|
COEDWIG WESTMEAD
CYFEIRNOD GRID: SN 239094
ARDAL MEWN HECTARAU: 142.60
Cefndir Hanesyddol
Rhan o Arglwyddiaeth Talacharn, a ddaliwyd o dan ddeiliadaeth faenoraidd
yn ystod y cyfnod ar ôl y Goresgyniad. Er bod llethrau serth yr ardal
hon yn awr yn gyforiog o goed ac yn ardal tirlun nodweddiadol, dengys
mapiau hanesyddol (map degwm Pentywyn, tua 1842; map degwm plwyf Talacharn,
tua 1842; Manylion Stad Westmead, 1821) nad dyna fu yno erioed, a hyd
at yr 1840au roedd llawer ohono yn ffermdir gydag adeiladau cysylltiedig,
ar wahân i'w ben gorllewinol. O ystyried natur serth y llethr, fodd bynnag,
mae'n annhebygol iddo fod yn dir cynhyrchiol erioed, ac mae'n debygol
yr aildyfodd y coetir ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ychwanegwyd planhigfeydd
ato yn yr 20fed ganrif. Ar y pen gorllewinol efallai y plannwyd coetir
a gofnodwyd ar fap degwm plwyf Pentywyn ar yr un pryd â sefydlu ty Westmead
yn y 17eg ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon o dirlun hanesyddol yn codi o'r fignen adferedig yn y
de. Ar un adeg roedd yn llinell o glogwynni yn ymyl y môr, bellach yn
rhan o'r tir, a gynrychiolir gan lethrau serth sy'n wynebu'r de ac yn
codi o 20 m i 140 m. Mae coetir collddail eilaidd yn eu gorchuddio, llawer
ohono o'r 19eg ganrif, a phlanhigfeydd o gonifferau a llydanddail o'r
20fed ganrif. Nid archwiliwyd yr ardal am hen ffiniau a allai fodoli o
dan y coetir. Prin yw'r archeoleg a gofnodwyd. Mae yna faen hir sydd o
bosibl yn dyddio o'r Oes Efydd a bryngaer sydd o bosibl yn dyddio o'r
Oes Haearn. Efallai fod gan ffynnon Sant Cadog, mewn ardal o ffynhonnau
calchfaen, wreiddiau canoloesol. Mae yma nifer o adeiladau Ôl-ganoloesol,
ac maent i gyd o garreg â thoeau llechi, ond nid oes un ohonynt yn nodweddiadol,
nac yn rhestredig. Maent yn cynnwys melin, ffermydd, bythynnod ac anheddau,
gefail a Ffermdy Westmead House. O ran cymeriad mae tirlun hanesyddol
Coedwig Westmead yn ardal nodweddiadol ac wedi'i hamlinellu'n glir, gan
wahanu'r fignen adferedig isel yn y de oddi wrth y ffermdir bryniog a
phantiog i'r gogledd.
|