Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

 

DIGWYDDIADAU A GYFRANODD AT LUNIO TIRWEDDAU HANESYDDOL SIR GAERFYRDDIN

Rhaniadau gweinyddol hanesyddol

Roedd gweinyddiaeth cyn-Normanaidd gorllewin Cymru yn seiliedig ar deyrnasoedd neu wledydd bach, a sefydlwyd cyn yr 8fed ganrif OC. Un wlad o'r fath oedd Ystrad Tywi (yn llythrennol 'Dyffryn Tywi'), yr oedd y rhan fwyaf o ardal yr astudiaeth oddi mewn iddi; i'r gorllewin o aber Tywi roedd gwlad Dyfed ac ar ddechrau'r 11eg ganrif daeth y ddwy wlad yn rhan o deyrnas y Deheubarth a gynhwysai'r rhan fwyaf o dde-orllewin Cymru (Rees 1951, 19). O fewn pob gwlad roedd unedau gweinyddu neu ystadau llai, sef y maenorau, y tystiwyd eu bod yn bodoli erbyn y 9fed ganrif ac a oedd wedi'u creu o nifer o 'drefgorddau' neu drefi (Sambrook and Page 1995, 3).

Erbyn y 12fed ganrif cyflwynwyd dwy haenen weinyddol ychwanegol - y cantref, yn llythrennol grwp o 100 o drefi, yr isrannwyd pob un ohonynt yn nifer o gymydau y grwpiwyd y trefi ynddynt. Roedd pob cwmwd yn cynnwys maerdref, tref arbennig yn agos i lys y brenin lle trigai'r taeogion a ffermiai tiroedd y demenau, gerllaw neu ymysg y swyddogion a'r gweision lu a wasanaethai'r llys. Ynghyd â hyn byddai'r brenin neu'r arglwydd hefyd yn cael trefgordd yn yr ucheldir a fyddai'n bodloni gofynion hafodydd ar gyfer ei dda byw (Sambrook 1995, 13-14). Nid yw'n bosibl adnabod llysoedd a maerdrefi yr holl gymydau o fewn yr ardal astudiaeth.

Roedd afon Tywi yn ffin bwysig a hynafol, gan wahanu Cantref Mawr ar lan ogleddol yr afon a Chantref Bychan (yn benodol Cwmwd Iscennen) a chantref Cydweli ar y lan ddeheuol (Rees, 1932). Mae'n dilyn fod yr ardal wedi profi hanes brith o ddeiliadaeth gan ddioddef cyfnodau o ryfela tan ddiwedd y 13eg ganrif.

Mae i'r Cantref Mawr le pwysig o fewn yr ymwybyddiaeth genedlaethol fel yr olaf o'r tywysogaethau Cymreig mawr yn y de, gan fwynhau dadeni o dan Rhys ap Gruffydd, 'Yr Arglwydd Rhys', o'i lys yn Ninefwr yn ystod diwedd y 12fed ganrif. Parhaodd i fod yn arglwyddiaeth annibynnol, gan ddal gafael ar arferion brodorol a systemau deiliadaeth tan 1284 pan gafodd ei had-drefnu o fewn y Sir Gaerfyrddin newydd. Bu Cydweli yn nwylo'r Eingl-Normaniaid ers tua 1110 ond arhosodd Iscennen hefyd yn annibynnol mewn enw, yn wahanol i weddill Cantref Bychan, tan 1284 (Rees 1953, xv). Ar draws aber Tywi, isrannwyd cantref Gwarthaf yn Nyfed yn nifer o arglwyddiaethau Eingl-Normanaidd o tua 1110 ymlaen.

Er gwaethaf cyflwyno newidiadau yn y systemau deiliadaeth, dilynodd rhaniadau tiriogaethol Eingl-Normanaidd y rhaniadau presennol bron yn ddi-eithriad hyd yn oes os cafodd rhai cymydau eu gwahanu oddi wrth eu rhiant gantref gwreiddiol. Er bod Arglwyddiaeth Cydweli, er enghraifft, yn cydffinio â Chantref Cydweli, roedd Arglwyddiaeth Caerfyrddin yn cynnwys cymydau o Gantrefi Mawr a Gwarthaf (Rees 1951, 24-5; Richards 1969, 253). Roedd Arglwyddiaethau Llansteffan, San Clêr a Talacharn yn cynrychioli hen gymydau a oedd yn perthyn i Gantref Gwarthaf - a daeth yr olaf yn un o'r ardaloedd yn ne-orllewin Cymru a seisnigeiddiwyd fwyaf ac y bathwyd y ffugenw 'Swydd Talacharn' amdano yn ddiweddarach. Ffurfiolodd y system o blwyfi yn ystod y 12fed a'r 13eg ganrif, ac ymddengys hefyd bod y cannoedd a sefydlwyd ym 1536 (Rees 1951, 55-6) wedi fffafrio patrwm y cymydau.

Bu effaith y rhaniadau hyn ar y tirlun yn ddwys, yn arbennig o safbwynt patrymau aneddiadau. Mae patrwm systemau caeau wedi'i bennu gan natur deiliadaethau hefyd, felly hefyd datblygiad, neu ddiffyg datblygiad, trefi canoloesol, tra y gallai arddull rhanbarthol adeiladau - yn enwedig adeiladau eglwysig - gan eu lleoliad mewn cymunedau Eingl-Normanaidd neu gymunedau'r Cymry.

Aneddiadau cynhanes a safleoedd claddu

Er bod dwsinau o aneddiadau a bryngeyrydd amgaeëdig o'r oes haearn, ugeiniau o feini hir o'r oes efydd a channoedd o domenni claddu o'r oes efydd yn yr ardal astudiaeth, mae effaith dyn hynafol ar y tirlun hanesyddol yn gymharol ddibwys. Dim ond ar rostir nad yw'n amgaeëdig y mae tomenni claddu yn elfen bwysig o'r tirlun. Yma mae carneddau'r copa yn nodweddion amlwg ac o bosibl yn cynrychioli'r unig effaith amlwg a gafodd dyn cynhanesyddol ar y tirlun.

Nid oes tystiolaeth fod gan unrhyw un o'r aneddiadau oes haearn yn yr ardal astudiaeth systemau caeau sy'n gysylltiedig â hwy - safant wedi'u hynysu yn y tirlun cyfoes - ac felly nid yw'r dylanwad ar y tirlun hanesyddol yn fawr, er bod posibilrwydd fod tiriogaethau wedi'u hymgorffori i unedau gweinyddol diweddarach. Nid ymchwiliwyd i'r thema hon yn ne-orllewin Cymru fodd bynnag. Mae rhai aneddiadau megis Castell Cogan a Bryn Myrddin yn safleoedd archeolegol amlwg, ond nid ydynt yn rhoi unrhyw bwysau ar y tirlun o'u hamgylch. O'r holl aneddiadau oes haearn, dim ond rhagfur rwbel anferthol bryngaer Carn Goch sydd yn rhan gref o'r tirlun, gan ddylanwadu nid yn unig ar yr ardal agosaf ond hefyd y tirlun o'i amgylch.

Anheddiad Rhufeinig

Cafodd cyfnod y Rhufeiniaid effaith sylweddol ar dirlun yr ardal astudiaeth sy'n dangos cyfres o wersylloedd gorymdeithio, o leiaf dwy gaer, un o ddwy dref Rufeinig yn unig yng Nghymru a'r unig fwynglawdd aur a nodwyd ym Mhrydain.

Honnwyd bod concwest y Rhufeiniaid o dde-orllewin Cymru yn ddigwyddiad lled ddinod a bod y llwyth brodorol o'r oes haearn, y Demetae, yn heddychlon, am mai ychydig o dystiolaeth o weithredu militaraidd sydd yn y rhanbarth yn ystod ymgyrchoedd y 40au a'r 50au OC. Fodd bynnag, awgrymodd darganfyddiadau o grochenwaith cyn-Flavian (cyfnod cyn 70au OC) yn Llanymddyfri y sefydlwyd y gaer (Alabum) o bosibl erbyn 50au OC fel rhan o ymgyrch ymlaen o ddyffryn uwch y Wysg (James 1982, 8). Ymddengys bod prif hwb yr ymgyrch Rufeinig wedi'i gynnal yn ystod y 70au OC pan adeiladwyd y ddau wersyll gorymdeithio arosodedig yn Y Pigwn, a'r un mwy yn Arosfa Garreg. Law yn llaw â hyn ymwythiwyd i lawr Dyffryn Tywi i Gaerfyrddin (Moridunum) a sefydlu'r gaer yno, a ffordd yn ei gysylltu â Llanymddyfri. Yn ôl pob tebyg mae caer arall, sydd heb ei darganfod hyd yn hyn, rhywle rhwng y ddau wersyll h.y. ger Llandeilo. Adeiladwyd y gaer ym Mhumsaint (Louentium) fwy na thebyg yn ystod yr un cyfnod (James 1992, 7). Mae caer Rufeinig Llanymddyfri yn ffurfio nodwedd arbennig o'r tirlun a gynrychiolir o hyd gan ardal hirsgwar uchel lle saif eglwys Llanfair-ar-y-bryn. Adeiladwyd caer Rufeinig Pumsaint, a saif islaw'r pentref presennol, mewn cysylltiad â mwynglawdd aur gerllaw a gynrychiolir o hyd gan gyfuniad o geuffyrdd, dyfrffosydd a ffrydiau yn Nolaucothi. Dylanwadodd y rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig a adeiladwyd i gysylltu'r ceyrydd ar ddatblygiad y tirlun ar lefel sylfaenol - dilynwyd llawer o'u llwybrau cyffredinol gan ffyrdd diweddarach neu hyd yn oed rai cyfoes.

Daeth safle'r gaer Rufeinig yng Nghaerfyrddin i'r amlwg drwy gloddiadau a nifer o friffiau gwylio, ac fe'i lleolwyd yn ardal y dref ganoloesol, ar lwyfandir naturiol a ddiffinnir gan lethrau sgarp ar ddwy ochr (James 1992, 8-9). Roedd yn gysylltiedig â chei ar aber Tywi, a hefyd pont, a rhyngddynt ysgogwyd twf anheddiad sifil y tu allan i borth dwyreiniol y gaer. Datblygodd yn dref - prif civitas y Demetae - ac fe'i hamgaeëwyd o fewn amddiffynfeydd pren ar ddiwedd yr ail ganrif, ei hatgyfnerthu â cherrig yn y 3edd a'r 4edd ganrif, gydag amffitheatr yn flaenllaw y tu draw i'w phorth dwyreiniol. (James 1992, 32-3). Cafodd cylch amddiffynnol a chynllun y dref effaith ddybryd ar ddatblygiadau wedi hynny - mae Heol y Prior fwy neu lai yn dilyn llinell y brif stryd Rufeinig sydd yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ar y pen gorllewinol saif eglwys blwyf Sant Pedr a adeiladwyd o bosibl dros y porth gorllewinol Rhufeinig. Mae strydoedd presennol ac ardaloedd adeiledig yn dilyn llinell yr amddiffynfeydd Rhufeinig gan adael canol yr ardal yn gymharol rydd o ddatblygiad. Yn yr un modd profodd yr amffitheatr yn rhwystr y dargyfeiriwyd strydoedd o'i hamgylch wedi hynny.

Ni nodwyd safle fila ffurfiol er y cynigiwyd lleoliadau posibl yn Abercyfor, i'r de-ddwyrain o Gaerfyrddin (James 1980, 16) a Llys Brychan, ger Llangadog (Jarrett 1962). Adnabuwyd ffermydd Prydeinig-Rufeinig, a'r meddiant parhaus o aneddiadau amddiffynnol bach, y tu allan i'r ardal astudiaeth. Yn ogystal, gall fod gan system gaeau yn Nhrefenty ger San Clêr ei gwreiddiau yn y cyfnod Rhufeinig hefyd. Cestyll canoloesol Mae'r mwyafrif o gestyll y gellir eu dyddio o fewn yr ardal yn deillio o gyfnod cyntaf concwest Eingl-Normanaidd de-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae nifer bach o gestyll gwrthgloddiau heb eu dyddio, tra bod Sir Gaerfyrddin yn nodedig am ei glwstwr o gestyll Cymreig sydd mewn cyflwr da. Gyda'i gilydd maent yn cynrychioli rhai o safleoedd canoloesol harddaf Prydain.

Cestyll Canoloesol

Y castell oedd offeryn sylfaenol y Normaniaid yn eu darostyngiad o'u tiriogaethau newydd. Dechreuodd y gwaith o'u sefydlu o fewn Sir Gaerfyrddin ym 1093 pan gododd William FitzBaldwin gastell gwrthglawdd yn Rhydygors ger Caerfyrddin (James 1980, 34-5), sydd bellach wedi diflannu. Cefnwyd arni 6 blynedd yn ddiweddarach, a dyma oedd rhagflaenydd castell mwy parhaol Harri'r 1af yng Nghaerfyrddin, a adeiladlwyd fel castell mwnt a beili erbyn 1109. Rhannwyd yr ardal yn gyflym rhwng nifer o unigolion, a chododd pob un ohonynt gastell fel pen ar yr arglwyddiaeth neu isarglwyddiaeth. Sefydlwyd cestyll cerrig pwysig yng Nghydweli, Talacharn a Llansteffan yn aberoedd afonydd Tywi a Thaf yn ystod chwarter cyntaf y 12fed ganrif (Avent 1991, 167-8), fel canolfannau ffiwdal arglwyddi newydd y Gororau; roedd y tri chastell yn amddiffynfeydd cylch. Mae'n bosibl bod y castell mwnt a beili yn San Clêr, ychydig y tu allan i'r ardal astudiaeth ar flaen aber Taf, yn gyfoes. Er mwyn goroesi yn y tymor hir, ac yn wir er mwyn llwyddiant y goncwest Eingl-Normanaidd yn ei chyfanrwydd, roedd cyfleustra'r cestyll o ran derbyn cyflenwadau o'r môr yn hanfodol a dewisiwyd lleoliad arfordirol y cestyll cynnar hyn yn fwriadol. Serch hynny mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y castell yn ne-orllewin Cymru bob amser yn ganolfan i lywodraeth ranbarthol yn y lle cyntaf ac, am y rheswm hwn, fe'u lleolwyd yn bennaf mewn canolfannau gweinyddol a oedd eisoes yn bodoli, neu yn eu hymyl - ymddengys bod ystyriaethau strategol yn yr ystyr cul, militaraidd bob amser wedi bob yn eilradd.

Ar yr un adeg, roedd mewnlifiad Eingl-Normanaidd annibynnol yn digwydd i Ddyffryn Tywi uchaf, o'r dwyrain, pan sefydlwyd Castell Llanymddyfri erbyn 1116 (Soulsby 1983, 162). Gall fod mwnt a beili Castell Meurig, ger Llangadog, yn rhan o'r un ymgyrch. Fodd bynnag, arhosodd y berfeddwlad, sef yr hen Gantref Mawr a Chwmwd Iscennen i'r de o afon Tywi, yn nwylo'r Cymry hyd ddiwedd y 13eg ganrif. Efallai bod dau gastell gwrthglawdd yn Nyffryn Tywi yn gestyll ymgyrch a godwyd yn ystod ymgais gan yr Eingl-Normaniaid, yng nghanol y 12fed ganrif, i gipio rheolaeth o'r ardal; mae'r mwnt a beili yn Allt-y-ferin yn nodi ei ffin ag Arglwyddiaeth Caerfyrddin ac o bosibl y 'Dinweilir' a grybwyllwyd fel safle mwstwr ym 1159 (Jones 1953, 61), ac y cefnwyd arno yn fuan wedi hynny tra mai'r castell a losgwyd gan y Cymry ym 1203 (Jones 1952, 82) oedd y mwnt yn Llanegwad o bosibl - sefydlwyd bwrdeistref wedi hynny, o dan nawdd y tywysogion brodorol o bosibl.

Sefydlodd y tywysogion gestyll eu hunain. Roedd Castell Dinefwr, canolfan ffiwdal Cantref Mawr, mewn bodolaeth erbyn y 1190au ac mae Dryslwyn, yn is i lawr y dyffryn, yn perthyn i'r un cyfnod yn fras (Webster 1987, 89-104); mae gan y ddau gastell dyrau silindrig a godwyd o bosibl o dan ddeiliadaeth Gymreig. Roedd Carreg Cennen, ym mhen uchaf Cantref Brychan y Cymry hefyd yn gastell i Dywysogion y Deheubarth ond ailadeiladwyd cryn dipyn o'r tri ohonynt ar ôl eu cipio ddiwedd y 13eg ganrif.

Mae tystiolaeth amhendant o amgaerau cynharach islaw Castell Dryslwyn (Webster 1987). Fodd bynnag, addaswyd Llansteffan ac Allt-y-ferin yn amlwg o geyrydd pentir o'r Oes Haearn.

Mae cestyll yn nodwedd sy'n tra-arglwyddiaethu yn y tirluniau y safant ynddynt, nid oherwydd eu heffaith weledol yn unig - a gynrychiolir mewn cynlluniau o ystadau 'Rhamantaidd' diweddarach ee. yn Ninefwr - ond hefyd maent yn cynrychioli elfen sylfaenol mewn nifer o dirluniau sy'n dylanwadu ar yr holl ffiniau, llwybrau a datblygiad wedi hynny.

Cestyll-fwrdeistrefi canoloesol

Un o etifeddiaethau ffisegol mwyaf parhaol, os nad yr etifeddiaeth fwyaf parhaol o goncwest yr Eingl-Normaniaid yn ne Cymru yw'r trefi. Un o strategaethau hanfodol yr arglwyddi gorchfygol oedd adeiladu cestyll ac ar y tu allan iddynt roedd anheddiadau o fewnfudwyr wedi'u sefydlu a fyddai yn y pen draw yn ennill rheolaeth economaidd ar y rhanbarth. Mewn rhai lleoliadau mae tystiolaeth dopograffig yn nodi bod darparu anheddiad sifil wedi'i warchod yn annatod i sefydlu castell. Safle o'r fath yw Cydweli, lle o bosibl y sefydlwyd darnau o dir amgaeëdig a gynlluniwyd i gwmpasu anheddiad ar yr un adeg â'r castell (Murphy 1997, 151-53). Y tu allan i gestyll eraill mae'n bosibl bod tai wedi'u lleoli yn ward allanol y castell yn y lle cyntaf, ond fel arfer caniatawyd i anheddiadau ddatblygu y tu allan i byrth y castell. Mae Talacharn yn enghraifft dda o hyn. Yma ymddengys bod amddiffynfeydd wedi'u darparu ar gyfer clwstwr bach o dai mewn cyfnod cynnar. Yn ôl dogfennaeth ddiweddarach mae'n amlwg erbyn diwedd y cyfnod canoloesol bod yr anheddiad wedi ehangu y tu allan i'r cylch amddiffynnol (Murphy 1987). Yn aml digwyddai'r gwaith o ffurfioli anheddiadau yn fwrdeistrefi drwy gyflwyno siarter nifer o ganrifoedd ar ôl sefydlu'r anheddiad. Er enghraifft yn Llanymddyfri ceir sôn am fwrdeisiaid am y tro cyntaf ym 1185 (Arber-Cooke 1975, Cyfr 1, 82), ond ni chyflwynwyd siarter tan 1485 (Soulsby 1983, 163). Yn ardaloedd arfordirol dyffrynnoedd Tywi, Taf a Gwendraeth y derbyniwyd y cysyniad o drefi a bwrdeistrefi yn fwyaf parod, ac o ganlyniad yno y ffynnodd y trefi. Yma gellir ychwanegu Llansteffan at drefi Caerfyrddin, Cydweli, Talacharn, Abergwili a San Clêr, ac er na chyflwynwyd iddi siarter erioed roedd ganddi lawer o swyddogaethau bwrdeistref fach. Yn gysylltiedig â sefydlu'r trefi hyn oedd cyflwyno systemau daliadaeth a dulliau ffermio estron. Cyflwynwyd datblygiadau megis systemau o ffermio tri chae agored. Yn yr ardaloedd arfordirol a seisnigeiddiwyd yn drwm mae effeithiau cyflwyno hyn yn amlwg yn y tirlun hanesyddol ac fe'u trafodir isod.

Y tu allan i'r ardal arfordirol i fyny dyffryn Tywi o Gaerfyrddin ac Abergwili, roedd y rhyfeloedd hir rhwng tywysogion Cymru a'r arglwyddi Eingl-Normanaidd yn sicrhau dechreuad anodd i'r bwrdeistrefi Eingl-Normanaidd a blannwyd yno. Yn y pen draw datblygodd trefi fel Llangadog a Llanymddyfri yn fwrdeistrefi, ond maent wedi aros yn fach. Bu effaith y bwrdeistrefi hyn ar y tirlun hanesyddol o'u cwmpas yn llai nodedig na rhai'r ardal arfordirol. Serch hynny, defnyddiwyd y systemau caeau agored, a gwelir tystiolaeth ohonynt ar fapiau llawysgrif ac fe'u cofnodir mewn dogfennau, ond nid ydynt bellach yn amlwg yn y tirlun hanesyddol.

Mewn ymateb i hyn, a chan efelychu bwrdeistrefi'r Eingl-Normaniaid, sefydlodd tywysogion Cymru drefi. Sefydlwyd Dryslwyn ar y bryn gerllaw castell. Yn dilyn concwest Edward I o Gymru aeth y dref i ddwylo'r Saeson, ond nid ymddengys iddi fod yn arbennig o eang na llwyddiannus erioed ac yn y pen draw diflanna allan o hanes yn y 15fed ganrif (Soulsby 1983, 133-34). Ar safle'r dref mae gwrthgloddiau anferthol. Fel Dryslwyn, datblygodd Dinefwr y tu allan i byrth castell. Yn dref fach o dan nawdd y Cymry, fe'i rhannwyd yn fwrdeistref i'r Cymry a'r Saeson gan y Saeson. Sefydlwyd y fwrdeistref Seisnig gannoedd o fetrau i ffwrdd o'r gastell, a'r fwrdeistref hon oedd y mwyaf llwyddiannus o'r ddwy. Ni allodd yr un o'r ddwy gystadlu â dylanwad cynyddol Llandeilo, ac aethant rhwng y cwn a'r brain erbyn diwedd y 15fed ganrif (Griffiths 1991, 205-26). Ffurfiodd tiriogaeth y bwrdeistrefi ddemên ystad Dinefwr a drawsffurfiwyd yn ei thro yn barc wedi'i dirlunio yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Trefi a phentrefi

Mae patrwm anheddiad gwledig yn nodweddiadol o dirlun Sir Gaerfyrddin, a nodweddir yn bennaf gan ffermydd gwasgaredig; prin yw'r cnewyllu tra bod y pentrefi yn perthyn i gyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf, ac yn aml yn hirfain o ran ffurf. Mae hyn yn nodweddiadol o fewn ardaloedd a ddelir o dan ddulliau ddeiliadaeth brodorol.

