Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

GLAN-Y-FFERI

CYFEIRNOD GRID: SN 367102
ARDAL MEWN HECTARAU: 56.69

Cefndir Hanesyddol
Roedd yr ardal y lleolir anheddiad Glan-y-Fferi ynddi bellach yn rhan o ddeiliadaeth Ganoloesol Llanismel a oedd yn estroniaeth o Arglwyddiaeth Cyd-weli ac yn ddeiliadol, yn Saesonaeth wedi'i chanoli ar faenor demên Llanismel (Rees 1953, 175-212); mae hefyd yn perthyn o fewn plwyf Llanismel. Datblygodd yr anheddiad o amgylch llwyfan glanio fferi ar draws aber Tywi, i Lansteffan, a oedd yn tarddu o gyfnod cyn y Goresgyniad o bosibl (Davies 1989, 27). Fe'i crybwyllir mor gynnar â thua 1170 pan y'i rhoddwyd i Farchogion yr Ysbyty yng Nghomandwr Slebech (gweler Ardal 141), ac fe'i croeswyd 'mewn cwch' gan Gerallt Gymro dau ddegawd yn ddiweddarach (Thorpe 1978, 138). Mae'r brif ffordd rhwng Cyd-weli a Glan-y-fferi yn dilyn llinell llwybr Canoloesol o'r enw 'Ferry Way', a oedd yn arwain i'r fferi o Gyd-weli. Mae Glan-y-fferi o bosibl yn safle capeliaeth Ganoloesol a ymgysegrwyd i Sant Leonard (Rees 1932), a chored, y ddau yn eiddo i Abaty Hendygwyn-ar-Daf (Rees 1953, 208). Mae'n bosibl bod anheddiad wedi datblygu yma yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae annedd o'r 18fed ganrif (wedi'i restru'n Radd II) o fewn pentref a welir ar fap degwm Llanismel ym 1840 fel clwstwr o anheddau o amgylch y fferi, gyda rhyw ddatblygiad gwasgaredig ar hyd y blaendraeth. Ysgogwyd ton newydd o ddatblygiad pan gyfeiriwyd prif linell rheilffordd y Great Western yng Ngorllewin Cymru drwy'r pentref ym 1852 (Ludlow 1999, 28), a sefydlu gorsaf yno, ac yn yr 20fed ganrif daethpwyd i ystyried Glan-y-fferi fel lle dymunol i fyw ynddo, yn bennaf am ei olygfeydd braf ar draws yr aber i Gastell Llansteffan.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Ardal adeiledig Glan-y-fferi sy'n gorwedd rhwng ychydig uwchlaw lefel y môr a 50 m (ar ei huchaf), ar lan ddwyreiniol aber Tywi. Mae'n cwmpasu datblygiad strimyn ar hyd y ffordd o'r gogledd i'r de yn gyfochrog â'r llinell rheilffordd, a ddigwyddodd yn bennaf ers 1859; mae yno dai teras o tua 1900 a llawer o waith adeiladu o'r 20fed ganrif. Mae'r tai yn bennaf i'r gogledd o'r orsaf, a chyfyngwyd y datblygiad ar hyd ffordd Cyd-weli, a'r ffordd i Lanismel, gan natur serth y llechwedd.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf ar ffurf adeiladau ond, yn ogystal â safle'r fferi a safle posibl capel coll a nodwyd uchod, mae hefyd yn cynnwys darganfyddiadau o ddyddiad cynhanesyddol o Cockle Rock ym mhen deheuol eithaf yr ardal.

Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn perthyn i'r 19fed a'r 20fed ganrif, maent yn gymysgedd o gerrig a briciau, concrid wedi'i rendro, a deunyddiau eraill â thoeau llechi a theils concrid. Fodd bynnag, mae yno annedd o'r 18fed ganrif a restrwyd fel adeilad Gradd II, ac Eglwys Sant Thomas a sefydlwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif (na restrwyd). Yn ogystal, mae yno orsaf bad achub, y llinell rheilffordd a'r orsaf, a gweithfeydd briciau gynt.

Gorwedd yr ardal tirlun hanesyddol rhwng y Nod Penllanw a'r tir amaethyddol i'r dwyrain.