Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Aber Afonydd Taf a Thywi (Disgrifiad o'r tirwedd)

 

Aber Afonydd Taf a Thywi (Disgrifiad o'r tirwedd)

Mae'r ardal arfordirol yma o forydau, iseldiroedd arfordirol, twyni tywod a barrau tywod rhynglanw yn gorwedd ar ochr ogledd ddwyrain Bae Caerfyrddin ar arfordir De Cymru. Tu cefn i'r eangderau hir o dwyni tywod ar ochr ogleddol ddwyrain Bae Caerfyrddin, ar ochr dwyreiniol a gorllewinol cegau aberoedd Afonydd Taf, Tywi a'r Wendraeth, mae ardaloedd helaeth o gorsdir isel. Mae'r ardal gyfan yn cynnwys tystiolaeth amrywiol o weithgaredd o'r cyfnod cynhanesyddol hyd y cyfnod diweddar yn ogystal â'r drefn ganoloesol Hugden o gaeau agored ar y gefnen arfordirol isel i'r gorllewin o Lacharn. Mae'r arfordir presennol yn un sy'n newid, oherwydd symudiadau parhaus y tywod, ond mae waliau môr a thraeniau, ac o'u blaenau forfeydd y daw'r llanw drostynt, yn diogelu'r tir a adenillwyd. Trwy ddefnyddio cyfraniad o dystiolaeth archeolegol, astudiaeth o nodweddion creiriol a rhai byw yn y tirweddau presennol, a ffotograffau o'r awyr, a ffynonellau cartograffig a dogfennol, darganfuwyd sut yr esblygodd y tirwedd hwn, a grëwyd yn bennaf trwy waith dynol.

Ar derfyn gogledd y gors orllewinol neu Gors Lacharn a moryd Gwendraeth mae etifeddiaeth ddaearegol o linell o glogwyni môr gyda chyfordraeth wrth eu bôn. Er bod gwaith chwarela wedi'u dinistrio erbyn hyn, yr oedd unwaith ogofâu yng nghalchfaen Coygan Bluff, a oedd ger glan y môr ar un adeg, lle cafwyd defnydd o'r cyfnod Uwch Balaeolithig. Gwelwyd hefyd wrth gloddio'r fryngaer a oedd yno cyn y chwarela ddilyniant hir o breswyliaeth o'r cyfnod Neolithig i'r Canol Oesoedd cynnar. Mae angen rhagor o ymchwil i ganfod ble yr oedd y morlin yn ystod y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol, ond mae'n sicr bod trefi cestyll Cydweli a Lacharn yn llawer mwy agored i'r môr gynt nag yn awr.

Ni ellir canfod erbyn hyn o ble yn union y daeth llawer o'r darganfyddiadau o'r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol a gafwyd yn Nhwyni Lacharn, ond mae lleoliad tomennydd cregin o fewn y ddwy gyfundrefn dwyni, lle cafwyd crochenwaith canoloesol, o bwysigrwydd hanfodol i bennu trefn amser y newidiadau i'r morlin a'r gwaith cau tir. Byddai'n fuddiol pe gellid eu cloddio y dyddiau hyn. Yr oedd yr hen Witchett Brook yn rhannu Cors Lacharn yn Gors Ddwyreiniol a Gorllewinol, a defnyddiwyd yr un orllewinol fel tir pori ar forfa heli yn y Canol Oesoedd cyn adeiladu unrhyw furiau rhag y môr, ac efallai y bu hefyd aneddiadau yn yr un cyfnod ar y safleoedd ychydig uwch ar y Gors Ddwyreiniol, lle saif ffermydd 'nawr. Mae olion muriau môr o'r 17ail ganrif a chyfres o waith cau tir o ran gyntaf y 19edd ganrif wedi'u cadw'n dda er eu bod yn rhannol o fewn tir saethu'r Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn. Yr oedd tramffordd a chilfachell fach, Railsgate Pill, yn darparu mynediad o chwarel Coygan i'r afon yn Lacharn, ac mae'r rhain wedi'u cadw'n dda hyd heddiw fel tystiolaeth o oes ddiflanedig o fasnach trwy borthladdoedd bach y morydau, masnach a barhaodd hyd yr Ail Ryfel Byd.

Fel yn Lacharn, yr oedd modd cau tir Cors Pen-bre oherwydd fod twyni tywod wedi datblygu ac yn rhoi cysgod rhag y môr. Mae hanes diwydiannol Pen-bre a chanlyniadau hynny yn fwy cymhleth gyda cyfres hynod o gamlesi cynnar yn arwain at geiau a mannau llwytho llongau. Datblygwyd y rhain i allforio glo caled maes glo De Sir Gaerfyrddin, o tua dechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Aent ar draws tir a gaewyd o'r môr rhwng Twyni Pen-bre a'r tir mawr yn ystod rhan olaf y 17ail ganrif, os nad yn gynharach. Mae olion cloddwaith i'w gweld o'r awyr ac ar wyneb y ddaear yn y ddwy Gors, yn dangos technegau trin a thraenio tir ar dir amaeth, a welwyd gan bobl y gwelliannau amaethyddol, er enghraifft Charles Hassall yn gynnar yn y 19edd ganrif, fel y man i arbrofi gyda thechnegau amaethyddol modern. Mae hyn yn wahanol iawn i'r drefn Hugden o eiddo Corfforaeth Lacharn lle goroesodd caeau agored canoloesol a ddyrennir yn gymunedol, heb eu cau hyd heddiw, hwythau hefyd o fewn terfynau'r ardal hon. Mae newidiadau'r 20fed ganrif yn fwy amlwg ar Dwyni Pen-bre, sydd 'nawr wedi'u gorchuddio gan blanhigfa goed o'r 1920au. Defnyddiwyd y tir hwn at wahanol ddibenion diwydiannol yn gynnar yn yr 20fed ganrif gan arwain at faes awyr yn ystod y rhyfel a Gwaith Ordnans Brenhinol, ac mae un o'i adeiladweithfeydd a oroesodd 'nawr yn Heneb Cofrestredig. Bu gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn nodwedd bwysig o'r defnydd a wnaed, ac a wneir, o'r tir hwn yn yr 20fed ganrif, o ymdrechion y teulu Campbell a Parry Thomas yn 'Babs' i dorri'r record am y cyflymder uchaf ar dir yn yr 1920au ar hyd Traeth Pentywyn, hyd at greu Parc Gwledig ar Dwyni Pen-bre yn yr 1980au. Yr oedd Bar Caerfyrddin yn enwog am longddrylliadau ac mae nifer ohonynt i'w gweld yn amlwg ac o fewn cyrraedd ar y trai, tra dateglir rhai eraill o dro i dro gan y tywod sy'n symud yn barhaus. Yn olaf, rhaid cofio am Lacharn oherwydd y cysylltiadau llenyddol gyda'r bardd Dylan Thomas a'i olwg ef ar fywyd mewn cymuned fach Gymreig yn ystod canol yr 20fed ganrif.

HLW (D) 9
11
Landranger 158, 159
Dyfed
Sir Gaerfyrddin
Mae'r ardal yn cynnwys: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbenig Twyni Lacharn a Phentywyn ac Arfordir Pen-bre; Safleoedd Gwarchodaeth Cestyll Cydweli a Lacharn; Ardaloedd Cadwraeth Lacharn a Llan-saint.

1, 3, 5
Ardal helaeth o iseldir arfordirol, clogwyni, corsydd, twyni tywod a barrau tywod rhynglanw o fewn morydau Afonydd Taf, Tywi a'r Wendraeth, sy'n cynnwys tystiolaeth amrywiol o weithgaredd o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Mae'r ardal yn cynnwys: tystiolaeth o breswyliad o'r cyfnod Uwch Balaeolithig hyd at y cyfnod canoloesol cynnar; trefi a chestyll canoloesol Cydweli a Lacharn, trefn gaeau agored ganoloesol Hugden (Lacharn); adennill tir ar ffurf muriau rhag y môr, draeniau, camlesi a cheiau o'r 17ail ganrif ac wedi hynny; diwydiant a choedwigaeth diweddar a maes awyr o'r Ail Ryfel Byd a Gwaith Ordnans Brenhinol, nifer o longddrylliadau a safle'r ymdrech i dorri'r record cyflymder uchaf ar dir gyda 'Babs' ar Draeth Pentywyn; cysylltiadau llenyddol â Dylan Thomas.

 

Crynodebau sydd isod, am ragor o fanylion cliciwch ar y lluniau


Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

O ran cymeriad mae ardal Morfa Bychan yn cynnwys rhostir ar lethrau arfordirol serth, sy'n greigiog mewn mannau, clogwyni môr, coetir collddail ar ochrau dyffryn cysgodol a phlanhigfa goniffer ar ochrau'r dyffryn yng Nghoedwig Teagues.

O ran cymeriad mae ardal Melin Marros yn cynnwys caeau bach afreolaidd o ran eu siâp, rhai ohonynt bellach yn segur ac yn prysur ddatblygu'n brysgwydd ar silff lechweddog gyda chefndir o lethr serth wedi'i gorchuddio â rhedyn. Dim ond dwy annedd a ddefnyddir bellach; mae sawl fferm yn adfeilion.

O ran cymeriad arferai ardal Mynydd Marros fod yn rhostir hollol agored, ond mae planhigfa goniffer fach wedi'i sefydlu ar y pen gorllewinol, ac ar y llethrau sy'n wynebu'r dwyrain mae ymdrechion i wella'r tir wedi arwain at greu nifer o dyddynnod amaethyddol newydd.

O ran cymeriad mae ardal Morfa Heli Talacharn yn cynnwys tir yn ei hanfod a ffurfiwyd yn ddiweddar sy'n dioddef llifogydd llanw cyson y tu allan i'w forgloddiau ac islaw castell a thref Talacharn.

O ran cymeriad mae ardal Marros wedi'i chanoli ar Eglwys Ganoloesol Sant Lawrens lle y datblygodd clwstwr gwasgaredig o anheddau. Nodweddion hanfodol y tirlun hwn yw'r ffermydd gwasgaredig a adeiladwyd o garreg, wedi'u gosod mewn caeau o borfa afreolaidd o ran eu siâp a amlinellir gan wrychoedd ar wrthgloddiau.

O ran cymeriad mae ardal Bryn Syr John yn cynnwys amlinell a oedd gynt yn glogwyn môr sydd wedi'i gwahanu oddi wrth y môr erbyn hyn gan fignen adferedig. Gorchuddir y clogwyn yn awr gan goetir collddail. Ar wahân i lwybr cerdded a sefydlwyd yn y 19eg ganrif ac ychydig o fythynnod o'r 19eg ganrif sy'n adfeilion, nid oes unrhyw ddarnau o dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon.

O ran cymeriad mae ardal Pentywyn a Llanmiloe yn cynnwys yn bennaf datblygiad preswyl o'r 19eg ganrif, tai o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chanolfannau hamdden a thwristaidd o ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

O ran cymeriad mae ardal Coedwig Westmead wedi'i lleoli i'r gogledd o bentrefi Pentywyn a Llanmiloe ac ymhellach o ganol y môr. Gorwedda ar lethr serth sy'n wynebu'r de. Ar wahân i ychydig o glystyrau bach, nid yw'r coetir yn hynafol iawn a chynhwysa blanhigfeydd collddail a choniffer o'r 19eg a'r 20fed ganrif.

O ran cymeriad mae ardal Llansteffan wedi'i chanoli ar yr eglwys ganoloesol ac un stryd o dai yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif, gydag ail ganolbwynt o anheddau o'r 19eg a'r 20fed ganrif ar yr aber, a thai o'r 20fed ganrif rhwng y ddau. Gorwedda'r pentrefi yng nghysgod castell canoloesol.

O ran cymeriad mae ardal Black Scar yn cynnwys clogwyni a llethrau arfordirol serth sy'n edrych dros aberoedd Taf a Thywi. Gorchuddir y llethrau serth â choetiroedd o gollddail, rhedyn a thiroedd pori garw. Mae hen chwareli calchfaen yn bresennol.

O ran cymeriad mae ardal Mignen Talacharn a Phentywyn yn cynnwys morgloddiau a cheir tir ffermio cyfoethog y tu ôl iddynt a thystiolaeth o amaethu cefnen a rhych a ffermydd gwasgaredig. Gorwedda adeilad o gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ar draws rhan o'r ardal hon.

O ran cymeriad mae ardal Twyni Tywod Talacharn a Phentywyn yn cynnwys stribed hir o dywod sydd wedi'i chwythu i'r naill ochr gan y gwynt. Codwyd adeilad yn berchen i'r Weinyddiaeth Amddiffyn o gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn y twyni tywod. Nid oes unrhyw nodweddion tirwedd hanesyddol eraill yn bodoli yma.

O ran cymeriad mae ardal Rhostir Whitehill yn un cae mawr heb unrhyw adeiladau arno a gaiff ei ffermio drwy ddefnyddio dulliau tir agored. Mae nifer o ddarnau neu stribedi yn gorwedd ar draws y cae, ac fe'u gwahanir gan drumiau o bridd isel. Mae'r cae yn awr yn weirglodd, ac ni chaiff ei aredig bellach.

O ran cymeriad mae ardal Mignen Adferedig Dyffryn Taf yn cynnwys hen forfeydd heli a llanw a amgaewyd gan lethrau ac a ddraeniwyd yn y 17eg ganrif. Rhennir yr ardal gan ffosydd, gwrychoedd gwasgarog a ffensys gwifrau ac fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer pori yn ystod yr haf.

O ran cymeriad mae ardal Plwyf Talacharn, Pentywyn a Llanddowror yn fawr ac yn cynnwys ffermydd gwasgaredig ar fryniau pantiog, tiroedd pori amgaeëdig sydd wedi eu gwella, pentrefi bach wedi'u canoli o gwmpas eglwysi canoloesol, a chlystyrau bach o goetir collddail.

O ran cymeriad mae ardal Yr Hugden yn cynnwys prif systemau caeau agored tref Talacharn. Mae'r stribedi niferus ar yr Hugden yn cael eu ffermio gan ffermwyr unigol. Mae meini tir isel a glasleiniau yn gwahanu'r stribedi.

O ran cymeriad mae ardal Tref Talacharn a Broadway wedi'i chanoli ar y castell canoloesol, neuadd y dref sy'n dyddio o'r 18fed ganrif, a llawer o dai hardd o'r 18fed a'r 19eg ganrif. Mae datblygiad tai o'r 20fed ganrif yn gorwedd yn bennaf ar gyrion y dref.

O ran cymeriad mae ardal Delacorse yn cynnwys stribedi amgaeëdig o hen system caeau agored. Gwrthgloddiau a gwrychoedd yw'r ffiniau. Dyddia'r adeiladau fferm o'r 19eg ganrif, er bod safleoedd y ffermydd yn fwy hynafol na hynny.

O ran cymeriad mae ardal Coygan yn fryn calchfaen anghysbell sydd wedi bod yn chwarel am fwy na dwy ganrif. Dinistriwyd y fryngaer o'r Oes Haearn a oedd ar ben y bryn a'r ogof a gynhwysai olion cynhanesyddol yn llwyr.

O ran cymeriad mae ardal Laques yn cynnwys tir pori pantiog a rannwyd yn gaeau o faint canolig rheolaidd a ffermydd mawr gwasgaredig yn eiddo i fân deuluoedd bonheddig.

Mae Llain-gaeau Llan-y-bri a Llansteffan yn cynnwys rhan o hen gaeau agored y ddau anheddiad hyn. Er bod llawer o’r lleiniau wedi’u had-drefnu’n gaeau mwy rheolaidd, mae digon o gaeau hir a chul wedi goroesi i ddangos iddynt fod yn gyfundrefn helaeth ar un adeg. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys pentref bach Llan-y-bri.

O ran cymeriad mae ardal Llandeilo Abercywyn yn cynnwys eglwys ganoloesol adfeiliedig Teilo Sant sydd wedi'i lleoli mewn tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau rheolaidd o ran eu siâp ac o faint canolig a gwrychoedd ar wrthgloddiau yn ffiniau iddynt.

O ran cymeriad mae ardal Trefenty yn cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u lleoli mewn tirwedd enfawr o raniadau rheolaidd sydd wedi'u hisrannu'n gaeau llai afreolaidd o ran eu siâp. Ceir castell mwnt a beili yn yr ardal ac adfeilion eglwys ganoloesol pererinion Llanfihangel Abercywyn.

O ran cymeriad mae ardal Mignen Pinged yn ddyledus i gynlluniau draenio a ddechreuwyd yn yr 17eg ganrif am ei seiliau modern. Mae'n cynnwys tir pori a wahanwyd gan ffosydd ac amrywiol elfennau o isadeiledd - camlesi, ffyrdd a rheilffyrdd o'r 18fed i'r 20fed ganrif.

O ran cymeriad mae ardal Maes Glanio Pen-bre yn gorwedd ar draws tir a ddraeniwyd gyntaf oll yn yr 17eg ganrif. Mae olion maes glanio o'r Ail Ryfel Byd, cylch rasio ceir, maes glanio modern a sefydliad sy'n berchen i'r Awyrlu Brenhinol yn tra-arglwyddiaethu'r tirlun hanesyddol.

O ran cymeriad mae ardal Pen-bre a Phorth Tywyn yn drefol. Mae'n cynnwys datblygiad preswyl a gwasanaethau cysylltiedig yn bennaf o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Ar wahân i ddau borthladd, prin yw olion y diwydiannau trymion a oedd gynt mor llewyrchus yn yr ardal hon.

O ran cymeriad mae Cyd-weli yn ardal drefol. Mae'r hen dref o amgylch muriau'r castell canoloesol wedi'i disodli gan ganolfan mwy diweddar, sy'n nodweddiadol o adeiladau o'r 18fed, 19eg a'r 20fed ganrif, er bod ganddi wreiddiau canoloesol

O ran cymeriad mae ardal Brooklands yn ddyledus am ei seiliau modern i gynlluniau draenio a ddechreuwyd yn yr 17eg ganrif. Rhennir yr ardal gan ffosydd i gaeau mawr o dir pori gydag un annedd yn unig yn bresennol.

O ran cymeriad mae ardal Coedwig Penybedd yn cynnwys planhigfa goniffer fach o'r 20fed ganrif a sefydlwyd ar dywod a chwythwyd gan y gwynt.

O ran cymeriad mae ardal Coedwig Pen-bre yn cynnwys planhigfa goniffer eang iawn sy'n dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd a sefydlwyd ar ben twyni tywod a ffurfiwyd ar ôl y Cyfnod Canoloesol. O fewn y goedwigaeth ceir adfeilion ffatri arfau rhyfel.

O ran cymeriad mae ardal Meysydd yn ddyledus am ei seiliau i ddraeniad corstir yn y 18fed ganrif. Fe'i rhennir yn gaeau bach o borfa gan ffosydd a ffensys. Lleolir ffermydd gwasgaredig iawn yma.

O ran cymeriad mae ardal Coedwig Mynydd Pen-bre yn gorwedd ar lethr sgarp serth. Er y gallai ychydig o'r coetir fod yn hynafol, mae llawer ohono yn goetir diweddar, a sefydlwyd planhigfa goniffer o'r ugeinfed ganrif ar draws rhan o'r ardal.

O ran cymeriad mae ardal Caeau Hirgul Llanddyry a Phinged yn cynnwys caeau bach afreolaidd o ran eu siâp sydd wedi datblygu o system caeau stribed neu agored. Amgylchynir y caeau gan wrychoedd ar wrthgloddiau. Mae'r patrwm anheddu yn un o ffermydd a bythynnod gwasgaredig.

O ran cymeriad mae ardal Waun Baglam wedi'i nodweddu gan batrwm cae rheolaidd wedi'i amgáu gan wrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt. Mae clystyrau bach o goetir collddail ynghyd â'r gwrychoedd yn ychwanegu dimensiwn coediog i'r tirlun. Mae'r patrwm anheddu yn un o ffermydd gwasgaredig yn cynnwys adeiladau sy'n dyddio yn bennaf o'r 18fed a'r 19eg ganrif.

O ran cymeriad mae ardal Parc Gwledig Pen-bre yn cynnwys nodweddion tirlun hanesyddol modern yn bennaf, gan gynnwys: llethr sgïo, cwrs golff a chyfleusterau hamdden eraill, adfeilion ffatri arfau rhyfel, stad ddiwydiannol a rhan o blanhigfa goniffer.

O ran cymeriad ystod o dwyni tywod yn unig sy'n nodweddu ardal Twyni Tywod Pen-bre. Mae'n debygol y dechreuodd y twyni tywod ffurfio yn yr 17eg ganrif.

O ran cymeriad mae ardal Caeau Hirgul Cyd-weli a Llansaint yn cwmpasu pentref hanesyddol Llansaint, ond mae'n cynnwys hen stribedi o system caeau agored yn bennaf, a amgaewyd gan gaeau y mae gwrychoedd yn ffiniau iddynt. Ar lethrau serth pennir ffiniau'r hen stribedi gan lasleiniau.

O ran cymeriad mae ardal Hen Gaeau Hirgul Holloway wedi'i lleoli ger Cydweli ac arferai ffurfio rhan o system caeau agored y dref. Caewyd y system hon ac mae'n dameidiog iawn yn awr, ac yn cael ei hesgeuluso.

O ran cymeriad mae ardal Twyni Tywod Cyd-weli yn cynnwys mignen adferedig yn bennaf, ac a ddefnyddiwyd ar gyfer diwydiant ac isadeiledd. Mae'r diwydiant wedi diflannu bellach, ond mae'r prif linell rheilffordd yn parhau i gael ei defnyddio. Mae caeau bach yn yr ardal hon wedi'u hesgeuluso.

O ran cymeriad mae ardal Glan-y-Fferi yn anheddiad eithaf hynafol a sefydlwyd, fel yr awgryma'i enw, ar bwynt croesi Afon Tywi. Deillia ei seiliau modern o sefydliad y prif linell rheilffordd ym 1852.

O ran cymeriad mae ardal Llanismel yn cynnwys bryniau o dir pori sydd wedi'i wella a'i rannu i gaeau o faint canolig gan wrthgloddiau a gwrychoedd, gyda phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig.

O ran cymeriad mae ardal Morfa Bach yn cynnwys tir pori sydd wedi'i wella a'i rannu'n gaeau unionlin a allai ddyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol. Mae'n bosibl y gallai clystyrau o goetir collddail fod yn dyddio o gyfnod tebyg. Ffermydd gwasgaredig yw'r patrwm anheddu.

O ran cymeriad mae ardal Allt Hilltop wedi'i amgáu yn llwyr yn gaeau cymharol fawr â ffin o wrthgloddiau a gwrychoedd - system a sefydlwyd o bosibl o dir comin yn y 16eg ganrif - gyda phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig.

O ran cymeriad roedd ardal Tir Amgaeëdig Mynydd Pen-bre yn dir comin agored drwy gydol y cyfnod Canoloesol hyd at y 19eg ganrif pan gafodd ei amgáu a sefydlwyd y system bresennol o gaeau rheolaidd o ran eu siâp a ffermydd gwasgaredig

O ran cymeriad mae Mignen Pinged - Allgraig Heb ei Hamgáu yn ardal fach o fignen a wahanwyd oddi wrth dir a adferwyd gan ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd. Nid oes unrhyw anheddiad, ac ymddengys fel petai'r tir heb gael ei ddefnyddio.

O ran cymeriad mae ardal Morfa Heli Pen-bre yn cynnwys morfa heli sydd wedi cronni y tu allan i forgloddiau dros y cannoedd o flynyddoedd diwethaf. 

Cysylltydd prosiect: Ken Murphy

Laques Mynydd Pembre Wood Pinged Marsh Penybedd Wood Meusydd Pembrey & Burry Port Pembrey Country Park Pembrey Airfield Brooklands Mynydd Pembre Enclosure Waun Baglan Llandydry and Pinged Strip fields Pinged Marsh Morfa  Bach Pembrey Forest Pembrey Burrows Pembrey Saltmarsh Kidwelly Burrows Holloway former strip fields Kidwelly Allt Hillstop Kidwelly and Llansaint strip fields St Ishmaels Ferryside Laugharne and Pendine Marsh St Johns Hill Marros Mill Coygan Pendine and Llanmiloe Morfa Bychan Marros Marros Mountain Westmead Wood Llansteffan Black Scar Laugharne Town and Broadway The Hugden Black Scar Delacourse Llandeilo Abercowin Taf Valley Reclaimed Marsh Whitehill Moor Laugharne parish, Pendine and Llanddowror Treventy Llain gaeau Llanybri a Llansteffan