![](../../shim.gif) |
LLANDYGWYDD
![LLANDYGWYDD](images/llandygwydd1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN233435
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1052
Cefndir Hanesyddol
Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal
gymeriad hon yng Ngheredigion, yng nghantref canoloesol Iscoed, wedi’i
rhannu rhwng cymydau Uwch-Hirwern ac Is-Hirwern, a oedd wedi’u gwahanu
gan ddyffryn serth Afon Hirwaun sy’n ymestyn o’r gogledd i’r
de. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth
Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare.
Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r
nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n
bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry
ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed
ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd
gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag,
ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan
y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi.
Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr
rhwng 1215 – 1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf
Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd
yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth
Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’.
Mae’n bosibl bod castell mwnt a beili, a sefydlwyd ger Llwyndyrys,
yn edrych dros gwr gogleddol gorlifdir Afon Teifi, wedi datblygu’n
ganolbwynt i dreflan fach. Yn ddiau roedd treflan wedi’i sefydlu
erbyn diwedd y 13eg ganrif, ac fe’i sefydlwyd yn ffurfiol fel Maenor
Llandygwydd, o dan nawdd Esgobion Tyddewi yn ôl pob tebyg a oedd
wedi dod i feddu ar blwyf Llandygwydd, ac a sefydlodd ffair yn y faenor.
Efallai i eglwys plwyf Llandygwydd (a ailadeiladwyd yn
y 19eg ganrif yn union i’r dwyrain o’i rhagflaenydd) gael
ei sefydlu yr un pryd â’r mwnt, ond mae’n fwy tebygol
ei bod yn dyddio o’r cyfnod pan roddwyd plwyf Llandygwydd i Esgobaeth
Tyddewi am ei bod wedi’i lleoli 0.5km i’r gogledd-ddwyrain
o’r mwnt. Ymddengys i’r mwnt gael ei adael yn wag yn gynnar
ac fe’i disodlwyd gan y maenordy (neu’r tþ bonedd) yn
dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a ddynodir yn ôl pob tebyg
gan y cloddwaith sgwâr i’r gorllewin. Mae’n debyg mai
hwn yw’r Llwyndyrys y cyfeiriwyd ato ym 1507, pan oedd yn eiddo
i’r Esgobion, a oedd wedi’i brydlesu i Gruffudd Willam Madog.
Fel arall, parhaodd yr ardal at ei gilydd i fod yn ddarostyngedig i batrymau
tirddaliadaeth Cymreig – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd
marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig
o fewn y rhanbarth.
Ni ddatblygodd unrhyw anheddiad cnewyllol canoloesol.
Mae pob rhan o anheddiad presennol Llandygwydd, er ei fod wedi’i
ganoli ar yr eglwys ac, yn ôl pob tebyg, safle’r dreflan ganoloesol,
yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, ac fe’i nodweddir
gan res wasgarog o fythynnod yn arwain i fyny dyffryn bach o’r eglwys.
Mae’r clwstwr llac ym Mhonthirwaun hefyd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod
ôl-ganoloesol ac, yn debyg i Gapel Tygwydd ychydig y tu hwnt i’r
ardal gymeriad hon a sefydlwyd ym 1840. Efallai i chwarel gerllaw hybu
ei dwf. Mae aneddiadau wedi parhau i ddatblygu, a chafwyd datblygiadau
mewnlenwi yn yr 20fed ganrif. Nodweddir yr ardal gyfan gan ffermydd gwasgaredig
y mae’r mwyafrif ohonynt yn perthyn i’r cyfnod pan sefydlwyd
y dirwedd bresennol o gaeau mawr, rheolaidd eu siâp, er efallai
i rai gael eu sefydlu yn gynharach. Ymddengys fod y dirwedd yn dyddio
o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac roedd wedi cymryd ei ffurf bresennol
erbyn diwedd y 18fed ganrif pan y’i dangosir ar fapiau ystad fel
y mae heddiw. Datblygodd rhai o’r ffermydd yn dai bonedd eithaf
sylweddol, gan fanteisio ar yr olygfa ardderchog tua’r de, a datblygodd
yr ardal olwg ‘fonheddig’ Mae’r tai hyn yn cynnwys Plasty
Stradmore sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, a gofnodwyd ym 1610
ond a adleolwyd ar ôl hynny, Blaenpant, a gofnodwyd ym 1621, a Phenylan.
Sefydlwyd Manor Eifed cyn 1766. Adeiladwyd y ffordd sy’n rhedeg
ar hyd cwr deheuol yr ardal heddiw – sef yr A484 – o’r
newydd ar ddiwedd y 18fed ganrif fel ffordd dyrpeg.
![LLANDYGWYDD](images/llandygwydd2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Llandygwydd yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
fawr sy’n ymestyn dros 9km o’r dwyrain i’r gorllewin
ar lethr dyffryn Afon Teifi sy’n wynebu’r de. O’r gorlifdir
ar uchder o tua 10m uwchlaw lefel y môr mae’r tir yn codi’n
serth iawn i dros 80m ac yna’n lefelu’n dir mwy tonnog sy’n
parhau i godi i dros 100m. Rhennir yr ardal gan isafonydd yn llifo i’r
de mewn dyffrynnoedd llethrog. Gorchuddir y llethrau serth â phlanhigfeydd
o goetir collddail lled-naturiol a choed coniffer, sy’n rhoi golwg
goediog i ran helaeth o’r dirwedd, yn arbennig y rhan honno yn nyffryn
Teifi. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth yn bennaf a cheir
rhywfaint o dir âr. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu
siâp gan wrychoedd ar gloddiau. At ei gilydd mae’r gwrychoedd
hyn mewn cyflwr eithaf da ond i’r gorllewin, ac ar ddarnau o dir
uwch, fel arfer maent wedi tyfu’n wyllt, ac mewn rhai achosion nid
ydynt yn ddim mwy na rhesi aflêr o lwyni. Nodweddir y patrwm anheddu
gan ffermydd a thai gwasgaredig a cheir clystyrau ym Mhonthirwaun a Llandygwydd.
