Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Mae
Carningli yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
o rostir agored. Mae ambell i hen glawdd a wal derfyn yn ei chroesi.
Mae bryngaer Carningli yn nodwedd amlwg yn y dirwedd hon, ac mae
sawl cofeb lai gysylltiedig yn ogystal â charneddi claddu
a chofebau defodol ac angladdol eraill. |
|
Mae
Y Garn - Parke sy’n gorwedd ar y llethrau
islaw Mynydd Carningli sy’n wynebu tua’r gogledd wedi’i
nodweddu gan wasgariad cymharol ddwys o fythynnod, tai a daliadau
amaethyddol bach wedi’u gosod mewn caeau bach a chloddiau
wyneb carreg yn ffiniau a waliau carreg sychion yn ffiniau iddynt.
Ar dir uwch mae porfa yn troi’n rhostir unwaith eto. |
|
Mae
tref fach Trefdraeth, sy’n gorwedd ar lan
ddeheuol aber Nyfer, wedi’i nodweddu’n gryf gan nifer
o dai carreg o’r 19eg ganrif. Sefydlwyd gan yr Eingl-Normaniaid,
ac mae’r eglwys ganoloesol a’r castell canoloesol yn
dal i fod yn elfennau cryf o’r treflun. |
|
Mae
Holmhouse - Tycanol yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
o ffermydd cymharol fawr wedi’u gosod o fewn caeau mawr o
siâp rheolaidd. Cloddiau â wyneb carreg a gwrychoedd
wedi’u cynnal yn dda yn tyfu arnynt yw’r fffiniau. Mae’r
adeiladau yn rhai carreg ac yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf. |
|
Mae
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Bryn-henllan¸
sy’n gorwedd ar wastadedd arfordirol gogledd sir Benfro yn
gyfuniad o bentrefannau, ffermydd bach a chaeau. Mae’r pentrefannau
o dai carreg o’r 19eg ganrif bellach wedi’u cysylltu
gan ddatblygiadau o dai modern. Mae ffermydd yn gymharol fach, ac
mae caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp gyda chloddiau
a gwrychoedd yn tyfu arnynt sy’n ffiniau iddynt. |
|
Mae
Mynydd Melyn yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
uwchdirol fach sydd wedi cael ei rhannu yn y gorffennol yn gaeau
mawr gan gloddiau â wyneb carreg a waliau carreg sychion,
er nad oes angen y rhain bellach, a ffensys gwifren yw ffensys cadw
stoc. Mae’r defnydd tir yn gymysgedd o borfa wedi’i
gwella a rhostir grug. |
|
Mae
Llain Arfordirol Trefdraeth i Ynys Fach Llyffan Gawr yn
cynnwys clogwyni uchel o garreg galed a darn cul iawn o ben clogwyn
y mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg drosto. Mae hen chwareli
yn dyst i bwysigrwydd gwaith llechi yn y gorffennol. |
|
Mae
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Aber Afon Nyfer sy’n
cynnwys fflatiau llaid llanw, gwelyau cyrs a choetir prysgog ar
lannau’r dwˆ r, yn cynnwys ychydig iawn o elfennau adeiledig
ar wahân i Bont Trefdraeth, hen odyn calch a Llwybr Arfordir
Sir Benfro. |
|
Mae
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ffordd Cilgwyn
yn cynnwys ffermydd bach a thai. Mae bron y cyfan o’r adeiladau
wedi’u hadeiladu o garreg ac yn dyddio o’r 19eg ganrif.
Mae caeau yn fach yn rheolaidd eu siâp ac maent wedi’u
hamgylchu gan gloddiau â wyneb carreg a gwrychoedd yn tyfu’n
arnynt. |
|