Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi>

 

CENARTH

CENARTH

CYFEIRNOD GRID: SN267417
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 25

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yw Cenarth sy’n cynnwys ardal adeiledig pentref Cenarth. Fe’i lleolir ar y naill ochr a’r llall i Afon Teifi a Rhaeadrau Cenarth, man prydferth enwog sy’n denu llawer o ymwelwyr ac mae’n un o’r prif resymau dros ddatblygiad y pentref. Lleolir y rhan fwyaf o’r ardal gymeriad hon i’r de o Afon Teifi, yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Roedd Cantref Emlyn wedi’i rannol ddwyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych – nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig. Cenarth (neu Genarth Mawr fel y’i gelwid bryd hynny) oedd canolfan cwmwd Emlyn Uwch-Cych, a sefydlwyd castell mwnt a beili (Parc-y-domen bellach) yma. Fodd bynnag, roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Mae’n bosibl bod y ganolfan weinyddol cyn y goresgyniad Normanaidd wedi’i lleoli ar safle castell Parc-y-domen, a leolid yn union i’r de o eglwys plwyf Cenarth.

Roedd yr eglwys yn sefydliad eglwysig pwysig yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol, a cheir sôn amdani mewn testun o Siarteri Llandaf yn dyddio o’r 6ed ganrif. Fe’i hailadeiladwyd yn y 19eg ganrif ac mae’n dal i edrych dros y pentref o’i mynwent gron uchel ar fryncyn amlwg i’r de o Afon Teifi. Mae gennym ddisgrifiad llygad-dyst pwysig – ac unigryw – o Genarth yn ystod y 1180au, pan y’i disgrifiwyd gan Gerallt Gymro fel ‘safle pysgota (eogiaid) ffyniannus. Mae dyfroedd Afon Teifi yn llifo’n ddi-baid dros (y rhaeadrau), gan ddisgyn â thwrw enfawr i’r dibyn islaw. O’r dyfnderau hyn y mae’r eogiaid yn esgyn i’r..graig uwchlaw… Saif yr eglwys sydd wedi’i chysegru i Sant Llawddog, ei melin, y bont a’i safle pysgota a gardd hynod ddeniadol i gyd ar ddarn bach o dir.’ Mae’n ddiddorol nodi bod pont a melin, ar yr un safle â’r strwythurau presennol yn ôl pob tebyg, eisoes i’w cael bryd hynny, ond ymddengys fod y castell yn anghyfannedd erbyn hynny. Ni ddaeth na’r castell na’r eglwys yn ganolbwynt i anheddu.

Cymerodd Ieirll Marshal Eingl-Normanaidd Penfro feddiant o gwmwd Uwch-Cych ym 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu nes iddo gael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn Sir Gaerfyrddin ym 1536. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, a oedd yn ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif, dychwelodd at y goron ym 1525 ac fe’i rhoddwyd i Syr Thomas Jones o Haroldston, Sir Benfro, ym 1546. Arhosodd yn y teulu hwn am nifer o genhedloedd, ac fe’i trosglwyddwyd yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar ymron yr holl dir ar ochr ddeheuol Afon Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin. Bu’r patrwm tirddaliadaeth Cymreig – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – yn bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Ymddengys na fu fawr ddim anheddu domestig yng Nghenarth tan ddiwedd y 18fed ganrif. Mae map ystâd yn dyddio o 1768 yn cofnodi bod y rhan fwyaf o bentref Cenarth yn rhan o ddemên Gelly Dowill. Roedd y pentref yn fach iawn bryd hynny, ni chynhwysai ond yr eglwys a chlwstwr llac o ryw 8 o anheddau a ffermydd bach. Fodd bynnag, mae’r darnau bach iawn o dir sydd ynghlwm wrth y ffermydd, naill ai fel caeau bach, amgaeedig neu leiniau amgaeedig, yn awgrymu bod system o gaeau agored i’w chael yno cyn hynny neu, a hyn sy’n fwy tebygol, leiniau pori wedi’u rhannu o fewn tir agored fel y gwelir mewn mannau eraill yn Uwch-Cych. Roedd Melin Cenarth, a gofnodir ym 1180, yn eiddo i’r goron ym 1298 pan y’i delid gan Dywysog Cymru. Arhosodd yn rhan o’r ystâd frenhinol tan ddechrau’r 17eg ganrif, ac o tua 1630 ymlaen roedd yn rhan o ystad y teulu Vaughan yng Ngelli Aur, cyn cael ei throsglwyddo i Ieirll Cawdor a’i daliodd tan 1970. Mae’n debyg mai’r felin oedd prif gynheiliad economaidd yr anheddiad bach, a’i dwf yn y 19eg ganrif, ynghyd â’r gweithgarwch pysgota am eogiaid y mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato, a gyflawnid yn draddodiadol mewn cyryglau. Mae twristiaeth a hamdden yn rhoi cyfrif am ddatblygiad pentref Cenarth yn yr 20fed ganrif, pan ychwanegwyd nifer o ystadau tai bach.

