Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

250 ALLT Y BERTH

CYFEIRNOD GRID: SN 706454
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 125.4

Cefndir Hanesyddol
Ardal gul yn gorchuddio ochr ogleddol dyffryn Cothi. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 (Rees n.d.) a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Mae'r llethrau serth o dan orchudd o goetir o goed collddail a fu mewn bodolaeth trwy gydol y cyfnod hanesyddol mae'n debyg. Parhad o ffiniau caeau Ardal 251 yw'r ffiniau caeau hynny sy'n bodoli. Maent i gyd yn ffiniau diweddar gan mai yn y19eg ganrif y'u lluniwyd yn wreiddiol (map degwm Cynwyl Gaeo, 1840). Nid oes anheddiad yn awr, ac ni chofnodwyd anheddiad yn y gorffennol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Er mor fach ydyw, mae'r ardal gymeriad hon yn ardal nodedig. Fe'i lleolir ar lethrau serth ac ysgythrog iawn dyffryn Cothi uchaf, llethrau sy'n wynebu'r de-ddwyrain. Ac eithrio ychydig glytiau bychan o weundir agored, mae'r ardal gyfan yn ardal goediog. Mae bron y cyfan o'r coetir hwn yn goed collddail lled naturiol, ynghyd ag ychydig o blanhigfeydd bach o goed coniffer.

Nid oes archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon, ac nid oes adeiladau.

Mae hon yn ardal o gymeriad amlwg iawn. Am y ffin â hi ceir naill ai ucheldir lled agored neu ffermydd a chaeau ar lawr y dyffryn.