Lle mae anheddiadau cnewyllol yn digwydd mae yn bennaf o fewn ardaloedd sydd yn agored i weinyddiaeth a deiliadaeth Eingl-Normanaidd, gan ganolbwyntio'n arbennig yn aber Tywi o fewn hen Arglwyddiaethau Talacharn, Llansteffan a Chydweli. Dechreuodd y cyfaneddu o ddifrif ar ôl sefydlu cestyll-fwrdeistrefi Caerfyrddin a Chydweli ym 1100-1110 (Soulsby 1983, 102, 152). Ad-drefnwyd yr economi brodorol a'r systemau deiliadaeth ar linellau maenoraidd a sefydlwyd anheddiadau a gynlluniwyd yn ganolog i gydfynd â hwy. Efallai i rai o'r anheddiadau hyn gael eu plannu o gwmpas eglwysi de novo; mae eglwysi Llanybri a Llansaint, er enghraifft, yn gapeliaethau o fewn plwyfi eglwysi sydd â gwreiddiau cyn-Normanaidd posibl, ac mae iddynt gysegriadau Lladin. Saif y ddwy eglwys mewn safleoedd amlwg, canolog ac mae ffyrdd a llwybrau yn ymledu ohonynt, a gorwedd y pentrefi o fewn hen stribedi diffiniedig caeau agored. Nid yw anheddiadau cnewyllol yn nodweddu Arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd Caerfyrddin er bod anheddiad ym maenor demên bwrdeistref Caerfyrddin, yn Llanllwch (James 1980, 41-44), yn un clwstwr o'u cwmpas. Sefydlwyd Abergwili, yn y cyfamser, fel bwrdeistref fach gan Esgob Tyddewi yn y 1280au (James 1980b, 19) ac roedd yn cynnwys dwy linell wedi'u cynllunio o boptu Ffordd Rufeinig bresennol o Gaerfyrddin i Lanymddyfri.

Parhaodd y mwyafrif o ddyffryn Tywi o dan ddeiliadaeth Gymreig hyd ganol y 13eg ganrif (Rees 1951, 4041). Fodd bynnag, mae'r syniad traddodiadol am gymdeithas Gymreig gyn Normanaidd, sef bod trigolion y wlad yn byw mewn tyddynnod gwasgaredig a bod ganddynt anhoffter naturiol o fywyd trefol, yn gamarweiniol. Er bod pobl yn gyffredinol yn byw mewn tyddynnod gwasgaredig ar diroedd etifeddol, roedd amodau hefyd lle gallai rhai anheddiadau fynd yn gnewyllol. Er enghraifft, gall testunau cyfraith ganoloesol ddiweddar adlewyrchu amodau cynharach pan gyfeiriant at bentrefi bach neu drefgordd yr oedd yn ofynnol iddynt yn benodol gwmpasu naw o dai, ac o bosibl daeth maerdrefi yn anheddiadau datblygedig (Sambrook 1995, 13).

Felly er mai ychydig o anheddiadau cnewyllol sydd yn Nyffryn Tywi, efallai bod gan rai ohonynt eu gwreiddiau mewn anheddiadau o'r fath. Sefydlwyd Llanegwad a Llangadog, fel Abergwili, gan yr esgobion ddiwedd y 13eg ganrif (Sambrook 1995); ffurfiwyd Llanegwad yn y pen draw fel bwrdeistref fach, ac efallai mewn gwirionedd fod ganddi wreiddiau cynharaf. Yn sicr mae gan Landeilo wreiddiau cynharach ar ôl cael ei hystyried fel tref erbyn 1213 pan gafodd ei 'dinistrio' (Soulsby 1983, 160) ac felly gallai'r tywysogion brodorol fod wedi ei sefydlu. Ystad y Ferdre (maerdref) yng ngharreg Cennen a ffurfiai ganolbwynt gwleidyddol cwmwd Iscennen. Roedd 13 o denantiaid bond yn gweithio yma ar ystad fach ac roeddynt yng ngofal rhyf ac yn ddarostyngedig i'w llysoedd cyfreithiol ei hun (Rees, 1924, 200). Cafodd Felindre Sawdde, ger Llangadog, hawl i gynnal ffair flynyddol ym 1383 ac roedd yn faerdref o bosibl (Sambrook 1995, 14); mae ei ffurfianneg hirsgwar anarferol ynghyd a'i gaeau stribedog yn unigryw o fewn dyffryn Tywi uchaf, a gall fod yn weddol fodern, ond dadleuwyd bod gwreiddiau Cymreig cynharach iddi yn ddiweddar (ibid.).

Ni ffynnodd yr holl anheddiadau hyn. Safai Llanegwad a Llandeilo, er enghraifft, ar y ffordd Rufeinig neu yn ei hymyl ac roedd hawliau marchnad gan y ddwy, ond nid ehangodd Llanegwad; efallai bod Llandeilo, â'i thraddodiad eglwysig, wedi dod i'w hystyried fel prif dref ranbarthol canol Dyffryn Tywi o gyfnod cynnar. Ffynnodd y cestyll-fwrdeistrefi ee. Caerfyrddin, Cydweli, Llanymddyfri a Thalacharn fwyaf nes i drefi diwydiannol y 19eg ganrif ddal i fyny, a Chaerfyrddin oedd y dref fwyaf yng Nghymru hyd ganol y 19eg ganrif (James 109, 52). Methodd y ddwy fwrdeistref frodorol, sef Dryslwyn a Dinefwr, fodd bynnag, yr olaf yn rhannol o ganlyniad i gystadleuaeth Llandeilo a oedd yn fwy hygyrch. Ni ddatblygodd San Clêr byth y tu hwnt i bentref syml, a symudodd ei ganol tua'r gogledd pan wnaed yr A40 yn ffordd dyrpeg ddiwedd y 18fed ganrif. Ychydig o dystiolaeth a geir o anheddiadau cnewyllol ffurfiol a adawyd ond ym Marros ger Talacharn, mae datblygiad presennol o amgylch yr eglwys i gyd yn perthyn i'r 19eg ganrif, o bosibl ar safle anheddiad cynharach.

Mae tystiolaeth mapiau yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bentrefi o fewn Dyffryn Tywi a'r cyrion yn perthyn i gyfnod Ôl-ganoloesol, ar ôl eu sefydlu yn ystod y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif fel clystyrau anffurfiol o fythynnod o amgylch pwynt canolog a oedd yn eglwys fel rheol (Llanarthne, Llansadwrn, Cilycwm a Myddfai, ond a allai hefyd fod yn gapel (Peniel a Carmel), melin (Felindre), neu orsaf rheilffordd (Glanyfferi a Nantgaredig). Nid ydynt i gyd yn gnewyllol; mae Capel Dewi, er enghraifft, yn ddatblygiad hirfain ar bob ochr i'r ffordd tra bod Glanyfferi yn ddwy stryd gyfochrog. Mae Ashfield Row, ger Llangadog, yn rhes a osodwyd yng nghanol y 19eg ganrif.

Dim ond rhan fach o'r ardal gyfan sy'n gorwedd o fewn ardal ddiwydiannol y 19eg ganrif, ond mae'n cynnwys porthladd Porth Tywyn a sefydlwyd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif fel porthladd glo yn gwasanaethu pyllau glo Cwm Gwendraeth (Ludlow 1999). Roedd diwydiannau yn gyflym i fanteisio ar gyfleusterau'r porthladd ac erbyn yr 1860au roedd perchenogion y cwmnïau wedi dechrau adeiladu tai ar gyfer y gweithwyr. Ar ôl Caerfyrddin, Porth Tywyn yw'r ail anheddiad mwyaf o fewn yr ardal bellach.

Datblygiad maestrefol a modern

Nodweddir rhannau o dirlun Sir Gaerfyrddin gan ddatblygiad tai yn yr 20fed ganrif y gellir eu gweld yn amlwg, a digwyddodd hyn yn y dref a'r wlad. Mae datblygiad hirfain o fewn Pen-bre a Phorth Tywyn a rhwng y ddau le wedi dyblu'r ardal adeiledig yn ystod yr 20fed ganrif. Mae datblygiad sylweddol wedi digwydd yng Nghaerfyrddin, a nodweddir gan dai cymdeithasol ar ei hochr ddwyreiniol, tra bod adeiladu'r 20fed ganrif yn Nhre Ioan ar yr ochr orllewinol yn anheddiad hollol newydd i bob diben.

Mae tai cyngor hefyd yn nodwedd yng nghefn gwlad a dyna yw rhan sylweddol pentrefi a oedd eisoes yn bodoli yng Ngharmel, Llanfihangel, Aberbythych a Llanarthne. Arweiniodd y gwaith helaeth o adeiladu tai preifat at ddatblygu pentrefi hirfain 'newydd' mewn ardaloedd gwledig yn ymyl Caerfyrddin megis Cwmffrwd a Llangynwr, a Pheniel, a hefyd Rhosmaen a Ffairfach yn ymyl Llandeilo tra bod Nantgaredig, Llangain, Broadway a Llanwrda wedi dyblu o ran eu maint gyda thai tebyg.

Datblygiad tameidiog tai preifat o'r fath ar ddiwedd yr 20fed ganrif sydd mor nodweddiadol o iseldir Sir Gaerfyrddin. Mae wedi'i ganoli yn arbennig ar hyd coridorau ffyrdd megis yr A40(T) a'r A48, ac yn agos i ganolfannau trefol megis Llanymddyfri. Mae'r natur wasgaredig hon yn cyfrannu llawer at y ffordd y mae cefn gwlad yn edrych heddiw. Nid oes fawr ddim tai o'r fath mewn ardaloedd o ucheldir sydd, yn nwyrain yr ardal astudiaeth, yn gorwedd yn bennaf o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Diwydiant

Yn bennaf, defnydd amaethyddol sydd i'r tir yn yr ardal astudiaeth. Fodd bynnag, mae maes glo De Cymru yn ymestyn i ben deheuol eithaf yr ardal i dra-arglwyddiaethu ar ei thirlun Ôl-ganoloesol.

Gadawodd diwydiant dystiolaeth ffisegol o gyfnod cynnar iawn, yn bennaf yn gysylltiedig â grym dwr. Mae mwyngloddiau aur y Rhufeiniaid yn Nolaucothi yn cynnwys cyfuniad o geuffyrdd, dyfrffosydd, tomenni sbwriel a ffrydiau sydd yn dal yn nodweddion amlwg o'r tirlun. Gwasanaethwyd y rhan fwyaf o anheddiadau Canoloesol gan felin yd sy'n gweithio â grym dwr, a barhaodd i'r cyfnod Ôl-ganoloesol diweddar ac a gynrychiolir gan ddyfrffosydd sy'n gweithio neu y gellir eu holrhain o hyd. Ni fu'r diwydiant gwlân erioed yn nodweddiadol o'r ardal astudiaeth ond roedd yn cael ei arfer ar raddfa fach o'r cyfnod Canoloesol drwyddo i'r 19eg ganrif. Ym mhob tref roedd melin bannu tra'r oedd melinau wedi'u canoli yng Ngwendraeth Fach isaf yn cynnwys dwy felin bannu a melin dwcio o'r 18fed ganrif. Roedd cynhyrchu brethyn o fewn yr ardal astudiaeth yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif yn ddiwydiant cartref bron yn ddieithriad ond adeiladwyd ffatrïoedd yn Llansawel a Thregib ger Llandeilo. Ni fu melinau gwynt erioed yn nodwedd amlwg o dirlun Sir Gaerfyrddin.

Gweithiwyd dyddodion mwyn plwm yn Nyffryn Tywi ger Caerfyrddin o'r 18fed a chanol y 19eg ganrif ac mae nifer o byllau, a thy injan, yn goroesi (James 1980, 56), tra'r arweiniodd y cyflenwad toreithiog o ddwr rhedegog at sefydlu nifer o weithfeydd haearn cynnar. Gweithiwyd dyddodion mwyn copr i'r gogledd o Gydweli hefyd o gyfnod cynnar, a chynhaliwyd y gwaith prosesu mewn gweithfeydd malu â grym dwr a adeiladwyd tua 1721 (Ludlow 1991, 85). Fodd bynnag, alcam oedd prif ddiwydiant ardal Llanelli a ddaeth i gael ei hadnabod fel 'Tinopolis' ac ym 1737 addaswyd/ailadeiladwyd y gwaith malu yng Nghydweli yn weithfeydd alcam (ibid) - yr ail yn unig ym Mhrydain Fawr. Sefydlwyd gwaith cynnar arall yng Nghaerfyrddin ym 1748 (James 1976, 31). Cafodd y gweithfeydd hyn effaith ddofn ar ddatblygiadau wedi hynny a arweiniodd at godi tai ar gyfer gweithwyr yn ystod y 19eg ganrif (James 1991, 56). Sefydlwyd nifer o weithfeydd brics o fewn ardal Cydweli - Porth Tywyn yn y 19eg ganrif i ddefnyddio'r cleiau silica lleol. Fodd bynnag, nid aeth y ddwy dref yn hollol ddiwydiannol, sef un o'r rhesymau dros iddynt beidio â thyfu fel y gwnaeth trefi newydd y 19eg ganrif. Roedd y diwydiannau o fewn Caerfyrddin, er enghraifft, yn gynnyrch gwasanaethau amaethyddol ee. Melinau gwlân, tanerdai a melinau llifio (ibid.) a hyd heddiw ni nodweddir yr ardaloedd trefol yn bennaf gan eu treftadaeth ddiwydiannol.

At hynny, digwyddodd y datblygiad diwydiannol mwyaf y tu allan i'r trefi hanesyddol, lle ceir hanes o gloddio am lo cynnar. Yn ôl Leland roedd pyllau glo yn cael eu cloddio yng Nghwm Gwendraeth isaf yn nghanol y 16eg ganrif (Ludlow 1999,24) a dwysáodd y gwaith o gynhyrchu glo yn ystod y 18fed ganrif, gan ymestyn o'i ganolbwynt o amgylch Trimsaran hyd at ardal Pen-bre/Porth Tywyn. Dechreuwyd cau'r pyllau glo hyn ar ddiwedd y 19eg ganrif a dwysáodd hyn ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf pan unodd y pyllau glo lleol oedd ar ôl o dan berchenogaeth unigol (ibid.). Cwblhawyd hyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Sefydlwyd porthladd rhwng 1819 a 1836 ym Mhorth Tywyn i wasanaethu'r diwydiant glo, ond yn fuan annogodd ei gyfleusterau ddatblygiad diwydiannau eraill a oedd erbyn diwedd y 19eg ganrif yn cynnwys gweithfeydd copr, gweithfeydd alcam, gweithfeydd plwm gwyn, gweithfeydd plwm ac arian, a ffowndri (Ludlow 1999, 30-31); dymchwelwyd y pwerdy a ffurfiai nodwedd mor amlwg o dirlun Porth Tywyn ar ddiwedd yr 20fed ganrif o'r diwedd yn y 1990au. Denodd corstiroedd anghysbell Twyni Porth Tywyn i'r gorllewin ddiwydiannau mwy gwrthgymdeithasol megis arfau rhyfel, a weithgynhyrchwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif (Page 1996, 15).

Mae'r gwregys calchfaen Carbonifferaidd yn rhedeg rhwng cymoedd Gwendraeth Fach a Gwendraeth Fawr, i fyny at y Mynydd Du i'r dwyrain. Lleolir nifer o odynau calch o'r 18fed ganrif yn ardaloedd arfordirol yr ardal astudiaeth, ac ychydig y tu hwnt i'r pen gogledd-ddwyreiniol mae chwareli helaeth y 19eg ganrif yn ardal Llandybie, sef anheddiad gweithwyr calch Carmel. Fodd bynnag, mae'r prif weithfeydd calchfaen ar y Mynydd Du. Yma mae pyllau, odynau a thomenni sbwriel y diwydiant cloddio calchfaen a llosgi calch o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn llunio prif elfen y tirlun hanesyddol. Ac eithrio prif chwareli modern megis Coygan, a gafodd effaith anferthol ar y tirlun hanesyddol, mae cloddio cerrig yn yr ardal astudiaeth, er eu bod ym mhobman, wedi bod ar raddfa fechan ac yn ddigon fel arfer i ddarparu deunyddiau adeiladu lleol. Y tu allan i'r gwastatiroedd arfordirol a lloriau'r dyffrynnoedd, mae gan fwy neu lai bob ardal nodwedd dystiolaeth o gloddio cerrig yn y gorffennol.

Dioddefodd yr ardal astudiaeth, yng nghyfnod diweddarach yr 20fed ganrif, y dirywiad diwydiannol sy'n nodweddiadol o lawer o Brydain Fawr. Cynnyrch amaethyddiaeth yw'r diwydiannau modern ac fe'u cynrychiolir yn bennaf gan brosesu bwyd a chynnyrch llaeth, fel y dengys yr hufenfa yn Llangadog. Mae gan y rhan fwyaf o drefi ystadau diwydiannol ar eu cyrion, ond y diwydiant modern sy'n cael yr effaith fwyaf ar y tirlun yw twristiaeth a hamdden, gyda datblygiad meysydd carafanau yn Llanisan-yn-Rhos a Phentywyn.

Adeiladau

Fel llawer o dde-orllewin Cymru, mae Sir Gaerfyrddin yn dirlun o ffermydd gwasgaredig yn bennaf a phentrefi hirfain, bach y mae eu hadeiladau yn perthyn i'r 19eg ganrif at ei gilydd. Mae'r fferm nodweddiadol yn cynnwys rhes o adeiladau fferm o gwmpas ty sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, sy'n union yr un fath â thai domestig yr un cyfnod, yn ddeulawr, yn dalcennog, â phedair o ystafelloedd i lawr y grisiau o gwmpas cyntedd canolog drwy'r ty, simneiau pen ar bob talcen, agoriadau cylchrannol neu â phennau sgwâr ym mhob bae, to llechi a'r wyneb allanol wedi'i rendro/chwipio â gro; defnyddiwyd cylchfeini a fframiau bric heb rendr yn aml. Gellir adnabod dau arddull amlwg ond tebyg serch hynny yn y ffermdai yn yr ardal astudiaeth. Mae'r cyntaf yn perthyn i draddodiad brodorol. Yn yr achosion hyn mae i'r tai gynllun anghymesur, gydag un bae o ystafelloedd dipyn yn fwy na'r llall ac yn cynnwys lle tân sylweddol sydd yn amlwg o'r tu allan oherwydd y simnai anferthol. Mae'r ffenestri yn fach ac wedi'u gosod yn anghymesur, gan adlewyrchu cynllun yr ystafell. Mae'r adeiladau weithiau yn un llawr a hanner, yn hytrach na deulawr. Oherwydd ansawdd gwael y cerrig a'r morter a ddefnyddiwyd, caiff adeiladau yn y traddodiad brodorol eu rendro fel arfer i atal y damprwydd rhag treiddio i mewn. Mae'r ail ddosbarth o adeiladau yn perthyn i'r traddodiad Sioraidd 'cain'. Adeiladwyd yr adeiladau hyn yn aml gan ystad neu ar ei rhan. Tueddant i fod yn fwy o faint na thai yn y traddodiad brodorol, gydag ystafelloedd a ffenestri wedi'u gosod yn anghymesur. Mae'r ffenestri yn fwy o faint, ac ar y tu allan mae'r cynllun yn gyfanwaith cydnaws. Gan y defnyddiwyd cerrig o ansawdd gwell, gadawyd yr wynebau allanol heb eu rendro o bosibl.

Mae ty domestig yn yr arddull hwn yn nodweddiadol ledled y rhan fwyaf o Gymru, ond mae'n cynrychioli ail-adeiladu yn hytrach nag anheddiad cychwynnol. Mae ailadeiladu ar raddfa mor eang wedi dileu arddull ranbarthol gyfoethog. Roedd Sir Gaerfyrddin ar un adeg yn nodedig am ei ffermdai yn y traddodiad tai hirion, a ffurfiai grwp rhanbarthol nodweddiadol wedi'i ganolbwyntio o fewn tiroedd uwch y sir, ond nad oedd ar unrhyw gyfrif wedi'i gyfyngu iddynt, ac erbyn dechrau'r 19eg ganrif fe'i ystyrid yn ffermdy 'nodweddiadol' yn Sir Gaerfyrddin (Peate 1946, 51-84). Roedd y tai hyn o waith maen rwbel, neu, yn yr ardaloedd is, yn waliau cob, gyda rhaniad mewnol i'r ty a'r beudy, a thoi gwellt gyda chynhalbyst â simneiau o gerrig neu wellt. Mae tai o'r fath fwy neu lai wedi diflannu ac nid erys un ar ei ffurf wreiddiol (RCAHMW 1917, ffig. 11).

Ymddengys mai gwaith maen a chob fu'r prif ddeunydd adeiladu o fewn yr ardal erioed. Nid oes yr un ty canoloesol yn goroesi heb ei newid ond mae eiddo gyferbyn â Chastell Caerfyrddin yn cadw cnewyllyn ty bargodol (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1986, 34) o'r ?15fed ganrif, drws nesaf i olion ty â seler o'r 16eg ganrif o bosibl (Cofnod Amgueddfa Caerfyrddin), tra'r oedd dau dy canoloesol â tho gwellt o waith maen â simneiau corbel wedi goroesi tan yn ddiweddar yng Nghydweli.

Mae tai sylweddol o waith maen â simneiau corbel yn dal i ffurfio cnewyllyn nifer o eiddo gwledig, sef cartrefi uchelwyr y 16eg a'r 17eg ganrif. Fel arfer mae'r tai yn perthyn i'r traddodiad is-Ganoloesol gan fod yn gymesur, yn aml yn honglaid unigol, â darn yn bargodi, ac weithiau wedi'u hadeiladu o amgylch simnai sy'n cefnu ar y fynedfa (Smith 1988, 447-8); mae rhai ohonynt yn dai hirion sy'n rhoi lle amlwg i feudy. Tueddant i fod wedi'u crynhoi yn Nyffryn Tywi uchaf ac ar odre Bannau Brycheiniog, ond gall hyn adlewyrchu'r goroesiad yn hytrach na'r patrwm gwreiddiol.

Ar ben arall yr ysgol gymdeithasol mae adeiladau anheddiadau anffurfiol yr ucheldiroedd, p'un a ydynt dros dro neu'n barhaol. Yn nodweddiadol o rhostiroedd uchel Dyffryn Tywi uchaf mae adeiladau cerrig sych, hirsgwâr, amrwd, yn aml â lloriau suddedig, y rhoddwyd iddynt yr enw dosbarth 'cwt hir' a dyddiad yn fras o fewn y cyfnod Ôl-ganoloesol cynnar (Sambrook 1999). Nid oes un ohonynt yn goroesi yn ei gyfanrwydd. Ymddengys iddynt fod yn gysylltiedig yn bennaf â bugeiliaeth drawstrefa, gan gynrychioli hafodydd. Yn hyn o beth maent yn wahanol i'r tai tebyg sy'n gysylltiedig ag anheddiadau sgwatwyr yn y 18fed a'r 19eg ganrif ar gyrion tiroedd comin, y mae eu hadfeilion yn nodweddion y gellir eu gweld yn amlwg yn y tirluniau hyn.

Yn aml gallai adeiladau trefol y cyfnod fod o ansawdd gwael debyg. Disgrifiwyd prif stryd Llandeilo ym 1800 fel un a oedd yn cynnwys 'tai to gwellt o'r disgrifiad gwaethaf' (Soulsby 1983, 162) tra y disgrifiwyd pentref mawr Llansawel yn yr un modd, 'heb unrhyw bontydd cerrig dros y ddwy afon, dim ond pomprennau; ac roedd y tai i gyd bron â thoi gwellt, lawer ohonynt yn ddim gwell na chytiau' (Sambrook a Page 1995, 23).

Nid yw casgliadau o adeiladau â chywair pensaernïol nodweddiadol yn gyffredin yn yr ardal astudiaeth. Yr enghraifft orau yn ddiamau yw adeiladau ystad Dolaucothi a adeiladwyd mewn arddull llyfr patrymau yn yr 1850au. Mae i adeiladau yn hen ddemên Gelli Aur gynt, neu yn ei hymyl, hefyd arddull nodweddiadol neu yn hytrach nifer o arddulliau nodweddiadol. Nid ymddengys bod ystadau eraill wedi gosod unrhyw un arddull pensaernïol, er bod gwaith sylweddol o ailadeiladu ffermydd sy'n eiddo i ystad Broadway, ger Talacharn, yn yr 1820au yn rhoi cysondeb i'r tirlun hanesyddol.

Adeiladau ffermydd mewn llawer o ardaloedd nodweddiadol yw un o brif elfennau'r tirlun hanesyddol. Ar draws Sir Gaerfyrddin gyfan, roedd y gwaith o ailadeiladu adeiladau ffermydd yn y 19eg ganrif yn perthyn yn fras i'r un cyfnod â'r gwaith o ailadeiladu fermdai. Mae bron pob adeilad fferm cyn yr 20fed ganrif wedi'i adeiladu o gerrig â thoi llechi. Cyfoeth a statws oedd yn pennu maint, cynllun a lleoliad adeiladau. Fel arfer dim ond un rhes fach unigol o adeiladau fferm sydd gan ffermydd bach ar gyrion yr ucheldir neu ar dir o ansawdd gwael, ac ar y ffermydd tlotaf gallant fod ynghlwm i'r ty ac yn gyfochrog iddo. Y math mwyaf cyffredin yw un, dwy neu dair rhes o adeiladau - ysgubor, beudy, stabl, cwt mochyn - wedi'u trefnu o gwmpas buarth yn ymyl y ty. Mewn ffermydd a gynlluniwyd gan ystad gall adeiladau'r fferm fod wedi'u lleoli yn lled-ffurfiol o gwmpas y buarth. Po fwyaf y ddeiliadaeth, y mwyaf yw maint a mathau yr adeiladau ffermydd a'r mwyaf tebygol y maent o gael eu lleoli bellter o'r ty. Ym mhen uchaf yr ysgol gymdeithasol ac economaidd, mae gan Dy Newton, Dinefwr iard fendigedig yn cynnwys stablau a cherbytai sy'n gyfagos i'r plasty, gyda fferm y plasty wedi'i lleoli gilomedr i fwrdd. Mae adeiladau haearn gwrymiog o 1930-50 i'w cael yn y rhan fwyaf o ffermydd, fel y ceir adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern.

Mae tai sy'n perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau, naill ai fel unedau unigol neu mewn ystadau bach, yn elfen gyffredin o'r ardal astudiaeth, ac mewn rhai ardaloedd nodwedd dyma un o'r elfennau sy'n tra-arglwyddiaethu ar y tirlun.

Eglwysi a chapeli

Ar yr un adeg ag y goresgynnwyd Sir Gaerfyrddin gan yr Eingl-Normaniaid aildrefnwyd ei heglwysi yn y dull Lladin gyda mwy o bwyslais ar weinyddu. Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth a gafwyd bod eglwysi wedi'u hailgysegru neu eu hail-leoli. Mae nifer fawr ohonynt felly yn eglwysi gwledig, yn aml yn anghysbell ac ymhell o ganolfannau preswylio hanesyddol, gyda mynwentydd mewn cylch yn amgáu ffynhonnau neu bistylloedd. Yn ogystal, yn aml saif y rheini a oedd yn gysylltiedig wedi hynny â chestyll a bwrdeistrefi gryn bellter i ffwrdd, ar batrwm sy'n eithaf gwahanol i'r cysylltiad rhwng eglwysi a chestyll a welir fel rheol mewn anheddiadau a blannwyd.

Felly mae eglwysi hanesyddol gwledig Sir Gaerfyrddin yn aml wedi cael ychydig o ddylanwad ar anheddiadau wedi hynny. Fodd bynnag, maent yn dal yn un o nodweddion sylfaenol llawer o dirluniau, ac wedi cael eu parchu gan ddatblygiad ffiniau a llwybrau wedi hynny; maent yn aml yn nodwedd y gellir ei gweld yn arbennig, lawer ohonynt yn dirnodau y gellir eu gweld am filltiroedd lawer tra bod rhai o'r eglwysi arfordirol wedi dod yn gymorth i forwriaeth. Maent, ar y cyfan yn adeiladau gweddol syml. Nid oes iddynt gynllun 'nodweddiadol' ond yn gyffredinol maent yn cynnwys corff a changell, gyda chyntedd ac yn aml maent heb fwâu yn y nenfwd o gwbl (Ludlow 1998); mae'r eglwysi hynny sydd â thyrau, fodd bynnag, yn ffurfio grwpiau rheolaidd o eglwysi y mae tebygrwydd rhyngddynt ee. Llanddowror, Marros, a Llanllwch. Mae eglwysi Dyffryn Tywi uchaf yn adlewyrchu traddodiad hollol wahanol; fe'u hadeiladwyd yn bennaf ar ddiwedd y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif fel eglwysi mawr â dau gorff heb fwâu yn y nenfwd, yn y traddodiad 'eglwys neuadd' gyda thyrau gorllewinol fel arfer. Mae toeau pren canoloesol yn dal i fodoli'n dda yn yr ardal, ee. y crymdoeau yn Llandingat a Myddfai; yn yr olaf mae cilfach risiau yn y groglofft, sy'n dyddio o bosibl o gyfnod Jacobeaidd ac yn dod o dan ysbrydoliaeth Laud ,yn bargodi o wal ddeheuol y corff.

Mae eglwysi syml yn cynnwys cangell yn unig, a chorff â chwt clychau, ym mhob ardal (ibid). Mae eu maint yn amrywio, fodd bynnag, ac mae'r gydberthynas â statws a maint y plwyf, fel y gellid ei disgwyl fel arfer. Tuedda eglwysi trefol i fod yn fawr ee. Caerfyrddin, Cydweli a Thalacharn. Mewn gwrthgyferbyniad, mae llawer o eglwysi plwyf yr ucheldiroedd yn fach, y gwasanaethwyd eu plwyfi gan nifer o gapeli anwes gynt. Ymddengys nad oedd unrhyw gydberthynas wirioneddol rhwng maint a math yr eglwys a swyddogaeth neu berchenogaeth; mae celloedd mynachaidd yn aml yn fach ac nid oes gwir enghraifft o fuddsoddiad esgobol mawr mewn eglwysi colegol - nid yw Llangadog (Sir Gaerfyrddin) mewn gwirionedd yn fwy nag eglwys nodweddiadol o'i hardal.

Un o nodweddion yr ardal yw prinder cerrig nadd gwreiddiol, o ganlyniad i gost mewnforio cerrig calch ac ailadeiladu, er bod peth gwaith gwreiddiol yn goroesi (ibid.). Fodd bynnag, gall llawer o adeiladwaith yr eglwysi fod yn perthyn i ddyddiad diweddarach yn hytrach na chynharach, er enghraifft ychydig o'r tyrau sydd ar ôl sy'n perthyn i gyfnod cyn diwedd y 15fed ganrif. Mae'r dyddiad diweddar hwn yn gwneud pob ymgais ddiweddar i fapio'r ffordd y'u dosbarthwyd yn ôl ardaloedd a gafodd eu Seisnigeiddio ac ardaloedd na chafodd eu Seisnigeiddio yn ddiystyr; yn wir, mae nifer o dyrau ag agoriadau Jacobeaidd, er enghraifft Llandeilo Fawr, yn perthyn i tua 1600 yn ôl pob tebyg. Mae rhywfaint o gydberthynas yn digwydd fodd bynnag rhwng patrymau deiliadaeth a rhodres - er enghraifft mae cyn eglwys groes addurnedig priordy yng Nghydweli y mae ei thwr a meindwr yn dyddio o tua 1400 yn nodwedd weledol neilltuol yn yr ardal, yn gorwedd o fewn arglwyddiaeth a Seisnigeiddiwyd, tra bod eglwysi Talacharn a Llan-dawg o fewn Arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd Talacharn yn arddangos mowldiau Addurnedig a/neu Berpendicwlar da.

Cydweli yw'r unig un o'r pedair eglwys fynachaidd sy'n goroesi o fewn yr ardal astudiaeth. Byrhoedlog oedd Priordy Llanymddyfri, ac fe'i dileëwyd ym 1185. Dinistriwyd priordy a mynachlog Caerfyrddin ar ôl y Diddymiad ond parhaodd eu tiroedd amgaeëdig i ddylanwadu ar anheddiadau wedi hynny, tra y dylanwadodd patrwm deiliadaethau mynachaidd a'r defnydd o'r tir, gan gynnwys Abaty Talyllychau ychydig y tu hwnt i'r ardal astudiaeth, ar y systemau caeau gan barhau i effeithio ar ddatblygiad y tirlun yn y cyfnod Ôl-ganoloesol pan gawsant eu caffael fel ystadau a pharciau preifat mawr.

Cynhaliwyd y gwaith helaeth o ailadeiladu eglwysi yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, y rhan fwyaf ohono yn gysylltiedig ag ystadai bonedd cyfoes (ibid.). Ychydig iawn o ddeunydd neo-Glasurol o ansawdd da sy'n goroesi, fodd bynnag, ac ailadeiladwyd eglwysi o'r fath a godwyd yn yr arddull hwn yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif. Mae eithriad yn goroesi yng Nghapel Gwynfe, lle mae'r eglwys - neuadd yr eglwys bellach - yn neo-Glasurol crai - o 1812-18. Mewn gwirionedd ailadeiladwyd llawer o eglwysi, neu o leiaf fe'u hatgyweiriwyd, yn ôl egwyddorion Anghydffurfiol.

Mae'r capeli Anghydfurfiol Cymreig cynharaf yn perthyn i'r 17eg ganrif ond o fewn yr ardal astudiaeth nid oes yr un ohonynt yn gynharach na'r 18fed ganrif, ac ar ôl y rhwyg o'r eglwys sefydledig ym 1811 y dechreuwyd ar y gwaith adeiladu o ddifrif. Prin yw'r anheddiadau mwy o faint yn Sir Gaerfyrddin sydd heb gapel, fel arfer capeli'r Annibynwyr, Methodistiaid Calfinaidd neu Fedyddwyr Cymraeg, ac sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Mae'r rhai gorau - a'r cynharaf - yn y trefi, er enghraifft Caerfyrddin, lle mae Heol Awst a adeiladwyd ym 1726 (James 1980, 54) a Chapel Saesneg y Bedyddwyr, a gynlluniwyd yn yr arddull neo-Glasurol gan George Morgan ym 1872 (Hilling 1975, 167) yn amlwg. Gallai sefydlu capel mewn ardal wledig arwain at anheddiad cnewyllol newydd, ee. Capel Dewi, Carmel a Pheniel, neu anheddiad amlffocal mewn pentrefi a oedd eisoes yn bodoli ee. Pentywyn a Phumsaint.

Caeau

Nodwedd fwyaf uniongyrchol unrhyw dirlun yw ei ei batrwm o gaeau a ffiniau. Patrwm o gaeau afreolaidd â gwrychoedd ar wrthgloddiau sy'n nodweddiadol o'r rhan fwyaf o iseldiroedd Sir Gaerfyrddin. Mae sut a phryd y datblygodd y tirlun hwn yn dal yn destun trafodaeth.

Mae'r ffiniau yn arddangos graddfa ryfeddol o gysondeb ar draws yr ardal astudiaeth gyfan. Ceir pocedi o waliau cerrig sych, waliau morter a llechweddi rwbel, ond o aberoedd Taf a Thywi i fyny at ymylon y Mynydd Du uwchben 250m mae gwrychoedd ar wrthgloddiau ym mhobman. Mae llawer o'r gwrychoedd hyn yn cynnwys coed nodweddiadol sy'n rhoi agwedd goediog i lawer o'r tirlun.

Yn gyffredinol, esblygodd tirlun Sir Gaerfyrddin i'w ffurf bresennol erbyn cyfnod y mapiau manwl eang cyntaf, hy. Arolygon degwm y 1830au a'r 1840au. Mae mapiau ystadau, lle y goroesant, yn perthyn i ddiwedd y 18fed ganrif yn gyffredinol ac yn yr un modd dangosant dirlun sy'n debyg iawn i dirlun heddiw. Mae ffynonellau cynharaf yn llawer mwy amhendant. Mae arolygon cynnar o Ddyffryn Tywi isaf a'i gyffiniau yn yr 17eg ganrif yn cynnwys nifer o ddisgrifiadau o ddarnau amgaeëdig preifat cyfoes o dir a oedd yn dir comin heb ei amgáu yn flaenorol (Rees 1953), gyda chaeau eithaf mawr a rheolaidd. O gwmpas nifer o'r ardaloedd hyn ee. Alltycunedda a Mynydd Cyforth mae caeau afreolaidd llai o faint sydd, mae'n rhaid tybio, yn dyddio o gyfnod cyn y darnau amgaeëdig hyn o dir. Fodd bynnag, mae'r caeau afreolaidd bach hyn yn nodweddiadol o batrwm o ddarnau amgaeëdig o dir sy'n digwydd ledled llawer o iseldiroedd Sir Gaerfyrddin ac maent yn arbennig o nodweddiadol o ochrau dyffrynnoedd mewn ardaloedd sydd â draeniad cymharol wael - canran sylweddol o'r ardal. Mae cymhariaeth o'r fath yn awgrymu bod y tirluniau hyn yn perthyn yn wreiddiol i ddiwedd yr Oesoedd Canol neu cyn hynny.

Fodd bynnag, gall rhai tirluniau amgaeëdig fod yn gynharach. Mae dyddiad y system unigryw o gaeau rheolaidd, sgwâr i'r gogledd o Drefenty yn destun trafodaeth, ond gall yr ardal a amgaeëir gan y caeau - 700 metr sgwâr - fod yn sylweddol gan fod rhaniad tir caeth yn ôl dull 'centuria' y Rhufeiniad wedi'i osod allan i grid yr oedd ei ochrau yn mesur 20 actus yr un h.y. 710 metr (Potter 1987, 101). Er bod y dull 'centuria' fel arfer (ond nid yn ddieithriad) yn cael ei arfer yng nghyffiniau coloniae, ac ni ddaeth tystiolaeth i'r amlwg iddo gael ei arfer yn unman arall ym Mhrydain (Rivet 1964, 101), gall system Trefenty gadarnhau goroesiad ffiniau cynnar iawn a phosibilrwydd tarddiad cynhanesyddol i systemau caeau eraill.

At hynny, mae dosbarthiad diddorol i'r stribedi o gaeau agored sydd i'r system ffiniau bresennol sy'n goroesi, ac mae'n nodweddiadol o anheddiad Eingl-Normanaidd; mae enghreifftiau da yn bodoli o amgylch Talacharn, Llanybri a Chydweli/Llansaint. Mae pwyslais cryf yr arfordir a/neu ddyffryn Tywi isaf a dyffryn Taf i'r dosbarthiad o'r hen gaeau agored, er bod enghreifftiau hefyd yn bodoli ar gyrion bwrdeistrefi canoloesol Llangadog a Llanymddyfri. Mewn gwirionedd, mae caeau stribedog mor nodwediadol fel lle nad ydynt yn goroesi, mae'n bosibl na chawsant eu defnyddio erioed, ac ychydig o dystiolaeth a geir bod stribedi mewn unrhyw ardal wedi'u disodli gan batrymau caeau gwahanol, er enghraifft patrwm 'nodweddiadol' caeau afreolaidd bach.

Yn Nhalacharn, mae tair system caeau agored unigryw sy'n perthyn i'w gilydd yn goroesi: The Hugden, Whitehill Down a The Lees. Yn y tair ardal hon, sy'n eiddo i Gorfforaeth Talacharn ac a roddwyd i fwrdeisiaid Talacharn gan Syr Guy de Brian yn y 13eg ganrif, caiff trin caeau agored ei arfer o hyd. Caiff stribedi yn y caeau eu rhannu gan drumiau isel neu eu diffinio gan gefnen a rhych a'u dal gan ffermwyr gwahanol, er na chaiff y stribedi eu rhannu allan bellach yn flynyddol ac maent i gyd bellach yn cael eu pori yn hytrach na'u trin fel tir âr.

Mae awduron cyfoes megis George Owen o Henllys yn awgrymu nad oedd tirlun de-orllewin Cymru ar ddiwedd y 16eg ganrif yn amgaeëdig ar y cyfan (Owen 1892), a gall nodi cyfnod pan ddechreuwyd amgáu llawer mwy o dir. Mae patrwm o gaeau mwy o faint, mwy rheolaidd yn nodweddiadol o ardaloedd eraill o Sir Gaeryrddin a gellir eu gweld, er enghraifft, mewn ardal eang i'r gogledd o Dalacharn, i'r de o Lansteffan ac mewn llawer o ardaloedd yn nyffryn Tywi. Mae'r caeau hyn yn debyg iawn i'r rheini y gwyddys eu bod yn dir comin gynt, a gallant yn yr un modd gynrychioli amgáu tir yn y 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif a oedd wedi bod yn dir agored hyd y cyfnod hwnnw. Mae tystiolaeth ffisegol o aredig cefnen a rhych, a glasleiniau, yn eang ond yn wasgaredig, ac nid yw'n ffurfio patrwm diffiniadwy. Nid yw wedi'i chyfyngu i ardaloedd a Seisnigeiddiwyd yn unig neu i'r rheini sy'n arfer amaethyddiaeth caeau agored a gall ddigwydd mewn caeau afreolaidd bach o ansawdd cymharol wael, wedi'u lleoli o fewn cadarnle'r Cymry ee. yn ymyl Cwrt-y-cadno. Yn Sir Gaerfyrddin ymddengys i hyn fod yn ffordd o ddraenio priddoedd trwm mewn amrywiaeth o ardaloedd. Gall rhywfaint ohono, fodd bynnag, fod yn ganlyniad aredig ag ager. Gorwedd y llain orau o ddigon o gefnen a rhych yn Sir Gaerfyrddin ym Morfa heli Talacharn. Mae hon yn gefnen a rhych lled arbenigol fodd bynnag, ac efallai y byddai cefnen a draen yn derm gwell amdani. Ni chafodd ei ffurfio hyd nes ar ôl draenio Morfa heli Talacharn ym 1660.

I grynhoi, mae angen gwneud llawer mwy o ymchwil i ddatblygiad systemau caeau o fewn de-orllewin Cymru cyn 1750 cyn y gellir gwneud unrhyw ddatganiadau pendant.

Morgloddiau, draeniau ac adfer morfeydd heli

Nid yw morlin Sir Gaerfyrddin yn ddisymud o bell ffordd a bu'n agored i newid sylweddol o fewn y cyfnod hanesyddol. Yn benodol, bu aberoedd Taf a Thywi yn agored i lawer o newid ac adfer.

O'r cyfnod cynhanesyddol diweddarach hyd yr Oesoedd Canol, roedd y morlin i'r gorllewin o Dalacharn yn cynnwys morfa heli gyda morlynnoedd dwr croyw a dwr lled hallt. Roedd yn rhan o ddemên Arglwyddiaeth Ganoloesol Talacharn (Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10118E Cyfr 1). Ym 1595, ceir y cofnod cyntaf o drigfannau, naill ai ar gyrion y morfa heli neu ar ynysoedd ar dir uwch, gan ei bod yn debygol bod y morfa yn agored i lifogydd a gorlifio gan y llanw yn ystod misoedd y gaeaf. Dim ond ym 1660 pan ddaeth y morfa yn eiddo Syr Sackville Crow y cychwynnwyd cynllun draenio gydag adeiladu morgloddiau (Murphy, ar fin ymddangos) gan ganiatáu i ffermydd newydd gael eu sefydlu, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd gan Forfa heli Talacharn y tir ffermio gorau yn y sir. Fodd bynnag, adeiladwyd morglawdd mawr arall ym mhen dwyreiniol y morfa ym 1800-10 (James 1991, 150). Mae sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn bellach wedi'i leoli dros y rhan fwyaf o'r morfa heli.

Mae Twyni Pen-bre, i'r dwyrain o aber Tywi, yn system o dwyni tywod a ffurfiwyd yn gymharol ddiweddar. Maent wedi bod yn ffurfio wrth geg Afon Gwendraeth Fawr ers cyn y 17eg ganrif ond fwy na thebyg heb fod yn gynharach na chyfnod yr Oesoedd Canol (James 1991, 159). Ochr yn ochr â'u datblygiad cafwyd cyfres o adferion, o amgylch cnewyllyn dechreuol a ffurfiwyd gan lafn o dir sych wrth droed Mynydd Pen-bre a gynrychiolwyd ym maenordy Caldicot, ac a grybwyllwyd am y tro cyntaf yn y 13eg ganrif (Page 1996, 13). Fe'i hymestynnwyd o ganlyniad i waith adfer tua 1629 gyda chodi morglawdd o'r enw 'Y Bwlwarc' ond roedd hanner ogleddol yr ardal yn dal yn agored i orlifo hyd nes y codwyd morglawdd arall, Banc-y-Lord ym 1817-18 (James 1991, 156). Ar yr un pryd â'r gwaith adfer hwn ffurfiwyd morfeydd a llaciau twyni i'r dwyrain o'r tir sych. Roedd yr arfordir wedi ymestyn i'w linell presennol bron erbyn dechrau'r 19eg ganrif ac roedd twyni tywod eisoes yn llenwi'r rhan fwyaf o'r rhan i gyfeiriad y môr, a elwir yn 'Great Outlet' ar fap degwm Pen-bre ym 1841 ac a ddangosir fel tir comin. Fodd bynnag, nid enillwyd yr ardal oddi ar y môr yn derfynol tan yr 1850au pan godwyd yr argloddiau islaw'r ffordd bresennol rhwng Llanelli a Chaerfyrddin a phrif reilffordd y Great Western Railway yn ne Cymru (Ludlow 1991, 84), ac y cyflwynwyd Dyfarniad Tir Amgaeëdig eang (CRO AE3), ond erys yn wlyb iawn ac yn ymylol. Yn ddiweddarach lleolwyd maes awyr yn yr ardal, llinell stopio a ffatri arfau. Mae bellach o dan goedwig gonifferaidd i raddau helaeth.

