![](../../shim.gif) |
CILGERRAN
![CILGERRAN](images/cilgerran1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN194429
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35
Cefndir Hanesyddol
Ardal adeiledig tref fach, hardd Cilgerran, Sir Benfro.
Mae’n gorwedd o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn
Is-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth
Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i greu Arglwyddiaeth
Cilgerran. Parhaodd Cilgerran yn un o arglwyddiaethau’r gororau,
a weinyddid o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Adenillwyd yr arglwyddiaeth
gan y Cymry ym 1164 ac arhosodd o dan eu rheolaeth tan 1223, pan y’i
cipiwyd gan William Marshall, Iarll Penfro. Fe’i delid o Iarllaeth
Penfro nes cael ei throsglwyddo i’r goron ar ddiwedd y 15fed ganrif.
Fe’i diddymwyd yn y pen draw ym 1536, pan ymgorfforwyd yr arglwyddiaeth
yn Sir Benfro fel Cantref Cilgerran.
Mae’n bosibl na saif y castell ar safle canolfan
y cwmwd cyn y goresgyniad Normanaidd, am yr ymddengys na chafodd enw’r
arglwyddiaeth, sef Cilgerran, tan ganol y 12fed ganrif, a chyfeiriwyd
ato fel Cenarth Bychan pan ymosodwyd arno gan y Cymry mewn cyrch beiddgar
ym 1109. Dechreuodd William Marshall ailadeiladu’r castell o gerrig
ym 1223, ac roedd wedi’i gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd y
13eg ganrif. Ei ddau dwr ‘baril’ yw elfennau amlycaf y dirwedd
o hyd.
Datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau Castell Cilgerran,
a oedd yn ddigon mawr i gael ei alw’n ‘dref’ ym 1204.
Ystyrid ei fod yn fwrdeistref, ond dim ond trwy hirfeddiant, am na wyddom
am unrhyw siarter. Mae ei chynllun rheolaidd, sy’n cynnwys lleiniau
o dir bwrdais wedi’u gosod ar y naill ochr a’r llall i brif
stryd hir, a marchnadfa lydan, ac ail stryd ar ongl sgwâr, yn awgrymu
iddi gael ei chynllunio. Cofnodwyd dau ar hugain o drethdalwyr ym 1292
– ychydig yn llai na’r 70 o leiniau o dir bwrdais, fwy neu
lai, sydd i’w gweld o hyd – ac ymddengys fod y dref yn dal
i dyfu. Tua 1610 fe’i rhestrwyd ymhlith prif drefi marchnad Sir
Benfro gan Speed. Adlewyrchir demograffeg gwbl Gymreig, fwy neu lai, yr
arglwyddiaeth yn enwau Cymraeg y trethdalwyr. Roedd gan y dref ei charchar,
a’i chyffion ei hun. Ymddengys iddi gadw ei chysylltiadau â’r
tir bob amser, a phrif fywoliaeth pobl y dref yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol
oedd ffermio, pysgota am eogiaid a chloddio llechi.
Buasai cysylltiad agos rhwng Cilgerran a’r diwydiant
cloddio ers amser maith, ac roedd gan fwrdeisiaid yr hawl i gloddio am
gerrig o fewn Ceunant Teifi, lle y lleolid pob un o’r prif chwareli.
Roedd rhai o’r adeiladau prosesu cerrig, gan gynnwys sied naddu,
wedi’u lleoli yn y dref. Adlewyrchir cyfoeth y diwydiant pan oedd
ar ei anterth, ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn adeiladau’r dref, y
mae’n amlwg i lawer ohonynt gael eu hadeiladu neu eu hailadeiladu
bryd hynny gan ddefnyddio cerrig lleol. Gwelodd y dref rywfaint o dwf
pellach, a hybwyd yn ddiau gan y llinell reilffordd o Hendy-gwyn ar Daf
i Aberteifi, a ymgorfforwyd ym 1869 (ond a gaeodd yn y 1960au). Sefydlwyd
capel, a gwaith brics, er nad yw brics yn ddeunydd adeiladu cyffredin
yn y dref. Fodd bynnag, daeth y farchnad wythnosol a gofnodwyd gan George
Owen i ben ym mlynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif; roedd y ffair wedi dod
i ben flynyddoedd lawr cyn hynny, tra daeth y gweithgarwch cloddio i ben
ym 1938. Pan ddiddymwyd yr arglwyddiaeth ym 1536 roedd Castell Cilgerran
eisoes yn anghyfannedd ac yn dirywio. Ni welodd unrhyw frwydro yn ystod
y Rhyfel Cartref a gadawyd iddo adfeilio, er mai’r castell oedd
ffynhonnell ysbrydoliaeth yr arlunwyr Rhamantaidd. Daethpwyd i ddefnyddio’r
ffos fel ffald y dref, ac o ganlyniad i weithgarwch cloddio a gyflawnwyd
o amgylch y castell, cwympodd darn mawr o fur y castell ei hun ym 1863.
Fodd bynnag, bu yng ngofal y wladwriaeth ers 1943 ac erbyn hyn y castell
yw un o’r prif atyniadau ymwelwyr yn y rhanbarth.
