|
CYD-WELI
CYFEIRNOD GRID: SN 407068
ARDAL MEWN HECTARAU: 61.81
Cefndir Hanesyddol
Tref fach a bwrdeistref canoloesol yw Cyd-weli ac mae llawer o nodweddion
tirlun hanesyddol yn goroesi. Ychydig o dystiolaeth a welir o'r cyfnod
cyn y Goresgyniad, er bod y cwmwd y saif ynddo yn dwyn yr un enw â'r anheddiad.
Ym 1106 fe'i rhoddwyd gan y Brenin Harri'r Cyntaf i'r Esgob Roger o Gaersallog
(Avent 1991, 167) a adeiladodd y castell erbyn 1114, pan sefydlwyd Eglwys
y Santes Fair fel cell o Abaty Sherborne. Ymddengys bod yr anheddiad sifil
wedi perthyn i'r un cyfnod, wedi'i leoli mewn ardal a oedd yn cael ei
hamddiffyn, sef pen deheuol eithaf y tri beili allanol sy'n gorwedd ar
hyd ochr ogleddol Gwendraeth Fach. Ymddengys yr anogwyd i fewnddyfodiaid
Ffleminaidd anheddu yno yn gyntaf, a sefydlasant ddiwydiant brethyn (Soulsby
1983, 153). Trosglwyddwyd ardal Cyd-weli rhwng yr Eingl-Normaniaid a'r
Cymry yn ystod y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif, ac yn ddiamau arafodd
hyn unrhyw ddatblygiad trefol gan rwystro'r dref rhag ymestyn i'r beili(beilïau)
gogleddol hwyrach, ond ni tharfodd ar swyddogaeth Cyd-weli fel porthladd
masnachu a ddechreuodd ar ddechrau'r 13eg ganrif. O ganlyniad i amodau
mwy sefydlog ar ddiwedd y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, o dan ddeiliadaeth
y teulu Chaworth, ac, o 1327, Dugaeth Caerhirfryn, galluogwyd ehangu y
tu hwnt i'r ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn at lan ddeheuol Gwendraeth
Fawr, o amgylch Eglwys y Santes Fair, a datblygodd maestref hefyd i'r
gogledd-orllewin o'r ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn. Ymddengys na
chadwyd unrhyw siarter ond ym 1609 cyfeiriwyd at y dref fel 'bwrdeistref
hynafol' yn cynnwys maer a thri henadur, yr oedd gan eu bwrdeistrefi 'very
large and great privileges' (Rees 1953, 178). Rhoddwyd iddynt ddwy farchnad
wythnosol ym 1268 ond rhoddwyd iddynt ryddid tollau mor gynnar â 1106-14
(Morris 1975, 62). Ailadeiladwyd amddiffynfeydd y dref o gerrig yn y 1280au
ond 'dinistriwyd' yr ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn serch hynny yng
ngwrthryfel Glyndw^r ym 1403 (Soulsby 1983, 153). Digwyddodd datblygiad
wedi hynny yn bennaf o fewn y maestrefi ac erbyn y 1530au roedd y 'new
town' hon 'three times as bigge as the Old' (Smith 1910, 59), yr olaf
yn rhoi cyfrif am ddim ond 18 bwrdeisiaeth allan o gyfanswm o 171 (Rees
1953, 179-192). Dechreuodd Cyd-weli ddirywio ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol
ac ym 1630 fe'i gwerthwyd, ynghyd â gweddill yr Arglwyddiaeth, i ieirll
Carbery a'i daliodd tan 1804 pan gafodd ei throsglwyddo i ystad Cawdor
(Jones 1983, 18). Roedd y castell yn dal yn 'meetly kept up' yn y 1530au
(Smith 1910, 59) ond rhoddwyd y gorau i'w defnyddio yn fuan wedi hynny
ac, gyda'r rhenti yn yr 'old town', aeth â'i phen iddi, tra disgrifiwyd
y dref yn gyffredinol, ym 1609, yn 'very poor and out of all trade' (Rees
1953, 178). Fodd bynnag, galluogodd ei breintiau fel bwrdeistref i'w phrysurdeb
masnachol barhau a chafwyd rhywfaint o ddadeni o ran ffyniant Cyd-weli
yn ystod diwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif. Cynhaliwyd y masnachu
o gei'r dref ar afon Gwendraeth Fach islaw'r bont, ond profodd hyn yn
annigonol i ymdopi â phrysurdeb masnachol cynyddol drwy gydol y 18fed
ganrif, a sefydlwyd ceiau newydd ar Gwendraeth Fawr yn Frankland a Muddlescwm
i'r dwyrain o'r dref (Ludlow 1991, 84). Wrth sefydlu Camlas Kymer ym 1776-8
aed â rhagor o fasnach i ffwrdd o'r dre a pheidiodd masnach ar y môr â
bod yn ffactor yn natblygiad Cyd-weli erbyn canol y 19eg ganrif. Cyfeiriwyd
prif reilffordd Great Western De Cymru drwy Gyd-weli ym 1859 pan sefydlwyd
gorsaf yno. Cafwyd llawer o ddatblygu yn yr 20fed ganrif i'r de o'r afon
gan gynnwys ystad dai fawr ar ôl yr Ail Ryfel Byd i'r dwyrain o Eglwys
y Santes Fair.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Canolbwynt y dref yw'r castell a ailadeiladwyd yn ddiweddarach o
gerrig, ond sy'n cadw'r drefn wreiddiol o feili mewnol â thri beili allanol
o boptu iddo mewn llinell ar hyd lan ogleddol Gwendraeth Fach. Bwriadwyd
pob un o'r tri beili allanol yn y lle cyntaf ar gyfer anheddiad sifil
trefol, ond ymddengys mai dim ond yr un deheuol a ddatblygwyd. Adeiladwyd
wal gerrig ar ben yr amddiffynfeydd gwrthglawdd yn y 14eg ganrif a goroesodd
ty o waith maen o ddiwedd yr Oesoedd Canol o fewn yr ardal â wal o'i chwmpas
tan yr 20fed ganrif (Williams 1991, 198). Datblygodd y faestref i'r de
o Gwendraeth Fawr, ar hyd strydoedd Causeway a Lady, ar ôl sefydlu eglwys
y Santes Fair. Ymddengys bod llawer o adeiladau o fewn yr ardal faestrefol
gychwynnol hon, a'r rheini i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal â wal o'i chwmpas,
ar hyd Ffyrdd Llansaint a Chaerfyrddin, yn cynrychioli lleiniau o dir
bwrdais gynt. Ymddengys bod rhywfaint o ddatblygu wedi digwydd ar hyd
Ffordd yr Orsaf cyn sefydlu'r orsaf ym 1859. Lleolwyd neuadd y dref uwchlaw
porth y de ond fe'i disodlwyd erbyn tua 1600 gan neuadd newydd ar gyffordd
Lady Street a Causeway Street (Soulsby 1983, 153-4); mae bellach wedi
diflannu. Safai nifer o felinau ar afon Gwendraeth Fach gan gynnwys, yn
union i'r de o'r castell, melin yd a melin ban, y mae eu cafnau i'w gweld
o hyd (Ludlow 1991, 84).
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â hanes Canoloesol
ac Ôl-ganoloesol y dref.
Mae'r adeiladau yn perthyn i'r 18fed a'r 19eg ganrif yn
bennaf, o gerrig â thoeau llechi ond ychydig o adeiladau nodweddiadol
a geir. Mae'r castell yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd
I, mae mynedfa mur y dref sy'n goroesi yn rhestredig fel Gradd II*, ac
mae Eglwys y Santes Fair, adeilad cain ar ffurf croes, y mae'r adeiladwaith
sy'n goroesi ohoni yn dyddio'n bennaf o'r 14eg ganrif (Ludlow 1998), wedi'i
rhestru fel Gradd A; ychydig o dystiolaeth sydd o'r adeiladau cwfeiniol
ond mae'n annhebygol y byddai'r rhain wedi bod yn helaeth (Williams 1991,
195). Dim ond dau adeilad arall sydd wedi'u rhestru'n Radd II, y ddau
yn perthyn i'r 18fed a'r 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae ardal hen gei'r
dref heb ei datblygu i raddau helaeth ac mae rhywfaint o warysau diwedd
y 18fed ganrif yn dal i oroesi. Digwyddodd y datblygu trefol ar hyd Station
Road, ac i'r de a'r dwyrain o'r dref, yn ystod y 19eg ganrif ac maent
yn aml yn dai teras, gan gynnwys 'Gwendraeth Town', rhes o dai teras i
weithwyr a godwyd i weithwyr Gweithfeydd Alcam Cyd-weli ym 1881 (Ludlow
1991, 84). Mae datblygu unionlin o'r 20fed ganrif yn cysylltu'r elfennau
hyn ac yn ymestyn y tu hwnt i'r de a'r dwyrain.
Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod, ac yn hollol
wrthgyferbyniol i'r tir amaethyddol o'i chwmpas.
|