Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MORFA HELI TALACHARN

CYFEIRNOD GRID: SN 305103 ARDAL MEWN HECTARAU: 142.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal o forfa heli a ddatblygwyd yn bennaf ers adeiladu morglawdd ym 1800-10. Fodd bynnag, ym mhen gogleddol eithaf yr ardal, islaw castell a thref Talacharn, gorwedd 'The Green Banks', ardal o forfa heli a ddaliwyd yn hanesyddol gan Arglwyddiaeth Talacharn fel tir comin llanwol.


 


Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Mae'r ardal hon yn cwmpasu morfa heli nad yw'n amgaeëdig sy'n datblygu ac yn gorwedd ychydig uwchlaw'r Marc Penllanw cyfartalog gyda nentydd yn troelli ar ei thraws.

Yr unig nodwedd archeolegol a gofnodwyd yw'r defnydd o 'The Green Banks' fel tir comin. Ni chofnodir maglau pysgod, morgloddiau na llongddrylliadau o fewn yr ardal.

Nid oes unrhyw adeiladau yno.

Mae'n ardal tirlun nodweddiadol sy'n gorwedd yn bennaf rhwng Talacharn a Chors Pentywyn i'r gogledd ac aber Taf i'r dwyrain.

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221