 |
CROES-Y-LLAN

CYFEIRNOD GRID: SN204444
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3345
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n cynnwys
system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a nifer fawr o ddaliadau
amaethyddol bach, ar y llwyfandir tonnog i’r gogledd o Afon Teifi.
Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal
gymeriad hon yng Ngheredigion, yng nghantref canoloesol Iscoed, wedi’i
rhannu rhwng cymydau Uwch-Hirwern ac Is-Hirwern, a oedd wedi’u gwahanu
gan ddyffryn serth Afon Hirwaun sy’n ymestyn o’r gogledd i’r
de. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth
Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare.
Mae’n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r
nifer fawr o gestyll a geir yn y rhan hon o Geredigion ac mae’n
bosibl i rai ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry
ym 1135-6. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed
ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd
gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag,
ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan
y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi.
Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr
rhwng 1215 -1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf Uno
1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr
arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth
Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’.
Lleolir yr ardal hon o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa
Camros, y mae’n bosibl iddo gael ei sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd.
Bu patrymau tirddaliadaeth canoloesol – na chynhwysai na threflannau
na ffïoedd marchogion – yn bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu
gwasgaredig a welir fel arfer yn y rhanbarth.
Nid oes fawr ddim aneddiadau a gofnodwyd o fewn yr ardal
gymeriad hon cyn y 19eg ganrif, er y dywedir bod Rosehill House yn cynnwys
elfennau yn dyddio o’r 17eg ganrif. Ymddengys fod tirwedd nodedig
yr ardal gymeriad hon sy’n cynnwys nifer fawr o ffermydd bach, wedi’u
gwasgaru’n rheolaidd yn cynrychioli gwaith cynllunio gan ystad neu
ystad fawr a rannwyd ac a werthwyd, neu a osodwyd ar rent, fel lleiniau,
ac mae’n debyg iddi gael ei sefydlu ar ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol
yn hytrach nag mewn cyfnod cynharach. Beth bynnag fo ei tharddiad, roedd
y broses wedi’i chwblhau erbyn tua 1840 pan ddengys y mapiau degwm
dirwedd debyg i’r un a welir heddiw. Gwelodd ail hanner y 19eg ganrif
a’r 20fed ganrif lawer o ddatblygiadau mewnlenwi, yn arbennig ar
hyd yr A484 i mewn i Aberteifi, ac ar y naill ochr a’r llall i’w
chyffordd yng Nghroes-y-Llan. Trowyd y ffordd hon yn ffordd dyrpeg ar
ddiwedd y 18fed ganrif ond fe’i sefydlwyd fel llwybr canoloesol
yn arwain at y rhyd/pont yn Llechryd. Erbyn hyn mae rhan o’r ardal
hon yn warchodfa natur.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Croes-y-Llan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
amaethyddol sy’n gorwedd ar lethr weddol donnog dyffryn Teifi sy’n
wynebu’r de-orllewin rhwng 10m a 60m uwchlaw lefel y môr.
Fe’i nodweddir gan ei system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp
a’r patrwm anheddu o ddaliadau amaethyddol bach niferus. Tir pori
wedi’i wella a thir pori heb ei wella sydd o ansawdd gwaeth ac sy’n
cynnwys brwyn yw’r defnydd a wneir o’r tir. Rhennir y caeau
gan wrychoedd ar gloddiau. Mae’r gwrychoedd hyn yn aml wedi tyfu’n
wyllt, ac yn aml nid ydynt yn ddim mwy na rhesi o lwyni sydd weithiau
yn cynnwys coed. Mae’r coed hyn ar y cyd â chlystyrau bach
o goetir collddail a phlanhigfeydd bach o goed coniffer yn rhoi golwg
goediog i rannau o’r dirwedd. Mae bron pob un o’r adeiladau
hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif. Maent wedi’u hadeiladu o lechi
dyffryn Teifi ac mae ganddynt doeau llechi o ogledd Cymru. Ceir dosbarthiad
gweddol gyfyng o ddaliadau amaethyddol ar hyd yr A484. Mae rhai o’r
tai hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif,
maent wedi’u rendro â sment, ac mae ganddynt nodweddion brodorol
cryf megis ffenestri bach a drychiadau anghymesur, isel. Fodd bynnag mae’r
mwyafrif ohonynt yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, maent wedi’u
hadeiladu o gerrig moel ac mae eu harddull yn deillio yn fwy o’r
traddodiad Sioraidd cain na’r traddodiad brodorol – yr arddull
sy’n nodweddiadol o dde-orllewin Cymru sef dau lawr a thri bae a
drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur.
Lleolir y tai hyn â bwlch cyson rhyngddynt ar hyd y ffordd ac yn
hytrach na wynebu’r ffordd, fel sy’n arferol, talcenni’r
tai sy’n wynebu’r ffordd. Fel arfer mae un adeilad allan amaethyddol
wedi’i adeiladu o gerrig, sydd weithiau ynghlwm wrth yr annedd ac
yn yr un llinell â hi, yn gysylltiedig â’r tai hyn.
Erbyn hyn ni ddefnyddir llawer o’r adeiladau allan hyn at ddibenion
amaethyddol. Mae pentref Llechryd wedi ehangu i gynnwys rhai o’r
daliadau amaethyddol hyn o fewn ei ffiniau. Mae ffermydd eraill mewn arddull
debyg i’r rhai ar y briffordd, ac maent yn cynnwys enghraifft restredig
Derwenlas sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Un eithriad
yw adeilad rhestredig Rosehill y credir ei fod yn cynnwys elfennau yn
dyddio o’r 17eg ganrif, a’r defnydd a wnaed o frics mewn ambell
dy ac adeilad allan yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau’r
20fed ganrif. Ceir dosbarthiad gweddol ddwys o dai modern mewn amrywiaeth
o arddulliau, a chlwstwr amlwg a datblygiadau llinellol i lawr cilffyrdd
yng Nghroes y Llan. Ar hyd y briffordd mae’r anheddau modern hyn
wedi mewnlenwi rhai o’r bylchau rhwng y tyddynnod. Mae rhai wedi
cadw’r traddodiad o osod talcen y ty yn wynebu’r ffordd. Nid
oes unrhyw safleoedd archeolegol ar wahân i’r rhai a gysylltir
â’r adeiladau a ddisgrifiwyd uchod.
Mae hon yn ardal nodedig ac mae ei system gaeau a’i
phatrwm anheddu yn cyferbynnu â systemau caeau a phatrymau anheddu’r
ardaloedd sy’n ffinio â hi.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000,
Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S,
1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Map degwm plwyf
Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1842; Meyrick, S R, 1810, The
History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map
of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951,
An Historical Atlas of Wales, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |