|
247 MYNYDD MALLÁEN
CYFEIRNOD GRID: SN 726433
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2424.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal o weundir agored ar lwyfandir Mynydd Malláen, sydd yn uwch
na 300m. Fe'i rhennid gynt rhwng cwmwd Caeo a chwmwd Malláen yng Nghantref
Mawr, a barhaodd yn arglwyddiaeth annibynnol Gymreig hyd 1284 a lle y
goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol
y cyfnod Canoloesol. A hithau'n ardal o ucheldir, defnyddid y tir yn bennaf
fel tir mynydd ar gyfer pori anifeiliaid, ac ymddengys mai tir agored
ydoedd gan fwyaf yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw. Fe'i
dangosir fel porfa agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf a chofnodir
mai tir comin ydoedd yn rhannol yn ystod y cyfnod Canoloesol. Mae yna,
yn y dirwedd, dystiolaeth ffisegol o'r defnydd yn yr Oes Efydd, a hynny
ar ffurf safleoedd tirnod defodol, a gynrychiolir gan garneddau o'r Oes
Efydd a maen hir posibl, nodweddion y bwriedid iddynt fod yn rhai gweledol
ac amlwg yn y dirwedd. Roedd tyllau cwningod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod
Canoloesol - cyfnod Ôl-ganoloesol cynnar - ar ystlys ddeheuol y llwyfandir,
a cheir peth tystiolaeth o dir wedi'i rannu'n gaeau a hynny mewn cysylltiad
â'r cytiau hir sy'n nodweddiadol o batrwm anffurfiol anheddu ucheldir
yn ne-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod hwn (Sambrook a Ramsey, 1999).
Mae yna sawl cloddfa a fu gynt yn gloddfeydd plwm a chopr bach ar gyrion
yr ardal y gallent fod yn gloddfeydd cynnar. Roedd mwynau eisoes yn cael
eu cloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, a chymerai'r goron
un rhan o un ar ddeg o'r mwynau yn dreth (Rees 1968), ond daethai'r gwaith
i ben gan fwyaf erbyn canol y 19eg ganrif. Nid oes unrhyw anheddiad diweddar
yn yr ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Llwyfandir bryniog ac anghyfannedd sy'n cyrraedd uchder o dros 450m
yw Mynydd Malláen. I'r gorllewin a'r gogledd, mae ei ochrau'n serth iawn
ac yn aml yn ysgythrog a disgynnant at ddyffrynnoedd afon Tywi ac afon
Cothi. I'r de mae ymyl y llwyfandir yn fwy toredig ond mae'r llethrau'n
dal yn serth. Yn ei hanfod gweundir agored yw Mynydd Malláen - tir pori
garw, rhedyn a gorchudd o fawn - gydag ychydig o dir pori wedi'i wella
ar yr ymyl deheuol. Ar rai llethrau serth o amgylch y llwyfandir mae yna
beth coetir o brysgwydd, a chaiff planhigfa fach o goed coniffer ei chynnwys
yn yr ardal. Mae yna rai hen gloddiau terfyn ar gyrion y llwyfandir, ond
ffensys gwifren yma a thraw sy'n cadw da byw rhag crwydro.
Dengys archeoleg a gofnodwyd gyfoeth cymharol o nodweddion
yn cynnwys carneddau o'r Oes Efydd a maen hir posibl, tyllau cwningod
Canoloesol i Ôl-ganoloesol, cytiau hir a systemau caeau, llwybrau, cloddfeydd
plwm a chopr, a chloddweithiau y mae eu tarddiad yn anhysbys.
Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.
Mae hon yn ardal wedi'i diffinio'n dda. Am y ffin â hi
ceir naill ai ffermydd a chaeau ar lawr y dyffrynnoedd, ochrau uchel y
dyffrynnoedd lle y mae'r tir yn rhannol wedi'i rannu'n gaeau, neu dir
coedwigaeth.
|