Mae morfa heli bellach yn llenwi aberoedd Tywi a Gwendraeth y tu hwnt i'r morgloddiau. Mae'r morfa yn ymestyn i fyny afon Tywi i Gaerfyrddin, lle bu'n agored i raddfeydd amrywiol o waith adfer ac sydd bellach yn dirlun aml-gyfnod, y rhan fwyaf ohono - yn ei ffurf bresennol - o darddiad cymharol ddiweddar. Fodd bynnag, ymddengys bod cwrs presennol yr afon yn hanner ogleddol yr ardal wedi parhau yn weddol gyson ers y cyfnod Canoloesol o leiaf pan grybwyllir nifer o ardaloedd o forfeydd heli, a ddelir yn uniongyrchol o'r goron fel tir comin ar gyfer pori tymhorol, mewn adroddiadau o'r cyfnod (James 1980, 42-44). Gorweddai tir comin hefyd i'r de o'r ardal ym Morfa Uchaf, yn ymyl Glanyfferi.

Rhostir a thir comin

Yn gyfreithiol mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng tir comin, a thir a arferai gael ei alw'n dir 'diffaith' neu 'fynydd'. Y diffiniad o 'gomin' oedd tir lle'r oedd bwrdeisiaid, rhyddfreinwyr maenorau, arglwyddiaeth, is-arglwyddiaeth neu drefgordd yn arfer hawliau penodol megis pori neu dorri mawn. Roedd tir 'diffaith' o bosibl yn rhan o ddemên arglwydd, neu yn y cyfnod Ôl-ganoloesol, yn eiddo i ystad neu yn dir yr ystyriwyd ei fod yn dir y Goron. Gyda chynnydd yn y boblogaeth o ddiwedd yr Oesoedd Canol, daeth y ddau fath o dir nad oeddynt yn amgaeëdig o dan bwysau sylweddol ac o ganlyniad fe'u hamgaewyd. Unwaith iddynt gael eu hamgáu mae bron yn amhosibl canfod y gwahaniaeth rhwng tir comin gynt neu dir diffaith gynt.

Nid oes amheuaeth bod maint y tir comin nad oedd yn amgaeëdig yn iseldiroedd Sir Gaerfyrddin ar un adeg yn llawer mwy eang na'r hyn a oroesoedd i'w gofnodi yn ystod y gwaith mapio cyntaf a wnaed ar raddfa eang ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Ym 1278-82, rhoddodd Syr Guy de Brian dir comin am ddim i fwrdeisiaid Talacharn o dir i'r gogledd o'r dref bron i San Clêr (Williams, n.d.; Davies, 1955). Roedd hwn yn amlwg yn llain sylweddol o dir, ond erbyn dechrau'r 19eg ganrif yr oedd wedi lleihau yn llain bach iawn o dir gwlyb isel. Nid yw'n dir comin bellach (Uned Ymchwil Arolygon Gwledig 1988). Yn ôl pob tebyg roedd y sefyllfa'n debyg yn holl blwyfi eraill iseldiroedd Sir Gaerfyrddin. Er enghraifft, yn union i'r gogledd o bentref Abergwili tresmaswyd bellach ar ddarn bach o dir comin a gofnodwyd ar y map degwm a'i rannu'n ddau, ac yn ymyl Llangadog, tresmaswyd ar Dir Comin Carreg Sawdde yn y 19eg ganrif. Ymddengys yn glir yn yr Oesoedd Canol bod tir a gafodd ei drin ac yr ymgartrefwyd ynddo yn ffinio â lleiniau helaeth o dir comin a thir diffaith, y tresmaswyd yn raddol arno. Hyd yn oed pe gwnaed ymchwil sylweddol byddai yn ôl pob tebyg wedi bod yn amhosibl sefydlu maint blaenorol y tir comin hwn.

Ar ucheldir Sir Gaerfyrddin parhaodd maint a hyd a lled tiroedd comin a/neu rostir nad oedd wedi'i amgáu yn weddol sefydlog dros nifer o ganrifoedd. Y dirwedd a'r uchder sy'n bennaf gyfrifol am hyn. Er enghraifft, mae Mynydd Mallaen yn llwyfandir uchel â llechweddau serth ar bob ochr a ffermdir amgaeëdig ar loriau'r dyffrynnoedd o'i amgylch. Yn amlwg yn y math hwn o sefyllfa nid oes fawr o gyfle ar gyfer tresmasu fesul tipyn ar dir comin. Y Mynydd Du o ddigon yw'r bloc mwyaf o dir comin nad yw'n amgaeëdig yn yr ardal astudiaeth. Mae terfyn gogleddol y tir comin hwn yn ffin hynod o bendant a sefydlog â ffermdir amgaeëdig. Am lawer o'i hyd nodir terfynau'r ffin hon gan wal sych (wedi dymchwel) a llethr rwbel. Saif y ffin hon yn hollol wrthgyferbyniol â chylchfeydd eraill o newid rhwng tir amgaeëdig a thir nad yw'n amgaeëdig yng Nghymru lle cynrychiolir y patrwm arferol o ysbeidiau o dresmasu a gwrthgilio, y naill ar ôl y llall, gan gaeau ac aneddiadau a adawyd yn wag. Mae'r patrwm hwn o aneddiadau'n cael eu gadael yn wag yn amlwg ar ochr orllewniol a deheuol llai serth ac is y Mynydd Du.

Coedwigaeth a choetiroedd

Ystyriwyd coed yn adnodd pwysig gan yr ystadau a byddent yn mynd i drafferth i gadw coed a sicrhau yr ymgymerwyd â gwaith plannu newydd. Fel heddiw, gorweddai'r rhan fwyaf o'r coetiroedd ar ochrau'r dyffrynnoedd serth - tir oedd ag ychydig iawn o ddefnydd economaidd arall iddo - ac roeddynt yn weddol hynafol ac yn dal i fod felly. Gallai coetir wedi'i reoli'n gywir ddarparu coed ar gyfer adeiladu ac adeiladu llongau, rhisgl ar gyfer barcio a llifo, a phrysgwydd ar gyfer tanwydd a golosg, yn ogystal â darparu nodweddion addurnol mewn parciau a gerddi. Mae etifeddiaeth y rheolaeth hon yn dal yn amlwg yn y tirlun gan fod yr ardaloedd mwyaf coediog yn Sir Gaerfyrddin yn gorwedd ynghanol ystadau mawr y 17eg, y 18fed a'r 19eg ganrif neu gerllaw iddynt. Gellir barnu gwerth coed o ddogfennau yr ymgynghorwyd â hwy gan Francis Jones (1962, 264) yn ei astudiaeth o ystad Gelli Aur. Ym 1757, hysbysebodd John Vaughan o Gelli Aur werthiant 6,620 o goed ar yr ystad wedi'u gwasgaru ar draws tri phlwyf. Richard Chitty o Sussex wnaeth y cynnig uchaf am y coed gyda swm o £10,300. Mae'n glir o'r ddogfennaeth bod y coed wedi'u cyfyngu i'r ddemên a dim ond ychydig o'r dwsinau lawer o ffermydd a gwmpasai'r ystad, ac na fyddai eu torri i lawr yn dinoethi'r coetir o bell ffordd. Noda prydlesi ffermydd yn archifau Gelli Aur yn union sut yr ymgymerwyd â rheoli coed. Er enghraifft ym mhrydles fferm Carreg Gwenlais ym 1680 cadwodd yr arglwydd yr hawl i 'cutt down Timber trees and wood' (Murphy a James 1992, 9), ac yng Ngharreg Gwenlais ym 1768 cadwodd yr ystad 'all timber trees and trees likely to become timber and all coppices of wood and underwood'. Ni chaniatawyd i'r tenant 'fell, cut down, lop, top or uproot and timber or other trees' ac roedd yn ddyletswydd arno blannu deg coeden dderw ifanc a deg onnen ifanc ac i 'sufficiently fence them so that they may become timber'.

Yn wahanol i lawer o siroedd eraill yng Nghymru prin fu'r effaith a gafodd coedwigo'r 20fed ganrif ar y tirlun, yn bennaf o ganlyniad i'r ychydig iawn o dir nad oedd yn amgaeëdig neu dir o ansawdd isel a oedd ar gael ar gyfer plannu. Fodd bynnag, ar fathau penodedig o dirlun, megis ochrau dyffrynnoedd serth a rhostir agored yn ne ddwyrain y sir, nid oes unrhyw broses unigol arall wedi cael cymaint o effaith ddramatig ar y tirlun hanesyddol na choedwigo. Nodir yr ethos, y dulliau a'r technegau y tu ôl i'r coedwigo hwn yn un o lyfrau'r Coimisiwn Coedwigaeth ym 1959 (Edlin). Canolbwyntiodd coedwigo cynnar rhwng y rhyfeloedd ar dir gweddol isel ac ochrau dyffrynnoedd serth, ac yn aml golygai ailblannu hen goetiroedd ystadai llenwi'r bylchau ymysg hen goed collddail sefydledig. Mae ochrau dyffrynnoedd serth Tywi uchaf a Chothi uchaf, a gwrymoedd bryniog plwyf Myddfai yn enghreifftiau o blannu o'r fath. Canolbwyntiodd plannu diweddarach, yn y 1950au, 1960au a'r 1970au ar rostir uchel nad oedd yn amgaeëdig. Yma cuddai clystyrau mawr iawn o gonifferau leiniau eang o rostir a arferai fod yn agored. Ym Mhen-bre creodd y gwaith o blannu trwch o gonifferau dros dwyni tywod goedwig fodern ar yr iseldir.

Ystadau, parciau a gerddi

Un o'r digwyddiadau amlycaf yn nhirlun hanesyddol Sir Gaerfyrddin fu creu ystadau, parcdiroedd a gerddi'r bonedd yn ystod y 17eg, 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Cofnodwyd hanes y teuluoedd bonedd, y gellir dilyn yn rhannol hynt datblygiad y parcdir hwn ohono, gan y diweddar Uwchgapten Francis Jones (Jones 1987). Cofnodwyd chwech o'r parciau a'r gerddi hanesyddol o fewn yr ardal astudiaeth yn Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, fel PGW (Dy) - (CAM).