CENARTH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Cenarth yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach iawn sy’n cynnwys hen graidd y pentref, y bont dros Afon Teifi, Rhaeadrau Cenarth a darn cul o ddyffryn afon, a datblygiadau modern ar gyrion y pentref. Fe’i lleolir rhwng 20m a 30m uwchlaw lefel y môr lle y mae dyffryn cyfyngedig Afon Teifi yn ymagor i orlifdir. Mae hen graidd y pentref yn cynnwys clwstwr llac o dai, bythynnod, siopau, tafarndai a’r eglwys yn union i’r de o Bont Cenarth wrth gyffordd yr A484 a’r B4332. Y bont dri bwa a adeiladwyd o gerrig sy’n dyddio o 1785-87 (ar safle yn dyddio o’r 12fed ganrif) yw’r strwythur hynaf yn y pentref. Mae eglwys y plwyf, er ei bod yn sefydliad hynafol, yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Saif i’r de-ddwyrain o’r bont ar fryncyn isel a cheir cloddwaith Parc-y-domen, y castell mwnt a beili yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, i’r de. Cofnodir Melin Cenarth gyntaf yn y 1180au, ond mae’r adeilad presennol o gerrig llanw ar lannau’r afon yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ac mae’r mwyafrif o’i pheiriannau yn dyddio o’r 19eg ganrif. Llechi dyffryn Teifi, cerrig llanw neu gerrig patrymog wedi’u naddu’n fân yw’r deunydd adeiladu a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeiladau hyn. Gall bwthyn rhestredig, a adferwyd bellach ond a arferai gynnwys hen fragdy’r Three Horseshoes, ddyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, ac mae tafarn y White Hart yn dyddio o’r un cyfnod. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o’r adeiladau domestig hyn yn y pentref yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, ac mae gan rai ohonynt olwg ystad neu ffurfiol gref, er enghraifft: Mill Cottage, ffermdy’r Yet a’i res lled-ffurfiol o adeiladau allan, ty Teifi View sy’n annedd yn yr arddull Sioraidd, a’r gyn-ysgol a chyn-efail y gof. Mae mwyafrif yr adeiladau hyn a godwyd o gerrig yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn rhestredig. Lleolir datblygiadau newydd ar ffurf ystadau tai bach, maes parcio ar gyfer ymwelwyr â’r rhaeadrau, ysgol a pharc carafannau i’r gogledd o’r bont. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau neu’r safleoedd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod.

Mae hon yn ardal nodedig ac mae’n cyferbynnu â’r dirwedd o gaeau a ffermydd oddi amgylch.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin Cawdor 227 (1768) tud11; Cadw - cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Davies, W. (gol.), 1979 The Llandaff Charters, Aberystwyth; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol 1, Caerdydd; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Carmarthenshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Cenarth 1840; Map degwm plwyf Llandygwydd 1842; Parry, C, 1987, ‘Survey and Excavation at Newcastle Emlyn Castle’, Carmarthenshire Antiquary 23, 11-28; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Thorpe, L (gol.), 1978, Gerald of Wales: The Journey through Wales and the Description of Wales, Harmansworth

MAP CENARTH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221