Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Mae
Dre-fach Felindre yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
ddiwydiannol sy’n seiliedig ar y diwydiant gwlân. Mae
melinau, tai gweithwyr, tai perchenogion, eglwysi a chapeli wedi’u
hadeiladu o gerrig sydd wedi’u clystyru mewn nifer o bentrefi
yn tystio i dwf cyflym y diwydiant hwn ar ddiwedd y 19eg ganrif
a dechrau’r 20fed ganrif. |
|
Nodweddir
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Dyffryn Bargod a Dyffryn
Esgair gan goetir collddail ar lethrau serth uwchlaw aneddiadau
diwydiannol Dre-fach a Felindre. |
|
Mae ardal
gymeriad dirwedd hanesyddol Afon Teifi: Castellnewydd Emlyn
– Llandysul yn cynnwys tir pori bras y gorlifdir.
Ni cheir unrhyw dai ond cynhwysir dwy bont gerrig yn dyddio o’r
18fed ganrif. |
|
Nodweddir
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Coed Mawr gan
gaeau bach, rheolaidd eu siâp a grëwyd trwy Ddeddf Seneddol
yn 1855 a choetir collddail. |
|
Nodweddir
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llangeler gan
ffermydd gwasgaredig o fewn tirwedd o gaeau o dir pori a choetir
ar lethrau mwy serth a rhai melinau gwlân a thai gweithwyr
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw afon Teifi. |
|
Er bod ffermydd
bach, bythynnod ac adeiladau eraill yn tystio i’w tharddiad
yn y 19eg ganrif, nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Saron
–Rhos yn bennaf oll gan ddatblygiadau tai llinellol
modern sy’n ymestyn am sawl cilomedr ar hyd priffordd yr A484. |
|
Ymddengys
i ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Bwlch-Clawdd –
Cwmbach ddatblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif pan sefydlwyd
ffermydd a chaeau bach ar rostir agored. Mae’r mwyafrif o’r
adeiladau yn fodern. Cynhwysir dau grug crwn yn dyddio o’r
Oes Efydd a chlawdd Clawdd-Mawr yn dyddio o ddechrau’r cyfnod
canoloesol yn yr ardal hon. |
|
Crëwyd
rhan helaeth o ardal gymeriad dirwedd hanesyddol bresennol Rhos
Penboyr gan Ddeddf Seneddol yn 1866 a amgaeodd rostir agored
i greu caeau. Ers hynny sefydlwyd ffermydd bach, planhigfeydd o
goed coniffer, ‘llinell atal’ a adeiladwyd yn ystor
yr Ail Ryfel Byd a thri thyrbin gwynt. |
|
Mae ardal
gymeriad dirwedd hanesyddol Waunfawr yn deillio
i raddau helaeth o Ddeddf Seneddol yn 1866 a amgaeodd rostir i greu
caeau rheolaidd eu siâp ac a sefydlodd lonydd syth yn rhedeg
ar ei draws. Sefydlwyd ffermydd bach ar ôl hynny. Mae dau
grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd wedi goroesi o gyfnod llawer
cynharach. |
|
Nodweddir
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Penboyr gan ddosbarthiad
agos o ffermydd bach mewn tirwedd o gaeau a rennir gan wrychoedd
ar gloddiau. Ar wahân i ambell dþ modern, mae bron pob
un o’r adeiladau yn yr ardal hon yn dyddio o’r 19eg
ganrif. |
|
Nodweddir
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Bwlchydomen-Pentrecagal
gan ffermydd gwasgaredig, caeau a choetir collddail ar lethrau serth,
a gwasgariad o dai gweithwyr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw
Dre-fach Felindre. |
|
Mae
Rhyddgoed yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
gymharol fach ac mae’n cynnwys caeau rheolaidd eu siâp
a ffermydd gwasgaredig. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau
yn dyddio o’r 19eg ganrif. |
|
Mae
Henllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach
ond cymhleth sy’n cynnwys pentref yn dyddio o’r 19eg
sydd wedi’i ganoli ar hen reilffordd (sydd bellach yn llinell
reilffordd dwristaidd) a gwersyll carcharorion rhyfel a adeiladwyd
yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ynghanol coetir collddail a thir amaeth.
|
|