![CILGERRAN](images/cilgerran2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol adeiledig,
gymharol fach sy’n cynnwys tref fach Cilgerran, a leolir ar dir
cymharol wastad ar uchder o ryw 35m uwchlaw lefel y môr yn union
i’r de o geunant dyffryn Teifi ac uwch ei phen. Anheddiad llinellol
ydyw yn y bôn sy’n cynnwys tai wedi’u cywasgu ar hyd
prif stryd, a hen farchnadfa Castle Square sydd ar ffurf triongl (y tresmaswyd
arni gan adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif) a’r castell
mawr adfeiliedig a adeiladwyd o gerrig yn y 13eg ganrif - 14eg ganrif
i’r gogledd, ac eglwys Sant Llawddog sy’n sefyll ar ei phen
ei hun ychydig bellter i’r gorllewin. Ar wahân i’r twr
canoloesol, ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ddwywaith yn ystod y 19eg
ganrif. Ceir lleiniau o dir bwrdais ar y naill ochr a’r llall i’r
farchnad a’r brif stryd. Mae’r lleiniau hyn ynghyd â
morffoleg yr anheddiad yn dynodi tref gynlluniedig ganoloesol fach. Mae
gwaith cynllunio canoloesol wedi pennu ffurf fodern yr anheddiad, a cheir
tai sydd yr un lled â llain safonol o dir bwrdais wedi’u gwasgu’n
dynn yn erbyn eu cymdogion, â’u tu blaen yn ffinio â’r
stryd. Mae hyn wedi arwain at derasau o adeiladau unigol - prin yw’r
enghreifftiau o derasau a adeiladwyd mewn un cyfnod - am nad oes fawr
ddim lle ar gyfer adeiladau ar wahân yn y lleiniau cul yng nghanol
yr anheddiad. Ceir rhai tai ar wahân a rhai tai pâr, yn arbennig
ar gwr yr anheddiad. Ar wahân i dwr canoloesol yr eglwys ac adfeilion
y castell, mae bron pob un o’r adeiladau hyn yng Nghilgerran yn
dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn perthyn
i ail hanner y ganrif. Llechi dyffryn Teifi (llechi Cilgerran) yw’r
unig ddeunydd toi a ddefnyddiwyd ar yr adeiladau hyn ac mae brics coch
yn ymddangos tua diwedd y 19eg ganrif. Mae mwyafrif yr adeiladau wedi’u
rendro â sment (plastr). Mae llechi o ogledd Cymru wedi’u
defnyddio ar y toeau. Ar hyd y brif stryd, ac ar Castle Square, tai deulawr
a geir yn bennaf yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg
ganrif ac mae eu drychiadau blaen cymesur a’u ffenestri mawr yn
nodweddion pendant o’r traddodiad Sioraidd ‘cain’. Fodd
bynnag, mae rhai nodweddion brodorol sy’n gynnar yn ôl pob
tebyg, megis ffenestri llai o faint, ffryntiau anghymesur, simneiau isel
wedi goroesi ar rai tai. Mae’r llechfeini o ddyffryn Teifi, lle
nad ydynt wedi’u gorchuddio â rendr sment, o ansawdd uchel
iawn, a cheir cerrig wedi’u sgwario ac wedi’u llifio wedi’u
gosod mewn haenau. Cyfyngir addurniadau i beciadau cyn ar yr wynebau llifiedig.
Mae sawl enghraifft o’r adeiladau hyn yn rhestredig, yn ogystal
â’r Rheithordy ‘Sioraidd’ a gynlluniwyd gan bensaer
sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae rendr sment wedi’i
ddefnyddio yn ôl pob tebyg ar adeiladau â gwaith cerrig o
ansawdd gwaeth, neu dros frics ar adeiladau diweddarach. Lleolir terasau
a thai unigol a chanddynt lawer mwy o nodweddion brodorol i’r gorllewin
o graidd y prif anheddiad yng Nghwm Plysgog ac i’r dwyrain yng Nghnwcau.
Lleolir cyn-sied naddu a adeiladwyd o gerrig yn y lleoliad olaf, er bod
y mwyafrif o’r chwareli wedi’u cynnwys mewn ardal gymeriad
dirwedd hanesyddol arall. Mae adeiladau eraill yng Nghilgerran yn cynnwys
capel yn dyddio o’r 19eg ganrif, ysgol yn dyddio o’r 20fed
ganrif, canolfan pysgota â chyryglau/ymwelwyr, a rhywfaint o dai
modern ar gyrion yr anheddiad. Prin yw’r safleoedd archeolegol a
gofnodwyd yma ar wahân i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r
adeiladau sy’n sefyll.
Mae Cilgerran yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig.
Mae ei natur adeiledig yn cyferbynnu â’r ardaloedd gwledig
sy’n ffinio â hi.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E,
1957, Cilgerran Castle, Llundain; Fenton, R, 1811 A Historical Tour through
Pembrokeshire, Llundain; Hilling, J B, 1992, Cilgerran Castle/St Dogmaels
Abbey, Caerdydd; Jones, T, 1952, Brut y Tywysogyon, Peniarth MS 20, Caerdydd;
King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833,
A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2000,
‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Pembrokeshire churches’,
adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Ludlow, N, 2002, ‘The
Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Pembrokeshire’,
adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Cilgerran
1844; Owen, H (gol.), 1897, The Description of Pembrokeshire by George
Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain; Owen, H (gol.), 1914, Calendar
of Pembrokeshire Records, 2, Llundain; Price, M R C, 1984, The Whitland
and Cardigan Railway, Rhydychen; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales
and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical
Atlas of Wales, Llundain; Richards, A J 1998 The Slate Quarries of Pembrokeshire,
Llanrwst; Soulsby, I, 1983, The Towns of Medieval Wales, Chichester; Slater
& Co., 1850 Royal, National and Commercial Directory and Topography
of the Counties of….. , Llundain; Weeks, R, 2002, The ‘Lost
Market’ settlements of Pembrokeshire, Medieval Settlement Research
Group, Annual Report 17, 21-30
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |