MELIN MARROS ![](../../images/cadwgov71height.gif)
CYFEIRNOD GRID: SN 207075
ARDAL MEWN HECTARAU: 40.71
Cefndir Hanesyddol
Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal hon yn rhan o ddemên
Arglwyddiaeth Talacharn o fewn plwyf Marros, ac o dan ddeiliadaeth faenoraidd.
Cofnodir melin yma am y tro cyntaf ym 1307 (Ll.G.C. 10118E Cyfr. 1), ac
roedd yn dal yno pan gynhaliwyd arolwg o'r Arglwyddiaeth ym 1595 (Corfforaeth
Talacharn). Roedd demên Talacharn yn ffurfio calon yr Ystad Westmead ddiweddarach,
a gafodd ei chwalu a'i gwerthu ym 1821. Ni wyddys pa bryd y rhoddwyd y
gorau i weithio'r felin a'i thrawsnewid yn annedd. Nid oes sicrwydd ychwaith
pa bryd y sefydlwyd y deiliadaethau eraill yn yr ardal - Underhill, Hammers
End a Ffynnon Payetts - er bod y rhan fwyaf o'r plwyf yn cael ei thrin
yn y dull cae agored yn yr Oesoedd Canol (Murphy 1988), mae'n bosibl bod
y ffermydd hyn â'u caeau bach afreolaidd o ran siâp wedi'u sefydlu yn
y 16eg neu'r 17eg ganrif, gan y rhoddwyd y gorau i gaeau agored i ffafrio
deiliadaethau cyfunol ac mae un yn gysylltiedig â cheuffordd. Roedd y
pedair deiliadaeth wedi eu hen sefydlu erbyn 1821, pan gawsant eu gwerthu
(Treherne 1925-26, 18). Mae ffermydd Payetts Well a Hammers End bellach
yn segur, a'u caeau gynt wedi troi yn ôl yn brysgwydd. Yn ddiweddarach,
mae rhagor o ddefnydd gwrth-gymdeithasol o'r tir yn cynnwys gosod ffrwydron
tir yn ymyl Payetts Well yn erbyn bygythiad o ymosodiad o'r môr yn ystod
yr Ail Ryfel Byd.
![](../../HLC/photos/maps/map134.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran
Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl.
Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall
hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon yn cynnwys ysgafell o dir ar oleddf, yn gorwedd rhwng
lefel y môr a 70 metr, gyda'r môr yn ffin i'r dde a llethr arfordirol
serth i'r gogledd. Sefydlwyd system o gaeau bach afreolaidd o ran siâp
â gwrthgloddiau a chloddiau â wyneb cerrig yn ffin iddynt ar draws yr
ardal hon, ond gadawyd llawer o'r caeau yn segur ac maent yn troi yn ôl
yn brysgwydd a rhostir. Mae'r caeau hyn sy'n cael eu trin yn agos i Underhill
a Melin Marros, ac maent yn cynnwys tir pori a thir âr. Oherwydd natur
agored yr ardal, nid yw'r gwrychoedd, lle maent yn bresennol, mewn cyflwr
da ac yn aml maent wedi'u hesgeuluso, ac mae angen ffensys gwifrau i roi
mwy o gynhaliaeth iddynt. Nid oes coetir. Mae dwy fferm a adeiladwyd o
gerrig sy'n wag.
Mae'r adeiladau sy'n goroesi yn ôl pob tebyg yn dyddio o'r 19eg ganrif
ond mae Hammers End yn gysylltiedig â cheuffordd o'r Oesoedd Canol cynnar
neu gyfnod ar ôl yr Oesoedd Canol. Mae'r archeoleg o fewn yr ardal yn
weddol amrywiol ac yn cynnwys nifer o safleoedd cynhanesyddol posibl,
a gynrychiolir gan domenni wedi'u llosgi a chrug crwn. Melin Marros ei
hun, a all fod yn tarddu o'r Oesoedd Canol (Rees 1932), ffynnon sanctaidd
bosibl a'r bwthyn Ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig â hi, ffermydd Ôl-ganoloesol
a nodweddion cloddweithiau cysylltiedig, a safle maes ffrwydron o'r Ail
Ryfel Byd.
Nid yw un o'r adeiladau yn nodweddiadol.
O ran cymeriad mae Melin Marros yn ardal hynod, gyda'r môr yn ffin bendant
i'r de a llethrau serth o redyn a rhostir ar yr ochrau eraill.
|