Mae tirlun Dyffryn Tywi/ardal Myddfai, yn arbennig, yn arwyddocaol yn bennaf am ei grwp unigryw o barciau a gerddi a gynlluniwyd ac am ei gysylltiadau hanesyddol â'r mudiad Darluniadol. O ganlyniad teimlad poblogaidd eang o'r ardal fel tirlun 'y bu gofal arbennig ohono'. Mae llawer o'r ystadau hyn bellach yn angof, yn ddiffaith ac yn aml yn anodd i'w gwahaniaethu oddi wrth y tirlun o'u cwmpas; mae llawer rhagor fodd bynnag yn goroesi'n ddigonol i roi agwedd gref o barcdir drwy'r tirlun. Ymhlith y pwysicaf o'r ystadau mawr hyn, ynghyd â'u parciau, mae ystad Vaughan Gelli Aur (PGW (Dy) 10), y teulu Rhys yn Ninefwr (PGW (Dy) 12), teulu'r Dyer yn Aberglasne (PGW (Dy) 5) a theulu'r Jones yn Abermarlais. Cadwodd y tair ystad gyntaf eu tai, sydd bellach yn perthyn i'r 19eg ganrif o ran ffurf ond yn cadw elfennau cynharach arwyddocaol yn Aberglasne a Dinefwr, y ddwy wedi'u hadfer ac ar agor i'r cyhoedd. Mae elfennau megis rhewdai, stablau a thai certiau, ffermydd yr ystad a'r casgliad o adeiladau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â thai mawr y cyfnod, hefyd yn goroesi. Yn ogystal, mae elfennau gwneud yn y tirlun hefyd yn goroesi ar ffurf gerddi terasog a gerddi â waliau o'u cwmpas, coed a llwyni wedi'u plannu, a ffos gloddiau ac ati, ac yr oedd sefydlu'r rhain yn golygu newid ffiniau hanesyddol ar raddfa eang, gan guddio tirluniau gwaelodol yn gyfan gwbl yn aml. O fewn cyffyniau uniongyrchol afon Tywi gorwedd Neuadd Middleton a wnaed yn barc o dan deuluoedd Paxton ac Abadam, a'r Cilgwyn o dan deulu'r Gwynne-Holford; collodd y ddwy ystad eu tai a'r rhan fwyaf o'u hadeiladau ond mae'r cyntaf bellach yn safle Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Cronnodd y rhan fwyaf o'r ystadau hyn yn ystod y 18fed ganrif - pan ailadeiladwyd y tai yn gyffredinol ac y cynlluniwyd y rhan fwyaf o'r parciau a'r gerddi - ond mae llawer ohonynt yn tarddu o gyfnod cynharaf. Roedd Abermarlais, er enghraifft, yn ganolfan faenoraidd yn ystod yr Oesoedd Canol, gyda'i ffair ei hun ac o bosibl anheddiad cnewyllol (Sambrook a Page 1995, 22) a ddiflannodd pan ddatblygwyd parcdir wedi hynny. Cysylltir Aberglasne â gardd fwaog gynnar â wal o'i chwmpas. Datblygodd y rhan fwyaf o'r ystadau cynnar, serch hynny, o gwmpas tai bonedd a grybwyllwyd am y tro cyntaf ar ddiwedd y 16eg a dechrau'r 17eg ganrif pan oedd yr uchelwyr newydd yn sefydlu eu hunain yn gadarn fel ysweiniaid sir. Cadwodd llawer o'r teuluoedd hyn ddeiliadaeth tan yr 20fed ganrif ond hawliodd yr un nifer wreiddiau cynharach drwy achau amwys. Fodd bynnag, gan ddilyn ffasiwn cyfatebol, codwyd tai a pharciau newydd - a sefydlwyd yn aml gan ganghennau iau o'r un teuluoedd bonedd - i fanteisio ar y golygfeydd o Ddyffryn Tywi ac ardaloedd eraill o fewn y rhanbarth gan ddilyn ffasiwn chwaethus a ysgogwyd gan y mudiad Darluniadol. Mae tair ystad fawr yn tra-arglwyddiaethu yn nhirlun Dolaucothi. Datblygodd Edwinsford (PGW (Dy) -) ac Aberannell, yn wahanol i ystadau Dyffryn Tywi ond fel cynifer o rai eraill ym Mhrydain, o faenorau mynachaidd gynt yn ystod diwedd yr 16eg ganrif - yn yr achos hwn, y ddwy yn eiddo i Abaty Premonstratensaidd Talyllychau. Cafodd Edwinsford effaith sylweddol o ran tirlun a threftadaeth adeiledig, fel y drydedd, sef Dolaucothi (PGW (Dy) 7), gyda'r cywair pensaernïol nodedig wedi'i gymhwyso i ffermydd a bythynnod tenantiaid. Mae effaith parciau a thirluniau'r boneddigion yn llai amlwg tua de a gorllewin yr ardal astudiaeth, yn arbennig yn nhirlun Aber Taf/Tywi; fodd bynnag, mae'r ardd yn Llanmiloe (PGW (Dy) 1) yn cadw elfennau hanesyddol arwyddocaol.

Cysylltiadau

Mae afonydd Taf, Tywi a Gwendraeth yn creu rhwydwaith o lwybrau hanesyddol, llwybrau morol a gynrychiolir gan eu haberoedd a'u porthladdoedd naturiol, a llwybrau at y tir wrth i'w dyffrynnoedd orwedd rhwng yr arfordir a thir uwch massiff canol Cymru. Mae'n rhaid i bob llwybr o'r dwyrain i'r gorllewin fynd drwy Caerfyrddin o hyd.

Felly, ers cyfnod y Rhufeiniaid o leiaf, bu Dyffryn Tywi yn un o'r llwybrau coridor mawr drwy dde Cymru, a elwid yn 'Briffordd' ar ddechrau'r 19eg ganrif, sef yr A40(T) bellach. Cysylltai'r gaer yn Llanymddyfri (Alabum) â thref Caerfyrddin (Moridunum) ar hyd y rhyngwyneb rhwng gorlifdir Tywi a'r tir sy'n codi i'r gogledd. Mae'n llwybr naturiol i drafnidiaeth ac o bosibl yn barhad o lwybr cynharach o lawer. Rhedai ail ffordd Rufeinig o'r de ddwyrain i'r gogledd orllewin rhwng Moridunum a'r gaer yn Llwchwr (Leucarum), gan groesi dyffrynnoedd y Gwendraeth Fach a'r Gwendraeth Fawr a'i dilyn gan ffordd bresennol y B4306. Rhedai trydedd ffordd o Foridunum i'r gaer yn Llanio (Bremia) ger Llanddewi Brefi ar linell yr A485 bresennol fwy neu lai; sefydlwyd llwybr y ffordd rhwng Llanymddyfri a Llanio, a'r gaer ym Mhumsaint (Louentium), yn ddiweddar gan luniau o'r awyr

Roedd rhan uchaf ffordd Dyffryn Tywi yn ôl pob tebyg yn segur erbyn yr Oesoedd Canol ac, hyd nes y 18fed ganrif, dilynodd y llwybr a ddewisiwyd ar gyfer prif ran y 'Briffordd' o Landeilo i Lanymddyfri linell ffordd sydd bellach yn annosbarthedig ar hyd y gefnen rhwng afon Tywi ac Afon Dulais (llyfr mapiau John Ogilby ar ddiwedd yr 17eg ganrif). Dychwelwyd at lwybr y ffordd Rufeinig fwy neu lai ar gyfer llwybr y goetsh fawr ar ddechrau'r 18fed ganrif (CRO, Map Cawdor 106) ac erbyn 1771 fe'i deddfwyd yn ffordd dyrpeg yr holl ffordd (Lewis, 1971, 43). Cafodd y ffordd ei gwella tua 1824 gan Thomas Telford pan sythwyd darnau ohoni yn ymyl Llanegwad a Llangathen, ac yn ymyl Manordeilo. Roedd tref Rufeinig Caerfyrddin hefyd yn borthladd llewyrchus (James 1992, 32-33), tra dewisiwyd safleoedd y cestyll yng Nghaerfyrddin a Chydweli, a'u trefi cynnar, oherwydd eu sefyllfa yn ymyl rhannau mordwyol aberoedd Tywi a Gwendraeth Fach yn y drefn honno. Datblygodd y ddwy dref yn borthladdoedd pwysig a fu, yn yr Oesoedd Canol, yn masnachu cyn belled â Gwasgwyn (Lodwick and Lodwick 1972, 121-123). Ni ddatblygodd y cei yn San Clêr yn ddim byd mwy na masnach leol tra mai dim ond ychydig o effaith a gafodd y llongau fferi rhwng Glanyfferi a Llansteffan ac ar draws aber Taf ar aneddiadau wedi hynny. Er gwaethaf y gystadleuaeth oddi wrth y rheilffordd, parhaodd y masnachu rhwng Caerfyrddin ac Iwerddon a De-Orllewin Lloegr tan ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, dechreuodd y cei yng Nghydweli lenwi â llaid yn ystod y 18fed ganrif, ar yr union adeg y cychwynnoddd y gwaith o ddatblygu'r gwythiennau glo o fewn ei gyffiniau, ac ym 1766 dechreuodd Thomas Kymer adeiladu camlas rhwng ei weithfeydd glo yng Nghwm Gwendraeth a chei newydd i lawr yr afon o'r hen gei (Ludlow 1999, 24).

Camlas Kymer oedd yn arwyddo oes newydd o gysylltiadau ar y tir a chysylltiadau morwrol. Torrwyd dwy gamlas arall a gysylltai'r maes glo â glanfeydd newydd yng Nghydweli, ac ym 1819 dechreuodd y gwaith o adeiladu porthladd hollol newydd yn nhwyni tywod Pen-bre. Llenwodd y porthladd â llaid erbyn 1830 a sefydlwyd un newydd ym Mhorth Tywyn ac fe'i cwblhawyd fwy neu lai erbyn 1836, ac o ganlyniad i hynny datblygodd Porth Tywyn yn dref hollol newydd. Cyrhaeddodd y porthladd ei uchafbwynt o ran prysurdeb yn ail hanner y 19eg ganrif ond dechreuodd ddirywio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf gan roi'r gorau i'w weithrediadau i raddau helaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a datgymalwyd y rhan fwyaf o ffitiadau'r porthladd yn ystod dechrau'r 1980au (Ludlow 1999, 3).

Roedd nifer o gamlesi yn gwasanaethu'r porthladd, a newidiwyd y bwysicaf - Camlas Cydweli a Llanelli - yn rheilffordd o 1866, 14 mlynedd ar ôl i'r GWR adeiladu eu prif linell rheilffordd yn ne Cymru drwy Gydweli a Chaerfyrddin ar draws morfeydd Twyni Pen-bre ac aber Tywi (Ludlow 1999, 28-30). Mae'r gyntaf yn segur ond mae'r olaf yn parhau yn brif linell rheilffordd y Great Western.

Roedd natur cludiant rheilffordd a pheirianneg ddatblygedig y 19eg ganrif wedi'i gwneud yn bosibl i dorri'n rhydd oddi wrth y tir uchel i ddatblygu nid yn unig y twyni arfordirol ond hefyd lawr Dyffryn Tywi. Agorwyd y llinell rhwng Caerfyrddin a Llanymddyfri gan Gwmni Rheilffyrdd a Dociau Llanelli ym 1858 (Gabb, 1977, 76) ac, ym 1871, fe'i caffaelwyd gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin; mae'n dal yn gweithredu fel y llinell rheilffordd drwy ganol Cymru. Dylanwadodd y rheilffyrdd ar batrwm anheddu gyda datblygiad pentrefi newydd o amgylch gorsafoedd, er enghraifft, yn Nantgaredig a Glanyfferi, ac mae eu hargloddiau, hyd yn oed pan maent yn segur, yn nodweddion amlwg yn y tirlun.

Cyswllt prosiect : Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]