Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
241 Mae
ardal gymeriad Dolaucothi - Pumsaint yn ymestyn ar draws
llawr dyffryn afon Cothi ac mae'n cynnwys pentref Pumsaint, a'r
parc a'r gerddi sy'n gysylltiedig â Thy Dolaucothi gynt. Adeiladau
o'r 19eg ganrif a godwyd mewn arddull nodedig gan ystad Dolaucothi
yn y 1850au sydd yn y pentref gan fwyaf. |
|
242 Lleolir ardal gymeriad Cwrt-y-cadno
yn nyffryn Cothi uchaf. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau bach
a choetir ydyw. Adeiladwyd llawer o'r ffermydd gan ystad Dolaucothi
yn y 1850au yn arddull nodedig 'llyfr-patrwm'. |
|
243
Gweddillion y diwydiant cloddio aur sy'n dyddio o gyfnod y
Rhufeiniaid hyd yr 20fed ganrif yw ardal gymeriad Cloddfeydd
Aur Dolaucothi. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen
ar y safle, ac maent wedi ailgodi enghreifftiau o adeiladau sy'n
gysylltiedig â chloddio i ddenu ymwelwyr. |
|
244
Pentref Caeo yw canolbwynt ardal gymeriad Caeo. Fodd
bynnag, prif elfennau'r dirwedd hon yw ffermydd gwasgaredig a chaeau
pori afreolaidd eu maint a gwrthgloddiau a gwrychoedd yn eu rhannu.
|
|
245
Planhigfa fawr o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif wedi'i
thaenu dros weundir agored yw 'Fforest Caeo'. |
|
246
Mae ardal gymeriad Banc Llwynceiliog ar ran uchaf ochr
dyffryn afon Cothi. Mae'r hen wrthgloddiau a'r gwrychoedd a fu'n
gloddiau terfyn i'r clostiroedd wedi syrthio erbyn hyn ac mae'r
ardal, yn ei hanfod, yn ardal o dir pori wedi'i wella. Mae cloddweithiau
unionlin dyfrbontydd Rhufeinig sy'n dilyn ochr y dyffryn yn elfennau
amlwg yn y dirwedd. |
|
247
Llwyfandir o weundir uchel yw ardal gymeriad Mynydd Malláen.
Fe'i hamgylchynir gan ffermydd a chaeau ar dir is ac o boptu iddo
ceir tir coedwigaeth. |
|
248
Mae ardal gymeriad Dyffryn Fanagoed yn ymestyn ar draws
llawr a llechweddau isaf dyffryn uchel agored, a cheir yno ffermydd
gwasgaredig, y mae eu hadeiladau gan fwyaf yn dyddio o'r 19fed ganrif,
a chaeau bach afreolaidd eu siâp. |
|
249
Coetir o goed collddail hynafol a phlanhigfeydd o goed coniffer
ar ochrau serth dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-yr-hebog.
|
|
250
Coetir o goed collddail ac ychydig o weundir ar lethrau serth
a chreigiog dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-y-Berth.
|
|
251
Mae ardal gymeriad Cefn Branddu yn ymestyn dros gefnen
uchel â'i brig yn grwn. Mae hen gloddiau terfyn wedi syrthio erbyn
hyn a thir pori agored wedi'i wella, gweundir ynghyd â rhedyn, a
choetir o goed collddail ar y llethrau serth o boptu iddi yw tirwedd
yr ardal yn ei hanfod yn awr. |
|
252
Planhigfa goedwigaeth fawr o'r 20fed ganrif wedi'i sefydlu dros
weundir uchel yw ardal gymeriad Bryn Arau Duon. |
|
253
Mae ardal gymeriad Dyffryn Cothi yn ymestyn ar draws
gorlifdir a gwaelod ochrau dyffryn afon Cothi a'i hisafonydd. Fe'i
nodweddir gan ffermydd a chaeau pori gwasgaredig. Mae'r hyn a fu
gynt yn barcdir yn ymestyn dros lawr y dyffryn nid nepell oddi wrth
Rhydodyn a Glan yr Annell. |
|