Mae ymron yr holl stoc adeiladau cyn-fodern yn yr ardal hon yn perthyn
i’r 19eg ganrif, a llechi dyffryn Teifi (yn foel ac wedi’u
rendro â sment), a llechi o ogledd Cymru yw’r prif ddeunyddiau
adeiladu. Mae’r mathau o dai yn cynrychioli ystod economaidd-gymdeithasol
fawr. Mae Penylan yn dy ffurfiol rhestredig mawr a chanddo ardd â
wal o’i hamgylch, cerbyty a stablau. Mae’r ty hwn a Maenor
Elfed, ty bonedd rhestredig yn yr arddull Sioraidd yn dyddio o ddechrau’r
19eg ganrif, a Phlasty Stradmore a fferm y plas, ym mhen uchaf y raddfa.
Mae’r mwyafrif o’r ffermdai yn fwy syml ac maent yn cynnwys
ffasâd deulawr â thair ffenestr sydd â chynllun cymesur,
math o strwythur sy’n deillio o’r arddull Sioraidd, er bod
y mwyafrif yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, yn hytrach na’r
traddodiad brodorol. Mae adeiladau fferm cyfoes yn fwy sylweddol nag mewn
ardaloedd cyfagos, sy’n adlewyrchu yn ôl pob tebyg maint y
daliad tir yn y 19eg ganrif, ac yn aml mae ganddynt ddwy neu dair rhes
o adeiladau, sydd fel arfer yn cynnwys ysgubor, beudy, stablau ac ati.
Ceir ambell ffermdy llai o faint a chanddo nodweddion mwy brodorol a rhesi
llai o faint o adeiladau allan. Mae rhai o’r adeiladau hyn yn dechrau
mynd yn segur. Mae gan ffermydd gweithredol setiau sylweddol o adeiladau
amaethyddol modern o goncrid, dur ac asbestos. Yn Rhyd, mae ffermdy unllawr,
clom (pridd), rhestredig (a ddefnyddir bellach fel adeilad allan amaethyddol)
sydd â tho gwellt o dan haearn rhychog yn cynrychioli traddodiad
adeiladu hþn, un a ddisodlwyd gan gerrig a llechi yn ystod y 19eg
ganrif. Mae Ponthirwaun yn glwstwr llac o dai gweithwyr deulawr yn dyddio
o’r 19eg ganrif sydd wedi’u hadeiladu o lechi nadd patrymog
o ddyffryn Teifi, ac mae’n cynnwys capel rhestredig wedi’i
adeiladu o gerrig ac ambell dþ modern. Mae hen chwarel fawr yn un
rheswm posibl dros ddatblygiad y pentrefan hwn. Mae pentrefan Llandygwydd
wedi’i ganoli ar grwp o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif
gan gynnwys eglwys y plwyf, cerbyty a stablau wrth ymyl y fynwent, ficerdy
yn yr arddull Duduraidd-Gothig a bwthyn gothig, ac ychydig o fythynnod
gweithwyr unllawr a deulawr yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae clystyrau
llac o dai modern, mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, wedi mewnlenwi
bylchau rhwng adeiladau hþn ac maent yn ymestyn i fyny isffordd
i’r dwyrain o’r eglwys. Ceir gwasgariad o dai modern eraill
ar draws yr ardal hon. Ar wahân i’r A484 sy’n ymdroelli
ar hyd cwr gorlifdir Afon Teifi ar gwr yr ardal hon, yr unig ffyrdd eraill
yw lonydd a llwybrau ar gyfer traffig lleol. Fodd bynnag, ceir nifer o
safleoedd pwysig, ac er nad yw’r rhain yn nodweddiadol iawn o’r
ardal maent yn dynodi cyfnod hir o weithgarwch dynol yn y dirwedd hon.
Mae’r rhain yn cynnwys castell cloddwaith canoloesol Llwyndyrys,
bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, ffynnon sanctaidd ganoloesol,
a safleoedd canoloesol posibl eraill y daw’r holl wybodaeth sydd
gennym amdanynt o ddogfennau.
Mae i’r ardal hon ffin bendant i’r de lle
y mae’n ffinio â gorlifdir Afon Teifi ac ardaloedd adeiledig
Cenarth a Llechryd. I’r gogledd mae’r ffin yn llai pendant.
Yma mae’r caeau gweddol fawr a’r nifer fawr o ffermydd yn
ymdoddi i dir uwch lle y ceir caeau mwy o faint a llai o ffermydd.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000,
Historic Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; King, D J
C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical
Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw
Welsh Historic Churches Project: Ceredigion churches’, adroddiad
nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7616
134/1/19, 1758; Map degwm plwyf Llandygwydd 1842; Map degwm plwyf Llangoedmor
1839; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire,
Llundain; Rawlins, B J, 1987, The Parish Churches and Nonconformist Chapels
of Wales: Their Records and Where to Find Them, Salt Lake City; Rees,
W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’;
Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Willis-Bund, J
W (gol.), 1902, The Black Book of St Davids, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |