![](../../shim.gif) |
LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH
![LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH](images/poppittonewport.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN102453
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 212
Cefndir Hanesyddol
Ardal hir, gul o fewn ffiniau modern Sir Benfro a nodweddir
gan y clogwyni serth ar hyd yr arfordir rhwng Traeth Poppit, yn aber Afon
Teifi, a Threfdraeth i’r gorllewin. Yn ystod y cyfnod hanesyddol,
gorweddai’r ardal yng nghantref canoloesol Cemaes, yng nghwmwd Is-Nyfer.
Roedd Cemaes wedi’i ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan Robert
FitzMartin tua 1100 ac fe’i had-drefnwyd i greu Barwniaeth Cemaes.
Parhaodd Cemaes yn un o arglwyddiaethau’r gororau, a weinyddid o
gastell Nanhyfer, ac wedyn o Gastell Trefdraeth, tan 1536, pan ymgorfforwyd
y farwniaeth yn Sir Benfro fel Cantref Cemaes. Fodd bynnag, cynrychiolai’r
rhan fwyaf o Is-Nyfer ‘Frodoraeth’ y farwniaeth a pharhaodd
i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau, arferion a phatrymau tirddaliadaeth
Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, y parhaodd llawer ohonynt tan
yr 20fed ganrif. Daliodd y tywysogion Cymreig y rhan ogledd-ddwyreiniol
hon o Is-Nyfer rhwng 1191 a 1201, ac unwaith eto ym 1215-1223. Y patrymau
tirddaliadaeth Cymreig hyn a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu
gwasgaredig yn y rhanbarth. Bu’r llain arfordirol hon, sy’n
gul iawn, bob amser yn dir ymylol ac fe’i defnyddid yn ôl
pob tebyg ar gyfer tir pori garw o gyfnod cynnar. Fe’i dangosir
fel y mae heddiw ar y mapiau degwm yn dyddio o’r 1840au. Ni nodwyd
unrhyw safleoedd anheddu hanesyddol o fewn y llain hon, ond darperir tystiolaeth
bod yr ardal wedi’i defnyddio yn y cyfnod ôl-ganoloesol gan
nifer o chwareli. Mae Traeth Poppit yn cynnwys aber olygfaol a thraeth
helaeth, sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Parc carafannau a’i
wasanaethau - er eu bod ychydig y tu allan i’r ardal gymeriad hon
- yw prif nodwedd y dirwedd yma. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, a ddynodwyd
ym 1952, yn dechrau yn Poppit ac yn rhoi mynediad heb ei ail i’r
golygfeydd arfordirol.
![LLAIN ARFORDIROL – POPPIT I DREFDRAETH](images/poppittonewport2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys y llain arfordirol gul o draeth Poppit ar aber Afon Teifi i draeth
Trefdraeth, pellter o ryw 19 cilomedr. Mae’n gul iawn, ac anaml
y mae’n fwy na 150m o led. Mae’n cynnwys clogwyni syth o greigiau
caled sy’n codi i dros 150m mewn mannau ond sy’n is na hynny
ar y cyfan, a llain gul o dir garw wedi’i gwasgu rhwng pen y clogwyn
a thir amaeth. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar hyd pen y clogwyn.
Nid oes unrhyw anheddau cyfannedd. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn
cynnwys dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, twmpathau llosg a
gwasgariadau o ganfyddiadau cynhanesyddol a nifer o safleoedd ôl-ganoloesol
gan gynnwys chwareli.
Mae’r llain arfordirol yn ardal gymeriad hanesyddol
nodedig ac mae’n cyferbynnu â chaeau a ffermydd yr ardaloedd
cymeriad sy’n ffinio â hi.
Ffynonellau: Charles, B G, 1948, ‘The Second
Book of George Owen’s Description of Penbrokeshire’, Cylchgrawn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5, 265-285; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol
Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811 A Historical
Tour through Pembrokeshire, Llundain; Howells, B E a K A (golygyddion),
1977, The Extent of Cemaes, 1594, Hwlffordd; Lewis, S, 1833, A Topographical
Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Llandudoch 1838;
Map degwm plwyf Nanhyfer 1847; Map degwm plwyf Trewyddel 1843; Maynard,
D, 1993, ‘Burnt Mounds in the St Dogmaels area of north Pembrokeshire’,
Archaeology in Wales 33, 41-43; Owen, H (gol.), 1897, The Description
of Pembrokeshire by George Owen of Henllys, Lord of Kemes 2, Llundain;
Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’;
Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Sambrook, P, 2000,
‘St Dogmaels Historic Audit’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |