MARROS ![](../../images/cadwgov71height.gif)
CYFEIRNOD GRID: SN 199082
ARDAL MEWN HECTARAU: 363.70
Cefndir Hanesyddol
Roedd Marros yn rhan o ddemên Arglwyddiaeth Talacharn, o dan ddeiliadaeth
faenoraidd. Pan fu farw Syr Guy de Brian, Arglwydd Talacharn, ym 1307
cofnodwyd bod 26 o denantiaid yn dal 26 gweddgyfair o dir (Ll.G.C. 10118E
Cofr. 1); mae gweddgyfair oddeutu 120 erw o dir âr. Mae tystiolaeth mewn
arolwg archeolegol o Fynydd Marros yn awgrymu bod y tir âr hwn wedi'i
drin o dan system caeau agored neu gaeau stribed ac mae tystiolaeth ddogfennol
ddiweddarach yn ategu'r awgrym hwn (Murphy 1988, 31). Mae arolwg o 1595
(Corfforaeth Talacharn) yn cofnodi 14 o denementau yn unig ym Marros.
Mae'r un ddogfen yn nodi erbyn hynny bod y system caeau agored wedi'i
disodli neu wrthi'n cael ei disodli gan ddeiliadaethau cyfunol o gaeau
bach â pherthi o'u hamgylch. Mae Thomas (1969) yn dadlau bod anheddiad
cnewyllol - pentref Marros, wedi'i ganoli ar Eglwys Lawrens Sant sydd
ag elfennau yn dyddio o'r 13eg neu'r 14eg ganrif (Ludlow 1998) - yn mynd
law yn llaw â'r system caeau agored. Os yw hynny'n wir, yna yn ôl pob
tebyg mae'r patrwm anheddu modern o ffermydd gwasgaredig yn dyddio o'r
16eg ganrif, pan oedd y system caeau agored yn cael ei thrawsnewid. Gall
rhai enwau lleoedd fod yn dystiolaeth o gloddio Ôl-ganoloesol am lo yn
ne-orllewin eithaf yr ardal. Adeiladwyd nifer o dai yn yr ardal yn ystod
y blynyddoedd diweddar.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gorwedd Marros ar dirlun pantiog o fryniau crwn isel yn
amrywio o ran uchder o 40m yn y pen de-orllewinol eithaf i dros 150m yn
y canol. Mae'r tirlun hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig mewn
tirlun o gaeau afreolaidd o ran siâp o dir pori gwell, yn fach a chanolig
o ran maint, ac yn tarddu o'r 16eg ganrif yn ôl pob tebyg. Caiff caeau
eu pennu gan wrychoedd ar wrthgloddiau. Ar ymyl y ffyrdd mae'r gwrychoedd
mewn cyflwr da, mewn mannau eraill nid ydynt gystal a thueddant i gael
eu hesgeuluso mewn mannau gyda ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu atynt
neu yn eu disodli, neu maent wedi tyfu'n wyllt. Ychydig o goetir sydd
yno. Cafwyd anheddu cnewyllol cyfyngedig o amgylch eglwys Lawrens Sant,
a gynrychiolir yn bennaf gan hen dy'r eglwys gynt a'r Ysgol Genedlaethol.
Yn gyffredinol, mae'r anheddau yn perthyn i'r 19eg neu'r 20fed ganrif,
y rhai hynaf wedi'u hadeiladu o gerrig, y diweddaraf o friciau neu goncrid
wedi'i rendro. Mae gan y mwyafrif o ffermydd gyfres o dai allan a adeiladwyd
o gerrig yn ogystal ag adeiladau fferm modern mawr. Yn ystod y blynyddoedd
diweddar datblygodd rhai ffermwyr y gyfundrefn amaethyddol draddodiadol
yn system sy'n seiliedig ar dwristiaeth yn rhannol, gydag adeiladu stablau
marchogaeth, cyfleuster saethu colomennod clai a chwrs golff bach.
Mae diffyg amrywiaeth i raddau yn yr archeoleg a gofnodwyd.
Cofnodwyd cromlech gylch bosibl, ac mae tystiolaeth o nifer o ddarnau
o dir amgaeëdig amddiffynedig o'r Oes Haearn, ar ffurf nodweddion cloddweithiau
a/neu olion cnydau. Mae aneddiad(au) canoloesol o amrywiol ffurfiau wedi'u
dogfennu gan gynnwys eglwys Lawrens Sant ym Marros. Mae safle goleufa
bosibl yn bresennol, ac mae carreg derfyn o bosibl yn nodi'r ffin â Sir
Benfro yn Waters Edge, ond mae safleoedd Ôl-ganoloesol yn bennaf ar ffurf
ffermydd, bythynnod a phontydd, ond maent yn cynnwys mwynglawdd posibl
a safle odyn bosibl.
Mae Eglwys Lawrens Sant, ag elfennau canoloesol, wedi'i
rhestru ar Radd II ac mae'n gysylltiedig â hen dy'r eglwys gynt a'r Ysgol
Genedlaethol. Nid oes un o'r adeiladau eraill yn nodweddiadol; maent i
gyd wedi'u hadeiladu o gerrig â thoeau llechi.
Mae Marros o fewn ffiniau pendant gan fod rhostir Mynydd
Marros yn ffinio â'i ffermdir amgaeëdig i'r gogledd a'r dwyrain, y llethr
arfordirol serth a'r môr i'r de, a choetir coniffer a chollddail i'r gorllewin.
|