Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

LLANISMEL

CYFEIRNOD GRID: SN 382088
ARDAL MEWN HECTARAU: 723.90

Cefndir Hanesyddol
Ardal y cyfeiriwyd ati o bosibl mewn ffynhonnell o gyfnod cyn y Goresgyniad pan ymosodwyd ar Sant Oudoceus gan ddynion gwyllt o 'the rocks of Pen Allt', tra'r oedd ar ei ffordd i groesi aber afon Tywi (Davis 1989, 27). Yn ôl pob tebyg mae eglwys blwyf Llanismel yn tarddu o gyfnod cyn y Goresgyniad hefyd, ond soniwyd amdani am y tro cyntaf ym 1115 pan y'i rhoddwyd i Abaty Sherborne, Dorset, yr oedd Eglwys y Santes Fair, Cyd-weli, yn gell ohoni (Ludlow 1998). Roedd deiliadaeth Ganoloesol Llanismel yn estroniaeth o Arglwyddiaeth Cyd-weli (Rees 1953, 175-212) ac wedi'i chanoli ar faenor demên Llanismel (Rees 1932), y gorweddai ei anheddiad cnewyllol yng nghyffiniau'r eglwys blwyf bresennol lle gorwedd olion anheddiad Canoloesol o ryw fath islaw'r Nod Penllanw yn union i'r gorllewin o'r eglwys (Nigel Page, ACApers.comm.). Gerllaw mae hen dir comin gynt. Ar y llaw arall, mae'n bosibl bod Penallt House yn cynrychioli'r maenordy, adeilad y credai Rees, ym 1932, iddo fod yn faenor Priordy Cyd-weli, ond gydag olion o natur secwlar yn unig, yn bennaf o'r 16eg ganrif (Davis 1989, 27-33). Penallt oedd cartref y teulu pwysig Dwnn, un o brif deuluoedd bonedd a sylwebyddion Cymru, ers 1393 o leiaf pan ddisgrifiwyd John Dwnn fel gwr 'of Pennolth' (Jones 1984, 145), ond fe'i gadawyd yn segur ymhell cyn 1800 (Davis 1989, 27). Y plasty o'r 18fed ganrif ym Mhengay yw'r trydydd ymgeisydd ar gyfer safle'r maenordy (Jones 1984, 148). Mae'r ffordd o Gyd?weli i Glan-y-fferi yn croesi'r tirlun ac fe'i nodir fel llwybr Canoloesol - 'The Ferryway' - gan Rees (1932). Gall fod y ffordd arfordirol ar hyd y blaendraeth, sy'n mynd heibio i Lanismel a Phenalllt, yn tarddu o gyfnod cynnar hefyd (Davis 1989, 27). Mae'r anheddau a'r ffermydd hyn o bwys hanesyddol yn gosod y cyd-destun ar gyfer datblygu'r tirlun presennol o gaeau afreolaidd o ran siâp ac o faint canolig a mawr, sy'n hannu o bosibl o gaeau hirgul canoloesol, ac a oedd yn amgaeëdig yn ôl pob tebyg yn ystod y 17eg ganrif. Mae'r map cynharaf o'r ardal, map degwm Llanismel o 1840, yn dangos tirlun tebyg iawn i un heddiw, gyda'r patrwm presennol o gaeau a ffermydd gwasgaredig. Datblygodd yr aneddiad bach presennol yn Broadlay o ychydig o fythynnod gweithwyr o amgylch y fferm. Mae datblygiad yr ugeinfed ganrif hefyd yn cynnwys y ddarpariaeth o amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd yn Llanismel.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal o gaeau afreolaidd o ran siâp, a chanolig a mawr o ran maint, a esblygodd o bosibl o gaeau hirgul yn ystod yr 17eg ganrif, ac yn gorwedd rhwng lefel y môr a 125m. Bellach maent i gyd yn gaeau o dir pori wedi'i wella, ac wedi'u rhannu gan wrychoedd mewn cyflwr cymharol dda ac yn cael eu cynnal yn dda ar y cyfan, er bod rhai ohonynt wedi tyfu'n wyllt a rhai yn mynd yn ddiffaith; mae gan rai i'r gogledd-ddwyrain o Lan-y-fferi rai coed nodweddiadol. Mae wyneb cerrig gan rai cloddiau ar ymyl y ffordd i'r gorllewin o'r ardal. Mae rhai ardaloedd bach o goetir a phrysg, yn arbennig ar y llethrau arfordirol mwy serth o amgylch Llanismel, ond fwy na thebyg mae'r cyfan yn eilaidd. Mae nifer o ffermydd mawr, o bwys hanesyddol, yn yr ardal, ond maent i gyd wedi'u hadeiladu o gerrig, â thoeau llechi a thai allan cyfoes. Mae'r anheddu'n wasgaredig yn bennaf, ond mae clwstwr o adeiladau yn Broadlay yn tarddu o'r 19eg ganrif. Ail-luniwyd y blaendraeth ar aber Tywi fel hafn ar gyfer prif linell Rheilffordd y Great Western yng Ngorllewin Cymru, a agorodd ym 1852 ac sy'n dal yn weithredol (Ludlow 1999, 28).

Er gwaethaf maint yr ardal, cyfyngedig yw'r archeoleg a gofnodwyd. Mae enwau caeau yn awgrymu nifer o feini hirion posibl o'r Oes Efydd, ac mae yno groes Ganoloesol bosibl. Mae bryngaer o'r Oes Haearn yn bresennol. Ymhlith y safleoedd Ôl-ganoloesol mae ffermydd a bythynnod, melin a chafn melin, pyllau tywod, y rheilffordd, morgloddiau a magnelfa o'r Ail Ryfel Byd a gwylfannau yn Llanismel.

Mae nifer o adeiladau nodweddiadol yno. Mae eglwys blwyf Ganoloesol Llanismel wedi'i rhestru'n Radd B, ac mae colomendy Canoloesol yn Fferm Coleman yn Heneb Rhestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae plasty Penallt o'r 16eg ganrif wedi'i restru'n Radd II, ond nid yw plasty Pengay o'r 18fed ganrif wedi'i restru. Ar y cyfan mae'r ffermdai yn yr ardal hon yn perthyn i'r 19eg ganrif, wedi'u hadeiladu o gerrig, yn ddeulawr gyda thair ffenestr fae, gydag enghreifftiau yn y traddodiad brodorol a'r arddull Sioraidd 'ddiwylliedig'. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd dai allan cymharol fawr o'r 19eg ganrif, weithiau wedi'u trefnu'n lled ffurfiol o amgylch iard, yn ogystal ag adeiladau amaethyddol cyfoes. Mae datblygiad preswyl modern wedi'i gyfyngu i ychydig o anheddau ar wasgar a rhywfaint o ddatblygiad strimynnog yn Broadway.

Mae hon yn ardal tirlun cymharol hynod gydag aber Tywi a Glan-y-fferi yn ffin i'r gorllewin, mignen arfordirol i'r de, ac ardal o ddarnau o dir amgaeëdig llai o faint, culach i'r dwyrain. Dim ond y ffin â'r ardal i'r gogledd sy'n aneglur; mae'r caeau yn yr ardal olaf hon ychydig yn fwy rheolaidd o ran siâp.