|
TREFENTY
CYFEIRNOD GRID: SN 296154
ARDAL MEWN HECTARAU: 832.80
Cefndir Hanesyddol
Ardal sy'n cynnwys y rhan fwyaf o hanner deheuol Arglwyddiaeth Ganoloesol
Ystlwyf a orweddai'n bennaf rhwng Afonydd Cynin a Chywyn, ac a oedd yn
gyffiniol yn fras â phlwyf Llanfihangel Abercywyn. Roedd canolfan ffiwdal
yr arglwyddiaeth yn Nhrefenty lle ceir enghraifft dda o gastell mwnt a
beili, a'r hen eglwys blwyf. Cefnwyd ar y castell yn ôl pob tebyg i ffafrio
Ty Trefenty erbyn y cyfnod Canoloesol diweddarach, ond mae adeiladwaith
cynharaf yr adeilad presennol yn perthyn i'r 18fed ganrif. Roedd Ystlwyf
yn eiddo i arglwyddi Eingl-Normanaidd San Clêr tan 1171 pan y'i caffaelwyd
gan Rhys ap Gruffydd, a gyflwynodd yr ardal i'r Abaty Sistersaidd yn Hendy-gwyn
ar Daf ym 1214, fel rhan o Faenor fawr Ystlwyf (Williams, 1990). Cronnodd
gweddill yr arglwyddiaeth o fewn etifeddiaeth y teulu Marshal yn ystod
dechrau'r 13eg ganrif ac roedd yn aelod o Iarllaeth Penfro (Ludlow ar
fin ymddangos) tan ganol yr 16eg ganrif, pan y'i caffaelwyd gan yr arglwyddi
Perrot o Dalacharn (Jones 1987, 185). Mae'n bosibl bod canolfan weinyddol
y faenor ym Mhant-dwfn. Yn debyg i'r rhan fwyaf o faenorau eraill mae'n
debygol bod y tir yn cael ei osod a'i ffermio gan denantiaid, a sefydlodd
ragflaenwyr y ffermydd modern. Mae topograffeg ar ffurf cefnen a rhych
i'r dwyrain o Drefenty yn nodi bod o leiaf rhywfaint o'r tir wedi'i drin
gan system caeau agored neu stribedi. Fodd bynnag, mae prisiad o'r 15fed
ganrif yn nodi mai caws a defaid/gwlân oedd y rhan helaethaf o werth y
faenor, gyda cheirch yn gyfran fach (Benson 1996), sy'n awgrymu rhywfaint
o dir amgaeëdig yn y cyfnod hwn. Roedd eglwys y plwyf hefyd yn gorwedd
ar yr hyn a dybir oedd yn llwybr pererinion i Dyddewi (Hartwell Jones
1912, 372). Ychwanegodd Syr John Perrot at ddeiliadaethau Ystlwyf yn ystod
y Diddymiad ym 1539 pan gaffaelodd y faenor. Priododd ei fab, Thomas â
Dorothy, chwaer Iarll Essex, a phriododd eu merch hwy, Penelope, â Syr
William Lowther, seryddwr adnabyddus, a fu farw yn Nhrefenty ym 1615 (Jones
1987, 185). Ystyria Benson (1996) gysylltiad Lowther â'r ystad yn bwysig
iawn o ran hanes y tirlun, am iddo awgrymu mai ef oedd yn gyfrifol am
sefydlu'r terfynau hirsyth sy'n rhannu'r ardal yn rhaniadau mawr, ac sydd
mor nodweddiadol o'r tirlun. Mae prydlesi o ddiwedd yr 17eg ganrif yn
enwi 'y Rhaniad Mawr', y 'Prif Linell' a 'pherthi rhwystro' sy'n dangos
bod y gwaith mawr hwn o rannu'r tirlun wedi digwydd erbyn hynny. Nid yw'n
hollol amlwg a yw'r israniadau o'r tirlun yn perthyn i'r cyfnod cyn neu
wedi'r terfynau hirsyth, ond ymddengys erbyn canol y 17eg ganrif bod yr
holl elfennau sydd yma heddiw o'r tirlun hanesyddol yn eu lle. Esboniad
arall yw y gall fod y system yn perthyn i gyfnod cynharach o lawer. Gall
rhannu'r tirlun yn ddarnau o dir amgaeëdig sydd yn 700 metr sgwâr ar gyfartaledd
fod yn arwyddocaol o ran bod dull llym y Rhufeiniad o rannu'r tir - dull
centuria - wedi'i lunio fel grid o ddarnau o dir amgaeëdig sgwâr yr oedd
eu hochrau yn mesur 20 actus yr un, sy'n cyfateb i 710 o fetrau (Potter
1987, 101). Fel arfer, ond nid o reidrwydd, roedd y dull centuria yn cael
ei weithredu yng nghyffiniau coloniae fel y byddai pob hen filwr yn derbyn
rhan gyfartal, ond mae yn cynrychioli system o rannu tir yn gyflym y gellid
ei gosod ar ardaloedd eraill heb eu hamgáu; fodd bynnag ni ddaeth tystiolaeth
bellach i'r amlwg fod hyn wedi ei weithredu ym Mhrydain (Rivet 1964, 101).
Trosglwyddwyd Fferm Trefenty drwy'r teuluoedd Drummond a Plowden cyn ei
gaffael gan ei berchenogion presennol, sef Prifysgol Cymru (Jones 1987,
185).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gan orwedd rhwng Afonydd Taf, Cywyn a Dewi Fawr, mae tirlun hanesyddol
Trefenty o fryniau pantiog a dyffrynnoedd agored yn codi o lefel y môr
ac yn cyrraedd uchafswm uchder o dros 50 m. Mae'r ardal gyfan bron yn
dir pori wedi'i wella; ychydig iawn o goetir, tir âr a thir garw sydd
yno. Mae'r patrwm anheddu yn un o ffermydd ar wasgar, sy'n ddeiliadaethau
eithaf mawr ar y cyfan. Gorwedd y ffermydd o fewn system gaeau anarferol
iawn sy'n cwmpasu terfynau syth, hir, i fyny at 4 cilomedr o hyd, gan
rannu'r tirlun yn rhaniadau mawr iawn, i fyny at 700 m sgwâr. Ni wyddys
dyddiad cychwyn y system hon, ond yn sicr roedd yn bresennol erbyn yr
17eg ganrif. Isrennir y rhaniadau mawr hyn yn ddarnau o dir amgaeëdig
llai, afreolaidd. Mae'r terfynau yn wrychoedd ar wrthgloddiau. Mae'r gwrychoedd
mewn cyflwr da, ychydig iawn sydd wedi tyfu'n wyllt a phrin yw'r coed
nodweddiadol yn y gwrychoedd. Collwyd rhywfaint o'r gwrychoedd yn ystod
y degawdau diweddar. Ceir tystiolaeth o drin y tir yn y dull cefnen a
rhych sy'n dyddio o gyfnod cyn y darnau o dir amgaeëdig â chloddiau o'u
hamgylch yn yr ardal hon, ac yn y pen gogleddol mae'r A40, sydd fwy neu
lai yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif, yn torri
ar draws y system yn rhannol.
Ymhlith nodweddion cynharach o'r tirlun mae tri chrug crwn
posibl, dau faen hir posibl, a thomen losg o'r Oes Efydd. Nid yw'r mwnt
a beili yn Nhrefenty, sy'n Heneb Gofrestredig, yn dangos unrhyw dystiolaeth
o waith maen. Mae nodweddion archeolegol eraill yn cwmpasu cloddfa glai,
sef yr unig weithgaredd economaidd arall yn yr ardal.
Ty ar byst dwbl yw Trefenty o'r 18fed ganrif yn bennaf
ac adeilad rhestredig Gradd II; mae ei dai allan hefyd yn rhestredig Gradd
II. Mae Mihangel Sant, Llanfihangel Abercywyn, yn ganoloesol i raddau
helaeth a hefyd yn adeilad rhestredig Gradd II, er ei fod yn adfail bellach.
Yn y fynwent ceir slabiau coffa Canoloesol cofrestredig ('beddrodau'r
pererinion' fel y'u gelwir). Mae'r ffermydd yn gyffredinol yn ddeiliadaethau
eithaf mawr gyda ffermdai cerrig â thoeau llechi sydd yn y traddodiad
brodorol gan fwyaf ac yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae
gan y rhan fwyaf o ffermydd un neu ddwy res o dai allan cerrig o'r 19eg
ganrif yn ogystal â rhes o adeiladweithiau modern. Mae adeiladau Ôl-ganoloesol
eraill yn cynnwys tollborth dyrpeg a hen efail gynt ar yr A40, melin ar
afon Dewi Fawr, ac adeilad a fu'n ysgol gynt.
Mae'r system gaeau anarferol yn pennu'r tirlun hanesyddol
hwn i raddau llethol. I'r de a'r gorllewin pennir yr ardal hon gan forfa
heli adferedig .
|