|
LLAIN-GAEAU LLAN-Y-BRI A LLANSTEFFAN
CYFEIRNOD GRID: SN 343120
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 427.60
Y Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal yn cynnwys rhan sylweddol o blwyf Llansteffan i’r
gogledd-orllewin o bentref Llansteffan ac o amgylch cnewyllyn bach Llan-y-bri.
Cawsai Llansteffan ei sefydlu’n faenor Eingl-Normanaidd, ac yn gapwt
cwmwd ac Arglwyddiaeth Penrhyn, erbyn canol y 12fed ganrif. Bu’n
blwyf yn ystod yr Oesoedd Canol, pryd y cychwynnodd hen gapeliaeth Mair
yn Llan-y-bri fel capel anwes (Ludlow, 1998). Prif nodwedd y dirwedd bresennol
yw patrwm o gaeau sy’n tueddu i fod yn hir a chul ac â therfynau
crwm. Mae’r rhain i’w gweld amlaf yn ne-orllewin a gogledd-ddwyrain
Llan-y-bri ac yn gynnyrch ffosileiddio llain-gaeau agored o’r cyfnod
ar ôl y 12fed ganrif, a hynny o fewn terfynau’r caeau a sefydlwyd
yn yr 17eg a’r 18fed ganrif o dan deuluoedd bonheddig megis teulu
Lloyd Llansteffan a Laques. Felly, mae modd cyferbynnu’r dirwedd
â thirwedd. Ardal 152 lle bu i’r amgáu ôl-ganoloesol,
o dan yr un tirfeddianwyr, ddileu holl olion y cyfundrefnau maes cynharach.
Yr oedd Llan-y-bri yn faenor ddemên i Arglwyddi Llansteffan a Phenrhyn
ac mae’n ymddangos iddi fod yn gnewyllyn cynnar o amgylch man agored
canolog wrth ymyl capel a gysegrwyd i’r Forwyn Fair ac a gawsai
ei sefydlu, fel ‘Morabrichurch’, erbyn y 14eg ganrif o leiaf
(Rees, 1932) ac a alwyd, yn yr 16eg ganrif, yn ‘Marbell Church’
(RCAHM, 1917, 197). Fe all mai tarddu o’r Oesoedd Canol wnaeth darn
o dir comin yn y pentref. Melin Pendegy, sydd rhyw 700m i’r gorllewin
o’r pentref, yw safle Melin Ganoloesol ‘Mundegy’. Yn
ôl Rees (1932), bwrdeistref oedd Llan-y-bri, ac er bod hynny’n
annhebygol iawn, yr oedd yr anheddiad ar gyffordd saith llwybr. I’r
dwyrain o’r ardal hon mae glanfa fferi Llansteffan, fferi a gychwynnwyd
o bosibl cyn y Goncwest Normanaidd (Davies, 1989, 27) ac a groeswyd ‘mewn
cwch’ gan Gerallt Gymro ym 1188 (Thorpe, 1978, 138).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
O ran nodweddion ei thirwedd hanesyddol, mae’r ardal yn cynnwys
cyfundrefn o hen lain-gaeau amgaeedig ar draws cyfres o fryniau tonnog
sy’n codi i ryw 100m yn ymyl pentref Llan-y-bri ac yn rhedeg i lawr
i lefel y môr ger aberoedd Taf a Thywi. Caiff y rhan fwyaf o’r
tir ei ffermio; tir pori wedi’i wella yw’r rhan helaethaf
ohono, ond ceir ychydig o dir âr. Ar y llethrau serth ceir clystyrau
bach o goetir collddail, ond nid yw coed yn gyffredin, a thirwedd agored
sydd yma gan mwyaf. Mae’r aneddiadau’n cynnwys pentref bach
Llan-y-bri a ffermydd gwasgaredig. Dyblu neu dreblu maint yr anheddiad
yw hanes llawer o’r datblygiadau preswyl diweddar mewn amrywiaeth
o arddulliau a defnyddiau ar ymylon y craidd hanesyddol. Gan amlaf, mae’r
ffermydd gwasgaredig wedi’u codi o feini ac mae ganddynt amrywiaeth
o dai allan o feini neu dai allan modern. Saif y ffermydd hyn mewn tirwedd
o gaeau bach ac afreolaidd eu ffurf. Ar fapiau hanesyddol ac mewn rhai
mannau ar lawr gwlad, mae modd gweld y lleiniau amgaeedig yn y gyfundrefn
fodern o gaeau, ac mae’n amlwg bod y gyfundrefn fodern wedi deillio
o gyfundrefn o gaeau agored. Ar y llethrau serth i’r gogledd a’r
dwyrain o Lan-y-bri ac i’r gorllewin o Lansteffan y mae’r
lleiniau amgaeëdig wedi goroesi orau. Dros y degawdau diwethaf, gwelwyd
tuedd ar y tir mwy gwastad i uno’r lleiniau amgaeedig yn gaeau mwy
eu maint a mwy rheolaidd eu ffurf, ac mae’n fwy anodd canfod presenoldeb
hen gyfundrefn maes agored yno. Gwrychoedd a pherthi arnynt yw terfynau’r
caeau. Er bod y gwrychoedd mewn cyflwr da ar y cyfan, maent yn gordyfu
ar rai o’r llethrau serth i’r gogledd o Lan-y-bri, ac i’r
gorllewin o Lansteffan mae rhai ohonynt yn troi’n ddiffaith.
Ymhlith y nodweddion cynharaf yn y dirwedd mae maen hir cofrestredig
o’r Oes Efydd, a elwid yn yr Oesoedd Canol yn ‘Welsh Cross’
(Rees, 1932). Ceir o leiaf un maen hir arall, a dau grug crwn. Efallai
fod maen arysgrifenedig wedi’i gofnodi mewn enw lle yn Llan-y-bri,
ac mae ffynnon sanctaidd i’r de-ddwyrain o’r pentref.
Ymhlith yr adeiladau arbennig mae: capel canoloesol Mair, sydd wedi’i
restru’n adeilad Gradd II ac sydd â thwr gorllewinol isel
o’r 16eg ganrif ond sy’n adfail ers 1917; Eglwys y Drindod
Sanctaidd a godwyd yn y 19eg ganrif; a chapel anghydffurfiol. Mae craidd
yr anheddiad yn cynnwys ffermydd, tai a bythynnod a godwyd o feini yn
ystod y 19eg ganrif, mae’n debyg, ynghyd ag adeilad a arferai fod
yn hen dafarn ac efail; ymhlith yr adeiladau eraill mae melin Pendegy,
pont, ffermydd a bythynnod.
Mae nodweddion tirwedd hanesyddol yr ardal yn debyg i rai’r ardal
i’r de ohoni. Ceir yno ffermydd gwasgaredig a chaeau canolig eu
maint, ac er mai prosesau hanesyddol gwahanol sydd wedi helpu i ffurfio’r
ddwy ardal, nid yw’r ffin rhyngddynt yn rhyw bendant iawn. Yr un
diffyg pendantrwydd sydd i’r ffin rhwng yr ardal hon a’r ardal
i’r gogledd ohoni, a’r ardal i’r gogledd-ddwyrain ohoni.
Mae’r morfa heli a adferwyd yn derfyn da yn y gorllewin, ac mae
pentref Llansteffan yn derfyn pendant yn y dwyrain.
|