Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

COYGAN

CYFEIRNOD GRID: SN 284092
ARDAL MEWN HECTARAU: 28.61

Cefndir Hanesyddol
Nodweddir y bryn Calchfaen Carbonifferaidd bach anghysbell hwn gan ei archeoleg a chan ddiwydiant modern. Mae dyddodion o ogofâu a archwiliwyd yn y 19eg a'r 20fed ganrif ac yn cynnwys tystiolaeth o'r cyfnod Paleolithig a chyfnodau diweddarach yn tystio i bwysigrwydd archeolegol yr ardal. Dinistriwyd yr ogof gan chwarelu bellach, yn yr un modd â'r gaer o'r Oes Haearn a safai ar ben y bryn. Datgelodd gwaith cloddio ar y gaer ar ddechrau'r 1960au (Wainwright 1967) gyfoeth o dystiolaeth fod y safle wedi'i meddiannu yn y cyfnod cynhanesyddol, yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Tywyll. Roedd y gwaith o gloddio am galchfaen, sydd bellach wedi dileu'r rhan helaethaf o'r bryn, wedi hen ddechrau erbyn dechrau'r 19eg ganrif pan adeiladwyd lein fach i gysylltu'r gweithfeydd â chei newydd ei adeiladu 2 gilomedr i'r dwyrain. Mae map degwm 1841 (plwyf Llansadurnen) yn cofnodi pum odyn galch wrth droed y bryn. Fel y nodwyd uchod, mae chwarel fawr yn nodwedd amlwg iawn o'r ardal erbyn hyn.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hwn yn dirlun hanesyddol hynod ac yn cynnwys allgraig Calchfaen Carbonifferaidd, sy'n ffurfio bryn yn codi o fignen adferedig, ar lefel y môr, i dros 60m. Mae chwarel galchfaen fodern, fawr bellach yn nodwedd amlwg iawn o'r ardal gyfan. Dilëeodd y chwarel hon gopa'r bryn a'r rhan fwyaf o'i ochrau dwyreiniol. Erbyn hyn mae prysgwydd a thir garw yn gorchuddio gweddill y bryn. Nodwyd yr archeoleg a gofnodwyd uchod. Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol yno. Er bod yr archeoleg yn nodweddu'r ardal, mae'r tirlun hanesyddol hwn yn nodweddiadol ac yn gwrthgyferbynnu â'r fignen adferedig i'r de a'r ffermdir amgaeëdig ar yr ochrau eraill.