Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Stackpole Warren >

 

BOSHERSTON

BOSHERSTON

CYFEIRNOD GRID: SR198194
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 170

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern ym mhlwyf Bosherston. Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd Bosherston yn faenor yn cynnwys ffi 1 marchog o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, rhanbarth Seisnigaidd iawn a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd linellau maenoraidd Lloegr ac na chafodd ei ailgipio erioed gan y Cymry. Tan yr 16eg ganrif, adwaenid y faenor yn Stackpole Bosher. Efallai fod elfen Ystagbwll o darddiad Sgandinafaidd, yn deillio o ‘stack’ neu graig, gan nodi bod morwyr Nordig yn gyfarwydd â’r ardal – ac wedi cyfanheddu yno efallai – yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar diweddaraf. Rhennir yr enw gyda Stackpole Elidor, lle cyfagos. Mae’r ôl-ddodiad ‘Bosher’ yn deillio o enw teulu arglwyddi’r faenor, ac fe’i cofnodwyd yn gyntaf yn 1247 pan ddaliodd Philip Bosher y faenor. Ymddengys fod yr anheddiad presennol yn dreflan amaethyddol a sefydlwyd o amgylch yr eglwys. Mae’n anheddiad cnewyllol llac iawn ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gynllunio. Mae gan yr eglwys fynwent gron, a ymestynnwyd yn ddiweddarach, sydd yn yr ardal hon o anheddiad Eingl-Normanaidd cynnar yn awgrymu ei bod yn sylfaen cyn y Goncwest o bosibl. Mae siâp y clostiroedd cyfagos yn awgrymu eu bod yn cynrychioli caeau agored canoloesol a gafodd eu hamgáu’n ddiweddarach. Fodd bynnag, awgrymwyd bod y system helaeth o gaeau cul o’r gogledd i’r de ym mhenrhyn Castell Martin, i’r gorllewin o’r ardal gymeriad, yn tarddu o system caeau cyfechelinol o’r oes efydd. Efallai i’r system hon ymestyn i ardal gymeriad Bosherston ac mae wedi’i haddasu a’i newid mewn ffyrdd gwahanol yn ystod y cyfnod canoloesol a chyfnodau diweddarach. Roedd ffermdai wedi’u sefydlu yn Buckspool a Threfalen erbyn oddeutu 1600, gan nodi bod y broses amgáu wedi dechrau erbyn y dyddiad hwn. Roedd y faenor yn dal i fod yn nwylo Bosher ar ddiwedd yr 16eg ganrif, ond fe’i caffaelwyd gan y Lorts o Lys Ystagbwll yn ystod yr 17eg ganrif ac fe’i trosglwyddyd i’r Campbells o Gawdor yn oddeutu 1700. Dengys mapiau’r ystad o ddiwedd y 18fed ganrif, a map y degwm o 1839, dirwedd sy’n debyg iawn i’r dirwedd a geir heddiw. Roedd fferm Thornston wedi’i sefydlu erbyn 1793, ond ni chafwyd llawer o ddatblygu ar ôl hynny, hyd yn oed ym mhentref Bosherston. Cynrychiolir ymyl ddeheuol yr ardal gymeriad gan y ffin â Maes Castell Martin, a gaffaelwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1939 ac a sefydlwyd fel maes tanio.

BOSHERSTON

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Bosherston, sy’n fach ond yn hynod serch hynny, ar lwyfandir tua 40m yn uwch na lefel y môr i’r gorllewin o barcdir Llys Ystagbwll, ac yn agos i’r arfordir. Tirwedd amaethyddol ydyw yn y bôn (er bod ganddi elfen dwristaidd gryf erbyn hyn) gyda phentref bach a ffermydd gwasgaredig. Mae’r defnydd o’r tir yn gymysgedd o borfa wedi’i gwella a thir âr. Tirwedd a’r gwynt yn ysgubo drosti ydyw, sy’n agored i brifwyntoedd gorllewinol o’r Iwerydd ac o ganlyniad nid oes llawer o goed na choetir ar wahân i’r hyn a geir yn agos i’r pentref ac mewn pantiau cysgodol, er bod llethrau serth cwm ardal gyfagos Llys Ystagbwll yn llawn coetir collddail. Mae’r gwrychoedd lle y maent yn bodoli yn isel ac yn agored i’r gwynt. Mae’r caeau yn gymharol fach ac yn afreolaidd; gyda siâp llain rhai ohonynt yn nodi eu bod wedi esblygu o hen system caeau agored. Mae cloddiau â wyneb carreg a gwrthgloddiau yn bresennol (gyda gwrychoedd weithiau), ond mae waliau calchfaen wedi’u plastro â morter, yn y pentref a’r caeau, yn nodweddiadol o’r dirwedd hon. Mae’r defnydd o galchfaen lleol yn elfen nodweddiadol o’r adeiladau o’r eglwys ganoloesol i adeiladau fferm y 19eg ganrif. Mae pentref Bosherston yn cynnwys clwstwr llac o adeiladau gydag eglwys ganoloesol drawiadol San Mihangel a Phob Angel yng nghanol y pentref. Mae’r adeiladau seciwlar yn y pentref yn dyddio’n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ac maent yn yr arddull Sioraidd ffurfiol, megis yr Hen Reithordy ac Asgell yr Ysgoldy, neu’n arddangos pensaernïaeth o dan ddylanwad yr ystad, megis pâr o fythynnod, sy’n gaffi erbyn hyn. Mae nodweddion pensaernïol ystad yn amlwg yn Bosherston, ac ymddengys i’r rhan fwyaf o’r adeiladau hyˆ n gael eu hadeiladu, neu eu hailadeiladu, gan Ystad Ystagbwll yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae rhai tai a byngalos modern mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau ymhlith yr anheddau hyˆ n. Y tu allan i’r pentref mae rhai tai gwerinol, gydag elfennau posibl cyn y 18fed ganrif. Mae adeiladau fferm yn sylweddol, o sawl ystod, wedi’u hadeiladu â charreg ac yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae llawer o draffig ymwelwyr yn mynd drwy’r ardal ar y ffordd i feysydd parcio yn Aberllydan a Chapel Sant Gofan a darperir cyfleusterau ymwelwyr lefel isel megis maes parcio, caffi a thoiledau. Mae archeoleg wedi’i chofnodi yn cynnwys safleoedd sawl bwthyn a ffermdy gwag.

Dyma ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hynod ac wedi’i diffinio’n dda. Mae ganddi ffiniau caledlin eithaf clir am fod maes tanio milwrol yn ffin iddi i’r de a’r gorllewin, bod llain o dywod a chwythwyd gan y gwynt yn ffin i’r dwyrain a bod Parc a Gerddi Llys Ystagbwll yn ffin i’r gogledd.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Bosherston; Charles 1992; Murphy 1993; Owen 1918; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol 87 1782; Walker 1950

MAP BOSHERSTON

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221