Cartref >

Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Golwg o'r Mynydd Du a Mynydd Myddfai, Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol

Mae Nodweddiad Tirwedd Hanesyddol yn cynnwys archwilio'r prosesau hanesyddol sydd wedi siapio a mowldio'r dirwedd fel y'i gwelir heddiw. Yn ystod nodweddiad cymerir i ystyriaeth yr holl gydrannau sy'n ffurfio'r dirwedd megis y math o derfyn cae, siāp cae, adeiladau, patrwm aneddiad, parciau a gerddi, ffyrdd a rheilffyrdd, diwydiant, a safleoedd archeolegol. Trwy ddadansoddi'r holl gydrannau y mae'n bosibl i rannu'r tirwedd yn ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol. Mae pob ardal yn cynnwys cydrannau gwahanol i'r ardaloedd o'i hamgylch.

Cysylltiad i wefan Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Cadw (yn agored mewn ffenestr newydd)

Cysylltiad i wefan Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Cyngor Cefngwlad Cymru (yn agored mewn ffenestr newydd)

 

Cliciwch ar un o'r ardaloedd sydd wedi eu rhifo
(Bydd ardaloedd newydd yn cael eu hychwanegu fel y mae gwybodaeth yn dod i law).

 

Mae 'Canllaw arfer da ar ddefnyddio Cofrestr Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru yng ngweithrediadau cynllunio a datblygu' yn cael ei ad-newyddu ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio cael y dogfen newydd yn fuan.

Ffurflennu Asesu Arfer Da (Ffeil Adobe Acrobat 57Kb)