|
Tirweddau Hanesyddol Cwningar Ystagbwll
Crynodebau yw rhain, cliciwch ar y llun am fwy
o wybodaeth
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad
yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron
2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Mae
Cwningar Ystagbwll yn cynnwys llwyfandir o dywod
a chwythwyd gan y gwynt ar ymyl clogwyni môr calchfaen uchel.
Mae sawl anheddiad a safle defodol cynhanesyddol pwysig yma. |
|
Llynnoedd
artiffisial, coetir, parcdir a gerddi yw prif elfennau ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Parc a Gerddi Llys Ystagbwll.
Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn gysylltiedig â’r
ystad, megis stablau, tai haf a bythynnod, er i’r plas gael
ei ddymchwel yn yr 1960au. |
|
Mae
Bosherston yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
amaethyddol wedi’i nodweddu gan gaeau bach gyda chloddiau
a waliau wedi’u plastro â morter a thai, ffermydd a
bythynnod wedi’u hadeiladu o garreg o’r 18fed ganrif
a’r 19eg ganrif, yr adeiladwyd llawer ohonynt gan ystad Ystagbwll,
yn ffin iddi. |
|
|