![](../../shim.gif) |
CASTELL MAELGWYN
![CASTELL MAELGWYN](images/castellmalgwyn1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN215428
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 173
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cyfateb i Barc Castell Maelgwyn yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif –
19eg ganrif a’r ardal o’i amgylch, tirwedd ystad ar dir gweddol
donnog i’r de o Afon Teifi.
Mae’r ardal hon yn gorwedd o fewn cantref canoloesol
Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Is-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol
ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn
Is-Cych i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Parhaodd Cilgerran yn un o arglwyddiaethau’r
gororau, a weinyddid o Gastell Cilgerran, a sefydlwyd tua 1100. Adenillwyd
yr arglwyddiaeth gan y Cymry ym 1164 ac arhosodd o dan eu rheolaeth tan
1223. Fe’i diddymwyd yn y diwedd ym 1536, pan ymgorfforwyd yr arglwyddiaeth
yn Sir Benfro fel Cantref Cilgerran. Parhaodd yr arglwyddiaeth ganoloesol,
a weinyddid fel ‘Brodoraeth’, i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau,
arferion a systemau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod. Y patrymau
tirddaliadaeth Cymreig hyn - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd
marchogion - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig
o fewn y rhanbarth.
Er yr ystyrid bod Castell Maelgwyn yn safle castell canoloesol,
mae hynny’n annhebygol. Fodd bynnag, mae traddodiad cryf mai un
o dai statws uchel y tywysogion Cymreig ydoedd yn ystod y cyfnod canoloesol,
ac fe’i cofnodwyd yn gyntaf tua 1400 pan y’i delid gan un
o ddisgynyddion y cymeriad chwedlonol Cadifor Fawr o Flaen Cych. Mae cofnodion
cynharach yn cyfeirio at y ty gwreiddiol, sydd bellach yn ffermdy ar glogwyn
coediog uchel. Sefydlwyd gwaith haearn a thunplat helaeth ym Mhenygored,
ar lannau Afon Teifi, rhwng 1764 a 1770. Cyflenwai camlas (neu ffrwd)
ddwr i’r gwaith, daethpwyd â deunyddiau i fyny’r afon
fordwyadwy ac roedd digon o goetir ar y llethrau ar gyfer tanwydd. Roedd
y gwaith yn llwyddiannus, ac aeth trwy nifer o ddwylo nes iddo gau ym
1806. Dechreuodd Syr Benjamin Hammet, a oedd wedi dod i feddu ar yr ystad
ym 1792 pan brynodd Gwmni Penygored, adeiladu ty presennol Malgwyn House,
y parciau a’r gerddi ym 1978. Erbyn hyn nodweddir yr ardal gan y
parc a’r gerddi. Mae Castell Malgwyn House bellach yn westy.
![CASTELL MAELGWYN](images/castellmalgwyn2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad dirwedd hanesyddol y dylanwadwyd yn fawr
arni gan ystad yw Castell Maelgwyn ac fe’i lleolir ar dir yn wynebu’r
gogledd sy’n graddol godi o Afon Teifi ar uchder o lai na 10m i
70m yn ei chwr deheuol. Mae’n cynnwys plasty Castell Malgwyn, parcdir
a thir ac adeiladau cysylltiedig. Mae craidd yr ystad yn cynnwys y tþ
trillawr yn yr arddull Sioraidd a adeiladwyd tua 1795 o lechi llanw o
ddyffryn Teifi a’r bloc stablau ac adain y gweision gerllaw a adeiladwyd
yng nghanol y 19eg ganrif o lechi nadd patrymog o ddyffryn Teifi. Mae’r
plasty yn westy ac addaswyd adeiladau’r stablau a’r adeiladau
gwasanaethu yn llety i dwristiaid. Lleolir parc bach, yr eir i mewn iddo
trwy gatiau yn dyddio o ganol y 19eg ganrif sydd â phorthordai o
bobtu iddynt yn dyddio o’r un cyfnod, yn union i’r dwyrain
o’r ty, a cheir gerddi difyrrwch coediog ar y naill ochr a’r
llall i Afon Teifi i’r gogledd ac i’r gorllewin. Ymhellach
allan mae clystyrau o goed yn dangos pa mor helaeth oedd y parcdir oddi
amgylch ar un adeg, sydd bellach wedi’i rannu yn gaeau mawr, rheolaidd
eu siâp gan wrychoedd mewn cyflwr da ar gloddiau. Lleolir fferm
y plas, sy’n cynnwys ty sylweddol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
a chanddo set ffurfiol iawn o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o
gerrig, adeiladau eraill a adeiladwyd gan yr ystad ac adeiladau amaethyddol
allan modern helaeth, yn y parcdir. Adeiladodd yr ystad adeiladau eraill,
megis ty Mount Pleasant yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yn arddull fframiau
pren oes Elisabeth. Mae bron pob un o’r adeiladau a godwyd gan yr
ystad yn rhestredig. Lleolir hen felin wedi’i hadeiladu o gerrig
yn yr ardal hon. Byngalo a adeiladwyd yn y cyn-barcdir gerllaw’r
fynedfa i Gastell Malgwyn yw’r unig adeilad modern sylweddol. Mae’r
archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â’r plasty a’r
parc; er bod dau enw lle o bosibl yn awgrymu crugiau crwn yn dyddio o’r
Oes Efydd a all ddynodi presenoldeb dynol parhaol yn yr ardal. Dwy odyn
galch ar lannau Afon Teifi a rhan o gamlas/ffrwd yw’r unig olion
sydd wedi goroesi o hen waith tunplat a haearn.
Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig.
Mae’r parcdir ac adeiladau’r ystad yn gwahaniaethu rhyngddi
a’r ardaloedd o ffermydd a chaeau oddi amgylch.
Ffynonellau: Brooke, E H, 1932, Monograph of Tinplate
Works in Great Britain, Abertawe; Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cadw 2002, Cofrestr
o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru,
Rhan 1 Parciau a Gerddi, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster,
OE, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Fenton, R, 1811 A Historical Tour
through Pembrokeshire, Llundain; Howell, D, 1987, ‘The Economy 1660-1793’,
yn D Howell Pembrokeshire County History Volume III: Early Modern Pembrokeshire,
1536-1815, 299-332, Hwlffordd; Jones, F, 1996, Historic Houses of Pembrokeshire
and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary
of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf Cilgerran 1844; Map degwm plwyf
Manordeifi 1842; Owen, H (gol.), 1914, Calendar of Pembrokeshire Records,
2, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in
the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales,
Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |