248 DYFFRYN FANAGOED
CYFEIRNOD GRID: SN 688454
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 127.20
Cefndir Hanesyddol
Ardal ar lawr dyffryn ucheldir afon Fanagoed, un o isafonydd afon
Cothi, ger ei tharddle ym Mynyddoedd Cambria. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd
Caeo, yn benodol ym Maenor rhwng Twrch a Chothi, yng Nghantref Mawr a
barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284, a lle y goroesodd
systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod
Canoloesol. Mae'r ardal mewn dyffryn ucheldir ond mae'n glwt o dir cymharol
ffrwythlon y gwnaed defnydd eithaf dwys ohono erioed mae'n debyg. Mae
yno system o gaeau bach hirsgwar, a cheir tystiolaeth ffisegol o dirwedd
cefnen-a-rhych nad yw o angenrheidrwydd yn dyddio o'r Oesoedd Canol ond
a allai fod yn hytrach yn dyst i gyflwr gwlyb y tir; roedd y ffiniau yn
eu lle erbyn 1840 (map degwm Cynwyl Gaeo). Erbyn hyn mae yna nifer o ffermydd
bychan.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal mewn dyffryn ucheldir - dyffryn uchaf afon Fanagoed -
rhwng 200m and 250m o uchder. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau
ydyw. Mae'r caeau'n fach ac yn afreolaidd eu siâp, a chloddweithiau ac
arnynt wrychoedd yn ffiniau iddynt. Ac eithrio ar hyd ymyl y lonydd a'r
llwybrau, mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael; naill ai'n ddilewyrch neu'n
ddim mwy na llinellau anniben o lwyni wedi tyfu'n wyllt a choed bychan.
Defnydd tir pori wedi'i wella a wneir o'r ffermdir, ond mae yna dir mawnog
a brwynog yn gorchuddio llawer o lawr y dyffryn, ac mae rhedyn yn tyfu
ar lethrau serth. Ceir clytiau o goetir o goed collddail a phrysgwydd.
Lonydd a llwybrau lleol yw'r cysylltiadau i drafnidiaeth. Lleolir y ffermydd
prin yn is i lawr ar ochrau'r dyffryn, neu wrth droed ochrau'r dyffryn.
Adeiladau deulawr o gerrig â thri bae yn y dull brodorol yw'r ffermdai
sy'n dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Mae'r tai allan cerrig o'r un
cyfnod fwy neu lai ac yn gymharol fach o ran eu maint. Maent fel arfer
ar ffurf un rhes neu ddwy. Mae adeiladau amaethyddol bach modern yn gysylltiedig
â ffermydd. Nid oes unrhyw ddatblygiad preswyl diweddar.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r dirwedd cefnen-a-rhych
a safle melin.
Nid yw'r adeiladau'n arbennig o nodedig ac nid oes yr un
ohonynt yn adeilad rhestredig.
Mae hon yn ardal wedi'i diffinio'n dda ac am y ffin â hi
ceir gweundir uchel lled agored neu blanhigfeydd coedwigaeth. .
|