252 BRYN ARAU DUON
CYFEIRNOD GRID: SN 741484
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 698.10
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fforest a blannwyd yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria. Gorweddai
gynt o fewn Cwmwd Malláen yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth
Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth
cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol (Rees n.d.).
Ardal o ucheldir ydyw, sydd erbyn hyn yn hollol agored, a lle y mae'r
ffiniau hynny sy'n bodoli yn rhai diweddarach sy'n perthyn i'r 19eg ganrif.
Ymddengys fod hyn yn barhad o'r defnydd hanesyddol a wneid o'r tir yn
yr ardal, gan mai'r unig anheddiad a gofnodir yw safle ty hir Ôl-ganoloesol.
Fodd bynnag, mae map Rees o Dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932) yn
dangos llwybr yn rhedeg ar draws yr ardal o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain.
At hyn, mae tirwedd yr ardal yn dirwedd ddefodol greiriol sy'n perthyn
i'r Oes Efydd, ac mae nodweddion defodol ac angladdol megis meini hirion
a charneddau, y bwriadwyd iddynt fod yn nodweddion gweledol amlwg yn y
dirwedd, yn cyfrannu at bwysigrwydd a chyfoeth hanesyddol yr ardal. Mae
yna hefyd yr hyn a fu gynt yn gloddfa plwm bariwm ar gwr deheuol yr ardal.
Roedd plwm eisoes yn cael ei gloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg
ganrif, a'r goron yn cymryd un rhan o un ar ddeg o'r mwyn yn dreth (Rees
1968), ond roedd y gwaith wedi dod i ben ar y cyfan erbyn canol y 19eg
ganrif. Nid oes anheddiad diweddar yn yr ardal ac erbyn hyn mae fforest
o goed coniffer a blannwyd ddiwedd yr 20fed ganrif gan y Comisiwn Coedwigaeth
(yr adeg honno) yn ei gorchuddio'n llwyr.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr
Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorchuddir yr ardal gyfan â phlanhigfa o goed coniffer. Lleolir yr
ardal ar fryniau copa crwn a dyffrynnoedd ochrau serth rhwng 250m a 420m
o uchder. Gweundir agored oedd yr ardal cyn ei gorchuddio â choedwig.
Prif hanfodion y dirwedd yw'r blanhigfa a'i ffyrdd a'i thramwyfeydd cysylltiedig.
Mae dwysedd y nodweddion archeolegol a gofnodwyd yn gymharol uchel. Dau
faen hir, rhes gerrig a rhes gerrig bosibl, cylch cerrig posibl, grwp
o dair carnedd domen ac un garnedd wrth ei hun a dwy garnedd gylch yw'r
nodweddion tirwedd a defodol sy'n perthyn i'r Oes Efydd. Ty hir a chloddfa
plwm bariwm yw'r safleoedd Canoloesol.
Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.
Mae hon yn ardal ar wahân gan fod gweundir agored, neu
gaeau a ffermydd ar loriau'r dyffryn yn ei ffinio.
|