Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TWYNI TYWOD TALACHARN A PHENTYWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 280074
ARDAL MEWN HECTARAU: 730.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal o dwyni tywod o flaen Mignen Talacharn, a ddechreuodd ffurfio fwy na thebyg yn yr ail fileniwm CC megis ardaledd arfordirol eraill De Cymru (Higgins, 1933). Mae'r ffaith i domenni cregyn gael eu darganfod yn y twyni, sydd, mae'n debyg, yn gysylltiedig â chanfyddiadau cynhanesyddol, yn ategu dyddiad cynnar ar gyfer mewnlifiad o dywod (Cantrill, 1909). Gorweddai'r twyni o fewn Arglwyddiaeth Talacharn yn ystod y cyfnod Canoloesol, ond prin oedd eu defnydd economaidd. Mae'r system bresennol o gadwyn ddi-dor o dwyni o Bentywyn hyd at aber Taf yn gymharol fodern. Dangosodd Terry James (1991, 148-51) fod Nant Witchett wedi agor drwy'r twyni mor hwyr â'r 1830au, pan adeiladwyd argae a thy injan ar ei thraws. Ers yr Ail Ryfel Byd defnyddiodd sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn y twyni ar gyfer profion, ac mae llawer o beirianweithiau wedi'u hadeiladu yn eu mysg.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hon yn system eang iawn o dwyni tywod, sy'n ymestyn dros 9km o Bentywyn yn y gorllewin hyd at aber Taf yn y dwyrain. Mae rhwng 1km a 1.5km o led rhwng Talacharn a'r Nod Penllanw. Mae elfennau'r tirlun hanesyddol wedi'u cyfyngu i'r cyfnod modern ac yn cynnwys llawer o beirianweithiau, adeiladau a llwybrau sy'n gysylltiedig â sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn yr un modd, mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r systemau draenio Ôl-ganoloesol, ond mae safle anheddiad posibl, o ddyddiad anhysbys (cynhanesyddol?) a nifer o ddarganfyddiadau a thomenni.

Mae'r adeiladau nodweddiadol wedi'u cyfyngu i adeiladweithiau diweddar y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae hon yn ardal tirlun hynod ac mae'n gwahanu traeth Pentywyn a'r blaendraeth i bob pwrpas oddi wrth yr ardal i'r gogledd.