu bod wedi’u cyfyngu at ei gilydd i dri neu bedwar degawd olaf y ganrif ac maent wedi’u canoli ar gyrion trefi, pentrefi a phentrefannau sy’n bodoli eisoes. Rhwng 1900 a’r 1960au cynhwysai tai newydd ystadau o dai cymdeithasol ar raddfa fach ac ystadau bach o dai preifat, megis y rhai ar gyrion gogleddol Aberteifi, a chyfleusterau diwydiannol ar raddfa fach. Wrth gwrs ceir eithriadau i hyn, megis y rhaglen barhaol o adeiladu ym melinau gwlân Dref-fach a Felindre; fodd bynnag, dylid ystyrid bod y gweithgarwch adeiladu hwn yn cynrychioli ffanffer olaf diwydiant sy’n perthyn i’r 19eg ganrif yn bennaf yn hytrach na datblygiadau newydd. Erbyn y 1960au roedd prosiectau tai ar raddfa fawr ar y gweill, ac mae mwy a mwy o ddatblygiadau tai newydd yn ymddangos. Nid oes unrhyw bentref na phentrefan nad yw’n cynnwys rhai tai modern, ac mewn rhai achosion mae’r tai modern mor niferus nes eu bod wedi dileu craidd hanesyddol y gymuned bron â bod. Ceir y crynoadau dwysaf o dai modern gerllaw trefi a phentrefi. Felly mae cylch o dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn amgylchynu Aberteifi, ac mae pentrefannau a phentrefi o fewn pedair i bum milltir i’r dref yn cynnwys llawer o elfennau modern. Ymhellach i ffwrdd o’r dref mae nifer y tai newydd yn dechrau lleihau, ond serch hynny maent bob amser yn bresennol.

 

CYFUNDREFNAU CYNLLUNIO A’R AMGYLCHEDD HANESYDDOL

Mae tirweddau hanesyddol Rhan Isaf Dyffryn Teifi a Dref-fach a Felindre yn ymestyn dros bedwar awdurdod cynllunio: sir Gaerfyrddin, Ceredigion, sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir sir Benfro. Mae polisïau cynllunio sir Gaerfyrddin, Ceredigion a sir Benfro wedi esgor ar dirweddau tebyg fwy neu lai, lle y mae tai newydd wedi’u canoli mewn aneddiadau sy’n bodoli eisoes neu ar eu cyrion, a lle nad oes fawr ddim datblygiadau newydd yng nghefn gwlad agored. Fodd bynnag, nid oes fawr ddim datblygiadau modern o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir sir Benfro. Oherwydd hyn ceir tirwedd fodern ar ochr ogleddol aber afon Teifi sy’n dra gwahanol i’r un a geir ar yr ochr ddeheuol yn y Parc Cenedlaethol. Gwelwyd tai/cabanau gwyliau a adeiladwyd gan unigolion preifat yn syth cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn syth ar ei ôl a chyfleusterau ymwelwyr syml eraill yn datblygu ar ddwy lan yr aber. Fodd bynnag ar yr ochr ddeheuol ataliwyd y gwaith datblygu hwn a’r unig ddatblygiadau modern yw maes parcio a gorsaf bad achub. I’r gogledd mae cyfleusterau yn gysylltiedig ag ymwelwyr wedi ehangu, - parc carafanau, parc/iard hwylio a chlwb golff - ac adeiladawyd tai modern, wedi’u sbarduno gan y galw o du tref Aberteifi ychydig o filltiroedd i ffwrdd. Mewn rhai lleoliadau megis yn y Ferwig mae tai newydd wedi boddi craidd hanesyddol y pentref, ac mewn lleoedd eraill mae dwysedd y tai wedi arwain at greu cymunedau newydd.

 

TWRISTIAETH A’R DIWYDIANT HAMDDEN

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a thraeth tywod Poppit ym mhen gorllewinol pellaf dyffryn Teifi yn derbyn y nifer fwyaf o ymwelwyr, ac mae nifer yr ymwelwyr yn gostwng wrth i chi deithio i’r dwyrain i fyny’r dyffryn. Nid oes unrhyw gyrchfan ymwelwyr o bwys yn Rhan Isaf Dyffryn Teifi na Dref-fach a Felindre fel y rhai a geir yn ne sir Benfro ac o ganlyniad bu effaith y diwydiant twristiaeth a hamdden ar y dirwedd hanesyddol yn gymharol ddibwys. Mae Abaty Llandudoch, Tref Aberteifi, Castell Cilgerran a cheunant a gwarchodfa natur Cilgerran, Rhaeadrau Cenarth, Castellnewydd Emlyn ac amgueddfa melin gwlân Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn Nhref-fach Felindre yn denu ymwelwyr, ond mae’r lleoliadau hyn yn elfennau yn y dirwedd hanesyddol yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae eu helfennau twristaidd cysylltiedig - sef meysydd parcio, toiledafu, siopau - ar raddfa fach iawn. Gall pobl sy’n ymweld â hwy deithio gryn bellter bob dydd neu gallant fod yn dwristiaid sy’n aros mewn cartrefi gwyliau, adeiladau fferm a addaswyd neu lety gwely a brecwast - y math o gyfleuster nad yw’n cael fawr ddim effaith ar y dirwedd. Ceir rhywfaint o lety gwyliau ar raddfa fwy megis parc cabanau gwyliau a charafanau y tu allan i Genarth, ond mae’r mwyafrif o’r cyfleusterau twristaidd wedi’u lleoli i lawr yr afon o Aberteifi tua’r arfordir. Er hynny, ar wahân i feysydd parcio bach, tai a gwestai yng Ngwbert a pharc carafanau a pharc/iard hwylio ar lan yr afon, nid yw’r diwydiant twristiaeth yn cael fawr ddim effaith ar y dirwedd hanesyddol.